Gweithrediadau

Sgwrs

Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hacio'r Iaith 2014"

Oddi ar Hedyn

(→‎Trefnu sesiynau fesul awr: Rhestr ystafelloedd?)
Llinell 37: Llinell 37:


Syniad da? --[[Defnyddiwr:Rhodri.apdyfrig|Rhodri.apdyfrig]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Rhodri.apdyfrig|sgwrs]]) 00:06, 27 Ionawr 2014 (UTC)
Syniad da? --[[Defnyddiwr:Rhodri.apdyfrig|Rhodri.apdyfrig]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Rhodri.apdyfrig|sgwrs]]) 00:06, 27 Ionawr 2014 (UTC)
:A fyddai mynd nôl at y grid cyn pob slot yn gallu bwyta i mewn i ddechrau pob slot yn ormodol? Beth am holi pawb ar y dechrau ble maent yn bwriadu mynychu a penderfynu ar stafell bryd hynny - mae'n debyg bydd rhai'n newid eu meddwl, ond gobeithio ddim gormod?
:Hefyd, oes rhestr o stafelloedd? Dw i wedi gweld hen ebost gan Carl oddiwrth Delyth yn nodi'r canlynol:
:*Canolfan Rheolaeth, (digon mawr i 80 o bobl) – modd cael bwffe ar yr ochr, digon o le i gofrestru, a defnyddio’r gofod mawr i gynnal un grŵp neu pawb gyda’i gilydd.
:*Yr ystafell gyfarfod lawr llawr, (lle i tua 12 o bobl rownd bwrdd cynhadledd),
:*2 ystafell gyfarfod arall gyda lle i tua 30 o bobl yr un (neu 40 at a push).
:*Ystafell cyfrifiaduron gyda 12 cyfrifiadur yno – modd cael cyfrineiriau at y dydd os oes angen .
:*Ystafell y Coleg Cymraeg – linc fideo yno a chyfrifiadur gyda thaflunydd etc.
:*Oes angen ystafell arall fel hyn? Neu mathau eraill o ystafelloedd?
:Mae hynna'n gyfanswm o 6 ystafell! Gwell cael cadarnhad os yw pob un dal ar gael.--[[Defnyddiwr:Rhyswynne|Rhyswynne]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Rhyswynne|sgwrs]]) 10:22, 27 Ionawr 2014 (UTC)


== Trafodaeth fanylach am gynnwys sesiynau unigol / amserlen ==
== Trafodaeth fanylach am gynnwys sesiynau unigol / amserlen ==

Diwygiad 10:22, 27 Ionawr 2014

Helo!

Dyma sgwrs am Hacio'r Iaith 2014...


Cynnwys y Sesiynau yn Gyffredinol

Nôl at yr hacio?

Mi gafodd rhai Carl a fi sgwrs ar ôl Hacio'r Iaith 2013 y byddai'n dda mynd nôl i haciaith sydd lot mwy am y gwneud, dangos, esbonio, hacs bach, how-to a phethau mwy am y cynnwys a chynnyrch, yn hytrach na'r trafod mwy cyffredinol am 'y Gymraeg ar y we'. Ydych chi'n cytuno? Di hynna ddim yn meddwl nad oes isio trafod, jest efallai ein bod ni'n anelu i bawb sôn am be ma nhw wedi bod yn gweithio arno, neu wneud rhywbeth o'r newydd.

Os oes teimlad i fynd i'r cyfeiriad falle dylen ni drio sicrhau slotiau penodol i brosiectau penodol o flaen llaw. Falle bydd hynny'n rhoi mwy o degwch yn sut da ni'n amserlennu slotiau hefyd.

O ran pwy fasa'n wych i gael fel craidd iddo fasa e.e. pawb sydd wedi cael grant tech y llywod i son am eu prosiect (a rhai eraill fel prosiect Sibrwd y Theatr Gen)

Be di'ch barn? --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 15:25, 9 Rhagfyr 2013 (UTC)

Cytuno 100%. Mae digwyddiadau eraill sy'n rhoi mwy o bwyslais ar bolisi. Mae modd bwcio rhai o'r sesiynau o flaen llaw. --Carlmorris (sgwrs) 15:42, 9 Rhagfyr 2013 (UTC)
Sut ydyn ni am ddechrau gosod sesiynau pendant yn yr amserlen o flaen llaw? Gosod rhai 'pendant' ar y grid drafft a gofyn am sylwadau? --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 00:07, 27 Ionawr 2014 (UTC)

Amseru sesiynau

Oes angen 5 munud rhwng pob sesiwn? Dechrau sesiynau am 5mund wedi; gorffen 5 munud i?

Tîm Blogwyr Byw?

Er mwyn gallu cofnodi a chyfathrebu'r digwyddiad, dwi'n meddwl byddai'n dda penodi un person o bob ystafell i fod yn flogiwr byw. Os gallwn ni gael gwirfoddolwyr sy'n fodlon gwneud hyn o flaen llaw yna gret. Efallai neges ebost fach yn gofyn i bobol sydd efo diddordeb greu cyfri ar Haciaith.com o flaen llaw a bod yn barod i wneud ar y dydd. Dwi'n meddwl bod Twitter ond yn gallu cyfathrebu hyn a hyn a mae'n debygol iawn y bydd na nifer sydd ddim yn gallu bod yno eisiau ymuno mewn trafodaethau. --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 14:40, 12 Rhagfyr 2013 (UTC)

Trefnu sesiynau unigol

Gawn ni wneud rheol newydd eleni? Ar gyfer pob sesiwn, a chyn i unrhywun ddechrau siarad, mae angen penodi dau berson yn y stafell i wneud dau swydd: 1 i gadw amser, 1 i flogio byw / cadw nodiadau ar gyfer rhoi ar y blog yn fuan wedyn (os yw'n addas e.e. os oes dim ond 2 neu 3 neu os yw'n sesiwn ymarferol a mae ffordd well o gyfathrebu'r sesiwn yn allanol na blog byw). Be chi'n feddwl? --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 00:06, 27 Ionawr 2014 (UTC)

Trefnu sesiynau fesul awr

Mae sefyllfaeoedd wedi codi yn y gorffennol lle roedd maint yr ystafell yn anaddas ar gyfer sesiwn. Sgwn i os allwn ni osgoi hyn eleni a sicrhau bod pawb yn gael y gofod gorau ar gyfer eu sesiwn?

Efallai gallwn ni wneud system o fynd nôl at y grid cyn pob sesiwn a gofyn i bobol ymgasglu mewn man penodol i nodi eu bod nhw am fynd i'r sesiwn hwnnw - gallwn ni wedyn ddyrannu ystafell ar sail niferoedd pobol.

Syniad da? --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 00:06, 27 Ionawr 2014 (UTC)

A fyddai mynd nôl at y grid cyn pob slot yn gallu bwyta i mewn i ddechrau pob slot yn ormodol? Beth am holi pawb ar y dechrau ble maent yn bwriadu mynychu a penderfynu ar stafell bryd hynny - mae'n debyg bydd rhai'n newid eu meddwl, ond gobeithio ddim gormod?
Hefyd, oes rhestr o stafelloedd? Dw i wedi gweld hen ebost gan Carl oddiwrth Delyth yn nodi'r canlynol:
  • Canolfan Rheolaeth, (digon mawr i 80 o bobl) – modd cael bwffe ar yr ochr, digon o le i gofrestru, a defnyddio’r gofod mawr i gynnal un grŵp neu pawb gyda’i gilydd.
  • Yr ystafell gyfarfod lawr llawr, (lle i tua 12 o bobl rownd bwrdd cynhadledd),
  • 2 ystafell gyfarfod arall gyda lle i tua 30 o bobl yr un (neu 40 at a push).
  • Ystafell cyfrifiaduron gyda 12 cyfrifiadur yno – modd cael cyfrineiriau at y dydd os oes angen .
  • Ystafell y Coleg Cymraeg – linc fideo yno a chyfrifiadur gyda thaflunydd etc.
  • Oes angen ystafell arall fel hyn? Neu mathau eraill o ystafelloedd?
Mae hynna'n gyfanswm o 6 ystafell! Gwell cael cadarnhad os yw pob un dal ar gael.--Rhyswynne (sgwrs) 10:22, 27 Ionawr 2014 (UTC)

Trafodaeth fanylach am gynnwys sesiynau unigol / amserlen

Haclediad

Beth am ei symud o cyn cinio i ar ôl cinio? A falle gwneud cinio yn hanner awr a rowlio fo mewn i'r Haclediad?

Hyrwyddo?

Gan bod ni mewn lleoliad gwahanol tro ma, efallai bod angen hyrwyddo yn wahanol i drio denu pobol o'r Gogledd sydd heb fod o'r blaen. Neu ddim?

Efallai. Dyw'r nifer o bennau erioed wedi bod yn broblem. Yn ogystal â 'llenwi seddi' rydym ni'n hyrwyddo er mwyn dangos beth mae pobl yn gallu gwneud ar-lein yn Gymraeg. Hefyd ym mhersonol dw i ddim yn ysu am lwyth o gamerau teledu yna... Bydden nhw yn newid yr amgylchedd yn fy marn i. --Carlmorris (sgwrs) 15:42, 9 Rhagfyr 2013 (UTC)
digon teg am gamerau, dwi ddim yn credu bod ffilmio sesiynau yn fordd effeithiol o gyfathrebu gwybodaeth o'r digwyddiad hwn beth bynnag. Dwi'n credu bod y fideo wnaeth Mr.Llef yn 2012 yn dda ddo. Rhoi teimlad y digwyddiad yn lle cofnod sych. --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 14:40, 12 Rhagfyr 2013 (UTC)

Materion eraill

Parcio

Dros y penwythnos, gallwch parcio yn y maesoedd parcio y prifysgol am ddim. Nid oes rhaid derbyn côd.--Markgajones (sgwrs) 02:17, 22 Rhagfyr 2013 (UTC)

Llety

Roedd sôn falle byddai cynnig arbennig i fynychwyr Hacio'r Iaith aros yn ystafelloedd gwely "o safon ragorol" y Ganolfan Busnes. Unrhyw newydd? Eisiau sortio lle i aros reit buan rwan. --Rhyswynne (sgwrs) 11:46, 7 Ionawr 2014 (UTC)

  • Fase'n dda cael gwybod am hyn fel mater o frys. Oes modd cael gwybodaeth fyny erbyn dechrau wythnos nesa? --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 14:01, 10 Ionawr 2014 (UTC)

Allai rhywun ychwanegu opsiynau eraill o dan llefydd eraill ym Mangor plis? Mae nifer cyfyngedig o lefydd yn y Ganolfan ac mae angen ambell i opsiwn rhatach hefyd. Diolch! --Carlmorris (sgwrs) 14:54, 15 Ionawr 2014 (UTC)