Gweithrediadau

Hacio'r Iaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2011

Oddi ar Hedyn

The printable version is no longer supported and may have rendering errors. Please update your browser bookmarks and please use the default browser print function instead.

Hacio'r Iath Bach mewn tafarn

Ble

The Horse and Jockey, Stryt Gobaith, Wrecsam

Pryd

Nos Wener 5ed mis Awst 2011

5:30PM - 8:30PM (neu hwyrach os ti eisiau)

Beth

Trafodaeth am dechnoleg, y we, ffonau symudol, cynnwys Cymraeg, cod, meddalwedd, dysgu Cymraeg ar y we a phethau eraill!

Croeso i bawb, eisteddfotwyr a phobol o Wrecsam a'r cylch, unrhyw un!

Sori, dw i ddim yn sicr fydd di-wifr ond edrych ymlaen i'r sgwrs!

Croeso i bobol sgwennu syniadau yma yn enwedig os oes gyda nhw rhywbeth i'w dangos. Neu jyst dod.


PWY SYDD AM FOD YNA?

  • FI. --Carlmorris 10:42, 7 Gorffennaf 2011 (UTC)
  • Swnio'n ddiddorol. Dim ond Carl sy'n mynd hyd yma? :) --Kinetic

. . .

Hacio Iaith ar y maes

Noddwyr: Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth, Sefydliad Mercator ar gyfer Ieithoedd, Cyfryngau a Diwylliant

Pryd

Dyddiad: Dydd Llun, 1af Awst 2011

Amser: 1.30PM - 5PM

Ble

Lleoliad: Pabell Prifysgol Aberystwyth, Eisteddfod Genedlaethol 2011, Wrecsam

Rhaglen ddrafft

1.30-2.00 Helo! Paratoi cyfrifiaduron, sgwrsio, paned, bisged, ac ati...

2.00-2.30 Haclediad

panel yn trafod [pwnc i'w bennu] a'i recordio fel podlediad arbennig yn y gyfres Haclediad

Dyw Bryn ddim yn gallu bod yno oherwydd gwaith felly dwi ddim yn meddwl gallwn ni gynnal yr Haclediad. Sesiwn banel yn ei le te? --Rhodri.apdyfrig 10:41, 29 Gorffennaf 2011 (UTC)

2.45-3.15 Gorsedd y Gîcs - 6 x cyflwyniad 5 munud. Thema: "Beth sydd wedi dy gyffroi di ar y we yn y flwyddyn ddiwethaf?"

  • Gallwch chi feddwl am gyflwyniad o flaen llaw (os felly cysylltwch â fi @nwdls), neu drin o fel open mic a jest mynd amdani ar y dydd. Y bwriad ydi cael cyfle i sôn am rywbeth sydd wedi eich tanio chid ac sydd raid ei rannu gyda phawb.

3.30-5.00 Gweithdai

4 x grwp. Themâu:

  1. Blogio ymarferol;
    1. sut i ddechrau blog? pam dechrau blog? gweithdy blogio i bawb!
  2. Lleoleiddio/cyfeithu/isdeitlo;
    1. beth sydd ar y gweill? Sut mae modd gwella pethau?
  3. Ymgyrchu / democratiaeth arlein;
    1. sut allwn ni ddefnyddio'r we a chyfryngau arlein i wella ein ymgyrchoedd a democratiaeth?
  4. cynnwys creadigol arlein
    1. beth yw manteision creu cynnwys arlein? oes digon o gynnwys Cymraeg? sut mae annog mwy? Pa opsiynau 'torfoli' sy'n gweithio orau?

Bydd un person yn hwyluso trafodaeth pob grwp. Efallai bydd cyfle i adrodd nôl i bawb, er mae hyn yn amlach na pheidio yn troi allan braidd yn naff, ac yn job does neb eisiau ei wneud. Oes ffordd well o roi gwybod i bawb beth drafodwyd? Pennu blogiwr byw i bob grŵp efallai?

(Dw i wedi defnyddio Google Docs i wneud rhywbeth fel 'shared minutes' cwpl o weithiau - 'falle rhywbeth fel 'na? ---Leiafee 08:40, 25 Gorffennaf 2011 (UTC))

Bydd WiFi ar gael i fynychwyr. Ie, sudd intertiwbs ar y maes.

Byddwn yn trio recordio cymaint ag y gallwn ni o'r trafodaethau a bosib defnyddio Ustream i ffrydio'n fyw os oes signal call (amheus o hyn gan y bydd defnydd trwm o'r WiFi).

mwy o fanylion yn fuan

PWY SYDD AM FOD YNA?

  • FI. --Carlmorris 10:43, 7 Gorffennaf 2011 (UTC)
  • Rhys Wynne (Barod i siarad am y Wicipedia Cymraeg ac/neu Y Rhestr Blogiau)
  • Leia Fee
  • Telsa 14:06, 25 Gorffennaf 2011 (UTC) - sori, ffili dod.
  • Elin H G Jones. --Elinhgj 10:43, 7 Gorffennaf 2011 (UTC)
  • Mari Sion
  • Rhodri ap Dyfrig --Rhodri.apdyfrig 10:34, 29 Gorffennaf 2011 (UTC)
  • Newydd gadarnhau'r diwrnod off ddydd Llun - felly, fi. --Ivan Baines (Kinetic)