Gweithrediadau

Sgwrs

Hacio'r Iaith Ionawr 2012

Oddi ar Hedyn

Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:38, 15 Rhagfyr 2011 gan Carlmorris (Sgwrs | cyfraniadau)

Trefniadaeth : trafodaeth mis Rhagfyr

Sa'n grêt sa pobol yn gallu rhoi eu sylwadau ar y pynciau isod. Diolch, Rhods --Rhodri.apdyfrig 15:19, 13 Rhagfyr 2011 (UTC)

Niferoedd

Faswn i'n deud bod lle i 80 ond tu hwnt i hynny bydd angen ystafell baralel ychwanegol ac ystyried trefniannau ychwanegol. Byddai hefyd yn annodd cael seddi i bawb yn y Stiwdio ar gyfer yr Haclediad o bosib.

Fasa hi'n syniad i ni osod dyddiad cau cofrestru er mwyn trio annog pobol i roi eu henwau lawr? Mae sawl sefydliad isio anfon mwy nag un person ac os ydyn nhw gyd yn gneud yn hwyrt yna gallai fod yn ruthr braidd ar y diwedd. Os da chi wedi gofyn i rywun ddod, neu bod rhywun wedi dweud wrthych chi yr hoffen nhw ddod, ella bod hi'n amser rhoi proc iddyn nhw i ddweud wrthyn nhw i roi eu henwau lawr.

Cyflwyniadau/Sesiynau

Byddai'n dda gallu cysylltu gyda'r rheiny sydd wedi cofrestru hefyd i'w annog i gymryd rhan drwy gyflwyno am rhywbeth, cynnal demo neu weithdy. Da ni rioed wedi cracio cael rhestr gall o sesiynau o flaen llaw a fasa'n dda cael hynny fyny eleni er mwyn annog pobol ddi-hyder y gallan nhw wneud rhywbeth drwy ddangos enghreifftiau.

Bryn, gan dy fod ti efo profiad first hand o BarCamps eraill, mwy, faset ti'n fodlon drafftio rhyw fath o apêl i'w anfon allan at bobol? Dwi'n meddwl oedd y ffordd nes ti ddweud pethe ar ddiwedd yr Haclediad 15 yn wych. Os nad oes cyfeiriad ebost ganddon ni, gallwn ni roi o fel cofnod blog ac anfon neges bersonol at bobol ar Twitter yn cyfeirio nhw ato fo.

Cyhoeddusrwydd

Fase hi'n dda gallu cael rhyw fath o nodyn cyhoeddusrwydd allan i'r wasg cyn y dolig. Sa rywun awydd sgwennu un, neu'n nabod rhywun allai ein helpu ni i sgwennu rhywbeth wasg ffrendli?

Petha technegol

Os oes na anghenion technegol arbennig sydd ddim yn glir ar y wiki, dylen ni feddwl amdanyn nhw rwan. Bydai pwynt charjo gwell yn dda dwi'n meddwl, be am y cyswllt WiFi? Oedd o'n ddigon da? Oes angen trafod efo'r coleg? Petha fel hyn.

'Delight'

Nath Matt Jones sôn rhyw dro mewn cynhadledd pa more bwysig oedd 'delight' mewn profiad defnyddwyr o wefannau, ac taw'r pethau bach sy'n gneud i chi fynd "O, waw, cŵwŵŵŵl" ydi'r pethau sy'n cnesu chi at rywbeth. Pa fath o elfennau 'delight' allwn ni daflu mewn da chi'n meddwl? (Vitruvius oedd o'n cyfeirio ato!)

  • Oeddan ni di meddwl cael consoles a gêmau o'r blaen? Be am rhai hen-ysgol? Cystadleuaeth amseroedd Super MarioKart (SNES) am y diwrnod? --Rhodri.apdyfrig 15:33, 13 Rhagfyr 2011 (UTC)
    • Mae SNES a Mega Drive (ac Atari 2600 doji) yn ty acw rhywle. Os nad ydyn't wedi eu claddu yn yr atig, ceisiaf ddod a nhw.--Rhyswynne 10:17, 14 Rhagfyr 2011 (UTC)
      • Gwych! Street Fighter II unrhyw un? --Carlmorris 14:38, 15 Rhagfyr 2011 (UTC)

Posteri

Ma na le yn yr adran i osod posteri mawr A1 : cafodd Elin y syniad o roi'r hen bosteri Hacio'r Iaith fyny yna o gwmpas y lle. Efallai gallwn ni gael poster Gwilym Deudraeth Iestyn hefyd? Oes unrhyw bosteri eraill perthnasol allwn ni roi? "Gorsedd y Gîcs"? Wn im.

Trafodaeth Gyffredinol / Adborth

  • Unrhyw sylwadau ar sut da chi'n meddwl aeth un Ionawr 2011? Be allen ni ei wella?
  • Oedd digon o sesiynau?
  • Oedd digon o amrywiaeth o sesiynau?
  • Dwi'n meddwl y dylen ni dorri'r slots awr fewn i dri slot 20munud. Os oes rhywbeth yn edrych fel y dylai fod yn banel awr yna gallwn ni wthio pethau at ei gilydd. Be chi'n feddwl? Dwi' yn meddwl bod neb isio siarad am fwy na 20 munud! (--Rhodri.apdyfrig 15:44, 7 Rhagfyr 2011 (UTC))

Cyllideb / Gwariant

Dylen ni greu gofod fan hyn i nodi beth yw'r incwm mewn ac allan ar gyfer y digwyddiad. Unrhywun yn gallu creu tabl syml?

Trafodaethau sydd wedi eu symud o'r brif dudalen

Dyma le i nodi eich bod wedi dileu neu symud trafodaeth o'r brif dudalen.

Adran Lleoliad

Beth am Cellb - Blaenau Ffestiniog? Mae Indian yn Blaenau hefyd ar gyfer Hacio'r Cyri --Garethvjones 21:37, 12 Medi 2011 (UTC)

  • Dwi eisoes yn trafod posibliadau efo Rhys yn Cellb --Rhodri.apdyfrig 21:51, 14 Medi 2011 (UTC)
  • Wedi penderfynu taw yn Aber fydd o eto yn Ionawr ond am drio trefnu rhagor mewn llefydd eraill dros 2012 --Rhodri.apdyfrig 11:38, 3 Hydref 2011 (UTC)

Adran Trefn y dydd

Y tro hwn rydyn ni eisiau trio rhoi rhai sesiynau yn y rhaglen cyn y diwrnod, neu o leiaf wybod bod nifer o sesiynau'n digwydd rhagblaen. Dwi wedi dechrau drwy roi'r Haclediad byw mewn am hanner dydd.

  • Dynodi Y Stwidio ar gyfer paneli/cyflwyniadau a G38 ar gyfer gweithdai
    • Bydd natur y stwidio yn well ar gyfer paneli ac mae cyfrifiaduron ar gael yn G38. Llawer gwell ar gyfer gweithdai ymarferol.
  • Dwi wedi rhoi toriad mewn yn y pnawn.
    • Oedd y slot 30munud ddim fod ar gyfer sesiynau, ond croeso i chi newid hyn os ydych chi isio.