Gweithrediadau

Sgwrs

Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hafan"

Oddi ar Hedyn

Llinell 1: Llinell 1:
==Delweddau==
Wedi torri. Rhaid symud i weinydd arall. --[[Defnyddiwr:Carlmorris|Carlmorris]] 01:24, 28 Rhagfyr 2011 (UTC)
==Cynnig: newid trwydded Hedyn==
==Cynnig: newid trwydded Hedyn==



Diwygiad 01:24, 28 Rhagfyr 2011

Delweddau

Wedi torri. Rhaid symud i weinydd arall. --Carlmorris 01:24, 28 Rhagfyr 2011 (UTC)

Cynnig: newid trwydded Hedyn

Mae Hedyn wedi bod yn dda dan Creative Commons BY-NC-SA ond hoffwn i awgrymu trwydded arall, rhywbeth mwy rhydd, sef Creative Commons BY. Mewn geiriau eraill dw i eisiau colli'r cyfyngiad anfasnachol a'r cyfyngiad 'Share Alike'. Dw i eisiau ymestyn allan i fwy o bobol. Er enghraifft, bydd defnydd masnachol yn wych yn fy marn i. Os mae rhywun yn gallu adeiladu busnes gyda stwff o Hedyn ac hybu defnydd o'r iaith ac ein blogiau, pob bendith iddyn nhw. Ond mae rhaid i mi ofyn y gymuned achos rydyn ni i gyd wedi cyfrannu i Hedyn. Dw i'n meddwl bod e'n deg i gadw y pwnc ar agor tan 21ain mis Awst 2011. Beth yw dy feddyliau am y gynnig? Ti'n hoffi'r gynnig? Wyt ti'n gallu gweld unrhyw problemau? Oes arnom ni angen am dudalen fer gyda chanllawiau rhannu, e.e. 'croeso i ti ail-ddefnyddio'r cynnwys Hedyn am unrhyw pwrpas - plîs defnyddia hedyn.net yn y credit'. Neges croes-postiwyd i haciaith.com ac ebostiwyd i aelodau o Hedyn. --Carlmorris 20:36, 7 Awst 2011 (UTC)

Does dim gwrthwynebiad i'r newid gyda fi. --Rhyswynne 21:02, 7 Awst 2011 (UTC)
Gyda llaw dw i wedi newid i BY-SA. Plis dweda os oes unrhyw broblem gyda'r SA! --Carlmorris 01:12, 28 Rhagfyr 2011 (UTC)

Cyfrifon

Rhaid i ti greu cyfrif i olygu. Wedi cael SPAMATTAK gan bots di-enw! Well i ni barhau gyda chyfrifon. Dw i'n hoffi hollol agored fel Wicipedia ond angen mwy o ddefnyddwyr. Efallai gwnaf i agor eto rhywbryd. --Carlmorris 17:09, 7 Rhagfyr 2010 (UTC)

DokuWiki

Dal yn symud i MediaWiki o DokuWiki. Ti'n gallu ffeindio'r hen wefan ar http://hedyn.net/hen/doku.php - ti'n gallu helpu os ti eisiau. Diolch! --Carlmorris 22:00, 15 Tachwedd 2010 (UTC)

Gyda thudalennau eraill, defnyddia'r fformat
http://hedyn.net/hen/doku.php?id=Trwyddedau
http://hedyn.net/hen/doku.php?id=Meddalwedd
ayyb
--Carlmorris 22:48, 15 Tachwedd 2010 (UTC)
am dudalennau sgwrs http://hedyn.net/hen/doku.php?id=talk:trwyddedau
--Carlmorris 15:05, 16 Tachwedd 2010 (UTC)

301

Newydd ychwanegu 301 i'r RSS, gobeithio mae'r hen gyfeiriad RSS a'r RSS newydd yn gweithio. --Carlmorris 22:37, 15 Tachwedd 2010 (UTC)

cofrestr o flogiau

diweddaru cofrestr o flogiau (gyda llaw Rhys dylen ni creu'r syniad massif - "blogiadur" go iawn gyda phob blog ar tudalen arbennig! Categoriau, templed am dudalen, popeth, dw i'n cyffro nawr. Sa' i'n licio'r enw Cyfeirlyfr. Beth am lliw ac enw arbennig fel Yellow Pages?) --Carlmorris 15:27, 16 Tachwedd 2010 (UTC)

prawf! Fideobobdydd.com --Carlmorris 15:39, 16 Tachwedd 2010 (UTC)
Liciwn i helpu gyda hwn, ond mae'n rhwybeth gallawn dipio i mewn iddo fel mae amser yn caniatau. Baswn i'n newid enw'r categoriau i fod yn benodol ar gyfer y cyfeirlyfr/rhestr blogiau (e.g. newid [[Technoleg]] i [[Blog technoleg]]) rhag ofn i rhywun rhoi Technoleg fel categori ar dudalen arall ar hedyn sydd a dim i'w wnedu a'r rhestr blogiau.
Pethau faswn i'n ychwanegu at bod erthygl, unai fel cynnwys neu fel categori,
  • enw perchenog y blog,
  • ei genedl (gwryw, benywaidd, Wil Jil)
  • dyddiad geni'r blog (blwyddyn)
  • dyddiad cau'r
  • meddalwedd sy'n cael ei ddefnyddio (Worpress, Blogger, Nireblog)
  • lleoliad y blog (sir yng Nghymru, enw gwlad tu allan i Gymru)
  • Blog 'ametur' neu broffesiynol
Mwy i ddod. --Rhyswynne 09:37, 20 Rhagfyr 2010 (UTC)
Diolch Rhys. Dw i'n gweld y gofrestr fel canllaw i flogiau/cynnwys sydd ar gael - "gweler hefyd". Syniadau eraill: rhywbeth am brojectau eraill gyda'r corpws/geiriau ac "archwiliad" o'r blogosphere Cymraeg. Beth wyt ti'n meddwl? Mae popeth yn dibynnu ar y pwrpas. Efallai dyn ni'n gallu colli rhai fel genedl, dyddiad cau (cysgu!) ar y tudalennau - mae categori yn well na cynnwys achos maen nhw yn opsiynol a maen nhw yn casglu blogiau gwahanol. e.e. ni'n gallu cael dolen i dudalen o bob blog WordPress, neu blogiau sydd wedi bod yn cysgu am mwy na blwyddyn. Dw i'n meddwl amdano fe fel Delicious am flogiau Cymraeg. Categoriau yma yw tagiau. Beth wyt ti'n meddwl? Gyda llaw efallai well i ni osgoi unrhyw beth dadleuol fel "amatur" ayyb achos mae'n creu/cadarnhau hierarchaeth. Beth yw'r "mwy i ddod"? --Carlmorris 10:43, 20 Rhagfyr 2010 (UTC)
Nid ametur faswn i'n ddefnyddio, dw i ddim yn licio'r gair ametur chwaith, ond meddwl basai'n ddiddorol cael categori o flogiau profesiynol (ddim yn air da chwaith), sef rhai sy'n cael eu cadw gan bobl yn rhinewdd eu swydd, fel Vaughan Roderick, acadmwyr yn Mercator a Chanolfan Bedwyr a'r Llyfrgell Gen, blogiau gan gwmniau ac ati. Falle fydd hyn ddim o ddiddordeb i neb, (wel nid neb, mae o ddiddordeb i fi) ond pwy a wyr?
Cytuno mai categoriau = tagiau, doeddwn ddim yn glir. Wedi copio ac addasu fy awgrymaidau:
  • enw perchenog y blog (os yn cael ei ddatgan ar y blog) CYNNWYS YN UNIG
  • ei genedl (gwryw, benyw, Wil Jil, blog ar y cyd) (os yn cael ei ddatgan ar y blog) CYNNWYS + CATEGORI
  • dyddiad geni'r blog (blwyddyn) CYNNWYS + CATEGORI
  • dyddiad cau'r CYNNWYS + CATEGORI
  • meddalwedd sy'n cael ei ddefnyddio (Worpress, Blogger, Nireblog) CYNNWYS + CATEGORI
  • lleoliad y blog (sir yng Nghymru, enw gwlad tu allan i Gymru)(os yn cael ei ddatgan ar y blog) CYNNWYS + CATEGORI
  • Blog 'ametur' neu broffesiynol CYNNWYS + CATEGORI
--Rhyswynne 14:37, 20 Rhagfyr 2010 (UTC)
Beth yw "cynnwys + categori"? Sa' i'n deall. --Carlmorris 00:48, 21 Rhagfyr 2010 (UTC)
Dw i'n meddwl mai'r peth hawsa fyddai i mi grweu cwpl o dudalennau fy hun a dangos felly. Wedi cael tua 10 blog, gallwn wenud tweaks wedyn a trio cytuno ar arddull safonol? Gwyliwch y gofod. --Rhyswynne 08:31, 5 Ionawr 2011 (UTC)
Diweddariad: Wedi dechrau yma. Cael bach o drafferth cael yr is-gategoriau yn nhrefn y wyddor. --Rhyswynne 09:15, 5 Ionawr 2011 (UTC)