Gweithrediadau

Sgwrs

Hacio'r Iaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2011

Oddi ar Hedyn

The printable version is no longer supported and may have rendering errors. Please update your browser bookmarks and please use the default browser print function instead.

Syniad ardderchog a dwi'n hoffi'r rhaglen ddrafft. Yn bersonol, dyw dydd Llun ddim yn gyfleus gan y bydda i'n mynd lan ar ddiwedd yr wythnos. Tybed a oes eraill yn yr un sefyllfa? Wrth gwrs, dyw e byth yn bosib trefnu dyddiad syi'n siwtio pawb. Fasai'n bosib ei ailadrodd tua diwedd yr wythnos falle os oes digon o alw neu a fyddai hynny'n rhy anodd ei drefnu? - Maldwyn Pate 23:52 14/6/11

  • Dwi ddim yn meddwl ein bod ni'n gallu cael y babell am fwy nag un diwrnod, a dwinna'n gweithio am weddill yr wythnos felly dwi'n amau os bydd un arall wedi ei drefnu ar y maes. Ond mae croeso i unrhyw un defnu haciaith bach mewn tafarn, neu rownd bwrdd yn y bar ar y maes. --Rhodri.apdyfrig 08:15, 15 Mehefin 2011 (UTC)

Hacio'r Iath Bach mewn tafarn

mae'n debyg byddan ni'n trefnu sesh yn y pyb hefyd felly bydd y tudalen yma yn calendr! --Carlmorris 19:44, 14 Mehefin 2011 (UTC)

wedi diweddaru'r prif dudalen --Carlmorris 22:19, 2 Awst 2011 (UTC)

Ble

Allai unrhyw un awgrymu pyb da yn yr ardal? Angen digon o le am tua 20 (?) a di-wifr. --Carlmorris 14:56, 16 Mehefin 2011 (UTC)

Dw i ddim yn meddwl byddaf yn gallu mynychu unrhyw beth fin nos, nac yn ddigon cyfarwydd gyda thafarndai'r dref a'i chyffuniau i awgrymu lleoliad, ond dyma un argrym:
--Rhyswynne 13:19, 29 Gorffennaf 2011 (UTC)
wedi diweddaru'r prif dudalen --Carlmorris 22:19, 2 Awst 2011 (UTC)

Pryd

Beth am rhywbeth ar diwedd yr wythnos (achos mae'r peth uchod yn digwydd Dydd Llun)? --Carlmorris 14:56, 16 Mehefin 2011 (UTC)

wedi diweddaru'r prif dudalen --Carlmorris 22:19, 2 Awst 2011 (UTC)