Gweithrediadau

Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Sut i ddechrau blog - canllaw i ddechreuwyr"

Oddi ar Hedyn

Llinell 1: Llinell 1:
Mae'r canllaw yma yn esbonio sut i ddechrau blog lleol am dy ardal drwy ddefnyddio gwasanaeth am ddim o'r enw WordPress.com. Wrth gwrs rwyt ti'n gallu dechrau blog neu wefan am unrhyw bwnc arall ond rydyn ni'n rhoi pwyslais ar flogiau lleol yn y canllaw yma. Mae systemau eraill yn bodoli hefyd, ond dw i'n licio WordPress - mae lot o bobol o Gymru a llawer iawn o gwmpas y byd yn cytuno!
Mae'r canllaw yma yn esbonio sut i ddechrau blog lleol am dy ardal drwy ddefnyddio gwasanaeth am ddim o'r enw WordPress.com. Rydyn ni'n rhoi pwyslais ar flogiau lleol yn y canllaw yma.
 
Wrth gwrs rwyt ti'n gallu dechrau blog neu wefan am unrhyw bwnc arall. Does dim gwahaniaeth o ran meddalwedd nag egwyddorion.
 
Mae systemau eraill yn bodoli hefyd, ond dw i'n licio WordPress - mae lot o bobol o Gymru a llawer iawn o gwmpas y byd yn cytuno!





Diwygiad 17:10, 14 Tachwedd 2014

Mae'r canllaw yma yn esbonio sut i ddechrau blog lleol am dy ardal drwy ddefnyddio gwasanaeth am ddim o'r enw WordPress.com. Rydyn ni'n rhoi pwyslais ar flogiau lleol yn y canllaw yma.

Wrth gwrs rwyt ti'n gallu dechrau blog neu wefan am unrhyw bwnc arall. Does dim gwahaniaeth o ran meddalwedd nag egwyddorion.

Mae systemau eraill yn bodoli hefyd, ond dw i'n licio WordPress - mae lot o bobol o Gymru a llawer iawn o gwmpas y byd yn cytuno!


Pam?

Sgrînlun o BaeColwyn.com - blog lleol da iawn am dref Bae Colwyn

Gall blog fod yn ddefnyddiol am y rhesymau posib isod.

  • Rhannu newyddion
  • Rhannu lluniau a fideos
  • Hyrwyddo digwyddiadau
  • Helpu dy gymuned neu pentref ac ysgol
  • Codi arian am bethau, elusenau
  • Ymgyrchu
  • Papur bro ar-lein (defnyddiol i gyn-drigolion gadw mewn cysylltiad)
  • Defnyddio'r iaith Gymraeg ar-lein

Beth ydw i ei angen?

Rwyt ti angen:

  • cyfrifiadur
  • cysylltiad i'r we
  • cyfeiriad e-bost

(Os wyt ti'n gallu darllen y dudalen yma ar y we ac os oes gen ti gyfeiriad e-bost, rwyt ti'n hollol iawn!)


Beth fydd nodweddion y blog?

Gwnawn ni ddefnyddio gwasanaeth ar-lein o'r enw WordPress. Mae'r peth am ddim. Ar y diwedd, bydd gen ti wefan gyda'r nodweddion isod. Does dim ots os nad wyt ti'n eu deall eto.

  • eitemau newyddion / cofnodion
  • gallu postio testun, lluniau, fideo, ffeiliau sain neu cyfuniad o'r pedwar
  • sylwadau gan darllenwyr os ti eisiau
  • URL (cyfeiriad gwefan) fel enwpentref.wordpress.com
  • rhyngwyneb yn Gymraeg
  • mwy nag un awdur os ti eisiau


Amser?

Bydd y broses yma yn cymryd tua 5 neu 10 munud.


Iawn, dw i'n barod. Canllaw plis!

1. Cer i http://cy.wordpress.com/

2. Clicia "Sign Up Now!"

Wordpress-cymraeg-clic.jpg

3. Llenwa'r ffurflen gyda:

  • Cyfeiriad Blog (yr x yn x.wordpress.com, os mae'r ffurflen yn cynnig cyfeiriad fel "x.com is available, use it for your blog for $rhwybeth a year?", clicia "No thanks, I’ll use the free wordpress.com address." am y tro. Rwyt ti'n gallu cysylltu dy flog gyda chyfeiriad fel x.com yn y dyfodol - ond paid a phoeni ar hyn o bryd.)
  • Enw Defnyddiwr (defnyddia'r un enw a'r cyfeiriad os ti eisiau)
  • Cyfrinair
  • Cadarnhau (yr un cyfrinair eto)
  • E-mail address

Wordpress-ffurflen.jpg

4. Clicia "Sign Up"

5. Mae WordPress yn cynnig ffurflen arall gyda phroffil personol. Rwyt ti'n gallu llenwi a chlicia "Cadw Proffil"...

Llanhedyn-proffil-jane.jpg

...neu gadael y proffil yn hollol wag am y tro.

Llanhedyn-proffil.jpg

6. Cer i dy e-bost. Dylet ti fod wedi derbyn e-bost gan WordPress i gadarnhau dy gyfeiriad e-bost. Dilyna'r cyfarwyddiadau yn y neges e-bost. Paid ag anghofio dy ffolder sbam, weithiau mae negeseuon yn mynd yna. (Dim lwc? Arhosa am 5 neu 10 munud. Os dwyt ti ddim wedi derbyn yr e-bost, cer i wneud paned. Os dwyt ti dal ddim wedi derbyn yr e-bost, cer i waelod y dudalen a newidia'r cyfeiriad i gyfeiriad dy briod, plentyn neu ffrind.)

7. Rwyt ti wedi gorffen y pethau sylfaenol! Mae'r blog lleol yn fyw ar y we - cer i'r cyfeiriad. Does dim ond un cofnod arno fe ar hyn o bryd ("Hello world!"), sef cofnod awtomatig... Gweler yr adran nesaf am dy gofnod cyntaf go iawn.

Llanhedyn-dechrau.jpg


Nesaf

Mae cofnod blog yn eitem o newyddion, barn, gwybodaeth neu beth bynnag.

Sut i bostio dy gofnod blog cyntaf


Opsiynau

Thema ayyb... yn fuan

Dolenni perthnasol

Am y dudalen yma

Croeso i ti olygu'r tudalen yma gydag unrhyw bethau defnyddiol. Yn enwedig, bydd canllaw ar fideo yn dda!

Os wyt ti eisiau helpu, cer i gyfieithu WordPress.com i Gymraeg: http://translate.wordpress.com/projects/wpcom/cy/default