Gweithrediadau

Newid Windows 8 i'r Gymraeg

Oddi ar Hedyn

The printable version is no longer supported and may have rendering errors. Please update your browser bookmarks and please use the default browser print function instead.

Windows 8 yn Gymraeg

Er nad oes llawer o gydnabyddiaeth o hyn ar y We, mae hi *yn* bosib defnyddio Windows 8 yn Gymraeg.

Y cam cyntaf ydy sefydlu'r pecyn iaith. Mae angen defnyddio'r arlwy "charm" Windows-8 aidd sef yr arlwy ddu gewch chi pan yn symud eich llygoden i gornel dde gwaelod eich sgrin.

Gweler y linc yma : http://windows.microsoft.com/en-US/windows-8/language#1TC=t1

Yr ail gam yw sicrhau mai'r Gymraeg yw prif iaith eich cyfrifiadur. Os nad ydych wedi gwneud hyn yn barod wrth sefydlu gallwch ddewis "Language" yn y "Control Panel". Rhaid i'r Gymraeg fod uwchben y Saesneg neu chewch chi fawr ddim Cymraeg, dim ond manion fel y dyddiad.

Mae'r linc yma'n dangos engrhaifft o sut i lwytho pecyn iaith : http://support.microsoft.com/kb/2607607

Bydd angen llwytho pecynnau iaith ychwanegol mewn ffordd wahanol ar gyfer meddalwedd fel Microsoft Office, Libre Office, Firefox ac ati.