Gweithrediadau

Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Sut i ddechrau blog - canllaw i ddechreuwyr"

Oddi ar Hedyn

Llinell 82: Llinell 82:


==Opsiynau==
==Opsiynau==
==Dolenni perthnasol==
*[[:Categori:Blog_lleol| Y Rhestr - blogiau lleol]] am ysbrydoliaeth
*[[:Categori:Blog_Cymraeg| Y Rhestr - blogiau yn Gymraeg (llawer)]]
*Sut i ychwanegu lluniau i dy flog lleol
*Syniadau am dy flog lleol





Diwygiad 18:15, 4 Ebrill 2011

Mae'r ganllaw yma yn esbonio sut i ddechrau blog lleol am dy ardal ar gwasanaeth am ddim o'r enw WordPress.com. Wrth gwrs rwyt ti'n gallu dechrau blog am unrhyw pwnc arall ond rydyn ni'n rhoi pwyslais ar blog lleol yn y ganllaw yma. Mae systemau eraill yn bodoli hefyd ond dw i'n licio WordPress - mae lot o bobol o Gymru a llawer iawn o gwmpas y byd yn cytuno!


Pam?

Mae'r ganllaw yn ddefnyddiol am y rhesymau bosib isod.

  • Rhannu newyddion
  • Rhannu lluniau a fideos
  • Hyrwyddo digwyddiadau
  • Helpu dy gymuned neu pentref ac ysgol
  • Codi arian am bethau, elusenau
  • Ymgyrchu
  • Papur bro ar-lein
  • Defnyddio'r iaith Gymraeg ar-lein


Baecolwyn.jpg Llun o http://baecolwyn.com - blog lleol da iawn


Beth ydw i angen?

Rwyt ti angen:

  • cyfrifiadur
  • cysylltiad i'r we
  • cyfeiriad e-bost

(Os wyt ti'n gallu darllen y tudalen yma ar y we ac os mae gen ti cyfeiriad e-bost, rwyt ti'n hollol iawn!)


Beth fydd nodweddion y blog?

Gwnawn ni defnyddio gwasanaeth ar-lein o'r enw WordPress. Mae'r peth am ddim. Ar y diwedd bydd gen ti gwefan gyda'r nodweddion isod. Does dim ots os ti ddim yn eu deall eto.

  • eitemau newyddion / cofnodion
  • gallu postio testun, lluniau, fideo, neu ychydig o'r tri
  • sylwadau gan darllenyddion os ti eisiau
  • cyfeiriad fel enwpentref.wordpress.com
  • rhyngwyneb yn Gymraeg
  • mwy nag un awdur os ti eisiau


Amser?

Bydd y broses yma yn gymryd tua 5 neu 10 munud.


Iawn, dw i'n barod. Canllaw plis!

1. Cer i http://cy.wordpress.com/

2. Clicia "Sign Up Now!"

Wordpress-cymraeg-clic.jpg

3. Llenwa'r ffurflen gyda:

  • Cyfeiriad Blog (yr x yn x.wordpress.com, os mae'r ffurflen yn gynnig cyfeiriad fel "x.com is available, use it for your blog for $rhwybeth a year?", clicia "No thanks, I’ll use the free wordpress.com address." am y tro. Rwyt ti'n gallu cysylltu dy flog gyda chyfeiriad fel x.com yn y dyfodol - ond paid a phoeni ar hyn o bryd.)
  • Enw Defnyddiwr (defnyddia'r un enw a'r cyfeiriad os ti eisiau)
  • Cyfrinair
  • Cadarnhau (yr un cyfrinair eto)
  • E-mail address

Wordpress-ffurflen.jpg

4. Clicia "Sign Up"

5. Mae WordPress yn gynnig ffurflen arall gyda phroffil personol. Rwyt ti'n gallu llenwi a chlicia "Cadw Proffil"...

Llanhedyn-proffil-jane.jpg

...neu gadael y proffil yn hollol wag am y tro.

Llanhedyn-proffil.jpg

6. Cer i dy e-bost. Dylet ti wedi derbyn e-bost gan WordPress i gadarnhau dy gyfeiriad e-bost. Dilyna'r cyfarwyddiadau yn y neges e-bost. Paid ag anghofio dy ffolder am sbam, weithiau mae negeseuon yn mynd yna. (Dim lwc? Arosa am 5 neu 10 munud. Os dwyt ti ddim wedi derbyn yr e-bost, cei paned. Os dwyt ti dal ddim wedi derbyn yr e-bost, cer i'r gwaelod y tudalen a newida'r cyfeiriad i gyfeiriad dy briod, plentyn neu ffrind.)

7. Rwyt ti wedi gorffen y pethau sylfaenol! Mae'r blog lleol yn fyw ar y we - cer i'r cyfeiriad. Ond does dim unrhyw eitemau arno fe eto... Gweler yr adran nesaf am dy gofnod cyntaf.

Postio dy eitem cyntaf

Opsiynau

Dolenni perthnasol


Am y tudalen yma

Croeso i ti golygu'r tudalen yma gydag unrhyw pethau defnyddiol. Yn enwedig, bydd canllaw ar fideo yn dda!

Os wyt ti eisiau helpu, cer i gyfieithu WordPress.com i Gymraeg: http://translate.wordpress.com/projects/wpcom/cy/default