Gweithrediadau

Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hacio'r Iaith Ionawr 2012"

Oddi ar Hedyn

(twtio)
Llinell 135: Llinell 135:
Mae'n ddefnyddiol gwybod am rai sesiynau o flaen llaw er mwyn cynyddu diddordeb yn y digwyddiad ac er mwyn i bobol allu paratoi. Gallwch nodi amser y slot ar y dydd.
Mae'n ddefnyddiol gwybod am rai sesiynau o flaen llaw er mwyn cynyddu diddordeb yn y digwyddiad ac er mwyn i bobol allu paratoi. Gallwch nodi amser y slot ar y dydd.


O ran ffurf y sesiynau gallwn nhw fod yn: sgwrs anffurfiol, cyflwyniad unigol, panel, ford gron, fideo, cyflwyniad byr. Mae'n ddefnyddiol i glustnodi themâu ar gyfer slots a chael trafodaeth gyffredinol heb unrhyw un penodol yn arwain.  
O ran ffurf y sesiynau gallwn nhw fod yn: sgwrs anffurfiol, cyflwyniad unigol, gweityhdy ymarferol, demo, panel, ford gron, fideo ayyb.  
 
Rydyn ni'n ceisio trafod a ddylen ni gyfyngu hyd cyfraniadau unigol i 15/20 munud ar hyn o bryd. Buasai unrhyw sylwadau ar hynny yn grêt.  


* Yr Haclediad - Yn Fyw o Aberystwyth! (60 munud)
* Yr Haclediad - Yn Fyw o Aberystwyth! (60 munud)
* Sesiwn Di-Enw - Bryn Salisbury
* Sesiwn Di-Enw - Bryn Salisbury
* Sesiwn gloi: be nesa i Hacio'r Iaith? Edrych nol ac edrych mlaen (20 munud)
* Sesiwn gloi: be nesa i Hacio'r Iaith? Edrych nol ac edrych mlaen  
* Taith gorwynt trwy hanes y cyfryngau cymdeithasol Cymraeg (20 munud) - --[[Defnyddiwr:Rhodri.apdyfrig|Rhodri.apdyfrig]] 13:54, 26 Hydref 2011 (BST)
* Taith gorwynt trwy hanes y cyfryngau cymdeithasol Cymraeg --[[Defnyddiwr:Rhodri.apdyfrig|Rhodri.apdyfrig]] 13:54, 26 Hydref 2011 (BST)


====Sesiynau Posib====
====Sesiynau Posib====

Diwygiad 12:08, 28 Hydref 2011

Mae Hacio'r Iaith wedi'i drefnu gan wirfoddolwyr ar y cyd gyda Phrifysgol Aberystwyth a Sefydliad Mercator ar gyfer Cyfryngau, Ieithoedd a Diwylliant


Croeso! Dyma sut i gyfrannu at y Wici yma...

Er mwyn ysgrifennu ar wici Hedyn / Hacio'r Iaith rhaid i chi gofrestru yma fel aelod o'r wici. Mae hyn yn atal sbambots digywilydd rhag sarnu'r dudalen.

Peidiwch bod ofn golygu'r dudalen, ond triwch roi eich llofnod wrth unrhyw olygiad neu ychwanegiad fel ein bod yn gwybod pwy ydych chi.

Os ydych yn bwriadu mynychu Hacio'r Iaith 2012, cofiwch gofrestru.

If you can't read Welsh then Google Translate can give you the rough gist of this page. And it is rough.


Manylion y digwyddiad

Beth?

Mae Hacio'r Iaith yn gynhadledd agored undydd ar y thema technoleg, y we ac iaith.

Cyfle i bobol sy'n gwneud projectau gwe a thechnoleg i ddod i gyflwyno eu profiadau ac i ddysgu oddi wrth ein gilydd mewn awyrgylch braf, hamddenol a drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'n gynhadledd agored am ei fod yn cael ei drefnu ar sail egwyddor open source. Mae hyn yn golygu bod cyfle i unrhywun ddod, am ddim, a chyflwyno am bwnc o'u dewis nhw (yn ddibynnol ar sicrhau slot amser). Mae wedi ei drefnu ar sail digwyddiadau BarCamp, sydd yn anffurfiol iawn, lle caiff trefn y dydd yn cael ei benderfynu gan y siaradwyr.

Mae croeso i chi gyflwyno am be bynnag da chi isio, ond mae'r pwyslais ar gyfrannu nid eistedd nol a gwrando. Chydig yn bryderus? Darllenwch hwn.

Peidiwch anghofio hefyd am y blog grŵp Hacio'r Iaith fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth am y digwyddiad a lle arall i drafod wrth i'r diwrnod nesau.

Pryd?

Nos Wener, 27 Ionawr 2012.

Dydd Sadwrn, 28 Ionawr 2012.

  • Amser: 9yb i tua 7yh
  • 7yh--> y dafarn


Ble?

Adeilad Parry-Williams (map), Prifysgol Aberystwyth, Aberystwyth SY23 3GH

Bydd tri gofod mewn defnydd unwaith eto: Y Stiwdio, Ystafell G38 a'r Cyntedd.

Parcio

Adnoddau eraill cyfagos
  • Caffi Tamed Da
  • Canolfan Celfyddydau Aberystwyth

Dyma restr Foursquare o lefydd sydd efo gwasanaeth Cymraeg ar gael yn Aberystwyth. Croeso i chi ychwanegu ato!

Sut allwch chi helpu?

Gwirfoddoli

Mae llwyddiant y digwyddiad yn lwyr ddibynnol ar y bobol sy'n dod. Yn wahanol i gynhadleddau arferol y chi sy'n ffurfio'r sesiynau ac yn llywio'r diwrnod. Mae disgwyl i bawbs sy'n dod i wneud rhyw fath o gyfraniad tuag at lwyddiant y digwyddiad, nid jest ista nôl a gwrando.

Os nad ydych chi eisiau siarad neu gyflwyno, gallwch helpu drwy:

  • roi cymorth a chyngor ar yr ochr dechnegol
  • hyrwyddo'r digwyddiad trwy flogio, ffilmio, siarad amdano...
  • helpu gyda rhoi sylw i'r digwyddiad yn y wasg
  • helpu ar y ddesg groeso/tywys pobol
  • cymryd rhan ar-lein os nad ydych yn gallu bod yno!


Noddwyr - Diolch yn fawr!

Rhaglen y dydd

Fel y nodwyd uchod mae trefn arferol BarCamp yn golygu bod rhaglen y dydd yn cael ei benderfynu gan y cyflwynwyr, a hynny ar y diwrnod, ond bydd rhai sesiynau yn cael eu trefnu o flaen llaw.

Bydd gweddill y sesiynau yn cael eu trefnu yn ystod slot gyntaf y diwrnod gan roi cyfle i bawb hawlio eu lle.


Rheolau BarCamp

Cer i Beth yw'r fformat BarCamp?


Trefnu'r Dydd

Byddwn yn defnyddio system Open Grid i wneud hyn. Bydd y slotiau amser rhydd yn cael eu rhoi ar fwrdd gwyn neu ddarn mawr o bapur a byddwch yn gallu nodi teitl eich sesiwn a dewis lle gwag ar y grid.

Bydd dwy brif ystafell ar gael i ni, ond bydd atriwm yr adeilad hefyd ar gael os oes unrhywun eisiau cynnal sesiynau bach mwy anffurfiol. Mae sesiynau ochr yn digwydd mewn coridorau mewn BarCamps eraill felly cyn belled eich bod yn ei nodi ar y Grid i bawb wybod beth sy'n mynd mlaen, ewch amdani!

Llun o amserlen Hacio'r Iaith 2010
Amser Cyflwyniadau/Paneli (Y Stiwdio) Gweithdai (Yst. G38) Trafodaethau Bach (Yr Atriwm) Arall
09.00-10.00 Coffi, croesawu, dechrau trefnu sesiynau
10.00-11.00 gwag! gwag! gwag! gwag!
11.00-12.00 gwag! gwag! gwag! gwag!
12.00-13.00 Yr Haclediad
13.00-14.00 Cinio
14.00-15.00 Sesiwn Di-Enw gyda Bryn gwag! gwag! gwag!
15.00-16.00 gwag! gwag! gwag! gwag!
16.00-16.30 Toriad
16.30-17.30 gwag! gwag! gwag! gwag!
17.30-18.30 gwag! gwag! gwag! gwag!
18.30-19.00 Sesiwn gloi

Sesiynau 'Pendant'

Os ydych chi'n gwybod yn bendant am sesiwn yr hoffech chi ei gynnal yna nodwch y seiswn yma.

Mae'n ddefnyddiol gwybod am rai sesiynau o flaen llaw er mwyn cynyddu diddordeb yn y digwyddiad ac er mwyn i bobol allu paratoi. Gallwch nodi amser y slot ar y dydd.

O ran ffurf y sesiynau gallwn nhw fod yn: sgwrs anffurfiol, cyflwyniad unigol, gweityhdy ymarferol, demo, panel, ford gron, fideo ayyb.

Rydyn ni'n ceisio trafod a ddylen ni gyfyngu hyd cyfraniadau unigol i 15/20 munud ar hyn o bryd. Buasai unrhyw sylwadau ar hynny yn grêt.

  • Yr Haclediad - Yn Fyw o Aberystwyth! (60 munud)
  • Sesiwn Di-Enw - Bryn Salisbury
  • Sesiwn gloi: be nesa i Hacio'r Iaith? Edrych nol ac edrych mlaen
  • Taith gorwynt trwy hanes y cyfryngau cymdeithasol Cymraeg --Rhodri.apdyfrig 13:54, 26 Hydref 2011 (BST)

Sesiynau Posib

Dyma lle gallwch chi sgwennu am bwnc yr hoffech chi, efallai, siarad amdano ar y dydd. Lle i roi syniadau tentative am sesiwn neu drafodaeth.

  1. allai son am syniad fusnes fi, TechCym. Ers misoedd dwi wedi meddwl am sut allai rhoi cymorth i pobol Cymraeg gyda problemau technokeg nhw, ond dwi angen dipyn bach o ymchwil marchnad. Markgajones
  2. Hefyd, ar y thema Ubuntu, dwi'n hapus i rhedeg gweithdy i ddangos sut i defnyddio Launchpad ar gyfer cyfieuthu Ubuntu, ac yn cofrestru pobol sydd gen ddidordeb i helpu. Markgajones

Cofrestru

Mae'n bwysig bod pawb sy'n bwriadu dod yn cofrestru o flaen llaw drwy sgwennu eu henw isod (mae'n hawdd!). Fel arall, allwn ni ddim sicrhau y bydd lle i chi ar y diwrnod (a'n bwysicach fyth, rhywbeth i chi fwyta!).

Mae lle i dros 50 o bobol ond os bydd mwy yn cofrestru isod yna bydd angen i ni edrych eto ar y trefniadau ystafell. Bydd yn ddigon hawdd addasu os bydd mwy.

Gallwch hefyd nodi eich bod chi'n dod ar Lanyrd. Mi wnewn ni gopio chi drosodd i'r rhestr hon, ond rydyn ni eisiau annog pobol i gyfrannu at y Wici trefnu gymaint ag sydd bosib hefyd.


Pwy Sy'n Dod?

  1. Rhodri ap Dyfrig blog Twitter (diddordebau: fideo amlblatfform, blogio, diwylliant ar-lein, y Gymraeg ar-lein yn gyffredinol!)
  2. Carl Morris blog Twitter (slogan: gwell cynnwys slac na chyhoeddusrwydd slic)
  3. Bryn Salisbury blog Twitter Gîc, Podledwr, Blogiwr a dyn blîn technoleg Cymraeg.
  4. Gareth Morlais [1] Twitter (diddordebau: straeon digidol, heiprlleol, darlledu)
  5. Sioned Mills
  6. Iestyn Lloyd
  7. Huw Marshall
  8. Iwan Standley
  9. Dyfrig Jones
  10. Wil Stephens
  11. Elin Haf Gruffydd Jones Twitter
  12. Mark Jones Twitter (diddordebau: Blogio, Cymorth Technolog trwy cyfrwng Cymraeg.
  13. Hywel Jones Twitter (diddordebau: dadansoddi, data)

Methu Dod

Trefnwyr

Mae lot o bobol wedi tynnu at ei gilydd i gyd-drefnu'r digwyddiad, ond os oes ganddoch chi gwestiwn penodol am yr elfennau gweinyddol neu o'r wasg ag eisiau rhywun i siarad yna gallwch chi gysylltu a Rhodri ap Dyfrig, Carl Morris neu Rhys Wynne (manylion cyswllt ar gael trwy'r dolenni uchod).

Gwirfoddolwyr: Rhestr tasgau

Angenrheidiol

  • Cofrestru - mae angen dau berson i helpu gyda'r cofrestru yn y boreau - pwy sydd am wirfoddoli? Dwi wastad yn joio neud hyn, dwi yp ffor it! --Llefenni 17:51, 25 Hydref 2011 (BST)
  • Ysgrifennu datganiad i'r wasg
  • Poster
  • Wifi - bydd Mercator/Adran/Prifysgol Aberystwyth yn cyflenwi hyn i ni (Rhodri/Elin i sortio fo) Elinhgj
  • Taflunydd x 2
  • Ffotograffydd
  • Recordydd fideo x 2
  • Dogfennydd fideo crwydrol
  • Golygydd fideo post-digwyddiad
  • 2 x PA Bach gyda thri meic yr un + roving mic
  • Recordydd awdio
  • Gosod byrddau a chadeiriau ar brynhawn dydd Gwener
  • Profi kit technegol brynhawn dydd Gwener - wnai helpu efo hwn hefyd, jyst o gwmpas i weirio a ballu! --Llefenni 17:51, 25 Hydref 2011 (BST)

Dymunol

  • Cyfieithu ar y pryd? - os oes rhywun yn dod sydd yn ddi-Gymraeg yna dylent nodi hyn a gallwn drio cael nawdd ar gyfer cyfieithydd
  • Cinio/Te/Coffi
Cost te,coffi, bisgets, brechdanau, pethau hwmwslyd ac Indiaidd ar gyfer 40 o bobol = £316.00

Hyrwyddo

Tagiau

#haciaith yw tag swyddogol y digwyddiad. Defnyddwich o ym mhob cofnod blog, tweet, llun, fideo am y digwyddiad a byddwn ni'n gallu dilyn y drafodaeth.

Pwy sy'n blogio? / Sylw yn y Wasg

Rhowch gofnod o bob blog sy'n sôn am y digwyddiad yn y rhestr hon:


Swper Nos Wener

Roedd sawl un yn aros dros nos yn Aberystwyth y llynedd felly aethon ni allan am gyri. Roedd yn ddechrau gwych i'r diwrnod canlynol. Felly pam lai gwneuyd yr un peth eto. Hacio'r Cyri.

Bydd bwrdd wedi ei archebu ym Mwyty Shilam (ger yr orsaf) am 7.30pm. Rhowch eich enw isod os ydych chi eisiau cadw lle.

  1. elinhgj

Ble i aros?

Cer i Llety a theithio

Teithio

Cer i Llety a theithio

English translation

Here's a rough machine translation of this page into English. And it is rough.