Gweithrediadau

Sgwrs

Hacio'r Iaith 2014

Oddi ar Hedyn

The printable version is no longer supported and may have rendering errors. Please update your browser bookmarks and please use the default browser print function instead.

Helo!

Dyma sgwrs am Hacio'r Iaith 2014...


Cynnwys y Sesiynau yn Gyffredinol

Nôl at yr hacio?

Mi gafodd rhai Carl a fi sgwrs ar ôl Hacio'r Iaith 2013 y byddai'n dda mynd nôl i haciaith sydd lot mwy am y gwneud, dangos, esbonio, hacs bach, how-to a phethau mwy am y cynnwys a chynnyrch, yn hytrach na'r trafod mwy cyffredinol am 'y Gymraeg ar y we'. Ydych chi'n cytuno? Di hynna ddim yn meddwl nad oes isio trafod, jest efallai ein bod ni'n anelu i bawb sôn am be ma nhw wedi bod yn gweithio arno, neu wneud rhywbeth o'r newydd.

Os oes teimlad i fynd i'r cyfeiriad falle dylen ni drio sicrhau slotiau penodol i brosiectau penodol o flaen llaw. Falle bydd hynny'n rhoi mwy o degwch yn sut da ni'n amserlennu slotiau hefyd.

O ran pwy fasa'n wych i gael fel craidd iddo fasa e.e. pawb sydd wedi cael grant tech y llywod i son am eu prosiect (a rhai eraill fel prosiect Sibrwd y Theatr Gen)

Be di'ch barn? --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 15:25, 9 Rhagfyr 2013 (UTC)

Cytuno 100%. Mae digwyddiadau eraill sy'n rhoi mwy o bwyslais ar bolisi. Mae modd bwcio rhai o'r sesiynau o flaen llaw. --Carlmorris (sgwrs) 15:42, 9 Rhagfyr 2013 (UTC)
Sut ydyn ni am ddechrau gosod sesiynau pendant yn yr amserlen o flaen llaw? Gosod rhai 'pendant' ar y grid drafft a gofyn am sylwadau? --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 00:07, 27 Ionawr 2014 (UTC)
Ia llunio grid drafft pan gawn ni gadarnhad sawl stafell sydd ar gael. Llunio grid a gosod un neu ddau ddigwyddiad ar gyfer pob sesiwn a phenderfynu ar ba stafell ar y diwrnod fel ti wedi cynnig. Bydd yn rhwybeth i'w hysbysebu ar blog/twitter Haciaith er mwyn cael pobl i ymateb a rhoi sylw yn y run-up i'r digwyddiad. Mae wastad rhyw dawelwch mawr yn yr wythnosau'n arwain at y penwythnos! --Rhyswynne (sgwrs) 10:37, 27 Ionawr 2014 (UTC)

Tîm Blogwyr Byw?

Er mwyn gallu cofnodi a chyfathrebu'r digwyddiad, dwi'n meddwl byddai'n dda penodi un person o bob ystafell i fod yn flogiwr byw. Os gallwn ni gael gwirfoddolwyr sy'n fodlon gwneud hyn o flaen llaw yna gret. Efallai neges ebost fach yn gofyn i bobol sydd efo diddordeb greu cyfri ar Haciaith.com o flaen llaw a bod yn barod i wneud ar y dydd. Dwi'n meddwl bod Twitter ond yn gallu cyfathrebu hyn a hyn a mae'n debygol iawn y bydd na nifer sydd ddim yn gallu bod yno eisiau ymuno mewn trafodaethau. --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 14:40, 12 Rhagfyr 2013 (UTC)


Amseru sesiynau

Oes angen 5 munud rhwng pob sesiwn? Dechrau sesiynau am 5mund wedi; gorffen 5 munud i?

Dwi wedi ail-drefnu amseroedd y sesiynau - prif newidiadau: hanner awr cofrestru yn lle awr, haclediad 45 mun / cinio 45 mun, 10 munud rhwng sesiynau i ddod nol ac ail-drefnu stafelloedd. Gadwch sylw os ydach chi'n anghytuno. --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 15:49, 4 Chwefror 2014 (UTC)

Trefnu sesiynau unigol

Gawn ni wneud rheol newydd eleni? Ar gyfer pob sesiwn, a chyn i unrhywun ddechrau siarad, mae angen penodi dau berson yn y stafell i wneud dau swydd: 1 i gadw amser, 1 i flogio byw / cadw nodiadau ar gyfer rhoi ar y blog yn fuan wedyn (os yw'n addas e.e. os oes dim ond 2 neu 3 neu os yw'n sesiwn ymarferol a mae ffordd well o gyfathrebu'r sesiwn yn allanol na blog byw). Be chi'n feddwl? --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 00:06, 27 Ionawr 2014 (UTC)

Dw i'n fodlon gwneud y ddau beth, unai gyda'i gilydd, neu am yn ail sesiwn.--Rhyswynne (sgwrs) 10:26, 27 Ionawr 2014 (UTC)

Trefnu sesiynau fesul awr

Mae sefyllfaeoedd wedi codi yn y gorffennol lle roedd maint yr ystafell yn anaddas ar gyfer sesiwn. Sgwn i os allwn ni osgoi hyn eleni a sicrhau bod pawb yn gael y gofod gorau ar gyfer eu sesiwn?

Efallai gallwn ni wneud system o fynd nôl at y grid cyn pob sesiwn a gofyn i bobol ymgasglu mewn man penodol i nodi eu bod nhw am fynd i'r sesiwn hwnnw - gallwn ni wedyn ddyrannu ystafell ar sail niferoedd pobol.

Syniad da? --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 00:06, 27 Ionawr 2014 (UTC)

Dyna fyddai arau d wi'n meddwl. Dwi wedi bod i gynhadledd ble penderfynwyd stafelleodd yn yr un modd on di gyda ben bore, ond mae;n debyd bydd pobl yn newid eu meddwl yn ystod y dydd.
Oes rhestr o stafelloedd? Dw i wedi gweld hen ebost gan Carl oddiwrth Delyth yn nodi'r canlynol:
  • Canolfan Rheolaeth, (digon mawr i 80 o bobl) – modd cael bwffe ar yr ochr, digon o le i gofrestru, a defnyddio’r gofod mawr i gynnal un grŵp neu pawb gyda’i gilydd.
  • Yr ystafell gyfarfod lawr llawr, (lle i tua 12 o bobl rownd bwrdd cynhadledd),
  • 2 ystafell gyfarfod arall gyda lle i tua 30 o bobl yr un (neu 40 at a push).
  • Ystafell cyfrifiaduron gyda 12 cyfrifiadur yno – modd cael cyfrineiriau at y dydd os oes angen .
  • Ystafell y Coleg Cymraeg – linc fideo yno a chyfrifiadur gyda thaflunydd etc.
  • Oes angen ystafell arall fel hyn? Neu mathau eraill o ystafelloedd?
Mae hynna'n gyfanswm o 6 ystafell! Gwell cael cadarnhad os yw pob un dal ar gael.--Rhyswynne (sgwrs) 10:22, 27 Ionawr 2014 (UTC)

Trafodaeth fanylach am gynnwys sesiynau unigol / amserlen

Haclediad

Beth am ei symud o cyn cinio i ar ôl cinio? A falle gwneud cinio yn hanner awr a rowlio fo mewn i'r Haclediad?

Dangosiad cyntaf: isdeitlau Cymraeg ffilm "Du Sköna"

Ffilm Swedeg yw Du Sköna. Mae hi ar gael am ddim dan drwydded CC BY-NC-SA. Dan ni wedi creu isdeitlau Cymraeg. Dan ni'n bwriadu cael dangosiad yn y Ganolfan Rheolaeth, Nos Wener am 23:00. Hyd y ffilm yw tua 90 munud. Divec (sgwrs) 22:24, 11 Chwefror 2014 (UTC)

Hyrwyddo?

Gan bod ni mewn lleoliad gwahanol tro ma, efallai bod angen hyrwyddo yn wahanol i drio denu pobol o'r Gogledd sydd heb fod o'r blaen. Neu ddim?

Efallai. Dyw'r nifer o bennau erioed wedi bod yn broblem. Yn ogystal â 'llenwi seddi' rydym ni'n hyrwyddo er mwyn dangos beth mae pobl yn gallu gwneud ar-lein yn Gymraeg. Hefyd ym mhersonol dw i ddim yn ysu am lwyth o gamerau teledu yna... Bydden nhw yn newid yr amgylchedd yn fy marn i. --Carlmorris (sgwrs) 15:42, 9 Rhagfyr 2013 (UTC)
digon teg am gamerau, dwi ddim yn credu bod ffilmio sesiynau yn fordd effeithiol o gyfathrebu gwybodaeth o'r digwyddiad hwn beth bynnag. Dwi'n credu bod y fideo wnaeth Mr.Llef yn 2012 yn dda ddo. Rhoi teimlad y digwyddiad yn lle cofnod sych. --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 14:40, 12 Rhagfyr 2013 (UTC)

Materion eraill

Parcio

Dros y penwythnos, gallwch parcio yn y maesoedd parcio y prifysgol am ddim. Nid oes rhaid derbyn côd.--Markgajones (sgwrs) 02:17, 22 Rhagfyr 2013 (UTC)

Llety

Roedd sôn falle byddai cynnig arbennig i fynychwyr Hacio'r Iaith aros yn ystafelloedd gwely "o safon ragorol" y Ganolfan Busnes. Unrhyw newydd? Eisiau sortio lle i aros reit buan rwan. --Rhyswynne (sgwrs) 11:46, 7 Ionawr 2014 (UTC)

  • Fase'n dda cael gwybod am hyn fel mater o frys. Oes modd cael gwybodaeth fyny erbyn dechrau wythnos nesa? --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 14:01, 10 Ionawr 2014 (UTC)

Allai rhywun ychwanegu opsiynau eraill o dan llefydd eraill ym Mangor plis? Mae nifer cyfyngedig o lefydd yn y Ganolfan ac mae angen ambell i opsiwn rhatach hefyd. Diolch! --Carlmorris (sgwrs) 14:54, 15 Ionawr 2014 (UTC)

Post Mortem

Tybed a wneith rhywun symud hwn i'r dudalen adborth, pan geith ei chreu? Diolch.
Y podlediad yn ei anterth.

Can diolch i bawb am gynhadledd gwerth chweil. Mi ddysgais lawer o'r sesiynnau amrywiol a chyfoethog. Diolch i bawb a fu wrthi. Llywelyn2000 (sgwrs) 19:09, 16 Chwefror 2014 (UTC)

Diolch am gymryd rhan Robin! Falch dy fod ti wedi cael amser da. --Carlmorris (sgwrs) 11:52, 17 Chwefror 2014 (UTC)