Gweithrediadau

Hacio'r Iaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2011

Oddi ar Hedyn

The printable version is no longer supported and may have rendering errors. Please update your browser bookmarks and please use the default browser print function instead.

Dyddiad: Dydd Llun, 1af Awst 2011, 1.30PM - 5PM

Lleoliad: Pabell Prifysgol Aberystwyth

Rhaglen ddrafft:

1.30-2.00 Helo! Paratoi cyfrifiaduron, sgwrsio, paned, bisged, ac ati...

2.00-2.30 Haclediad

2.45-3.15 Gorsedd y Gîcs - 6 x cyflwyniad 5 munud. Thema: "Beth sydd wedi dy gyffroi di ar y we yn y flwyddyn ddiwethaf?"

  • Gallwch chi feddwl am gyflwyniad o flaen llaw (os felly cysylltwch â fi @nwdls), neu drin o fel open mic a jest mynd amdani ar y dydd. Y bwriad ydi cael cyfle i sôn am rywbeth sydd wedi eich tanio chid ac sydd raid ei rannu gyda phawb.

3.30-5.00 Gweithdai

4 x grwp. Themâu:

1. Blogio ymarferol;

  • sut i ddechrau blog? pam dechrau blog? gweithdy blogio i bawb!

2. Lleoleiddio/cyfeithu/isdeitlo;

  • beth sydd ar y gweill? Sut mae modd gwella pethau?

3. Ymgyrchu / democratiaeth arlein;

  • sut allwn ni ddefnyddio'r we a chyfryngau arlein i wella ein ymgyrchoedd a democratiaeth?

4. cynnwys creadigol arlein

  • beth yw manteision creu cynnwys arlein? oes digon o gynnwys Cymraeg? sut mae annog mwy?

Bydd un person yn hwyluso trafodaeth pob grwp. Efallai bydd cyfle i adrodd nôl i bawb, er mae hyn yn amlach na pheidio yn troi allan braidd yn naff, ac yn job does neb eisiau ei wneud. Oes ffordd well o roi gwybod i bawb beth drafodwyd? Pennu blogiwr byw i bob grŵp efallai?

Bydd WiFi ar gael i fynychwyr. Ie, sudd intertiwbs ar y maes.

Byddwn yn trio recordio cymaint ag y gallwn ni o'r trafodaethau a bosib defnyddio Ustream i ffrydio'n fyw os oes signal call (amheus o hyn gan y bydd defnydd trwm o'r WiFi).

mwy o fanylion yn fuan