Gweithrediadau

Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hacio'r Iaith - Ionawr 2011"

Oddi ar Hedyn

Llinell 96: Llinell 96:




===== Pobol =====
=====Pobol=====
 
Mae'n bwysig bod pawb sy'n bwriadu dod yn cofrestru ''o flaen llaw'' drwy sgwennu eu henw isod. Fel arall, allwn ni ddim sicrhau y bydd lle i chi ar y diwrnod (a'n bwysicach fyth, rhywbeth i chi fwyta!).  
Mae'n bwysig bod pawb sy'n bwriadu dod yn cofrestru ''o flaen llaw'' drwy sgwennu eu henw isod. Fel arall, allwn ni ddim sicrhau y bydd lle i chi ar y diwrnod (a'n bwysicach fyth, rhywbeth i chi fwyta!).  



Diwygiad 09:57, 4 Ionawr 2011

dal yn golygu! --Carlmorris 01:38, 30 Tachwedd 2010 (UTC)


Hacio'r Iaith - Ionawr 2011

Mae Hacio'r Iaith wedi'i drefnu ar y cyd gyda Sefydliad Mercator a Phrifysgol Aberystwyth

Noddwyr: Yn eisiau!

Manylion y digwyddiad

Beth?

Mae Hacio'r Iaith yn gynhadledd agored undydd ar y thema technoleg, gwe ac iaith.

Mae'n gyfle i bobol sy'n gwneud projectau gwe a thechnoleg yn, neu am y Gymraeg, i ddod i gyflwyno eu profiadau ac i drio dysgu oddi wrth ein gilydd mewn awyrgylch braf.

Mae'n gynhadledd agored am ei fod yn cael ei drefnu ar sail egwyddor open source. Mae hyn yn golygu bod cyfle i unrhywun ddod, am ddim, a chyflwyno am bwnc o'u dewis nhw (yn ddibynnol ar amser a lle). Mae wedi ei drefnu ar sail digwyddiadau BarCamp, sydd yn hollol wahanol i gynadleddau arferol. Mae'n anffurfiol iawn - dim ond y gofod sy'n cael ei drefnu o flaen llaw - ac mae trefn y dydd yn cael ei benderfynu gan y siaradwyr. Mae esboniad That Canadian Girl yn un da i unrhywun sydd eisiau dod a chymryd rhan.

Eleni rydyn ni'n hepgor y pwyslais ar hacio neu raglennu, ac yn ceisio cael gweithdai sydd yn fwy o demos, neu diwtorialau ymarferol. Cuyfle i ddysgu sgil newydd eich hun tra'n rhoi o'ch sgiliau chi i eraill.

Bydd cyswllt di-wifr cyflym ar gael am ddim i bawb sydd yn cymryd rhan er mwyn hwyluso dogfennu a thrafod yn ystod y digwyddiad.

Byddwn yn trio ychwanegu mwy o lefydd i drafod y digwyddiad yn y man. Y gobaith yw y bydd sawl person yn ystod y digwyddiad yn cofnodi cynnwys sesiynau gan eu blogio'n fyw, rhoi eu nodiadau ar y Wiki hwn, trydar gyda'r tag #haciaith, postio lluniau i Flickr, creu fideos byr i YouTube ayyb gan gofnodi'r holl ddigwyddiad.

Pryd?

Dydd Sadwrn, 29 Ionawr 2011.

Amserau: Tua 9yb i tua 7yh (mae hyn eto i'w benderfynu)

Ble?

Adeilad Parry Williams (Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu), Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth.

Dyma'r Google Fap

Adnoddau eraill cyfagos

 * Mae caffi Canolfan Celfyddydau Aberystwyth o fewn 100 metr i'r adeilad. 
 * Mae bwyty a chaffi TaMed Da o fewn 100 metr i'r adeilad.

Gaf i helpu?

Mae eisiau i ni ddechrau rhestr 'to do' yma gan nodi yr elfennau o'r diwrnod sydd angen eu gweithredu cyn iddo ddigwydd.

Ychwanegwch dasg, yna nodwch wrth ei ymyl os ydych chi wedi ei gymryd mlaen gan roi eich enw. Nodwch pan rydych chi wedi ei gyflawni.


* 


Noddwyr

__

Rhaglen y dydd

Fel y nodwyd uchod mae trefn arferol BarCamp yn golygu bod rhaglen y dydd yn cael ei benderfynu gan y cyflwynwyr, a hynny ar y diwrnod, ond yn wahanol i Hacio'r Iaith 2010 bydd rhai sesiynau yn cael eu trefnu o flaen llaw.

Bydd gweddill y sesiynauyn cael eu trefnu yn ystod slot gyntaf y diwrnod gan roi cyfle i bawb hawlio eu lle.

Rheolau BarCamp

Er bod y digwyddiad yn anffurfiol, mae rhai rheolau sydd yn helpu i wneud pethau ddigwydd fel dylen nhw. Dyma ambell un (wedi eu addasu o fan hyn):

 * Mae croeso i unrhyw un sydd â rhywbeth i'w gyfrannu neu awydd i ddysgu i ddod i BarCamp.
 * Pan ddewch chi, byddwch yn barod i rannu gyda gwersyllwyr eraill.
 * Pan ewch chi oddi yno, byddwch yn barod i'w rannu gyda'r byd.
 * Mae'n bwysig i bawb sy'n dod i gyfrannu mewn rhyw ffordd. Un ai trwy gyflwyno, trafod, gwirfoddoli ayyb. Fydd o ddim yn gweithio os taw dim ond pobol sydd wedi dod i wrando fydd yno! Sdim rhaid rhoi darlith, jest rhannu eich brwdfrydedd dros declyn, gwefan, meddalwedd, neu bwnc. 
 * Y bobol sydd yn bresennol fydd yn dewis beth maen nhw eisiau ei weld. 
 * Os ydych chi eisiau cyflwyno rhywbeth rhaid i chi ei roi mewn slot ar y Grid.
 * Os nad ydych chi eisiau clywed rhywbeth - cerddwch allan! Ewch i weld beth sy'n mynd mlaen mewn sesiwn arall.
 * Byddwn yn cynnwys hynny o gyflwyniadau ag y gallwn ni o fewn yr amserlen. 
 * Gall cyflwyniadau/sesiynau fynd mlaen mor hir ag sydd angen, neu nes eu bod yn cyrraedd amser y slot nesaf.

Yr un peth am y rheolau hyn ydi eu bod nhw yno i'w torri hefyd os oes angen!

Trefnu'r Dydd

Byddwn yn defnyddio system Open Grid i wneud hyn. Bydd y slotiau amser rhydd yn cael eu rhoi ar fwrdd gwyn neu ddarn mawr o bapur a byddwch yn gallu nodi teitl eich sesiwn a dewis lle gwag ar y grid.

Bydd dwy brif ystafell ar gael i ni, ond bydd atriwm yr adeilad hefyd ar gael os oes unrhywun eisiau cynnal sesiynau bach mwy anffurfiol. Mae sesiynau ochr yn digwydd mewn coridorau mewn BarCamps eraill felly cyn belled eich bod yn ei nodi ar y Grid i bawb wybod beth sy'n mynd mlaen, ewch amdani!

Hwn oedd yr amserlen ddrafft:

____


Sesiynau arfaethedig

Pynciau yr hoffwn i gyflwyno amdanynt

Dyma lle gallwch chi sgwennu am ba bwnc rydych chi am ei gyflwyno ar y dydd. Gall fod yn gyflwyniad syml am wefan da chi wedi bod yn gweithio arni, yn sesiwn banel, yn drafodaeth agored, yn rant, neu beth bynnag hoffwch chi.


Pynciau yr hoffwn i glywed amdanynt

Dwi wedi symud y drafodaeth oedd fan hyn ar syniadau am sesiynau posibl draw i dudalen drafodaeth y wici. Gallwch chi weld y syniadau ac ychwanegu atyn nhw ar Sgwrs:Hacio'r Iaith - Ionawr 2011.

Os da chi wedi penderfynu a bwnc i siarad amdano yna rhowch o yn y rhestr uchod o sesiynau arfaethedig.


Pobol

Mae'n bwysig bod pawb sy'n bwriadu dod yn cofrestru o flaen llaw drwy sgwennu eu henw isod. Fel arall, allwn ni ddim sicrhau y bydd lle i chi ar y diwrnod (a'n bwysicach fyth, rhywbeth i chi fwyta!).

Mae lle i dros 50 o bobol ond os bydd mwy yn cofrestru isod yna bydd angen i ni edrych eto ar y trefniadau ystafell. Bydd yn ddigon hawdd addasu os bydd mwy.

 -  Carl Morris   blog    Twitter
 -  Rhodri ap Dyfrig blog  Twitter 

Methu Dod

Os nad ydych yn gallu dod, tynnwch eich enw o'r rhestr mynychwyr a rhowch eich enw yma fel ein bod yn gwybod.

Trefnwyr

Mae lot o bobol wedi tynnu at ei gilydd i gyd-drefnu'r digwyddiad, ond os oes ganddoch chi gwestiwn penodol am yr elfennau gweinyddol neu o'r wasg ag eisiau rhywun i siarad yna gallwch chi gysylltu a Rhodri ap Dyfrig, Carl Morris neu Rhys Wynne (manylion cyswllt ar gael trwy'r dolenni uchod).

Gwirfoddolwyr

 * Ysgrifennu datganiad i'r wasg
 * Poster --- Iestyn Lloyd?
 * Paratoi ystafelloedd (pryd?) --- ?
 * Cofrestru - mae angen dau berson i helpu gyda'r cofrestru - pwy sydd am wirfoddoli? --- ?

Rhestr tasgau

__


Technegol

Rhaid eu cael

 * Wifi (dim problem gyda hyn - roedd y cyswllt di-wifr llynedd yn gret. --Rhodri.apdyfrig 23:33, 3 Ionawr 2011 (UTC)) 
 * Taflunydd (dim problem gyda hyn - gallwn fenthyg offer yr adran --Rhodri.apdyfrig 23:33, 3 Ionawr 2011 (UTC)
 * Rhywun i dynnu lluniau
 * PA Bach gyda meics

Dymunol

   * Fideo - rhywun i ffilmio sesiynau cyfan? Rhywun i ffilmio eitemau byr/cyfweliadau o amgylch y digwyddiad?
   * Sain - galwn fenthyfg offer yr adran ond yn sicr byddai'n fanteisiol cael cymorth technegol i'w osod a monitro
   * Cyfieithu ar y pryd? - os oes rhywun yn dod sydd yn ddi-Gymraeg yna dylent nodi hyn a gallwn drio cael nawdd ar gyfer cyfieithydd


Gweddill

   * Cinio
   * Te/Coffi
   * Gosod byrddau a chadeiriau
   * Croesawu
   * Trefnu parti gyda'r hwyr

=Hyrwyddo

Tagiau

#haciaith yw tag swyddogol y digwyddiad. Defnyddwich o ym mhob cofnod blog, tweet, llun, fideo am y digwyddiad a byddwn ni'n gallu dilyn y drafodaeth.

Trafodaeth wedi ei symud i'r dudalen drafodaeth.


Pwy sy'n blogio?


Sylw yn y Wasg

Ble i aros?

Gwesty/hostel

(yn ddelfrydol gyda pherchnogion sy'n siarad Cymraeg)

 * awgrymwa le...
 * Oes 'na le lle bydd nifer yn aros nos Wener?
 * Neu, oes 'na le lle bydd pobl yn ymgynnull i fwyta/diota nos Wener? 

Cynnig llety

(oes lle yn sied eich gardd?)


Swper Nos Wener

Mae wedi dod yn amlwg bod sawl person yn aros yn Aberystwyth ar y nos Wener. Byddai'n syniad felly i bawb drio cwrdd am swper a chwpwl o beints rhagarweiniol.

Dyma rai cynigion:

 * Cyri yn Shilam
 * Nwdls a Sushi yn Wasabi
 * Tapas yn Casa Miguel
 * Bwyd Groegaidd yn yr Olive Branch
 * Bwyd Thai yn Home Cafe
 * Tapas yn Ultracomida

Rhain i gyd yn weddol safonol, digon o le (heblaw am Casa Migs) a ddim rhy ddrud.

(Sdim lle Tsieineaidd call yma ac mae'r lle Eidalaidd yn rhy fach (a rhy wael, a bod yn onest)).

Syniad ardderchog - cownt mi in! Sdim ots 'da fi ble, er nad ydw i'n rhy hoff o fwyd Thai. Dewisa di gan fod ti'n gyfarwydd â nhw. (Twitter @malpate)

Teithio

Yn gyrru?

Angen lifft?

Rhowch y manylion yma (dyddiad + amser + lleoliad)...

Parcio

Gallwch chi barcio am ddim ar ddydd Sadwrn ym maes parcio Canolfan Celfyddydau Aberystwyth. Dyma fap gyda manylion y maes parcio.

I gyrraedd adeilad Parry-Williams o'r maes parcio cerddwch mewn i Ganolfan y Celfyddydau, heibio'r siop ar eich dde a pharhau trwy'r drws, ac allan i ochr draw yr adeilad.


English translation

Here's a rough machine translation of this page into English. And it is rough.