Gweithrediadau

Sgwrs

Gŵyl Dechnoleg Gymraeg Eisteddfod Genedlaethol 2012

Oddi ar Hedyn

Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:51, 4 Gorffennaf 2012 gan Rhodri.apdyfrig (Sgwrs | cyfraniadau)
The printable version is no longer supported and may have rendering errors. Please update your browser bookmarks and please use the default browser print function instead.

Efallai rydyn ni'n gallu trio sgwrs yma yn hytrach na rhoi gormod ar y prif dudalen. --Carlmorris (sgwrs) 01:18, 4 Gorffennaf 2012 (BST)


Hacio’r Iaith – sesiwn agored amlgyfrannol ar dechnoleg, y Gymraeg a phopeth yn y canol

Eisiau trafod fformat y sesiynau yma. Mae Hacio'r Iaith yn Aberystwyth yn anghynhadledd/BarCamp sydd yn wych. Bydd y peth yn Steddfod yn neis os ydyn ni'n gallu cynnig teimlad tebyg. Wrth gwrs mae angen addasu achos mae'r digwyddiad yn wahanol. Ond sut? Ydyn ni'n bwriadu gwneud sesiynau bach o fewn y sesiwn Hacio'r Iaith? e.e. 10 munud i siarad am dy flog neu prosiect neu ymchwil ayyb. Roedd y fformat yn dda yn 2011 (mewn pabell Prifysgol Aber).


Wicipediwch! – sesiwn ymarferol ar gyfrannu at y gwyddoniadur rhydd

Dw i wedi ail-darganfod Wicipedia, diolch i Rhys Wynne a'r Golygathon. Edrych ymlaen! --Carlmorris (sgwrs) 01:18, 4 Gorffennaf 2012 (BST)


Gwneud pr€$ digido£, y we Gymra€g ma$na¢ho£

Dw i'n meddwl bydd lot o ddiddordeb yn y sesiwn yma. --Carlmorris (sgwrs) 01:18, 4 Gorffennaf 2012 (BST)

  • ai sgwrs gyda chynulleidfa fydd hwn ti'n meddwl neu sgwrs rhwng pawb? --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 11:51, 4 Gorffennaf 2012 (BST)

Haclediad – recordiad byw o’r podlediad sy’n trafod technoleg

Wastad yn hwyl! --Carlmorris (sgwrs) 01:21, 4 Gorffennaf 2012 (BST)