Gweithrediadau

Hacio'r Iaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2011

Oddi ar Hedyn

Dyddiad: Dydd Llun, 1af Awst 2011, 1.30PM - 5PM

Lleoliad: Pabell Prifysgol Aberystwyth

Rhaglen ddrafft:

1.30-2.00 Helo! Paratoi cyfrifiaduron, sgwrsio, paned, bisged, ac ati...

2.00-2.30 Haclediad

2.45-3.15 Gorsedd y Gîcs - 6 x cyflwyniad 5 munud. Thema: "Beth sydd wedi dy gyffroi di ar y we yn y flwyddyn ddiwethaf?"

3.30-5.00 Gweithdai

4 x grwp. Themâu:

1. Blogio ymarferol; 2. Lleoleiddio/cyfeithu/isdeitlo; 3. Ymgyrchu / democratiaeth arlein; 4. cynnwys creadigol arlein

Bydd un person yn hwyluso trafodaeth pob grwp. Efallai bydd cyfle i adrodd nôl i bawb, er mae hyn yn amlach na pheidio yn troi allan braidd yn naff, ac yn job does neb eisiau ei wneud. Oes ffordd well o roi gwybod i bawb beth drafodwyd? Pennu blogiwr byw i bob grŵp efallai?

mwy o fanylion yn fuan