Gweithrediadau

Sgwrs

Hacio'r Iaith Ionawr 2012

Oddi ar Hedyn

The printable version is no longer supported and may have rendering errors. Please update your browser bookmarks and please use the default browser print function instead.

Trafodaeth Gyffredinol / Adborth

  • Unrhyw sylwadau ar sut da chi'n meddwl aeth un Ionawr 2011? Be allen ni ei wella?
  • Oedd digon o sesiynau?
  • Oedd digon o amrywiaeth o sesiynau?
  • Dwi'n meddwl y dylen ni dorri'r slots awr fewn i dri slot 20munud. Os oes rhywbeth yn edrych fel y dylai fod yn banel awr yna gallwn ni wthio pethau at ei gilydd. Be chi'n feddwl? Dwi' yn meddwl bod neb isio siarad am fwy na 20 munud! (--Rhodri.apdyfrig 15:44, 7 Rhagfyr 2011 (UTC))

Cyllideb / Gwariant

Dylen ni greu gofod fan hyn i nodi beth yw'r incwm mewn ac allan ar gyfer y digwyddiad. Unrhywun yn gallu creu tabl syml?

Trafodaethau sydd wedi eu symud o'r brif dudalen

Dyma le i nodi eich bod wedi dileu neu symud trafodaeth o'r brif dudalen.

Adran Lleoliad

Beth am Cellb - Blaenau Ffestiniog? Mae Indian yn Blaenau hefyd ar gyfer Hacio'r Cyri --Garethvjones 21:37, 12 Medi 2011 (UTC)

  • Dwi eisoes yn trafod posibliadau efo Rhys yn Cellb --Rhodri.apdyfrig 21:51, 14 Medi 2011 (UTC)
  • Wedi penderfynu taw yn Aber fydd o eto yn Ionawr ond am drio trefnu rhagor mewn llefydd eraill dros 2012 --Rhodri.apdyfrig 11:38, 3 Hydref 2011 (UTC)

Adran Trefn y dydd

Y tro hwn rydyn ni eisiau trio rhoi rhai sesiynau yn y rhaglen cyn y diwrnod, neu o leiaf wybod bod nifer o sesiynau'n digwydd rhagblaen. Dwi wedi dechrau drwy roi'r Haclediad byw mewn am hanner dydd.

  • Dynodi Y Stwidio ar gyfer paneli/cyflwyniadau a G38 ar gyfer gweithdai
    • Bydd natur y stwidio yn well ar gyfer paneli ac mae cyfrifiaduron ar gael yn G38. Llawer gwell ar gyfer gweithdai ymarferol.
  • Dwi wedi rhoi toriad mewn yn y pnawn.
    • Oedd y slot 30munud ddim fod ar gyfer sesiynau, ond croeso i chi newid hyn os ydych chi isio.