Gweithrediadau

Sgwrs

Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gŵyl Dechnoleg Gymraeg Eisteddfod Genedlaethol 2012"

Oddi ar Hedyn

Llinell 14: Llinell 14:


Enghraifft o sdwff allen ni efelychu: http://truenorthmediahouse.com/ << canolfan sylwebwyr cymdeithasol gemau olympaidd y gaeaf Vancouver 2010
Enghraifft o sdwff allen ni efelychu: http://truenorthmediahouse.com/ << canolfan sylwebwyr cymdeithasol gemau olympaidd y gaeaf Vancouver 2010
Cwestiwn gen melynmelyn 2 Awst: ydy erthyglau Blogiwyr Bro yn cael eu cyhoeddi yn y lle cyntaf ar un gwefan/url neu yn cael eu agregeiddio(?) gyda'i gilydd mewn un man? Os agregeiddio, sut?


...
...

Diwygiad 15:30, 2 Awst 2012

Efallai rydyn ni'n gallu trio sgwrs yma yn hytrach na rhoi gormod ar y prif dudalen. --Carlmorris (sgwrs) 01:18, 4 Gorffennaf 2012 (BST)

Blogwyr Bro Eisteddfod 2012

Beth sydd angen ei drefnu? Beth ydan ni eisiau ei gyflawni?

  • Ffurflen Gofrestru
  • Bathodyn Blogiwr Bro
  • Ffrwd RSS cyfun o gofnodion / lluniau / fideo
  • Tudalen(nau) gwybodaeth / amcanion
  • Tudalen canllawiau sylwebu / blogio
  • Tudalen teclynnau / offer blogio
  • Offer ar gyfer y maes: camerau Flip / ceblau ar gyfer ffonau symudol / cyfrifiaduron ar gyfer llwytho deunydd.
  • ...beth arall?

Enghraifft o sdwff allen ni efelychu: http://truenorthmediahouse.com/ << canolfan sylwebwyr cymdeithasol gemau olympaidd y gaeaf Vancouver 2010

Cwestiwn gen melynmelyn 2 Awst: ydy erthyglau Blogiwyr Bro yn cael eu cyhoeddi yn y lle cyntaf ar un gwefan/url neu yn cael eu agregeiddio(?) gyda'i gilydd mewn un man? Os agregeiddio, sut?

...

Sesiynau bore - sgyrsiau neu syrjeri cyfryngau digidol?

Dwi wedi cynnig ein bod ni ddim yn cynnal sgyrsiau 'ffurfiol' gyda chynulleidfa yn y bore ond yn hytrach yn rhoi amser rhydd ar gyfer galluogi pobol i ddod i drafod blogio, offer, cyfryngau cymdeithasol ac ati. Dydyn ni ddim wedi cael unrhyw un penodol i arwain ar unrhyw sgyrsiau eto felly efallai byddai'n well i ni gael rhywbeth slot cyson bob bore sydd ar gael ar gyfer drop-in. Beth yw eich barn? --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 11:54, 4 Gorffennaf 2012 (BST)

Sesiwn cyson ar gyfer dropio mewn. Cytuno. Bydd pobl eisiau rhywbeth ysgafn a chyfeillgar yn y bore dw i'n meddwl! Crwydro, trafod a thrio. --Carlmorris (sgwrs) 16:50, 4 Gorffennaf 2012 (BST)
Mae Sioned Mills yn dweud "Credu byddai'r syrjeri cyfryngau yn syniad ffab - 10-12 yn swnio'n iawn, mi allai fod yno am 3 diwrnod yn yr wythnos a'r dydd Sadwrn yn edrych ar ol rhain dwi'n credu, croesi bysedd bydd gwaith yn hapus! Allai edrych ar ol y tech wedyn i bobl sy isie cynnal gweithdai wordpress/blogio/cyfryngau digidol ac ati?" (Gofynnodd hi i mi bostio'r sylw...) --Carlmorris (sgwrs) 16:53, 4 Gorffennaf 2012 (BST)

Hacio’r Iaith – sesiwn agored amlgyfrannol ar dechnoleg, y Gymraeg a phopeth yn y canol

Eisiau trafod fformat y sesiynau yma. Mae Hacio'r Iaith yn Aberystwyth yn anghynhadledd/BarCamp sydd yn wych. Bydd y peth yn Steddfod yn neis os ydyn ni'n gallu cynnig teimlad tebyg. Wrth gwrs mae angen addasu achos mae'r digwyddiad yn wahanol. Ond sut? Ydyn ni'n bwriadu gwneud sesiynau bach o fewn y sesiwn Hacio'r Iaith? e.e. 10 munud i siarad am dy flog neu prosiect neu ymchwil ayyb. Roedd y fformat yn dda yn 2011 (mewn pabell Prifysgol Aber).

Wicipediwch! – sesiwn ymarferol ar gyfrannu at y gwyddoniadur rhydd

Dw i wedi ail-darganfod Wicipedia, diolch i Rhys Wynne a'r Golygathon. Edrych ymlaen! --Carlmorris (sgwrs) 01:18, 4 Gorffennaf 2012 (BST)

Aeth y Golygathon yn dda a dw i'n credu bydd sawl un o gyfranwyr cyson y Wicipedia yn bresenol. Af i'w atgoffa.--Rhyswynne (sgwrs) 21:50, 5 Gorffennaf 2012 (BST)
Do, gwnaeth pymtheg Defnydiwr gyfrannu o'r llyfrgell ac roedd yn werth chweil o ran cyfarfod yr hen enau - ac ambell un newydd. Cafwyd trafodaeth buddiol iawn ynglyn a chreu Bot Cymraeg i uwchlwytho erthyglau sydd wirioneddol eu hangen arnom yn otomatig. Mae'r bartneriaeth rhwng Wicipedia a Hacio'r Iaith yn un sy'n dechrau ffrwythloni.... Llywelyn2000 (sgwrs) 08:28, 19 Gorffennaf 2012 (BST)

Gwneud pr€$ digido£, y we Gymra€g ma$na¢ho£

Dw i'n meddwl bydd lot o ddiddordeb yn y sesiwn yma. --Carlmorris (sgwrs) 01:18, 4 Gorffennaf 2012 (BST)

ai sgwrs gyda chynulleidfa fydd hwn ti'n meddwl neu sgwrs rhwng pawb? --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 11:51, 4 Gorffennaf 2012 (BST)
Cawson ni trafodaeth llynedd am gyfieithu swyddogol. Dw i'n licio meic agored gyda rhywun i'w 'gadeirio'. Fel Pawb a'i Farn ond neis. Os fydd ychydig bach o bobl rydyn ni'n gallu anghofio'r cadeirydd. Ie. IE? --Carlmorris (sgwrs) 16:46, 4 Gorffennaf 2012 (BST)
Dw i dal eisiau gwneud y sesiwn yma. Dw i'n meddwl bydd lot o alw. Pwy arall sydd eisiau cymryd rhan? --Carlmorris (sgwrs) 17:43, 16 Gorffennaf 2012 (BST)

e-lyfrau

O'n i'n siarad gyda rhywun amlwg yn y byd cyhoeddu llyfrau dros y penwythnos. Fydd galw am sesiwn ar wahan i drafod e-lyfrau hefyd? Unrhyw un? Beth am ddydd Iau? --Carlmorris (sgwrs) 17:44, 16 Gorffennaf 2012 (BST)

Haclediad – recordiad byw o’r podlediad sy’n trafod technoleg

Wastad yn hwyl! --Carlmorris (sgwrs) 01:21, 4 Gorffennaf 2012 (BST)

  • Dwi wedi newid yr amser i rhwng 12.00 a 13.30. Do'n i'm yn meddwl bysa chi isio mwy na awr a hannar. --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 17:15, 4 Gorffennaf 2012 (BST)

Agor a chau'r stondin

Pwy fydd yn gyfrifol am agor a chau'r stondin bore a nos? Eleri James (sgwrs) 13:45, 17 Gorffennaf 2012 (BST)

Cwestiwn da, dylen ni penodi rhywun pob dydd ar yr amserlen. Dw i ddim 100% yn siwr beth sydd angen i'w wneud o ran gwarchodaeth, offer ayyb, gwnaf i ofyn pobl Eisteddfod. --Carlmorris (sgwrs) 17:53, 19 Gorffennaf 2012 (BST)