Gweithrediadau

Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hacio'r Iaith - Ionawr 2011"

Oddi ar Hedyn

(GceKzVajJNZM)
(Dadwneud y golygiad 61 gan 213.253.3.111 (Sgwrs | cyfraniadau))
Llinell 1: Llinell 1:
UWuPpG <a href="http://brfmdjdltebv.com/">brfmdjdltebv</a>, [url=http://precorfzmelz.com/]precorfzmelz[/url], [link=http://zcgdvtvufisq.com/]zcgdvtvufisq[/link], http://ahavyaezyzyr.com/
dal yn golygu! --[[Defnyddiwr:Carlmorris|Carlmorris]] 01:38, 30 Tachwedd 2010 (UTC)
 
 
== Hacio'r Iaith - Ionawr 2011 ==
 
'''''Mae Hacio'r Iaith wedi'i drefnu ar y cyd gyda SALT Cymru, Sefydliad Mercator a Phrifysgol Aberystwyth'''''
 
'''''Noddwyr: __'''''
 
=====Manylion y digwyddiad=====
====Beth?====
Mae Hacio'r Iaith yn gynhadledd agored undydd ar y thema '''technoleg, gwe ac iaith'''.
 
Mae'n gyfle i bobol sy'n gwneud projectau gwe a thechnoleg yn, neu am y Gymraeg, i ddod i gyflwyno eu profiadau ac i drio dysgu oddi wrth ein gilydd mewn awyrgylch braf. 
 
Mae'n '''gynhadledd agored''' am ei fod yn cael ei drefnu ar sail egwyddor ''open source''. Mae hyn yn golygu bod cyfle i unrhywun ddod, am ddim, a chyflwyno am bwnc o'u dewis nhw (yn ddibynnol ar amser a lle). Mae wedi ei drefnu ar sail digwyddiadau [http://en.wikipedia.org/wiki/BarCamp BarCamp], sydd yn hollol wahanol i gynadleddau arferol. Mae'n anffurfiol iawn - dim ond y gofod sy'n cael ei drefnu o flaen llaw - ac mae trefn y dydd yn cael ei benderfynu gan y siaradwyr. Mae [http://www.thatcanadiangirl.co.uk/blog/2008/09/22/the-barcamp-virgins-guide-making-the-most-of-your-first-barcamp/ esboniad That Canadian Girl] yn un da i unrhywun sydd eisiau dod a chymryd rhan.  
 
Bydd hefyd yn cynnwys '''sesiynau rhaglennu''' lle byd cyfle i bobol sy'n gweithio gyda rhaglennu a chôd ddod at eu gilydd i greu rhywbeth - rhaglen, ''app'', neu stwnsh fel arfer - gan ddefnyddio data sy'n bodoli eisoes. Mae'r elfen hyn o'r digwyddiad yn seiliedig ar ddigwyddiadau [http://en.wikipedia.org/wiki/Open_Hack_Day Open Hack Day]. Bwriad hwn yw bod rhywbeth defnyddiol yn dod allan o'r digwyddiad. Dyma [http://www.guardian.co.uk/global/insideguardian/2008/nov/18/guardian-hack-day-results hanes Hack Day wnaeth papur y Guardian yn 2008].
 
Bydd '''cyswllt di-wifr cyflym''' ar gael am ddim i bawb sydd yn cymryd rhan er mwyn hwyluso dogfennu a thrafod yn ystod y digwyddiad.
 
Galli di hefyd ddarllen cofnodion ar [http://metastwnsh.com/hacior-iaith-y-gofnod-gynta/ Metastwnsh] a [http://quixoticquisling.com/2009/10/hacior-iaith/ Quixotic Quisling] am esboniad pellach o beth fydd nôd a phatrwm y digwyddiad a sut ddaeth y syniad i fodolaeth.
 
Mae yna hefyd [http://maes-e.com/viewtopic.php?f=15&t=28036 edefyn yn agored ar Faes-e amdano], a byddwn yn trio ychwanegu mwy o lefydd i drafod y digwyddiad yn y man. Y gobaith yw y bydd sawl person yn ystod y digwyddiad yn cofnodio cynnwys sesiynau gan eu blogio'n fyw, rhoi eu nodiadau ar y Wiki hwn, trydar gyda'r tag #haciaith, postio lluniau i Flickr, creu fideos byr i YouTube ayyb gan gofnodi'r holl ddigwyddiad.
 
====Pryd?====
<del>Dydd Sadwrn,  '''__ Ionawr 2011'''.
 
Amserau: __
 
====Ble?====
Adeilad Parry Williams (Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu), Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth.
 
Dyma'r [http://www.aber.ac.uk/cy/tfts/about-the-dept/tfts-map/ Google Fap]
 
=== Adnoddau eraill cyfagos ===
  * Mae caffi [http://www.aberystwythartscentre.co.uk/information/eat.shtml Canolfan Celfyddydau Aberystwyth] o fewn 100 metr i'r adeilad.
  * Mae [http://www.aber.ac.uk/~reswww/cy/hospitality/places/tamedda.shtml bwyty a chaffi TaMed Da] o fewn 100 metr i'r adeilad.
 
====Gaf i helpu?====
 
__
 
 
=====Noddwyr=====
 
__
 
=====Rhaglen y dydd=====
Fel y nodwyd uchod mae trefn arferol BarCamp yn golygu bod rhaglen y dydd yn cael ei benderfynu gan y cyflwynwyr, a hynny ar y diwrnod. Mae'n debyg y bydd hyn yn digwydd yn yr hanner awr ar ôl cofrestru a chyflwyno'r diwrnod.
 
==== Rheolau BarCamp ====
Er bod y digwyddiad yn anffurfiol, mae rhai rheolau sydd yn helpu i wneud pethau ddigwydd fel dylen nhw. Dyma ambell un (wedi eu addasu o [http://barcamp.org/TheRulesOfBarCamp fan hyn]):
 
  * Mae croeso i unrhyw un sydd â rhywbeth i'w gyfrannu neu awydd i ddysgu i ddod i BarCamp.
  * Pan ddewch chi, byddwch yn barod i rannu gyda gwersyllwyr eraill.
  * Pan ewch chi oddi yno, byddwch yn barod i'w rannu gyda'r byd.
  * Mae'n bwysig i bawb sy'n dod i gyfrannu mewn rhyw ffordd. Un ai trwy gyflwyno, trafod, gwirfoddoli ayyb. Fydd o ddim yn gweithio os taw dim ond pobol sydd wedi dod i wrando fydd yno! Sdim rhaid rhoi darlith, jest rhannu eich brwdfrydedd dros declyn, gwefan, meddalwedd, neu bwnc.
  * Y bobol sydd yn bresennol fydd yn dewis beth maen nhw eisiau ei weld.
  * Os ydych chi eisiau cyflwyno rhywbeth rhaid i chi ei roi mewn slot ar y Grid.
  * Os nad ydych chi eisiau clywed rhywbeth - cerddwch allan! Ewch i weld beth sy'n mynd mlaen mewn sesiwn arall.
  * Byddwn yn cynnwys hynny o gyflwyniadau ag y gallwn ni o fewn yr amserlen.
  * Gall cyflwyniadau/sesiynau fynd mlaen mor hir ag sydd angen, neu nes eu bod yn cyrraedd amser y slot nesaf.
 
Yr un peth am y rheolau hyn ydi eu bod nhw yno i'w torri hefyd os oes angen!
 
====Trefnu'r Dydd====
 
Byddwn yn defnyddio system ''[http://www.socialtext.net/web2open/index.cgi?the_open_grid Open Grid]'' i wneud hyn. Bydd y slotiau amser rhydd yn cael eu rhoi ar fwrdd gwyn neu ddarn mawr o bapur a byddwch yn gallu nodi teitl eich sesiwn a dewis lle gwag ar y grid.
 
Bydd dwy brif ystafell ar gael i ni, ond bydd atriwm yr adeilad hefyd ar gael os oes unrhywun eisiau cynnal sesiynau bach mwy anffurfiol. Mae sesiynau ochr yn digwydd mewn coridorau mewn BarCamps eraill felly cyn belled eich bod yn ei nodi ar y Grid i bawb wybod beth sy'n mynd mlaen, ewch amdani!
 
Hwn oedd yr amserlen ddrafft:
 
____
 
 
====Sesiynau arfaethedig====
 
===Pynciau yr hoffwn i gyflwyno amdanynt===
 
Dyma lle gallwch chi sgwennu am ba bwnc rydych chi am ei gyflwyno ar y dydd. Gall fod yn gyflwyniad syml am wefan da chi wedi bod yn gweithio arni, yn sesiwn banel, yn drafodaeth agored, yn rant, neu beth bynnag hoffwch chi.
 
 
 
===Pynciau yr hoffwn i glywed amdanynt===
 
Dwi wedi symud y drafodaeth oedd fan hyn ar syniadau am sesiynau posibl draw i dudalen drafodaeth y wici. Gallwch chi weld y syniadau ac ychwanegu atyn nhw ar [[Sgwrs:Hacio'r Iaith - Ionawr 2011]].
 
Os da chi wedi penderfynu a bwnc i siarad amdano yna rhowch o yn y rhestr uchod o sesiynau arfaethedig.
 
 
===== Pobol =====
Mae'n bwysig bod pawb sy'n bwriadu dod yn cofrestru ''o flaen llaw'' drwy sgwennu eu henw isod. Fel arall, allwn ni ddim sicrhau y bydd lle i chi ar y diwrnod (a'n bwysicach fyth, rhywbeth i chi fwyta!). <del>Ar hyn o bryd mae lle i hyd at 30 o bobol felly brysiwch i roi eich enw lawr!</del>
 
<del>''(Os mae'r rhestr yn cyrraedd 30 yna mae'n bosib y gallwn ni wasgu rhagor mewn, felly rhowch eich enw lawr beth bynnag)''</del>
 
Does dim ond lle i 40 o bobol '''ar y mwyaf''' felly os ydyw'n llenwi byddwn yn creu rhestr aros. Os bydd pobol yn tynnu allan, byddwn yn cyfnewid eich enw a'r person yna.
 
  -  Carl Morris  [http://quixoticquisling.com blog]    [http://twitter.com/carlmorris  Twitter]
 
===Methu Dod===
 
 
===Trefnwyr===
Mae lot o bobol wedi tynnu at ei gilydd i gyd-drefnu'r digwyddiad, ond os oes ganddoch chi gwestiwn penodol am yr eflennau gweinyddol neu o'r wasg ag eisiau rhywun i siarad yna gallwch chi gysylltu a Rhodri ap Dyfrig, Carl Morris neu Rhys Wynne (manylion cyswllt ar gael trwy'r dolenni uchod).
 
===Gwirfoddolwyr===
  * Ysgrifennu datganiadau i'r wasg
  * Poster --- Iestyn Lloyd?
  * Paratoi ystafelloedd (pryd?) --- ?
  * Cofrestru - mae angen dau berson i helpu gyda'r cofrestru - pwy sydd am wirfoddoli? --- ?
 
=====Rhestr tasgau=====
 
__
 
 
====Technegol====
 
===Rhaid eu cael===
  * Wifi
  * Taflunydd
  * Rhywun i dynnu lluniau
  * PA Bach gyda meics
 
===Dymunol===
    * Fideo
    * Sain
    * Cyfieithu ar y pryd?
 
 
====Gweddill====
 
    * Cinio
    * Te/Coffi
    * Gosod byrddau a chadeiriau
    * Croesawu
    * Trefnu parti gyda'r hwyr
 
=====Hyrwyddo====
 
====Tagiau ====
 
'''#haciaith''' yw tag swyddogol y digwyddiad. Defnyddwich o ym mhob cofnod blog, tweet, llun, fideo am y digwyddiad a byddwn ni'n gallu dilyn y drafodaeth.
 
''
Trafodaeth wedi ei symud i'r dudalen drafodaeth.''
 
 
====Pwy sy'n blogio?====
 
* [http://haciaith.com/2010/09/30/hacior-iaith-2/ blog Hacio'r Iaith 30fed mis Medi 2010]
 
 
====Sylw yn y Wasg====
 
 
=====Ble i aros?=====
===Gwesty/hostel===
(yn ddelfrydol gyda pherchnogion sy'n siarad Cymraeg)
  * ''awgrymwa le...''
  * ''Oes 'na le lle bydd nifer yn aros nos Wener?''
  * ''Neu, oes 'na le lle bydd pobl yn ymgynnull i fwyta/diota nos Wener? ''
 
===Cynnig llety===
(oes lle yn sied eich gardd?)
 
 
 
=====Swper Nos Wener=====
 
Mae wedi dod yn amlwg bod sawl person yn aros yn Aberystwyth ar y nos Wener. Byddai'n syniad felly i bawb drio cwrdd am swper a chwpwl o beints rhagarweiniol.
 
Dyma rai cynigion:
  * Cyri yn Shilam
  * Nwdls a Sushi yn Wasabi
  * Tapas yn Casa Miguel
  * Bwyd Groegaidd yn yr Olive Branch
  * Bwyd Thai yn Home Cafe
  * Tapas yn Ultracomida
 
Rhain i gyd yn weddol safonol, digon o le (heblaw am Casa Migs) a ddim rhy ddrud.
 
(Sdim lle Tsieineaidd call yma ac mae'r lle Eidalaidd yn rhy fach (a rhy wael, a bod yn onest)).
 
'' Syniad ardderchog - cownt mi in! Sdim ots 'da fi ble, er nad ydw i'n rhy hoff o fwyd Thai. Dewisa di gan fod ti'n gyfarwydd â nhw. (Twitter @malpate)''
 
=====Teithio=====
 
===Yn gyrru?===
 
===Angen lifft?===
 
''Rhowch y manylion yma (dyddiad + amser + lleoliad)...''
 
===Parcio===
 
Gallwch chi barcio am ddim ar ddydd Sadwrn ym maes parcio Canolfan Celfyddydau Aberystwyth. [http://aberystwythartscentre.co.uk/information/directions.shtml Dyma fap] gyda manylion y maes parcio.
 
I gyrraedd adeilad Parry-Williams o'r maes parcio cerddwch mewn i Ganolfan y Celfyddydau, heibio'r siop ar eich dde a pharhau trwy'r drws, ac allan i ochr draw yr adeilad.
 
 
 
== English translation ==
 
...

Diwygiad 01:16, 5 Rhagfyr 2010

dal yn golygu! --Carlmorris 01:38, 30 Tachwedd 2010 (UTC)


Hacio'r Iaith - Ionawr 2011

Mae Hacio'r Iaith wedi'i drefnu ar y cyd gyda SALT Cymru, Sefydliad Mercator a Phrifysgol Aberystwyth

Noddwyr: __

Manylion y digwyddiad

Beth?

Mae Hacio'r Iaith yn gynhadledd agored undydd ar y thema technoleg, gwe ac iaith.

Mae'n gyfle i bobol sy'n gwneud projectau gwe a thechnoleg yn, neu am y Gymraeg, i ddod i gyflwyno eu profiadau ac i drio dysgu oddi wrth ein gilydd mewn awyrgylch braf.

Mae'n gynhadledd agored am ei fod yn cael ei drefnu ar sail egwyddor open source. Mae hyn yn golygu bod cyfle i unrhywun ddod, am ddim, a chyflwyno am bwnc o'u dewis nhw (yn ddibynnol ar amser a lle). Mae wedi ei drefnu ar sail digwyddiadau BarCamp, sydd yn hollol wahanol i gynadleddau arferol. Mae'n anffurfiol iawn - dim ond y gofod sy'n cael ei drefnu o flaen llaw - ac mae trefn y dydd yn cael ei benderfynu gan y siaradwyr. Mae esboniad That Canadian Girl yn un da i unrhywun sydd eisiau dod a chymryd rhan.

Bydd hefyd yn cynnwys sesiynau rhaglennu lle byd cyfle i bobol sy'n gweithio gyda rhaglennu a chôd ddod at eu gilydd i greu rhywbeth - rhaglen, app, neu stwnsh fel arfer - gan ddefnyddio data sy'n bodoli eisoes. Mae'r elfen hyn o'r digwyddiad yn seiliedig ar ddigwyddiadau Open Hack Day. Bwriad hwn yw bod rhywbeth defnyddiol yn dod allan o'r digwyddiad. Dyma hanes Hack Day wnaeth papur y Guardian yn 2008.

Bydd cyswllt di-wifr cyflym ar gael am ddim i bawb sydd yn cymryd rhan er mwyn hwyluso dogfennu a thrafod yn ystod y digwyddiad.

Galli di hefyd ddarllen cofnodion ar Metastwnsh a Quixotic Quisling am esboniad pellach o beth fydd nôd a phatrwm y digwyddiad a sut ddaeth y syniad i fodolaeth.

Mae yna hefyd edefyn yn agored ar Faes-e amdano, a byddwn yn trio ychwanegu mwy o lefydd i drafod y digwyddiad yn y man. Y gobaith yw y bydd sawl person yn ystod y digwyddiad yn cofnodio cynnwys sesiynau gan eu blogio'n fyw, rhoi eu nodiadau ar y Wiki hwn, trydar gyda'r tag #haciaith, postio lluniau i Flickr, creu fideos byr i YouTube ayyb gan gofnodi'r holl ddigwyddiad.

Pryd?

Dydd Sadwrn, __ Ionawr 2011.

Amserau: __

Ble?

Adeilad Parry Williams (Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu), Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth.

Dyma'r Google Fap

Adnoddau eraill cyfagos

 * Mae caffi Canolfan Celfyddydau Aberystwyth o fewn 100 metr i'r adeilad. 
 * Mae bwyty a chaffi TaMed Da o fewn 100 metr i'r adeilad.

Gaf i helpu?

__


Noddwyr

__

Rhaglen y dydd

Fel y nodwyd uchod mae trefn arferol BarCamp yn golygu bod rhaglen y dydd yn cael ei benderfynu gan y cyflwynwyr, a hynny ar y diwrnod. Mae'n debyg y bydd hyn yn digwydd yn yr hanner awr ar ôl cofrestru a chyflwyno'r diwrnod.

Rheolau BarCamp

Er bod y digwyddiad yn anffurfiol, mae rhai rheolau sydd yn helpu i wneud pethau ddigwydd fel dylen nhw. Dyma ambell un (wedi eu addasu o fan hyn):

 * Mae croeso i unrhyw un sydd â rhywbeth i'w gyfrannu neu awydd i ddysgu i ddod i BarCamp.
 * Pan ddewch chi, byddwch yn barod i rannu gyda gwersyllwyr eraill.
 * Pan ewch chi oddi yno, byddwch yn barod i'w rannu gyda'r byd.
 * Mae'n bwysig i bawb sy'n dod i gyfrannu mewn rhyw ffordd. Un ai trwy gyflwyno, trafod, gwirfoddoli ayyb. Fydd o ddim yn gweithio os taw dim ond pobol sydd wedi dod i wrando fydd yno! Sdim rhaid rhoi darlith, jest rhannu eich brwdfrydedd dros declyn, gwefan, meddalwedd, neu bwnc. 
 * Y bobol sydd yn bresennol fydd yn dewis beth maen nhw eisiau ei weld. 
 * Os ydych chi eisiau cyflwyno rhywbeth rhaid i chi ei roi mewn slot ar y Grid.
 * Os nad ydych chi eisiau clywed rhywbeth - cerddwch allan! Ewch i weld beth sy'n mynd mlaen mewn sesiwn arall.
 * Byddwn yn cynnwys hynny o gyflwyniadau ag y gallwn ni o fewn yr amserlen. 
 * Gall cyflwyniadau/sesiynau fynd mlaen mor hir ag sydd angen, neu nes eu bod yn cyrraedd amser y slot nesaf.

Yr un peth am y rheolau hyn ydi eu bod nhw yno i'w torri hefyd os oes angen!

Trefnu'r Dydd

Byddwn yn defnyddio system Open Grid i wneud hyn. Bydd y slotiau amser rhydd yn cael eu rhoi ar fwrdd gwyn neu ddarn mawr o bapur a byddwch yn gallu nodi teitl eich sesiwn a dewis lle gwag ar y grid.

Bydd dwy brif ystafell ar gael i ni, ond bydd atriwm yr adeilad hefyd ar gael os oes unrhywun eisiau cynnal sesiynau bach mwy anffurfiol. Mae sesiynau ochr yn digwydd mewn coridorau mewn BarCamps eraill felly cyn belled eich bod yn ei nodi ar y Grid i bawb wybod beth sy'n mynd mlaen, ewch amdani!

Hwn oedd yr amserlen ddrafft:

____


Sesiynau arfaethedig

Pynciau yr hoffwn i gyflwyno amdanynt

Dyma lle gallwch chi sgwennu am ba bwnc rydych chi am ei gyflwyno ar y dydd. Gall fod yn gyflwyniad syml am wefan da chi wedi bod yn gweithio arni, yn sesiwn banel, yn drafodaeth agored, yn rant, neu beth bynnag hoffwch chi.


Pynciau yr hoffwn i glywed amdanynt

Dwi wedi symud y drafodaeth oedd fan hyn ar syniadau am sesiynau posibl draw i dudalen drafodaeth y wici. Gallwch chi weld y syniadau ac ychwanegu atyn nhw ar Sgwrs:Hacio'r Iaith - Ionawr 2011.

Os da chi wedi penderfynu a bwnc i siarad amdano yna rhowch o yn y rhestr uchod o sesiynau arfaethedig.


Pobol

Mae'n bwysig bod pawb sy'n bwriadu dod yn cofrestru o flaen llaw drwy sgwennu eu henw isod. Fel arall, allwn ni ddim sicrhau y bydd lle i chi ar y diwrnod (a'n bwysicach fyth, rhywbeth i chi fwyta!). Ar hyn o bryd mae lle i hyd at 30 o bobol felly brysiwch i roi eich enw lawr!

(Os mae'r rhestr yn cyrraedd 30 yna mae'n bosib y gallwn ni wasgu rhagor mewn, felly rhowch eich enw lawr beth bynnag)

Does dim ond lle i 40 o bobol ar y mwyaf felly os ydyw'n llenwi byddwn yn creu rhestr aros. Os bydd pobol yn tynnu allan, byddwn yn cyfnewid eich enw a'r person yna.

 -  Carl Morris   blog    Twitter

Methu Dod

Trefnwyr

Mae lot o bobol wedi tynnu at ei gilydd i gyd-drefnu'r digwyddiad, ond os oes ganddoch chi gwestiwn penodol am yr eflennau gweinyddol neu o'r wasg ag eisiau rhywun i siarad yna gallwch chi gysylltu a Rhodri ap Dyfrig, Carl Morris neu Rhys Wynne (manylion cyswllt ar gael trwy'r dolenni uchod).

Gwirfoddolwyr

 * Ysgrifennu datganiadau i'r wasg
 * Poster --- Iestyn Lloyd?
 * Paratoi ystafelloedd (pryd?) --- ?
 * Cofrestru - mae angen dau berson i helpu gyda'r cofrestru - pwy sydd am wirfoddoli? --- ?

Rhestr tasgau

__


Technegol

Rhaid eu cael

 * Wifi
 * Taflunydd
 * Rhywun i dynnu lluniau
 * PA Bach gyda meics

Dymunol

   * Fideo
   * Sain
   * Cyfieithu ar y pryd?


Gweddill

   * Cinio
   * Te/Coffi
   * Gosod byrddau a chadeiriau
   * Croesawu
   * Trefnu parti gyda'r hwyr

=Hyrwyddo

Tagiau

#haciaith yw tag swyddogol y digwyddiad. Defnyddwich o ym mhob cofnod blog, tweet, llun, fideo am y digwyddiad a byddwn ni'n gallu dilyn y drafodaeth.

Trafodaeth wedi ei symud i'r dudalen drafodaeth.


Pwy sy'n blogio?


Sylw yn y Wasg

Ble i aros?

Gwesty/hostel

(yn ddelfrydol gyda pherchnogion sy'n siarad Cymraeg)

 * awgrymwa le...
 * Oes 'na le lle bydd nifer yn aros nos Wener?
 * Neu, oes 'na le lle bydd pobl yn ymgynnull i fwyta/diota nos Wener? 

Cynnig llety

(oes lle yn sied eich gardd?)


Swper Nos Wener

Mae wedi dod yn amlwg bod sawl person yn aros yn Aberystwyth ar y nos Wener. Byddai'n syniad felly i bawb drio cwrdd am swper a chwpwl o beints rhagarweiniol.

Dyma rai cynigion:

 * Cyri yn Shilam
 * Nwdls a Sushi yn Wasabi
 * Tapas yn Casa Miguel
 * Bwyd Groegaidd yn yr Olive Branch
 * Bwyd Thai yn Home Cafe
 * Tapas yn Ultracomida

Rhain i gyd yn weddol safonol, digon o le (heblaw am Casa Migs) a ddim rhy ddrud.

(Sdim lle Tsieineaidd call yma ac mae'r lle Eidalaidd yn rhy fach (a rhy wael, a bod yn onest)).

Syniad ardderchog - cownt mi in! Sdim ots 'da fi ble, er nad ydw i'n rhy hoff o fwyd Thai. Dewisa di gan fod ti'n gyfarwydd â nhw. (Twitter @malpate)

Teithio

Yn gyrru?

Angen lifft?

Rhowch y manylion yma (dyddiad + amser + lleoliad)...

Parcio

Gallwch chi barcio am ddim ar ddydd Sadwrn ym maes parcio Canolfan Celfyddydau Aberystwyth. Dyma fap gyda manylion y maes parcio.

I gyrraedd adeilad Parry-Williams o'r maes parcio cerddwch mewn i Ganolfan y Celfyddydau, heibio'r siop ar eich dde a pharhau trwy'r drws, ac allan i ochr draw yr adeilad.


English translation

...