Gweithrediadau

Sgwrs

Hacio'r Iaith 2014

Oddi ar Hedyn

Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:42, 9 Rhagfyr 2013 gan Carlmorris (Sgwrs | cyfraniadau)
The printable version is no longer supported and may have rendering errors. Please update your browser bookmarks and please use the default browser print function instead.

Helo!

Dyma sgwrs am Hacio'r Iaith 2014...


Cynnwys Sesiynau

Mi gafodd rhai Carl a fi sgwrs ar ôl Hacio'r Iaith 2013 y byddai'n dda mynd nôl i haciaith sydd lot mwy am y gwneud, dangos, esbonio, hacs bach, how-to a phethau mwy am y cynnwys a chynnyrch, yn hytrach na'r trafod mwy cyffredinol am 'y Gymraeg ar y we'. Ydych chi'n cytuno? Di hynna ddim yn meddwl nad oes isio trafod, jest efallai ein bod ni'n anelu i bawb sôn am be ma nhw wedi bod yn gweithio arno, neu wneud rhywbeth o'r newydd.

Os oes teimlad i fynd i'r cyfeiriad falle dylen ni drio sicrhau slotiau penodol i brosiectau penodol o flaen llaw. Falle bydd hynny'n rhoi mwy o degwch yn sut da ni'n amserlennu slotiau hefyd.

O ran pwy fasa'n wych i gael fel craidd iddo fasa e.e. pawb sydd wedi cael grant tech y llywod i son am eu prosiect (a rhai eraill fel prosiect Sibrwd y Theatr Gen)

Be di'ch barn? --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 15:25, 9 Rhagfyr 2013 (UTC)

Cytuno 100%. Mae digwyddiadau eraill sy'n rhoi mwy o bwyslais ar bolisi. Mae modd bwcio rhai o'r sesiynau o flaen llaw. --Carlmorris (sgwrs) 15:42, 9 Rhagfyr 2013 (UTC)

Hyrwyddo?

Gan bod ni mewn lleoliad gwahanol tro ma, efallai bod angen hyrwyddo yn wahanol i drio denu pobol o'r Gogledd sydd heb fod o'r blaen. Neu ddim?

Efallai. Dyw'r nifer o bennau erioed wedi bod yn broblem. Yn ogystal â 'llenwi seddi' rydym ni'n hyrwyddo er mwyn dangos beth mae pobl yn gallu gwneud ar-lein yn Gymraeg. Hefyd ym mhersonol dw i ddim yn ysu am lwyth o gamerau teledu yna... Bydden nhw yn newid yr amgylchedd yn fy marn i. --Carlmorris (sgwrs) 15:42, 9 Rhagfyr 2013 (UTC)