Gweithrediadau

Sut i bostio dy gofnod blog cyntaf

Oddi ar Hedyn

Fersiwn a roddwyd ar gadw am 23:34, 4 Ebrill 2011 gan Carlmorris (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)

Cofnod blog yw eitem o newyddion, barn, gwybodaeth neu beth bynnag. Yn yr adran hon, rydyn ni'n edrych at bostio cofnod dy hun.

1. Cer i http://cy.wordpress.com eto. Y peth pwysig yw'r bar llwyd ar y brig. Ti'n gallu dechrau popeth gyda'r bar llwyd ar y brig.

Bar-llwyd-pwysig.jpg

2. Os ydy'r bar llwyd yn dweud "Fy Nghyfrif" a "Fy Mlog" mae popeth yn iawn, cer i 3. (Ond os oes gyda ti botwm Mewngofnodi dylet ti mewngofnodi gyda dy enw a chyfrinair. Cofia enw oedd dy enw blog neu beth bynnag sgwennaist ti pan greuaist ti'r flog. Llanhedyn oedd enw fy mhentref ond dyw e ddim yn bodoli yn anffodus. Dim ond engraifft.) Os oes gyda ti cysylltiad i'r we, rwyt ti'n gallu mewngofnodi unrhyw le - caffi, adre, llyfrgell, ar y lleuad ayyb. Defnyddia "Cofia fi" am mewngofnodi yn awtomatig - adre neu ar dy gliniadur yn unig i fod yn ddiogel!

3. Cer i "Fy Mlog" - dylai fe ymddangos dewislen, does dim rhaid i ti clicio. Clicia "Cofnod Newydd". Bydd sgrin yn ymddangos, mae'r rhan fwyaf yn wyn. Gwyn yw dy fyd.

Gwyn-yw-dy-fyd.jpg

4. Ti yw'r golygydd: dim rheolau, dim ond canllawiau. Peth pwysig gyda dy gofnod cyntaf yw gorffen rhywbeth bach a chyhoeddi. Efallai sgwenna rhywbeth fel "Archwilio'r busnes blogio yma. Dw i'n dysgu. Diolch am ddarllen.". Efallai paid â bod yn ddwfn. Ond lan i ti. Mae'r teitl yn eitha pwysig - bydd e'n ymddangos ar Google, Facebook, Twitter ayyb, i unrhyw danysgrifwr (trwy darllenydd RSS), dy flog fel gwefan hefyd wrth gwrs. Felly dw i'n trio sgwennu crynodeb fach o'r cofnod yn y teitl. Mae mwyseiriau, puns ayyb yn gweithio yn y papur, dydyn nhw ddim mor dda yn y teitl. Ond lan i ti. Dim ond canllawiau.

Dysgu-blogio.jpg

5. Clicia "Cyhoeddi"...

6. Mae'r peth ar y we. Yn ôl y nodiad melyn. Cer i gyfeiriad dy flog i weld dy waith.

Cofnod-cyntaf.jpg