Gweithrediadau

Sgwrs Defnyddiwr

Einion

Oddi ar Hedyn

Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:05, 22 Ionawr 2013 gan Einion (Sgwrs | cyfraniadau)

Windows 8 yn Gymraeg

Er nad oes llawer o gydnabyddiaeth o hyn ar y We, mae hi *yn* bosib defnyddio Windows 8 yn Gymraeg.

Y cam cyntaf ydy sefydlu'r pecyn iaith. Mae angen defnyddio'r arlwy "charm" Windows-8 aidd sef yr arlwy ddu gewch chi pan yn symud eich llygoden i gornel dde gwaelod eich sgrin.

Gweler y linc yma : http://windows.microsoft.com/en-US/windows-8/language#1TC=t1

Yr ail gam yw sicrhau mai'r Gymraeg yw prif iaith eich cyfrifiadur. Un ffordd o wneud hyn yw dewis "Language" yn y "Control Panel". Rhaid i'r Gymraeg fod uwchben y Saesneg neu chewch chi fawr ddim Cymraeg, dim ond manion fel y dyddiad.

Mae'r linc yma'n dangos engrhaifft o sut i lwytho pecyn iaith : http://support.microsoft.com/kb/2607607

Bydd angen llwytho pecynnau iaith ar wahan i becynnau fel Microsoft Office, Libre Office, Firefox ac ati.