Gweithrediadau

Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hacio'r Iaith Ionawr 2012"

Oddi ar Hedyn

Llinell 121: Llinell 121:
| 13.00-14.00 || colspan="4" | Cinio
| 13.00-14.00 || colspan="4" | Cinio
|-
|-
| 14.00-15.00 || gwag! || gwag! || gwag! || gwag!
| 14.00-15.00 || Sesiwn Di-Enw gyda Bryn || gwag! || gwag! || gwag!
|-
|-
| 15.00-16.00 || gwag! || gwag! || gwag! || gwag!
| 15.00-16.00 || gwag! || gwag! || gwag! || gwag!

Diwygiad 14:28, 6 Medi 2011

Mae Hacio'r Iaith wedi'i drefnu gan wirfoddolwyr a'r pobol sy'n mynychu ar y cyd gyda XXXX

Er mwyn ysgrifennu ar wici Hedyn / Hacio'r Iaith rhaid i chi gofrestru yma fel aelod o'r wici. Mae hyn yn atal sbambots digywilydd rhag sarnu'r dudalen. Os ydych yn bwriadu mynychu Hacio'r Iaith 2012, cofiwch gofrestru.

Peidiwch bod ofn golygu'r dudalen, ond triwch roi eich llofnod wrth unrhyw olygiad neu ychwanegiad fel ein bod yn gwybod pwy ydych chi.

If you can't read Welsh then Google Translate can give you the rough gist of this page. And it is rough.

Manylion y digwyddiad

Beth?

Hacio2011poster-web-300px.jpg

Mae Hacio'r Iaith yn gynhadledd agored undydd ar y thema technoleg, gwe ac iaith.

Cyfle i bobol sy'n gwneud projectau gwe a thechnoleg yn y Gymraeg, neu am y Gymraeg, i ddod i gyflwyno eu profiadau ac i ddysgu oddi wrth ein gilydd mewn awyrgylch braf a hamddenol.

Mae'n gynhadledd agored am ei fod yn cael ei drefnu ar sail egwyddor open source. Mae hyn yn golygu bod cyfle i unrhywun ddod, am ddim, a chyflwyno am bwnc o'u dewis nhw (yn ddibynnol ar sicrhau slot amser). Mae wedi ei drefnu ar sail digwyddiadau BarCamp, sydd yn anffurfiol iawn, lle caiff trefn y dydd yn cael ei benderfynu gan y siaradwyr. Dyma esboniad da gan flogiwr o Ganada.

Eleni rydyn ni'n hepgor y pwyslais ar hacio neu raglennu, er bod croeso i unrhywun wneud sesiwn ar hynny, ac yn ceisio cael rhagor o weithdai neu diwtorialau ymarferol. Pwrpas hyn yw rhoi cyfle i ddysgu sgil newydd eich hun tra'n rhoi o'ch sgiliau chi i eraill. Ond dyw hyn ddim yn rheol - dim ond canllaw. Mae croeso i chi gyflwyno am be bynnag da chi isio.

Bydd cyswllt di-wifr cyflym ar gael am ddim i bawb sydd yn cymryd rhan er mwyn hwyluso dogfennu a thrafod yn ystod y digwyddiad.

Y llynedd daeth dros 40 o bobol i drafod, dysgu a rhannu. Dyma rai lluniau, fideos (a mwy), recordiadau sain a blogiau er mwyn rhoi blas gwell i chi o beth i'w ddisgwyl. Peidiwch anghofio hefyd am y blog grŵp Hacio'r Iaith fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth am y digwyddiad a lle arall i drafod wrth i'r diwrnod nesau.

Pryd?

Nos Wener, 27 Ionawr 2012.

Amser: 7.30yh - Pryd bwyd Hacio'r Cyri

Dydd Sadwrn, 28 Ionawr 2012.

Amser: 9yb i tua 7yh

7yh--> y dafarn

Ble?

Yr un lle eto? Sylwadau plis.

Parcio

Adnoddau eraill cyfagos

Sut allwch chi helpu?

Mae llwyddiant y digwyddiad yn lwyr ddibynnol ar y bobol sy'n dod. Yn wahanol i gynhadleddau arferol y chi sy'n ffurfio'r sesiynau ac yn

Os nad ydych chi eisiau siarad neu gyflwyno, gallwch helpu drwy:

  • roi cymorth a chyngor ar yr ochr dechnegol
  • hyrwyddo'r digwyddiad trwy flogio, ffilmio, siarad amdano...mae hyn yn holl bwysig i gyrraedd at ystod eang o bobol.
  • helpu gyda rhoi sylw i'r digwyddiad yn y wasg
  • helpu ar y ddesg groeso/tywys pobol
  • cymryd rhan ar-lein os nad ydych yn gallu bod yno!

Noddwyr

Diolch yn fawr iawn i bob un o'n noddwyr am eu cyfraniad. Mae pob ceiniog yn helpu i wneud y diwrnod yn well.

Dyma nhw ffrindiau Hacio'r Iaith:

Gallwch chi hefyd helpu trwy roi nawdd i'r digwyddiad. Er nad yw arian yn allweddol i'r llwyddiant, mae cael ychdig arian i dalu am bethau fel cinio, argraffu, crysau-t, ac efallai gyfieithu yn help mawr.

Cysylltwch â Rhodri, Carl, neu Rhys os oes diddordeb ganddoch chi mewn noddi un o'r elfennau hyn.

Cymryd rhan ar-lein

Rhaglen y dydd

Fel y nodwyd uchod mae trefn arferol BarCamp yn golygu bod rhaglen y dydd yn cael ei benderfynu gan y cyflwynwyr, a hynny ar y diwrnod, ond bydd rhai sesiynau yn cael eu trefnu o flaen llaw.

Bydd gweddill y sesiynau yn cael eu trefnu yn ystod slot gyntaf y diwrnod gan roi cyfle i bawb hawlio eu lle.

Rheolau BarCamp

Er bod y digwyddiad yn anffurfiol, mae rhai rheolau sydd yn helpu i wneud pethau ddigwydd fel dylen nhw. Dyma ambell un (wedi eu addasu o fan hyn):

  • Mae croeso i unrhyw un sydd â rhywbeth i'w gyfrannu neu awydd i ddysgu i ddod i BarCamp.
  • Pan ddewch chi, byddwch yn barod i rannu gyda gwersyllwyr eraill.
  • Pan ewch chi oddi yno, byddwch yn barod i'w rannu gyda'r byd.
  • Mae'n bwysig i bawb sy'n dod i gyfrannu mewn rhyw ffordd. Un ai trwy gyflwyno, trafod, gwirfoddoli ayyb. Fydd o ddim yn gweithio os taw dim ond pobol sydd wedi dod i wrando fydd yno! Sdim rhaid rhoi darlith, jest rhannu eich brwdfrydedd dros declyn, gwefan, meddalwedd, neu bwnc.
  • Y bobol sydd yn bresennol fydd yn dewis beth maen nhw eisiau ei weld.
  • Os ydych chi eisiau cyflwyno rhywbeth rhaid i chi ei roi mewn slot ar y Grid.
  • Os nad ydych chi eisiau clywed rhywbeth - cerddwch allan! Ewch i weld beth sy'n mynd mlaen mewn sesiwn arall.
  • Byddwn yn cynnwys hynny o gyflwyniadau ag y gallwn ni o fewn yr amserlen.
  • Gall cyflwyniadau/sesiynau fynd mlaen mor hir ag sydd angen, neu nes eu bod yn cyrraedd amser y slot nesaf.

Yr un peth am y rheolau hyn ydi eu bod nhw yno i'w torri hefyd os oes angen!

Trefnu'r Dydd

Byddwn yn defnyddio system Open Grid i wneud hyn. Bydd y slotiau amser rhydd yn cael eu rhoi ar fwrdd gwyn neu ddarn mawr o bapur a byddwch yn gallu nodi teitl eich sesiwn a dewis lle gwag ar y grid.

Bydd dwy brif ystafell ar gael i ni, ond bydd atriwm yr adeilad hefyd ar gael os oes unrhywun eisiau cynnal sesiynau bach mwy anffurfiol. Mae sesiynau ochr yn digwydd mewn coridorau mewn BarCamps eraill felly cyn belled eich bod yn ei nodi ar y Grid i bawb wybod beth sy'n mynd mlaen, ewch amdani!

Y tro hwn rydyn ni eisiau trio rhoi rhai sesiynau yn y rhaglen cyn y diwrnod, neu o leiaf wybod bod nifer o sesiynau'n digwydd rhagblaen. Dwi wedi dechrau drwy roi'r Haclediad byw mewn am hanner dydd.

Dyma amserlen ddrafft llynedd.

  • Dynodi Y Stwidio ar gyfer paneli/cyflwyniadau a G38 ar gyfer gweithdai
    • Bydd natur y stwidio yn well ar gyfer paneli ac mae cyfrifiaduron ar gael yn G38. Llawer gwell ar gyfer gweithdai ymarferol.
  • Dwi wedi rhoi toriad mewn yn y pnawn.
    • Oedd y slot 30munud ddim fod ar gyfer sesiynau, ond croeso i chi newid hyn os ydych chi isio.
Llun o amserlen Hacio'r Iaith 2010
Amser Cyflwyniadau/Paneli (Y Stiwdio) Gweithdai (Yst. G38) Trafodaethau Bach (Yr Atriwm) Arall
09.00-10.00 Coffi, croesawu, dechrau trefnu sesiynau
10.00-11.00 gwag! gwag! gwag! gwag!
11.00-12.00 gwag! gwag! gwag! gwag!
12.00-13.00 Yr Haclediad
13.00-14.00 Cinio
14.00-15.00 Sesiwn Di-Enw gyda Bryn gwag! gwag! gwag!
15.00-16.00 gwag! gwag! gwag! gwag!
16.00-16.30 Toriad
16.30-17.30 gwag! gwag! gwag! gwag!
17.30-18.30 gwag! gwag! gwag! gwag!
18.30-19.00 Sesiwn gloi

Sesiynau Pendant

Os ydych chi'n gwybod yn bendant am sesiwn yr hoffech chi ei gynnal yna nodwch y seiswn yma.

Mae'n ddefnyddiol gwybod am rai sesiynau o flaen llaw er mwyn cynyddu diddordeb yn y digwyddiad ac er mwyn i bobol allu paratoi. Gallwch nodi amser y slot ar y dydd.

O ran ffurf y sesiynau gallwn nhw fod yn: sgwrs anffurfiol, cyflwyniad unigol, panel, ford gron, fideo, cyflwyniad byr. Does dim pwysau i lenwi awr, mae'n ddefnyddiol i glustnodi themâu ar gyfer slots a chael trafodaeth gyffredinol heb unrhyw un penodol yn arwain.

Yr Haclediad - Yn Fyw o Aberystwyth!

Sesiynau Posib

Dyma lle gallwch chi sgwennu am bwnc yr hoffech chi, efallai, siarad amdano ar y dydd. Lle i roi syniadau tentative am sesiwn neu drafodaeth.


Cofrestru

Mae'n bwysig bod pawb sy'n bwriadu dod yn cofrestru o flaen llaw drwy sgwennu eu henw isod (mae'n hawdd!). Fel arall, allwn ni ddim sicrhau y bydd lle i chi ar y diwrnod (a'n bwysicach fyth, rhywbeth i chi fwyta!).

Mae lle i dros 50 o bobol ond os bydd mwy yn cofrestru isod yna bydd angen i ni edrych eto ar y trefniadau ystafell. Bydd yn ddigon hawdd addasu os bydd mwy.

Gallwch chi hefyd gorestru trwy ddefnyddio'r gwasanaethau canlynol:

Lanyrd Plancast

Pwy Sy'n Dod?

  1. Rhodri ap Dyfrig blog Twitter (diddordebau: fideo amlblatfform, blogio, diwylliant ar-lein, y Gymraeg ar-lein yn gyffredinol!)
  2. Carl Morris blog Twitter (slogan: gwell cynnwys slac na chyhoeddusrwydd slic)
  3. Bryn Salisbury blog Twitter Gîc, Podledwr, Blogiwr a dyn blîn technoleg Cymraeg.

Methu Dod

Trefnwyr

Mae lot o bobol wedi tynnu at ei gilydd i gyd-drefnu'r digwyddiad, ond os oes ganddoch chi gwestiwn penodol am yr elfennau gweinyddol neu o'r wasg ag eisiau rhywun i siarad yna gallwch chi gysylltu a Rhodri ap Dyfrig, Carl Morris neu Rhys Wynne (manylion cyswllt ar gael trwy'r dolenni uchod).

Gwirfoddolwyr: Rhestr tasgau

Angenrheidiol

  • Cofrestru - mae angen dau berson i helpu gyda'r cofrestru yn y boreau - pwy sydd am wirfoddoli?
  • Ysgrifennu datganiad i'r wasg
  • Poster
  • Wifi
  • Taflunydd x 2
  • Ffotograffydd
  • Recordydd fideo x 2
  • Dogfennydd fideo crwydrol
  • Golygydd fideo post-digwyddiad
  • 2 x PA Bach gyda thri meic yr un + roving mic
  • Recordydd awdio
  • Gosod byrddau a chadeiriau ar brynhawn dydd Gwener
  • Profi kit technegol brynhawn dydd Gwener

Dymunol

  • Cyfieithu ar y pryd? - os oes rhywun yn dod sydd yn ddi-Gymraeg yna dylent nodi hyn a gallwn drio cael nawdd ar gyfer cyfieithydd
  • Cinio/Te/Coffi
Cost te,coffi, bisgets, brechdanau, pethau hwmwslyd ac Indiaidd ar gyfer 40 o bobol = £316.00

Hyrwyddo

Tagiau

#haciaith yw tag swyddogol y digwyddiad. Defnyddwich o ym mhob cofnod blog, tweet, llun, fideo am y digwyddiad a byddwn ni'n gallu dilyn y drafodaeth.


Pecyn Papur Wal

Mae pecyn papur wal ar gyfer yr iPhone ac iPad ar gael Papur Wal Haciaith --Garethvjones 14:47, 27 Ionawr 2011 (UTC)

App Haciaith

Mae App ar gael ar gyfer yr iPhone App i'r iPhone

Pwy sy'n blogio?

Rhowch gofnod o bob blog sy'n sôn am y digwyddiad yn y rhestr hon:

Sylw yn y Wasg

Ble i aros?

Gwesty/hostel

Cynnig llety

(oes lle yn sied eich gardd?)

Swper Nos Wener

Roedd sawl un yn aros dros nos yn Aberystwyth y llynedd felly aethon ni allan am gyri. Roedd yn ddechrau gwych i'r diwrnod canlynol. Felly pam lai gwneuyd yr un peth eto. Hacio'r Cyri.

Bydd bwrdd wedi ei archebu ym Mwyty Shilam (ger yr orsaf) am 7.30pm. Rhowch eich enw isod os ydych chi eisiau cadw lle.

  1. ????

Teithio

Yn gyrru?

Allwch chi gynnig lifft i rywun arall o'ch ardal chi? Gadwch wybod yma.

Angen lifft?

Rhowch y manylion yma (dyddiad + amser + lleoliad)...

Parcio

Ar antur / random

English translation

Here's a rough machine translation of this page into English. And it is rough.