Gweithrediadau

Moch Cwta

Oddi ar Hedyn

The printable version is no longer supported and may have rendering errors. Please update your browser bookmarks and please use the default browser print function instead.

Moch-cwta.jpg

delwedd gan photon

Dechreuodd Wikipedia gyda neges ebost i gymuned o bobol. Dechreuodd Linux gyda neges bach hefyd.

Mae pob project, bach neu mawr, angen y moch cwta, cyfranwyr, aelodau, cynnwys ayyb.

Felly postia neges fan hyn os ti angen help i brofi dy broject arlein. Plis postia os ti angen am help - bydd yma elfen o hunan-hyrwyddo, mae'n iawn, gawn ni weld.

Hapus i ddechrau. --Carlmorris 00:33, 10 Chwefror 2011 (UTC)


Y Bydysawd

Ybydysawd.png

Mae'r Bydysawd yn rhywle i drafod materion cyfoes, chwaraeon a theledu. Mae'r wefan yn tynnu pennawdau a dolenni i straeon arlein yn awtomatig trwy'r dydd.

Bydda i rili rili gwerthfawrogi sylw ar unrhyw stori. Ti'n gallu logio mewn gyda cyfrifon ar Disqus, Twitter, Facebook, OpenID - mae gyda ti opsiwn i rhannu ar dy rwydwaith ond does dim rhaid i ti.

Mae'r gwefan wedi derbyn 98 sylw hyd yn hyn gan 10 person. Dechrau da, yn enwedig y ffaith bod y sylwadau o ansawdd. Nawr dw i'n gofyn am mwy o sylwadau. Dylai fe bod yn eitha hawdd. Gobeithio bydd e'n ddiddorol hefyd ond gawn ni weld. Diolch! Cer i'r cwestiynau aml. Efallai cer i raglen teledu a gadael sylw achos does dim lot ar hyn o bryd. --Carlmorris 00:33, 10 Chwefror 2011 (UTC)


Spots

Spots-youtube-llun.jpg

Gêm gyfrifiadurol strategol (ar gyfer Windows a Linux yn unig ar hyn o bryd). Angen help i'w lleolieddio i'r Gymraeg. Ffeil txt. cymhrol fer. --Rhyswynne 08:39, 10 Chwefror 2011 (UTC)

Dw i'n fodlon helpu. Allet ti postio ffeil fel tudalen yma plis? Neu Google Doc? Rydyn ni'n gallu gweithio arno fe fel tîm. --Carlmorris 15:34, 10 Chwefror 2011 (UTC)
Wedi gwneud y cyfieithiad. Mae ar gael yma: http://stwnsh.com/spots --Garethvjones 17:45, 10 Chwefror 2011 (UTC)
Gwych! Rwyt ti wedi ennill mochyn cwta yr wythnos! --Carlmorris 17:59, 10 Chwefror 2011 (UTC)
Dyna gyflym! Dw i wedi creu dogfen google o'r ffeil Iaith a Chyfarwyddiadau, ac wedi gwneud un neu ddau newid bychan. Os nad oes gwrthwynebiad, gallaf ateb y boi drwy Urban75 fory. Fel arall, nodwch unrhyw newidiadau yma, neu danpfnwch negesa ataf i mi eich galluogi i newid.--Rhyswynne 22:12, 10 Chwefror 2011 (UTC)
Fe wnes i e-bostio'r person drwy ei wefan a rhoi link i'r ffeiliau iddo ddoe. Wedi chwarae y gêm yn y iaith Gymraeg a wedi sylwi bod tô bach yn achosi problemau. --Garethvjones 12:53, 11 Chwefror 2011 (UTC)
Wyt ti angen "cymeriad dihangfa" yn hytrach na'r cymeriad ASCII arferol? Defnyddia \xF4 yn lle ô, ac yn y blaen. --Carlmorris 16:19, 12 Chwefror 2011 (UTC)
Mae awdur y gêm, Nicholas Kingsley, wedi sortio'r broblem allan nawr --Garethvjones 20:19, 13 Chwefror 2011 (UTC)


Cyfeirlyfr blogiau a phodlediadau Cymraeg ar Hedyn

Plis ychwanega unrhyw blogiau a phodlediadau Cymraeg fel tudalennau i Hedyn. Rydyn ni'n adeiladu cyfeirlyfr fel Yahoo. Amcanion: ymchwil, tyfu'r we Gymraeg, hyrwyddo blogiau, mapio'r tyllau yn y we Gymraeg. Enghraifft: [[1]] am enghraifft. Diolch. --Carlmorris 13:09, 2 Mawrth 2011 (UTC)

gyda llaw, hwn yw Y Rhestr --Carlmorris 22:30, 10 Ebrill 2011 (UTC)


#cipolwg180

Project fideo. Cymerwch ran! http://www.youtube.com/watch?v=CZPIv1hFH2E (Hollol arbrofol.)

Hag hollol breifat mae'n debig? Howlsedhes 02:05, 27 Hydref 2011 (BST)
nes i newid fy meddwl, doedd y syniad ddim mor dda! diolch --Carlmorris 15:19, 27 Hydref 2011 (BST)

Troseddau Google Translate a chyfieithu peirianyddol

Troseddau Google Translate a chyfieithu peirianyddol

Ysgrifennu am y We Gymraeg/Gymreig i Global Voices yn 2012

Ar ôl cael fy nghyfweld ar gyfer gwefan Global Voices gan Ayesha Saldanha am y Gymraeg arlein ychydig yn ôl mi gytunais i ysgrifennu cyfres o erthyglau am y we Gymraeg a thechnoleg yng Nghymru ar gyfer y wefan. Yn anffodus dwi ddim wedi llwyddo i gyflawni hynny oherwydd cyfyngiadau amser.

Ond, dwi dal eisiau gweld os oes modd gwneud hynny mewn rhy ffordd arall. Mi alla i ddechrau pethau gyda'r gyntaf. A fyddai gan unrhywun allan yna ddiddordeb mewn cyfrannu un erthygl mewn cyfres o 6?

Byddai angen iddyn nhw fod yn Saesneg, ond gallen ni wasatd wneud cyfieithiad pe bai chi isio. Y syniad yw bod rhagor o bobol yn ffeindio allan am yr hyn sydd yn digwydd o fewn y we Gymraeg. Cafodd fy erthygl i ei gyfieithu gan wirfoddolwyr i'r Ffrangeg, Sbaeneg, Pwyleg a dwy o ieithoed China (Mandarin a Chantoneeg?), a dwi'n siwr byddai eich un chithau hefyd.

Mae Global Voices yn ceisio cael rhagor o leisiau lleiafrifol yn rhan o'r wefan trwy eu cynllun Rising Voices.

Dwi'n hapus i fod yn olygydd ar y cyfan, gan geisio gosod y dedleins a cheisio rhoi trosolwg dros yr erthyglau, ond fasa'n wych gallu gosod amserlen o 6 mis neu efallai blwyddyn, lle gallen ni edrych mewn manylder ar bethau fel e-lyfrau, bandllydan, cyfryngau digidol, Hacio'r Iaith, technolegau iaith ayyb fel themau gwahanol, ond eu bod nhw'n dod o berspectif Cymreig neu Gymraeg.

Os oes ganddoch chi ddiddordeb, un ai sgwennwch eich enw isod, neu gadwch i fi wybod ar Twitter. Os oes llawer yn cynnig gwneud yna falle gallwn ni ystyried gwneud un erthygl bob mis am flwyddyn.

  • Erthygl 1: Hacio'r Iaith 2012 - Rhodri ap Dyfrig
  • Erthygl 2:
  • Erthygl 3: nai trio meddwl am bwnc --Carlmorris 15:13, 2 Rhagfyr 2011 (UTC)
  • Erthygl 4: Byddwn i yn fodlon sgwennu erthygl - --Garethvjones 15:35, 2 Rhagfyr 2011 (UTC)
  • Erthygl 5:
  • Erthygl 6:

[wedi newid ffurf y rhestr chydig fel bod dim pwysau ar hyn o bryd i bennu dyddiad ayyb. Gallwn drafod pynciau oddiar wici. --Rhodri.apdyfrig 16:48, 2 Rhagfyr 2011 (UTC)]