Gweithrediadau

Sgwrs Categori

Blog Cymraeg

Oddi ar Hedyn

The printable version is no longer supported and may have rendering errors. Please update your browser bookmarks and please use the default browser print function instead.

Gan mai ar ffurf wici mae'r casgliad, gall unrhyw un gofrestru gyda Hedyn a cyfrannu at y casgliad (cyfarwyddiadau yma). Neu os sylwch mod i wedi methu rhwybeth, croeso i chi adael sylw islaw ar y wici neu ym mlwch sylwadau'r cofnod blog yma os yw'n well gyda chi (er, ar y wici fasai orau).

Hefyd, mae gyda fi gwestiwn neu ddau ynglyn a sut i drefnu'r casgliad. Eto, gadewch sylwadau.

Yn gyffredinol, gwaith da Rhys! --Carlmorris 15:13, 5 Ionawr 2011 (UTC)

Enwau'r blogiau

Mae na lot o flogiau dan 'B'. A fyddai'n well eu trefnu nhw yn ôl yr enw h.y. Blog Answyddogol dan 'A'? (Ma'n siapio'n dda chwarae teg!) --Rhodri.apdyfrig 23:25, 1 Mawrth 2011 (UTC)

Dw i wedi meddwl hynny, ond 'Blog Answyddogol' ydy enw'r blog, nid 'Answyddogol'. --Rhyswynne 09:14, 2 Mawrth 2011 (UTC)
Dylen ni defnyddio'r enw'r blog dw i'n meddwl, mae'n adlewyrchi'r enwau go iawn. Teimlo fel Yahoo! Byddan ni gwybod mwy o manteision pan byddan ni wedi gorffen. Dw i wedi postio'r peth ar Moch Cwta. --Carlmorris 13:13, 2 Mawrth 2011 (UTC)

Parchu preifatrwydd y blogiwr

Yn y meysydd enw, lleoliad a chenedl, dw i'n gadael rhain yn wag os nad yw'n hysbys ar dudalen blaen, neu adran 'Ynlyn a' yn blog. Os ydw i'n gwybod yr ateb i un o'r tri uchod, dach chi'n meddwl bod o'n iawn i wneud chwiliad o fewn y blog rhag ofn bod y wybodaeth yn wedi ei grybwyll mewn cofnod, ac wedyn ei nodi yma? Ydy hyn yn rhy sensitif?

Lleoliad

Os yw'r person wedi symud ers seydlu ei flog/blog, dw i'n eu nodi mewn mwy nag un categori

sylw

Pwnc

Falle mai hwn ydy'r peth mwya trici a sy'n debygol o fod yn ddadleuol. Tydy rhai pobl ddim yn licio cael eu categoreiddio ac efallai bydd eraill yn anghytuno gyda diffiniad categori. Hefyd, ydy hi'n bosib cael gormod o gategoriau? Oes eisau ail-enwi rhai? Oes rhai ar goll?

sylw

Blog yn ôl lleoliad

Dw i'n rhoi mwy nag un lleoliad i lawr os yw'r blogiwr wedi symyud tra'n cadw'r blog. Cymru wedi ei rannu'n siroedd (presenol), tu allan i Cymru wedi ei rannu i wledydd yn unig (falle rhannu UDA yn ôl talaith).

sylw

Blog yn ol pwnc

yn y dechreuad, roedd pob blog yn rhoi dolen i'w gilydd ar eu blogrolls. Dw i'n teimlol bod y blogfyd Cymraeg yn fwy ar chwal rwan, ac efallai nad yw pobl yn sylweddoli'r amrywiaeth sy'n bodoli.

sylw

Awgrymiadau

Linux Portaloo - http://www.paul.sladen.org/alans-diary/ - blog dwyieithog Alan Cox.