Gweithrediadau

Sgwrs Categori

Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Blog Cymraeg"

Oddi ar Hedyn

Llinell 175: Llinell 175:
:Dw i ddim yn gweld y pwynt fy hunan. Basai'n well gyda fi cael un tudalen ar gyfer pob blog, dim ots sawl platffprm maen nhw wedi defnyddio. Yn y pen draw, yr un blog yw e (yn enwedig os ydynt wedi mewnforio'r hen gofnodion). Mae peryg i hyn gamlywio'r niferoedd.
:Dw i ddim yn gweld y pwynt fy hunan. Basai'n well gyda fi cael un tudalen ar gyfer pob blog, dim ots sawl platffprm maen nhw wedi defnyddio. Yn y pen draw, yr un blog yw e (yn enwedig os ydynt wedi mewnforio'r hen gofnodion). Mae peryg i hyn gamlywio'r niferoedd.
::Y pwynt yw fformat safonol am ddefnydd gan meddalwedd. Mae'r data ar hyn o bryd yn "amrwd", bydda i'n licio cynrychioli'r data yn ffurfiau gwahanol. Mae un tudalen yn cynrychioli un blog ar URL penodol. Fydd ddim problem gyda'r cyfeiriad arall yn y disgrifiadau. O ran ystadegau (os dw i'n deall yn iawn) mae cafeatau eraill beth bynnag... --[[Defnyddiwr:Carlmorris|Carlmorris]] 17:49, 4 Mehefin 2011 (UTC)
::Y pwynt yw fformat safonol am ddefnydd gan meddalwedd. Mae'r data ar hyn o bryd yn "amrwd", bydda i'n licio cynrychioli'r data yn ffurfiau gwahanol. Mae un tudalen yn cynrychioli un blog ar URL penodol. Fydd ddim problem gyda'r cyfeiriad arall yn y disgrifiadau. O ran ystadegau (os dw i'n deall yn iawn) mae cafeatau eraill beth bynnag... --[[Defnyddiwr:Carlmorris|Carlmorris]] 17:49, 4 Mehefin 2011 (UTC)
:::Ond nid cael ei ail-eni wnaeth fy mlog mewn gwirionedd dim ond symud i blatfform arall/gwell. Fe fewnforiwyd popeth oedd ar blogspot i wordpress. Mae hyn yn wahanol i rai pobl sy'n blogio ar un blog am rai blynyddoedd, cael seibiant o flogio am rai misoedd/blynyddoedd wedi ail gychwyn blogio ar flog cyfnagwbl newydd. Yr unig rheswm dwi heb gau lawr blogspot neu osod re-direct yw oherwydd y byddai hynny, efallai, yn torri doleni gwefanu eraill sy'n mynd i'r hen flog. --[[Defnyddiwr:Rhysllwyd|Rhysllwyd]] 15:29, 8 Mehefin 2011 (UTC)

== Yn Eisiau - Categoriau Newydd ==
== Yn Eisiau - Categoriau Newydd ==

Diwygiad 15:29, 8 Mehefin 2011

Gan mai ar ffurf wici mae'r casgliad, gall unrhyw un gofrestru gyda Hedyn a cyfrannu at y casgliad (cyfarwyddiadau yma). Neu os sylwch mod i wedi methu rhwybeth, croeso i chi adael sylw islaw ar y wici neu ym mlwch sylwadau'r cofnod blog yma os yw'n well gyda chi (er, ar y wici fasai orau).

Hefyd, mae gyda fi gwestiwn neu ddau ynglyn a sut i drefnu'r casgliad. Eto, gadewch sylwadau.

Yn gyffredinol, gwaith da Rhys! --Carlmorris 15:13, 5 Ionawr 2011 (UTC)

Enwau'r blogiau

Mae na lot o flogiau dan 'B'. A fyddai'n well eu trefnu nhw yn ôl yr enw h.y. Blog Answyddogol dan 'A'? (Ma'n siapio'n dda chwarae teg!) --Rhodri.apdyfrig 23:25, 1 Mawrth 2011 (UTC)

Dw i wedi meddwl hynny, ond 'Blog Answyddogol' ydy enw'r blog, nid 'Answyddogol'. --Rhyswynne 09:14, 2 Mawrth 2011 (UTC)
Dylen ni defnyddio'r enw'r blog dw i'n meddwl, mae'n adlewyrchi'r enwau go iawn. Teimlo fel Yahoo! Byddan ni gwybod mwy o manteision pan byddan ni wedi gorffen. Dw i wedi postio'r peth ar Moch Cwta. --Carlmorris 13:13, 2 Mawrth 2011 (UTC)

Parchu preifatrwydd y blogiwr

Yn y meysydd enw, lleoliad a chenedl, dw i'n gadael rhain yn wag os nad yw'n hysbys ar dudalen blaen, neu adran 'Ynlyn a' yn blog. Os ydw i'n gwybod yr ateb i un o'r tri uchod, dach chi'n meddwl bod o'n iawn i wneud chwiliad o fewn y blog rhag ofn bod y wybodaeth yn wedi ei grybwyll mewn cofnod, ac wedyn ei nodi yma? Ydy hyn yn rhy sensitif?

Os mae'r wybodaeth yn amlwg, cer amdani. Lleoliad a chenedl oedd dy syniadau di Rhys! --Carlmorris 20:20, 6 Ebrill 2011 (UTC)

Lleoliad

Os yw'r person wedi symud ers seydlu ei flog/blog, dw i'n eu nodi mewn mwy nag un categori

iawn, mae mantais gyda'r categorïau yma --Carlmorris 20:13, 6 Ebrill 2011 (UTC)

Pwnc

Falle mai hwn ydy'r peth mwya trici a sy'n debygol o fod yn ddadleuol. Tydy rhai pobl ddim yn licio cael eu categoreiddio ac efallai bydd eraill yn anghytuno gyda diffiniad categori. Hefyd, ydy hi'n bosib cael gormod o gategoriau? Oes eisau ail-enwi rhai? Oes rhai ar goll?

Dw i'n hoffi'r cysyniad tu ôl categoriau. Dyw e ddim yn berffaith ond does dim ots. "Tydy rhai pobl ddim yn licio cael eu categoreiddio"... Pwy? Does neb wedi cwyno eto (i mi)! Y peth PWYSICAF yw gorffen Y Rhestr heb poeni gormod. Angen fersiwn 1! Bydd mwy o bobol yn helpu wedyn. Bydd fersiwn 2 yn well wrth gwrs. Paid â phoeni. --Carlmorris 20:26, 6 Ebrill 2011 (UTC)
Ti'n gadael y categoriau'n wag am rwan yn fwriadol, jyst i gael pobl blog ar y rhesrt yn gynta? Iawn gyda fi, nd beth am gynnwys am rwan iddyt hefyd, jyst i ni gael gwybod pa rai sy angen dod yn ôl atynt?--Rhyswynne 08:33, 7 Ebrill 2011 (UTC)
Yn fwriadol. Eisiau gorffen. Cer i http://hedyn.net/wici/Arbennig:Contributions/Carlmorris a chwilio am "Crewyd tudalen newydd" i weld y blogiau newydd sydd angen categoriau. Dw i'n bwriadu wneud y categoriau hefyd. --Carlmorris 21:20, 10 Ebrill 2011 (UTC)

Blog yn ôl lleoliad

Dw i'n rhoi mwy nag un lleoliad i lawr os yw'r blogiwr wedi symyud tra'n cadw'r blog. Cymru wedi ei rannu'n siroedd (presenol), tu allan i Cymru wedi ei rannu i wledydd yn unig (falle rhannu UDA yn ôl talaith).

sylw

Blog yn ol pwnc

yn y dechreuad, roedd pob blog yn rhoi dolen i'w gilydd ar eu blogrolls. Dw i'n teimlol bod y blogfyd Cymraeg yn fwy ar chwal rwan, ac efallai nad yw pobl yn sylweddoli'r amrywiaeth sy'n bodoli.

O'n i ddim yn sylweddoli'r amrywiaeth sy'n bodoli! Dw i'n profi'r syniad blogroll... Cyn hir. --Carlmorris 20:28, 6 Ebrill 2011 (UTC)

Blog yn ol pwnc 2 (enwau categori)

Hoffwn i weld mwy o flogiau o gelf (yn hytrach na am gelf). Mae'r enwau'r categorïau yn iawn ond gallu bod yn wan weithiau. Dw i'n hoffi blogiau am bethau ond dw i'n rili hoffi blogiau o bethau! --Carlmorris 16:55, 30 Ebrill 2011 (UTC)

Mae gwhaniaeth rhnwg Blog Celf a Blog am Gelf, ond dw i ddim yn gweld problem unai cael dwy gategori gwahanol, neu bod y ddau fath o fewn un categori (ti'n meddwl bydd pobl yn grac?!). Dw i yn dechrau meddwl bod mynd gyda'r furf 'Blog am...' wedi bod yn gangymeriad, e.e. dw i eisoes wedi newid Blog am Deithio i Blog Teithio gan mai blogio am daith tra ar y daith mae pawb hyd yma - efallai newidia i o'n ôl pan fydd Sian Lloyd yn dechrau blog Cymraeg yn seiliedig ar ei cholofn teithio yn y Daily Mail.--Rhyswynne 20:27, 3 Mai 2011 (UTC)
Y ddau o fewn un categori dw i'n meddwl. Cadwa'r peth yn syml. Fydd pobol ddim yn grac! Ond rydyn ni'n creu "showcase" o flogiau i ddangos beth sy'n bosib. Felly efallai dylen ni ail-enwi'r categorïau "blog am...", e.e. newid "Blog am Gelf" i "Blog Celf" achos mae'r "am" yn awgrymu perthynas penodol rhwng y blogiwr a'r cynnwys. Ond mae pethau fel "Blog Celf" yn niwtral. Ond ydy hwn yn wneud synnwyr?! --Carlmorris 10:27, 4 Mai 2011 (UTC)

Awgrymiadau

Linux Portaloo - http://www.paul.sladen.org/alans-diary/ - blog dwyieithog Alan Cox.

Moblogs Cymraeg? Rhai ar http://moblog.net/chwain/ http://moblog.net/nwdls/ ayyb

dileu sefydlwyd

Dw i wedi dileu sefydlwyd 20xx. Mae'r un data yn y categoriau, sef Categori:Blog_yn_ôl_blwyddyn_sefydlu. Af i trwy'r erthyglau i ddileu'r maes hefyd. Pawb yn iawn? --Carlmorris 20:18, 6 Ebrill 2011 (UTC)

Dim efo teimlad au cryfion am y peth, er, mae'n haws darllen beth sy yn y prif flwch yna beth sy yn y categoriau ar y gwaelod. Ond dw i'n dredu bod dyddiad sefydlu yn bwysicach o ran cymharu data na trivia, felly dylai dim ond ei gynnwys yn y categoriau fod yn ddigonol. --Rhyswynne 07:48, 7 Ebrill 2011 (UTC)
Roedd dau maes yn diangen. Dw i'n meddwl yr un peth am enw hefyd nawr. Mae'r enw yn y teitl y tudalen yn barod. --Carlmorris 20:44, 10 Ebrill 2011 (UTC)

Blogiau Saesneg

Dim ond cadw rhestr yma dros dro. Does dim angen trafod ar hyn o bryd. --Carlmorris 18:34, 9 Ebrill 2011 (UTC)

Clwb Malu Cachu

Deaf. Learning Welsh.

Hoffwn allu cynnwys rhain rhywle yma - gallant fod yn bont rhwng darllen a gadael sylw a'r flog Saesneg a mentro i ddarllen a gadael sylw ar flog Cymraeg. Hefyd Welsh Class. --Rhyswynne 20:18, 10 Ebrill 2011 (UTC)
mae cyfle tudalen ar gyfer dysgwyr yn bendant --Carlmorris 21:12, 10 Ebrill 2011 (UTC)

http://community.livejournal.com/dysgu_cymraeg

http://www.blog.cadwswn.com Malu Awyr - Welsh learners' Blog

http://jcortese.livejournal.com Newynog am Gymraeg (dysgwyr)

http://slacyr.blogspot.com Slacyr Blog

http://clwbmalucachu.co.uk/ Clwb Malu Cachu Stwff am dysgwyr

http://thedivinegoat.dreamwidth.org/tag/welsh+lessons

http://acen.co.uk/blog/en/

http://www.cyclemutton.co.uk/blog/category/cymraeg/

http://yswitian.blogspot.com/

http://www.roylewelsh.com/

http://lostincymraeg.wordpress.com/

Blogiau anweledig / ar goll

Dim ond cadw rhestr. Maen nhw wedi gadael y we. Efallai bosib mynd trwy'r cache Google neu archive.org. --Carlmorris 18:36, 9 Ebrill 2011 (UTC)

Cymraeg (Welsh)

http://bombardiwr.blogspot.com/

http://chwadan.blogspot.com Cwacian

http://e-clectig.blogspot.com/

http://golygongasyth.blogspot.com/

http://www.nuclear-dawn.com Gwawr Niwclear (dysgwyr)

http://journals.aol.co.uk/gvabmwilliams/llencymru Llen Cymru

http://llyfu-llymry.blogspot.com Llyfu Llymry

http://www.blogiadur.com/mympwy Mympwy

http://www.getjealous.com/osianllwyd Osian yn Japan

http://pibyddglantywi.blogspot.com Pibydd Glantywi

http://mei.gwilym.net/blog mei.gwilym.net

http://pubscymru.blogspot.com Pubs Cymru

http://rhywbethrhyfedd.blogspot.com rhywbethrhyfedd

http://serenrhosllannerchrugog.wordpress.com Seren Rhosllannerchrugog

http://sionowain.blogspot.com Sion Owain

http://www.ydydd.co.uk Y Dydd (S4C)

stori o flogio Cymraeg

Mae pobol angen gweld y rhestr o flogiau heb sgrolio felly dw i wedi newid yr esboniad i rywbeth byr. Bydd y rhestr yn esbonio y rhan fwyaf i bobol newydd. Hefyd dyw ein rhesymau am Y Rhestr ddim yn golygu rhesymau pobol eraill! Gobeithio bydd pobol yn ffeindio defnyddiau diddorol.

Dw i wedi ei chadw isod. Gobeithio bod hwn yn iawn. Dw i YN hoffi'r "stori o flogio Cymraeg" ond dylai fe bod rhywle arall... Efallai pan fydd y rhestr wedi gorffen, fydd gyda ni mwy o stori a mewnwelediadau o'r "ymchwil".

Mae rhai yn dal i fynd heddiw, rhai wedi eu gadael (ond yn dal ar gael), ac eraill wedi diflannu’n llwyr (unai dry ddewis yr awdur neu oherwydd telerau’r cwmni llety).

Mae sawl newid wedi bod. Ar y dechrau, roedd bron pob blogiwr Cymraeg yn roi dolen at bron i bob blog Cymraeg arall. Gydag amser, fe newidiodd hyn, yn rhannol gan bod oes y blogroll wedi dod i ben, ac hefyd gan bod cynifer o flogiau Cymraeg, roedd pobl yn dewis a dethol pa flogiau roeddynt yn ddarllen a pha rai roeddynt yn rhoi dolen atynt. Roedd hyn yn beth i’w groesawu, sef bod pobl yn rhoi dolen yn ôl a blaen i’w gilydd gan bod y blog o ddiddordeb, ac nid o ddyletswydd.

Fel mae amser wedi mynd yn ei flaen, mae’r blogiau Cymraeg wedi dod yn fwy darniog, ac efallai gyda llai o gyswllt rhwng y blogiau a’r blogwyr. (testun gan Rhyswynne)

--Carlmorris 22:20, 10 Ebrill 2011 (UTC)

Cytuno 100% Sgwennais gofnod blog (hir) am y peth ta beth, felly falle jyst rhoi dolen at hwnnw rhywle. Gallaf ei ail eirio os oes angen hefyd. --Rhyswynne 07:50, 11 Ebrill 2011 (UTC)

golwg o gategori

Dyw e ddim yn gyflawn ond dw i'n meddwl bod Y Rhestr yn ddefnyddiol iawn i bobol "tu allan" eisoes. Trio "dylunio" rhywbeth cyson am bob categori. e.e. Categori:Blog_a_sefydlwyd_yn_2011. Efallai dylen ni defnyddio'r enw Y Rhestr ar bob tudalen. Dyw e ddim yn berffaith eto, unrhyw awgrymiadau? --Carlmorris 23:42, 10 Ebrill 2011 (UTC)

Mi o'n i wedi dechrau rhoi
Mae'r dudalen hon yn cynnwys is-gategoriau ar gyfer y prosiect Casglu Blogiau.
ar ben rhai is-gategoriau, ond mae beth ti wedi ei wneud yn fwy deniadol 'sbo. Dw i ddim yn giamstar ofnadwy ar fformatio MediaWiki i allu dylunio rhwybeth trawiadol.

dechrau'r blogiau Cymraeg

O'n i ddim yn hapus mod i ar ben fy hun fel blog a ddechreuodd yn 2003. O'n i'n gwybod bod na fwy, felly dyam chwilio am yr cynharaf ar faes-e am flogiau. Roedd Nic wedi rhoi rhestr o rai oedd yn bodoli yn 2003:

http://www.fieldmethods.net/dienw/">Blog Di-enw http://bratiaithblog.blogspot.com/">Bratiaith Blog http://buchods.blog-city.com/">Buchods http://www.clwbmalucachu.co.uk/blogger.html">Clwb Malu Cachu http://corachflog.blog-city.com/">Corrachflog http://longoed.blogspot.com/">Dwisio'r llinell! http://hogynorachub.blog-city.com/">Hogynorachub http://www.ynyr.com/blog/">Nionyn http://eurig.blogspot.com/">PuertoBlog http://ramirez.blog-city.com/">Ramirez http://rwdlsnwdls.blogspot.com/">Rwdls Nwdls

Aur!--Rhyswynne 15:41, 27 Mai 2011 (UTC)
diddorol. diolch o galon. mae rhai o bethau ar archive.org e.e. http://web.archive.org/web/20030117182012/http://www.fieldmethods.net/dienw/ --Carlmorris 23:53, 29 Mai 2011 (UTC)

ailenedigaeth ar blatfform arall

Sut i ddinodi ailenedigaeth, hmm... Pawb yn licio'r fformat yma? Asturias yn Gymraeg (hen flog Blogspot), Blog Rhys Llwyd (hen flog Blogspot)

Dw i ddim yn gweld y pwynt fy hunan. Basai'n well gyda fi cael un tudalen ar gyfer pob blog, dim ots sawl platffprm maen nhw wedi defnyddio. Yn y pen draw, yr un blog yw e (yn enwedig os ydynt wedi mewnforio'r hen gofnodion). Mae peryg i hyn gamlywio'r niferoedd.
Y pwynt yw fformat safonol am ddefnydd gan meddalwedd. Mae'r data ar hyn o bryd yn "amrwd", bydda i'n licio cynrychioli'r data yn ffurfiau gwahanol. Mae un tudalen yn cynrychioli un blog ar URL penodol. Fydd ddim problem gyda'r cyfeiriad arall yn y disgrifiadau. O ran ystadegau (os dw i'n deall yn iawn) mae cafeatau eraill beth bynnag... --Carlmorris 17:49, 4 Mehefin 2011 (UTC)
Ond nid cael ei ail-eni wnaeth fy mlog mewn gwirionedd dim ond symud i blatfform arall/gwell. Fe fewnforiwyd popeth oedd ar blogspot i wordpress. Mae hyn yn wahanol i rai pobl sy'n blogio ar un blog am rai blynyddoedd, cael seibiant o flogio am rai misoedd/blynyddoedd wedi ail gychwyn blogio ar flog cyfnagwbl newydd. Yr unig rheswm dwi heb gau lawr blogspot neu osod re-direct yw oherwydd y byddai hynny, efallai, yn torri doleni gwefanu eraill sy'n mynd i'r hen flog. --Rhysllwyd 15:29, 8 Mehefin 2011 (UTC)

Yn Eisiau - Categoriau Newydd

Dw i'n gwybod, dy fod ti, Carl, ddim yn cîn ar fwy o gategoriau,ond dw i'nmeddwl bod eisiau'r canlynol

• Blog digwyddiad: Ar gyfer pethau one-off fel Bedwen Lyfrau '08, Etholiad '11 neu cynhadleudd neu gilydd
• Blog bwyd a diod: Cyfuno Blog am fwyd, gyda rhai sy'n trafod cwrw (fel Cwrwydro)
• Blog adolygu/adolygiadau: Mae nifer o flogiau'n adolgygu gwahanol bethau, o nofelau i fwytai ayyb. Er bod eu pynciau yn wahanol, dw i'n meddl bod eisiau eu harddangos nhw o dan un adran..
• Blog am grefydd: Er bod LLAWER o flogiau am Gristnogaeth, mae gyda ni am fwslwmiaeth, un am Iddewiaeth ac ambell un am anffyddiaeth. Gellir's cael is-gategoriau
• Blog gan John Jones: Mae sawl blogiwr yn gyfrifol am fwy nag un blog (e.e. Nic Dafis, Rhodri ap Dyfrig, Carl Moris, Rhys Wynne). Falle braidd yn OTT, ond gall y berthynas yma rhwng blogiau fod o ddiddordeb

Hoffi popeth! ...Heblaw
• adolygiadau - Yn gyffredinol does dim rhaid i ni etifeddu "adolygiad" fel categori ar-lein o gwbl. Mae cerddoriaeth dal yn bwnc, mae llen dal yn bwnc. Dw i'n meddwl bod adolygiadau fel fformat yn uniongrededd o gwmnïau, yn enwedig cylchgronau a phapurau. Mae adolygiadau gallu bod yn dda ond dim ond un ffordd i sgwennu am ddiwylliant. Paratoi cofnod amdano fe fel mae'n digwydd. Trio archwilio ffyrdd eraill i siarad am ddiwylliant, e.e. 50,000 thesis neu casgliad o tweets neu fideo gydag un brawddeg testun.
• blog gan John Jones - dw i'n gyfrifol am un blog yn unig, mae'r llall yn Gymraeg yn blogiau grŵp! Hoffwn i ddosbarthu'r bwyslais a sylw yn hytrach na codi grŵp o uber-blogwyr :-) --Carlmorris 18:08, 4 Mehefin 2011 (UTC)

Blog sy'n cysgu

Beth yw'r ffordd gorau i ddynodi blogiau sy'n cysgu? Os o gwbl? (Term arall: Blogiau Coll)

Beth am gategorïau fel

Cofnod olaf yn 2009

Cofnod olaf yn 2008

Cofnod olaf yn 2007?

Dw i eisiau cael y ffigur o'r nifer o flogiau sy'n fyw. Dw i'n gwybod rydyn ni'n gallu cael un categori "Blogiau sydd wedi bod yn cysgu am mwy na flwyddyn" (neu rhywbeth) ond efallai bydd mwy o ddata yn ddiddorol. Neu paid â boddran am y tro? Dw i'n poeni nawr, roedd y ffigur tua 250 GAN GYNNWYS Y RHAI SY'N CYSGU! Beth fydd y ffigur o flogiau byw yn yr iaith Gymraeg, 50-100?!

--Carlmorris 22:26, 6 Mehefin 2011 (UTC)

Os nad ydy blog wedi ei ddiweddaru ers 2007, mae'n gwneud mwy na chysgu dybiwn i! Byddai blwyddyn yn marker da, ond y drwg ydy, rhaid mynd yn ól a golygu'r Rhestr yn rheolaidd e.e., pwy sy'n mynd i gadw golwg ar bob blog cwsg a nodi pan maen nhw wedi eu diweddaru + os dwi heb ddiweddaru fy mlog ers 11 mis, oes rhywun yn mynd i gofio dod yn ól mewn mis i wirio os dwi wedi ei ddiweddaru neu beidio? Tra mae'r wybodaeth yma'n ddefnyddiol, mae'n ddata sy'n gynyddol mewn flux (mae'n siwr bod term am hyn). Dyma un o'r pethau sy'n rhwystredig am y Wicipedia Cymraeg - mae lot o'r data yn anghywir erbyn hyn yn anghywir achos does dim diweddaru cyson. --Rhyswynne 07:52, 7 Mehefin 2011 (UTC)
Dw i'n licio 'cysgu' yn hytrach na 'marw' achos mae'r cynnwys dal ar y we. Mae gwerth yn yr hen blogiau. Ond dw i'n cytuno gyda'r pwnyt am Y Rhestr cynaliadwy! Y peth pwysicaf ydy mynediad i'r blogiau sy'n cael eu diweddaru nawr. Felly dw i'n dechrau meddwl efallai bydd e'n well cael categori o flogiau byw. Does dim ots rili os mae rhai ohonyn nhw yn cysgu, byddan nhw dal yn gyfoes i ryw raddau hyd yn oed y blogiau sydd heb wedi cael eu diweddaru ers tua hanner blwyddyn. Dw i'n hapus i'w diweddaru dwywaith y flwyddyn neu rhywbeth. Enw gorau - Categori:Blogiau yn fyw? --Carlmorris 12:31, 7 Mehefin 2011 (UTC)
Felly dw i'n dechrau meddwl efallai bydd e'n well cael categori o flogiau byw. Dyna'n union'n ron i'n feddwl. Cer amdani. 'Blogiau Byw' neu 'Blogiau Bywiog'?--Rhyswynne 14:49, 7 Mehefin 2011 (UTC)
Blogiau Byw dw i'n medddwl. Dibynnu arnyn nhw a'r cynnwys os maen nhw yn "bywiog"! --Carlmorris 10:53, 8 Mehefin 2011 (UTC)
Nah, Categori:Blog_byw. Achos mae'r categoriau eraill yn unigol, dim lluosog. --Carlmorris 10:55, 8 Mehefin 2011 (UTC)

"Blog amlgyfranog"

Wedi trosglwyddo pob tudalen dan Blog amlgyfranog i Categori:Blog gan grwp

Haws i'w deall. --Carlmorris 11:13, 8 Mehefin 2011 (UTC)