Gweithrediadau

Moch Cwta

Oddi ar Hedyn

Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:19, 12 Chwefror 2011 gan Carlmorris (Sgwrs | cyfraniadau)

Moch-cwta.jpg

delwedd gan photon

Dechreuodd Wikipedia gyda neges ebost i gymuned o bobol. Dechreuodd Linux gyda neges bach hefyd.

Mae pob project, bach neu mawr, angen y moch cwta, cyfranwyr, aelodau, cynnwys ayyb.

Felly postia neges fan hyn os ti angen help i brofi dy broject arlein. Plis postia os ti angen am help - bydd yma elfen o hunan-hyrwyddo, mae'n iawn, gawn ni weld.

Hapus i ddechrau. --Carlmorris 00:33, 10 Chwefror 2011 (UTC)


Y Bydysawd

Ybydysawd.png

Mae'r Bydysawd yn rhywle i drafod materion cyfoes, chwaraeon a theledu. Mae'r wefan yn tynnu pennawdau a dolenni i straeon arlein yn awtomatig trwy'r dydd.

Bydda i rili rili gwerthfawrogi sylw ar unrhyw stori. Ti'n gallu logio mewn gyda cyfrifon ar Disqus, Twitter, Facebook, OpenID - mae gyda ti opsiwn i rhannu ar dy rwydwaith ond does dim rhaid i ti.

Mae'r gwefan wedi derbyn 98 sylw hyd yn hyn gan 10 person. Dechrau da, yn enwedig y ffaith bod y sylwadau o ansawdd. Nawr dw i'n gofyn am mwy o sylwadau. Dylai fe bod yn eitha hawdd. Gobeithio bydd e'n ddiddorol hefyd ond gawn ni weld. Diolch! Cer i'r cwestiynau aml. Efallai cer i raglen teledu a gadael sylw achos does dim lot ar hyn o bryd. --Carlmorris 00:33, 10 Chwefror 2011 (UTC)


Spots

Spots-youtube-llun.jpg

Gêm gyfrifiadurol strategol (ar gyfer Windows a Linux yn unig ar hyn o bryd). Angen help i'w lleolieddio i'r Gymraeg. Ffeil txt. cymhrol fer. --Rhyswynne 08:39, 10 Chwefror 2011 (UTC)

Dw i'n fodlon helpu. Allet ti postio ffeil fel tudalen yma plis? Neu Google Doc? Rydyn ni'n gallu gweithio arno fe fel tîm. --Carlmorris 15:34, 10 Chwefror 2011 (UTC)
Wedi gwneud y cyfieithiad. Mae ar gael yma: http://stwnsh.com/spots --Garethvjones 17:45, 10 Chwefror 2011 (UTC)
Gwych! Rwyt ti wedi ennill mochyn cwta yr wythnos! --Carlmorris 17:59, 10 Chwefror 2011 (UTC)
Dyna gyflym! Dw i wedi creu dogfen google o'r ffeil Iaith a Chyfarwyddiadau, ac wedi gwneud un neu ddau newid bychan. Os nad oes gwrthwynebiad, gallaf ateb y boi drwy Urban75 fory. Fel arall, nodwch unrhyw newidiadau yma, neu danpfnwch negesa ataf i mi eich galluogi i newid.--Rhyswynne 22:12, 10 Chwefror 2011 (UTC)
Fe wnes i e-bostio'r person drwy ei wefan a rhoi link i'r ffeiliau iddo ddoe. Wedi chwarae y gêm yn y iaith Gymraeg a wedi sylwi bod tô bach yn achosi problemau. --Garethvjones 12:53, 11 Chwefror 2011 (UTC)
Wyt ti angen "cymeriad dihangfa" yn hytrach na'r cymeriad ASCII arferol? Defnyddia \xF4 yn lle ô, ac yn y blaen. --Carlmorris 16:19, 12 Chwefror 2011 (UTC)

Dy broject fan hyn

...


Dy broject fan hyn 2

...