Gweithrediadau

Sgwrs

Hacio'r Iaith - Ionawr 2013

Oddi ar Hedyn

Pryd a ble?

Pryd a ble ydyn ni eisiau cynnal Hacio'r Iaith Ionawr 2013? Caernarfon? Bangor? Aberystwyth eto? Aberteifi? Llanbedr? --Carlmorris (sgwrs) 16:04, 16 Awst 2012 (BST)

Mae hyn yn rhoi y cyfle i ni drio lleoliad arall, sy’n codi dau cwestiwn, sef ble, a phwy fydd yn arwain yr holl beth? Rhaid hefyd ystyried sut ydym am ei ariannu os na chawn y lleoliad ac adnoddau am ddim.
Ceisiwyd cael rhyw drafodaeth fel hyn ar y wici llynedd, ond ddaeth i ddim, yn rhannol gan bod ni mor hapus gyda chyfleusterau gwych Prifysgol Aber (ac yn hapus i Rhodri wneud y mwyafrif helaeth o’r gwaith trefnu!), ond falle sdim dewis gyda ni tro yma.
Dw i’n meddwl bod rhaid i ni fod yn realistig a chydnabod bydd hi bron y amhosib cael cystal lleoliad (h.y. y gofod oedd ar gael) nachwaith y fath adnoddau (di-wi digon addas ar gyfer ffrydio byw, offer ffilmio, oriau dynol ‘am ddim’ y caethweision/myfyrwyr i wneud y ffilmio a’r gwaith golygu wedyn).
Beth sydd ei wir angen mewn lleoliad?
Cyn chwilio am leoliad, falle dylem gytuno ar pa bethau rydym yn fodlon cyfaddawdu arnynt a pha bethau sy’n angenrheidiol (addaswch neu ychwanegwch atynt a gadael sylw.)
Angenrheidiol
  • Lleoliad digon mawr i ddal cyfanswm o 70-80 o bobl (Allwn ni gwtogi ar hyn, a'i gwneud yn 'cyntaf i'r felin'?)
  • 3 ystafell ar wahân (un yn ddigon mawr i ddal pawb ar gyfer ymgynnull ben bore/cinio)
  • Di-wi agored (am ddim) ar draws yr ystafelloedd i gyd
  • Sgrin a thaflunydd ymhob ystafell
Dymunol
  • Bwyd
  • Ffilmio
  • Ffrydio byw
Dewis lleoliad daearyddol
Un peth yw dewis lleoliad daearyddol, ond mae hefyd angen bod ag adeilad/sefydliad addas i gynnal y digwyddiad, o gadw’r gofynion uchod mewn golwg. Dw i'n cynnig bod dwy ffordd o fod o'i chwmpas hi:
  • Darganfod unigolion sy wirioneddol eisiau denu’r Hacio’r Iaith i’w hardal yn ysgrifennu bids fel yr Olympics cynadleddau Wikimedia a WordPress.
  • Mynd trwy restr mynychwyr y gorffennol a gweld os oes patrwm (e.e. llwyth o fynychwyr yn byw/gweithio yng Nghaerdydd neu ochrau Caernarfon) a mynd ar ol rhai ohonyn nhw, yn enwedig os oes ganddynt gysylltiadau defnyddiol unai ym myd addysg neu'r byd teledu ac felly'n gallu darparu lleoliad ac adnoddau.
Sori os ydy hyn yn hirwyntog, ond meddlw byddai'n well dechrau fel hyn.--Rhyswynne (sgwrs) 16:25, 16 Awst 2012 (BST)
Anghytuno, dylen ni trio ffeindio rhywle cystal! Beth am brifysgolion? --Carlmorris (sgwrs) 17:04, 16 Awst 2012 (BST)


Sesiynau - syniadau

  • Creu ac addasu ffotographiau a delweddau ar gyfer Wicipedia. --Rhyswynne (sgwrs) 20:21, 16 Awst 2012 (BST)

...