Gweithrediadau

Sgwrs

Hacio'r Iaith - Ionawr 2011

Oddi ar Hedyn

The printable version is no longer supported and may have rendering errors. Please update your browser bookmarks and please use the default browser print function instead.

Dw i'n gwybod ti'n dal i weithio ar hwn, ond baswn i ddim yn boddran cynnwys Pynciau yr hoffwn i glywed amdanynt eleni. Unai chi'n mynd i roi cyflwyniad ar bwnc neu chi ddim.--Rhyswynne 09:42, 20 Rhagfyr 2010 (UTC)

Digon teg. Roedd y rhestr llynedd chydig yn wrth-weithiol. Roedd yn rhoi'r agraff bod rhai pethau am gael eu trafod pan nad oeddent. --Rhodri.apdyfrig 11:17, 4 Ionawr 2011 (UTC)
Ond gallai fe bod yn syniad da - awgrymiadau o'r fath o beth mae pobol yn gallu gwneud, yn enwedig pobol newydd. Mae'n cadw disgwyliadau yn eang, e.e. wnes i awgrymu hacktivism, os mae unrhyw un yn cytuno dyn ni'n gallu trefnu trafodaeth. --Carlmorris 21:24, 4 Ionawr 2011 (UTC)
Digon posib. O ran rhoi syniad o beth all gael ei drafod, byddai'n werth cynnwys dolen at dudaeln wici Hacio'r Iaith 2010 yn rhywle amlwg? --Rhyswynne 08:29, 5 Ionawr 2011 (UTC)
Mae'r syniadau yn tyfu nawr! e.e. Android --Carlmorris 11:29, 10 Ionawr 2011 (UTC)