Gweithrediadau

Sut i bostio dy gofnod blog cyntaf

Oddi ar Hedyn

The printable version is no longer supported and may have rendering errors. Please update your browser bookmarks and please use the default browser print function instead.

Cofnod blog yw eitem o newyddion, barn, gwybodaeth neu beth bynnag. Yn yr adran hon, rydyn ni'n edrych at bostio cofnod dy hun.

Rydyn ni'n cymryd bod gyda ti blog ar WordPress yn barod. (Sut i ddechrau blog lleol.)

Cofnod cyntaf

1. Cer i http://cy.wordpress.com eto. Y peth pwysig yw'r bar llwyd ar y brig. Ti'n gallu dechrau popeth gyda'r bar llwyd ar y brig. (Efallai ychwanega http://cy.wordpress.com i dy bookmarks/ffefrynnau.)

Bar-llwyd-pwysig.jpg

2. Mewngofnodi. Os ydy'r bar llwyd yn dweud "Fy Nghyfrif" a "Fy Mlog" mae popeth yn iawn, cer i 3. (Ond os oes gyda ti botwm Mewngofnodi dylet ti mewngofnodi gyda dy enw a chyfrinair. Cofia enw oedd dy enw blog neu beth bynnag sgwennaist ti pan greuaist ti'r flog. Llanhedyn oedd enw fy mhentref ond dyw e ddim yn bodoli yn anffodus. Dim ond engraifft.) Os oes gyda ti cysylltiad i'r we, rwyt ti'n gallu mewngofnodi unrhyw le - caffi, adre, llyfrgell, ar y lleuad ayyb. Defnyddia "Cofia fi" am mewngofnodi yn awtomatig - adre neu ar dy gliniadur yn unig i fod yn ddiogel!

3. Cer i "Fy Mlog" - dylai fe ymddangos dewislen, does dim rhaid i ti clicio. Clicia "Cofnod Newydd" ar y dewislen. Bydd sgrin yn ymddangos, mae'r rhan fwyaf yn wyn. Gwyn yw dy fyd.

Gwyn-yw-dy-fyd.jpg

4. Ti yw'r golygydd: dim rheolau, dim ond canllawiau. Peth pwysig gyda dy gofnod cyntaf yw gorffen rhywbeth bach a chyhoeddi. Efallai sgwenna rhywbeth fel "Archwilio'r busnes blogio yma. Dw i'n dysgu. Diolch am ddarllen.". Efallai paid â bod yn ddwfn. Ond lan i ti. Mae'r teitl yn eitha pwysig - bydd e'n ymddangos ar Google, Facebook, Twitter ayyb, i unrhyw danysgrifwr (trwy darllenydd RSS), dy flog fel gwefan hefyd wrth gwrs. Felly dw i'n trio sgwennu crynodeb fach o'r cofnod yn y teitl. Mae mwyseiriau, puns ayyb yn gweithio yn y papur newydd, dydyn nhw ddim mor dda yn y teitl o gofnod blog. Ond lan i ti. Dim ond canllawiau.

Dysgu-blogio.jpg

5. Clicia "Cyhoeddi"...

6. Mae'r peth ar y we. Yn ôl y nodiad melyn. Cer i gyfeiriad dy flog i weld dy waith.

Cofnod-cyntaf.jpg