Gweithrediadau

Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hacio'r Iaith - Ionawr 2013"

Oddi ar Hedyn

Llinell 116: Llinell 116:
* Haclediad byw - recordio sioe podlediad tech Cymraeg yn fyw o'r digwyddiad gyda chynulleidfa (gobeithio!)
* Haclediad byw - recordio sioe podlediad tech Cymraeg yn fyw o'r digwyddiad gyda chynulleidfa (gobeithio!)
:* Hei hei, byddai dychweliad y 'traddodiad' yma yn benigamp! --[[Defnyddiwr:Carlmorris|Carlmorris]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Carlmorris|sgwrs]]) 16:07, 4 Ionawr 2013 (UTC)
:* Hei hei, byddai dychweliad y 'traddodiad' yma yn benigamp! --[[Defnyddiwr:Carlmorris|Carlmorris]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Carlmorris|sgwrs]]) 16:07, 4 Ionawr 2013 (UTC)
* dotCYM - pam methodd, sut fydd y Gymraeg ar golled o'r herwydd, beth yw'r gwersi ar gyfer menter debyg yn y dyfodol --[[Defnyddiwr:maredudd|maredidd]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:maredudd|sgwrs]])


===Hacathon! Paurau Newydd Hanesyddol - Dydd Gwener 18 Ionawr ===
===Hacathon! Paurau Newydd Hanesyddol - Dydd Gwener 18 Ionawr ===

Diwygiad 16:00, 14 Ionawr 2013

Er mwyn ysgrifennu ar wici Hedyn / Hacio'r Iaith rhaid i chi gofrestru yma fel aelod o'r wici. Mae hyn yn atal sbambots digywilydd rhag sarnu'r dudalen. Os ydych yn bwriadu mynychu Hacio'r Iaith 2013, cofiwch gofrestru.

Peidiwch bod ofn golygu'r dudalen, ond triwch roi eich llofnod wrth unrhyw olygiad neu ychwanegiad fel ein bod yn gwybod pwy ydych chi.

Hacio-iaith-logo.jpg

Manylion y digwyddiad

Beth?

Cyfle i bobol sy'n gwneud projectau gwe a thechnoleg yn y Gymraeg, neu am y Gymraeg, i ddod i gyflwyno eu profiadau ac i ddysgu oddi wrth ein gilydd mewn awyrgylch braf a hamddenol.

Mae'n gynhadledd agored am ei fod yn cael ei drefnu ar sail egwyddor agored. Mae hyn yn golygu bod cyfle i unrhywun ddod, am ddim, a chyflwyno am bwnc o'u dewis nhw (yn ddibynnol ar sicrhau slot amser). Mae wedi ei drefnu ar sail digwyddiadau BarCamp, sydd yn anffurfiol iawn, lle caiff trefn y dydd yn cael ei benderfynu gan y siaradwyr. Dyma esboniad da gan flogiwr o Ganada.

Bydd cyswllt di-wifr cyflym am ddim i bawb sydd yn cymryd rhan er mwyn hwyluso dogfennu a thrafod yn ystod y digwyddiad.

Pryd?

Dydd Sadwrn 19fed mis Ionawr 2013

9:30 - 18:00

Ble?

Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Abersytwyth, Ceredigion, Cymru

Mae holl fanylion sut i gyrraedd y Llyfrgell ar gael ar y dudalen hon.

Cofrestru

Mae mynediad am ddim ac mae croeso i bawb. Ond mae angen archebu lle i gael mynediad.

Eleni rydyn ni'n defnyddio'r system Eventbrite i reoli'r broses cofrestru.

http://haciaith.eventbrite.co.uk

Rhaglen y dydd

Rheolau BarCamp

Cer i Beth yw'r fformat BarCamp?

Trefnu'r Dydd

Byddwn yn defnyddio system Grid Agored i roi amserlen y sesiynau at ei gilydd.

I chi sydd ddim yn gyfarwydd, peidiwch pryderu, mae'n ffordd eithaf hwyl a syndod o drefnus ar gyfer rhannu amserlen.

Bydd darn o bapur mawr gyda grid o slotiau amser rhydd yn cael eu rhoi fyny yn y cyntedd a gall pawb fachu nodyn post-it, ysgrifennu teitl eu sesiwn/gweithdy neu beth bynnag, a'i osod mewn slot gwag ar y grid.

Gall pobol drafod pa sesiynau sydd yn ffitio gyda'u gilydd orau er mwyn gwneud yn siwr nad oes gormod o wrthdaro. Bydd tua awr ar ddechrau'r dydd i gael paned, trafod sesiynau a llenwi'r amselen.

Ystafelloedd

Y Drwm

Awditoriwm 90 set gyda sgrin anferth (LLUN: gallwch chi hefyd fod fel Huw Edwards!). Byddwch yn teimlo fel eich bod chi'n gwneud TED talk. Wn i ddim os yw hynny'n beth da neu ddim...

Ystafelloedd Addysg

Mae'r brif Ystafell Addysg yn stafell olau sydd yn dal tua 30 o bobol hefyd gyda holl adnoddau taflunio ac ati fuasech chi ei angen.

Mae dwy ystafell arall sydd hefyd yn bosib eu defnyddio (dwi'n meddwl!) os oes angen trydedd sesiwn baralel.

Dyma fanylion a lluniau'r stafelloedd hyn.

Hyd Slotiau

Bydd y rhan fwyaf o slotiau yn 20 munud o hyd, ond gallwch chi gymryd slot hirach os oes angen (e.e. ar gyfer gweithdy).

Mae cyflwyniadau yn gweithio'n well mewn ystafell fwy

Yr Amserlen Wag

Dyma'r amserlen wag ar gyfer y diwrnod. Paratowch gyflwyniad, panel, gweithdy neu demo a byddwn yn rhoi slot iddo ar y diwrnod.


Amser Y Drwm Ystafell Addysg Ystafell Wlyb(!) Arall / Cyntedd y Drwm
09.30-10.00 Coffi, meddwl am sesiynau, dewis eich slot amser
10.00-11.00 Sesiwn 1(a) Sesiwn 1(b) Sesiwn 1(c)
11.00-12.00 Sesiwn 2(a) Sesiwn 2(b) Sesiwn 2(c)
12.00-13.00 Yr Haclediad? Sesiwn 3(b) Sesiwn 3(c)
13.00-14.00 Cinio
14.00-15.00 Sesiwn 4(a) Sesiwn 4(b) Sesiwn 4(c)
15.00-16.00 Sesiwn 5(a) Sesiwn 5(b) Sesiwn 5(c)
16.00-16.30 Toriad
16.30-17.30 Sesiwn 6(a) Sesiwn 6(b) Sesiwn 6(c)
17.30-18.00 Sesiwn gloi

Sesiynau 'Pendant'

  • Byrbrydau Wicipedia. Cyfres o gyflwyniadau byr gan wahanol Wicipedwyr am bynciau megis: Hyrwyddo erthygl, Wicipedia yn 'y byd go iawn', Delweddau, a sesiynnau cymorth cyflym Sut mae...?--Rhyswynne (sgwrs) 00:18, 9 Tachwedd 2012 (UTC)
  • Torfoli hanes y cyfryngau digidol Cymraeg! (aka: ymchwilydd diog! aka: na, dwi wir yn meddwl bod yr ymennydd collective yn well na jest un yn yr achos yma!) - dwi'n rhoi darlith awr ginio fis Chwefror ar daith y Gymraeg yn y cyfryngau digidol. Un syniad ar hyn o bryd ydi casglu nifer o ddigwyddiadau, syniadau, cynnyrch, neu fomentau allweddol yn nhaith yr iaith ar y we. Bydda i'n rhoi syniad sydyn o fy rhai i ond yn ceisio harnesu'ch atgofion chi i gael darlun mwy cyflawn. Mwy o fanylion i ddod fel gall pobol feddwl mwy amdano o flaen llaw. --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 17:23, 20 Tachwedd 2012 (UTC)
    Addawol iawn! --Carlmorris (sgwrs) 21:39, 20 Tachwedd 2012 (UTC)
    Hwn yn ddefnyddiol gan @dafyddt http://www.rhwyd.org/hanes/ --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 10:25, 21 Tachwedd 2012 (UTC)
  • Dadansoddi IndigenousTweets.com - beth ydw i wedi ei wneud hyd yn hyn (a sut), a thrafodaeth. --Hywelm (sgwrs) 22:48, 7 Ionawr 2013 (UTC)
  • Sesiwn Ap Geiriaduron - ystadegau, profiadau a gweledigaeth gan Gruff, Dewi, Patrick a David o Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr
  • Sesiwn DECHE (Digido, E-gyhoeddi a Chorpws Iaith), Crochan Codio i blant a phrojectau newydd eraill gan Delyth, Tegau a Mared o Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr (nid cystadleuaeth genod v hogia ydi hi, ond wrth gwrs, bydd sesiwn y genod yn well:)). Fasa ni'n cael cyflwyno'r sesiynau yn y Drwm yn ystod y bore, un ar ôl y llall ogydd?

Sesiynau Posib

  • Cyflwyno prosiectau ar sail archif papurau newydd Llyfrgell Genedlaethol --Carlmorris (sgwrs) 21:43, 20 Tachwedd 2012 (UTC)
  • Gweithdy hacio/prosesu testun Cymraeg gyda chod: geiriaduron, treigladau, cymylau geiriau a mwy --Carlmorris (sgwrs) 21:43, 20 Tachwedd 2012 (UTC)
  • Haclediad byw - recordio sioe podlediad tech Cymraeg yn fyw o'r digwyddiad gyda chynulleidfa (gobeithio!)
  • Hei hei, byddai dychweliad y 'traddodiad' yma yn benigamp! --Carlmorris (sgwrs) 16:07, 4 Ionawr 2013 (UTC)
  • dotCYM - pam methodd, sut fydd y Gymraeg ar golled o'r herwydd, beth yw'r gwersi ar gyfer menter debyg yn y dyfodol --maredidd (sgwrs)

Hacathon! Paurau Newydd Hanesyddol - Dydd Gwener 18 Ionawr

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi digido bron i filwn o dudalenni o bapurau newydd hanesyddol Cymru, i'w lawnsio ym mis Mawrth 2013. Dyma gyfle i gael chwarae gyda'r data a'r delweddau o'r prosiect cyn iddo gael ei lawnsio i'r cyhoedd, gyda mynediad uniongyrchol i'r wefan beta a'r API sy'n sylfaen iddi.

Mae'r Hacathon ar agor i bobl creadigol o bob math yn ogystal â datblygwyr, a daw â phobl gyda syniadau ynghyd â phobl gyda'r sgiliau i'w gweithredu.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar http://hacathonwiki.llgc.org.uk.

Bydd detholiad o gynnyrch yr Hacathon yn cael ei arddangos yn lawnsiad y wefan yng Nghaerdydd ar y 13eg o Fawrth, 2013. Yn ogystal, bydd gwobrau ar gyfer y datblygiadau gora.

Cofrestrwch yma i sicrhau lle yn y digwyddiad: http://hacathon.eventbrite.co.uk/

Bydd prosiectau'n debygol o gael eu cyfklwyno yn Hacio'r Iaith ar y dydd Sadwrn felly dewch ddiwrnod yn gynnar i ymnuno yn yr hwyl creadigol.

Sut allwch chi helpu?

Gwirfoddoli

Noddwyr - Diolch yn fawr!

Hyrwyddo

Tagiau

#haciaith yw tag swyddogol y digwyddiad. Defnyddwich o ym mhob cofnod blog, trydariad, tweet, llun, fideo am y digwyddiad er mwyn i bawb dilyn y drafodaethau.

Cyhoeddusrwydd a'r Wasg

Swper Nos Wener

Fel yn y blynyddoedd cynt, byddwn yn cymryd bwrdd mwy fyth ym mwyty Indiaidd Shilam am 7:30pm (drws nesaf i'r orsaf trên yn Aberystwyth). Bydd peint wedyn a chwilio am gig yn rhywle.

Rhowch eich enw isod os ydych chi eisiau cadw lle:

  1. Rhodri ap Dyfrig
  2. Huw Meredydd Roberts
  3. Elin Dawes
  4. Sioned Clwyd
  5. Maldwyn Pate
  6. Carl Morris
  7. Elin Haf Gruffydd Jones
  8. Maredudd ap Gwyndaf
  9. [eich enw chi yma]

Ble i aros?

Teithio

English translation and other languages

Here's a rough machine translation of this page into English. And it is rough.

Anyone is welcome to attend Hacio'r Iaith. The focus of our community and events is use of technology by Welsh speakers, through the Welsh language and also for Welsh learners. We may be able to provide simultaneous translation into other languages for those who request it in advance.

In Welsh, 'yr iaith' means 'the language' and 'Hacio’r Iaith' means 'hack the language'.