Gweithrediadau

Sgwrs

Hacio'r Iaith 2014

Oddi ar Hedyn

Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:25, 9 Rhagfyr 2013 gan Rhodri.apdyfrig (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)

Helo!

Dyma sgwrs am Hacio'r Iaith 2014...


Cynnwys Sesiynau

Mi gafodd rhai Carl a fi sgwrs ar ôl Hacio'r Iaith 2013 y byddai'n dda mynd nôl i haciaith sydd lot mwy am y gwneud, dangos, esbonio, hacs bach, how-to a phethau mwy am y cynnwys a chynnyrch, yn hytrach na'r trafod mwy cyffredinol am 'y Gymraeg ar y we'. Ydych chi'n cytuno? Di hynna ddim yn meddwl nad oes isio trafod, jest efallai ein bod ni'n anelu i bawb sôn am be ma nhw wedi bod yn gweithio arno, neu wneud rhywbeth o'r newydd.

Os oes teimlad i fynd i'r cyfeiriad falle dylen ni drio sicrhau slotiau penodol i brosiectau penodol o flaen llaw. Falle bydd hynny'n rhoi mwy o degwch yn sut da ni'n amserlennu slotiau hefyd.

O ran pwy fasa'n wych i gael fel craidd iddo fasa e.e. pawb sydd wedi cael grant tech y llywod i son am eu prosiect (a rhai eraill fel prosiect Sibrwd y Theatr Gen)

Be di'ch barn? --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 15:25, 9 Rhagfyr 2013 (UTC)


Hyrwyddo?

Gan bod ni mewn lleoliad gwahanol tro ma, efallai bod angen hyrwyddo yn wahanol i drio denu pobol o'r Gogledd sydd heb fod o'r blaen. Neu ddim?