Gweithrediadau

Sgwrs Categori

Blog Cymraeg

Oddi ar Hedyn

Gan mai ar ffurf wici mae'r casgliad, gall unrhyw un gofrestru gyda Hedyn a cyfrannu at y casgliad (cyfarwyddiadau yma). Neu os sylwch mod i wedi methu rhwybeth, croeso i chi adael sylw islaw ar y wici neu ym mlwch sylwadau'r cofnod blog yma os yw'n well gyda chi (er, ar y wici fasai orau).

Hefyd, mae gyda fi gwestiwn neu ddau ynglyn a sut i drefnu'r casgliad. Eto, gadewch sylwadau.

Yn gyffredinol, gwaith da Rhys! --Carlmorris 15:13, 5 Ionawr 2011 (UTC)

Enwau'r blogiau

Mae na lot o flogiau dan 'B'. A fyddai'n well eu trefnu nhw yn ôl yr enw h.y. Blog Answyddogol dan 'A'? (Ma'n siapio'n dda chwarae teg!) --Rhodri.apdyfrig 23:25, 1 Mawrth 2011 (UTC)

Dw i wedi meddwl hynny, ond 'Blog Answyddogol' ydy enw'r blog, nid 'Answyddogol'. --Rhyswynne 09:14, 2 Mawrth 2011 (UTC)
Dylen ni defnyddio'r enw'r blog dw i'n meddwl, mae'n adlewyrchi'r enwau go iawn. Teimlo fel Yahoo! Byddan ni gwybod mwy o manteision pan byddan ni wedi gorffen. Dw i wedi postio'r peth ar Moch Cwta. --Carlmorris 13:13, 2 Mawrth 2011 (UTC)

Parchu preifatrwydd y blogiwr

Yn y meysydd enw, lleoliad a chenedl, dw i'n gadael rhain yn wag os nad yw'n hysbys ar dudalen blaen, neu adran 'Ynlyn a' yn blog. Os ydw i'n gwybod yr ateb i un o'r tri uchod, dach chi'n meddwl bod o'n iawn i wneud chwiliad o fewn y blog rhag ofn bod y wybodaeth yn wedi ei grybwyll mewn cofnod, ac wedyn ei nodi yma? Ydy hyn yn rhy sensitif?

Os mae'r wybodaeth yn amlwg, cer amdani. Lleoliad a chenedl oedd dy syniadau di Rhys! --Carlmorris 20:20, 6 Ebrill 2011 (UTC)

Lleoliad

Os yw'r person wedi symud ers seydlu ei flog/blog, dw i'n eu nodi mewn mwy nag un categori

iawn, mae mantais gyda'r categorïau yma --Carlmorris 20:13, 6 Ebrill 2011 (UTC)

Pwnc

Falle mai hwn ydy'r peth mwya trici a sy'n debygol o fod yn ddadleuol. Tydy rhai pobl ddim yn licio cael eu categoreiddio ac efallai bydd eraill yn anghytuno gyda diffiniad categori. Hefyd, ydy hi'n bosib cael gormod o gategoriau? Oes eisau ail-enwi rhai? Oes rhai ar goll?

Dw i'n hoffi'r cysyniad tu ôl categoriau. Dyw e ddim yn berffaith ond does dim ots. "Tydy rhai pobl ddim yn licio cael eu categoreiddio"... Pwy? Does neb wedi cwyno eto (i mi)! Y peth PWYSICAF yw gorffen Y Rhestr heb poeni gormod. Angen fersiwn 1! Bydd mwy o bobol yn helpu wedyn. Bydd fersiwn 2 yn well wrth gwrs. Paid â phoeni. --Carlmorris 20:26, 6 Ebrill 2011 (UTC)
Ti'n gadael y categoriau'n wag am rwan yn fwriadol, jyst i gael pobl blog ar y rhesrt yn gynta? Iawn gyda fi, nd beth am gynnwys am rwan iddyt hefyd, jyst i ni gael gwybod pa rai sy angen dod yn ôl atynt?--Rhyswynne 08:33, 7 Ebrill 2011 (UTC)

Blog yn ôl lleoliad

Dw i'n rhoi mwy nag un lleoliad i lawr os yw'r blogiwr wedi symyud tra'n cadw'r blog. Cymru wedi ei rannu'n siroedd (presenol), tu allan i Cymru wedi ei rannu i wledydd yn unig (falle rhannu UDA yn ôl talaith).

sylw

Blog yn ol pwnc

yn y dechreuad, roedd pob blog yn rhoi dolen i'w gilydd ar eu blogrolls. Dw i'n teimlol bod y blogfyd Cymraeg yn fwy ar chwal rwan, ac efallai nad yw pobl yn sylweddoli'r amrywiaeth sy'n bodoli.

O'n i ddim yn sylweddoli'r amrywiaeth sy'n bodoli! Dw i'n profi'r syniad blogroll... Cyn hir. --Carlmorris 20:28, 6 Ebrill 2011 (UTC)

Awgrymiadau

Linux Portaloo - http://www.paul.sladen.org/alans-diary/ - blog dwyieithog Alan Cox.

Moblogs Cymraeg? Rhai ar http://moblog.net/chwain/ http://moblog.net/nwdls/ ayyb

dileu sefydlwyd

Dw i wedi dileu sefydlwyd 20xx. Mae'r un data yn y categoriau, sef Categori:Blog_yn_ôl_blwyddyn_sefydlu. Af i trwy'r erthyglau i ddileu'r maes hefyd. Pawb yn iawn? --Carlmorris 20:18, 6 Ebrill 2011 (UTC)

Dim efo teimlad au cryfion am y peth, er, mae'n haws darllen beth sy yn y prif flwch yna beth sy yn y categoriau ar y gwaelod. Ond dw i'n dredu bod dyddiad sefydlu yn bwysicach o ran cymharu data na trivia, felly dylai dim ond ei gynnwys yn y categoriau fod yn ddigonol. --Rhyswynne 07:48, 7 Ebrill 2011 (UTC)

Blogiau Saesneg

Dim ond cadw rhestr yma dros dro. Does dim angen trafod ar hyn o bryd.

Clwb Malu Cachu --Carlmorris 18:34, 9 Ebrill 2011 (UTC)