Gweithrediadau

Sgwrs

Blogiau Coll

Oddi ar Hedyn

Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:00, 11 Ebrill 2011 gan Rhyswynne (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)

Blogiau Coll a pharch

Dw i'n trio dilyn polisi/cwestiynnau RhysWynne am barch... Ddylen ni jyst gadael Blogiau Coll i hanes? Mae'r awduron wedi penderfynu rhwybeth yma - maen nhw wedi symud ymlaen i swydd newydd neu plaid arall(!). Dw i'n gallu gweld y dau ochr. Mae archive.org yn dilyn robots.txt a maen nhw yn gynnig http://www.archive.org/about/exclude.php (i wefannau byw), ti gorfod gofyn i adael (opt-out!). Ond mae'n bwysig i gofio'r ffaith bod nhw wedi bodoli - enw ac URL - beth bynnag. O leiaf yn fy marn i gallen ni sgwennu URLs yma am y tro, efallai rhoi ffocws ar y prif rhestr - y bobol sydd eisiau darllenyddion nawr! --Carlmorris 11:42, 11 Ebrill 2011 (UTC)

Falle do'n i didm yn glîr (eto). Pwrpas y dudalen yma ydy darganfod blogiau dych chi'n cofio eu darllen, ond nad ydych yn cofio eu henwau/URL. Mae'n fwy na thebyg eu bod wedi diflannu'n llwyr, unai drwy ddymuniad y blogiwr, neu gan bod Blogsport wedi penderfynu eu cau lawr ar ôl cyfnod o amser, ond mae rhai jyst y arnofio o gwmpas a we a ddim ar restr neb (sniff).
O ran parchu preifatrwydd pobl sy wedi'n fwriadol dileu eu blog nhw, oni bai bob pobl yn dued nad ydyn't eisiau i bobl ei restru yma, neu'n gofyn i ni ei dynnu oddi ar y rhestr wedi i ni ei gynnwys, neu bod rheswm cyfriethiol dros beidio ei restru, alla i ddim gweld y broblem. Heb swnio'n gas, ond unwaith chi'n cyhoeddi rhywbeth ar y we, mae ar y we. Mae dal werth ei nod o safbwynt hanesyddol ac er mwyn cael y darlun llawn. --Rhyswynne 16:00, 11 Ebrill 2011 (UTC)