Gweithrediadau

Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hacio'r Iaith - Ionawr 2011"

Oddi ar Hedyn

Llinell 225: Llinell 225:
# Aled Wyn [http://twitter.com/aledwg Twitter] [http://www.facebook.com/aledwyn Facebook] [http://aledwyn.tumblr.com/ Tumblr]  (diddordebau:  cynnwys Cymraeg ar-lein, y Gymraeg ar-lein yn gyffredinol)
# Aled Wyn [http://twitter.com/aledwg Twitter] [http://www.facebook.com/aledwyn Facebook] [http://aledwyn.tumblr.com/ Tumblr]  (diddordebau:  cynnwys Cymraeg ar-lein, y Gymraeg ar-lein yn gyffredinol)
# Steffan Harries [http://lanyrd.com/people/bendihossan/ Lanyrd]
# Steffan Harries [http://lanyrd.com/people/bendihossan/ Lanyrd]
#Elis Glynne [http://www.amrwd.com Gwefan] [http://www.twitter.com/amrwd/ Twitter]


====Methu Dod====
====Methu Dod====

Diwygiad 22:04, 16 Ionawr 2011

Mae Hacio'r Iaith wedi'i drefnu gan wirfoddolwyr a'r pobol sy'n mynychu ar y cyd gyda Sefydliad Mercator a Phrifysgol Aberystwyth

Er mwyn ysgrifennu ar wici Hedyn / Hacio'r Iaith rhaid i chi gofrestru yma fel aelod o'r wici. Mae hyn yn atal sbambots digywilydd rhag sarnu'r dudalen.

Peidiwch bod ofn golygu'r dudalen, ond triwch roi eich llofnod wrth unrhyw olygiad neu ychwanegiad fel ein bod yn gwybod pwy ydych chi.

If you can't read Welsh then Google Translate can give you the rough gist of this page. And it is rough.

Manylion y digwyddiad

Beth?

Hacio2011poster-web-300px.jpg

Mae Hacio'r Iaith yn gynhadledd agored undydd ar y thema technoleg, gwe ac iaith.

Cyfle i bobol sy'n gwneud projectau gwe a thechnoleg yn y Gymraeg, neu am y Gymraeg, i ddod i gyflwyno eu profiadau ac i ddysgu oddi wrth ein gilydd mewn awyrgylch braf a hamddenol.

Mae'n gynhadledd agored am ei fod yn cael ei drefnu ar sail egwyddor open source. Mae hyn yn golygu bod cyfle i unrhywun ddod, am ddim, a chyflwyno am bwnc o'u dewis nhw (yn ddibynnol ar sicrhau slot amser). Mae wedi ei drefnu ar sail digwyddiadau BarCamp, sydd yn anffurfiol iawn, lle caiff trefn y dydd yn cael ei benderfynu gan y siaradwyr. Dyma esboniad da gan flogiwr o Ganada.

Eleni rydyn ni'n hepgor y pwyslais ar hacio neu raglennu, er bod croeso i unrhywun wneud sesiwn ar hynny, ac yn ceisio cael rhagor o weithdai neu diwtorialau ymarferol. Pwrpas hyn yw rhoi cyfle i ddysgu sgil newydd eich hun tra'n rhoi o'ch sgiliau chi i eraill. Ond dyw hyn ddim yn rheol - dim ond canllaw. Mae croeso i chi gyflwyno am be bynnag da chi isio.

Bydd cyswllt di-wifr cyflym ar gael am ddim i bawb sydd yn cymryd rhan er mwyn hwyluso dogfennu a thrafod yn ystod y digwyddiad.

Y llynedd daeth dros 40 o bobol i drafod, dysgu a rhannu. Dyma rai lluniau, fideos (a mwy), recordiadau sain a blogiau er mwyn rhoi blas gwell i chi o beth i'w ddisgwyl. Peidiwch anghofio hefyd am y blog grŵp Hacio'r Iaith fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth am y digwyddiad a lle arall i drafod wrth i'r diwrnod nesau.

Pryd?

Dydd Sadwrn, 29 Ionawr 2011.

Amser: Tua 9yb i tua 7yh (mae hyn eto i'w benderfynu)

Ble?

Adeilad Parry Williams (Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu), Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth.

Dyma'r map Google

Adnoddau eraill cyfagos

Sut allwch chi helpu?

Mae llwyddiant y digwyddiad yn lwyr ddibynnol ar y bobol sy'n dod. Yn wahanol i gynhadleddau arferol y chi sy'n ffurfio'r sesiynau ac yn

Os nad ydych chi eisiau siarad neu gyflwyno, gallwch helpu drwy:

  • roi cymorth a chyngor ar yr ochr dechnegol
  • hyrwyddo'r digwyddiad trwy flogio, ffilmio, siarad amdano...mae hyn yn holl bwysig i gyrraedd at ystod eang o bobol.
  • helpu gyda rhoi sylw i'r digwyddiad yn y wasg
  • helpu ar y ddesg groeso/tywys pobol
  • cymryd rhan ar-lein os nad ydych yn gallu bod yno!


Noddwyr

  • Gallwch chi hefyd helpu trwy roi nawdd i'r digwyddiad. Er nad yw arian yn allweddol i'r llwyddiant, mae cael ychdig arian i dalu am bethau fel cinio, argraffu, crysau-t, ac efallai gyfieithu yn help mawr. Cysylltwch â Rhodri, Carl, neu Rhys os oes diddordeb ganddoch chi mewn noddi un o'r elfennau hyn.

Rhaglen y dydd

Fel y nodwyd uchod mae trefn arferol BarCamp yn golygu bod rhaglen y dydd yn cael ei benderfynu gan y cyflwynwyr, a hynny ar y diwrnod, ond yn wahanol i Hacio'r Iaith 2010 bydd rhai sesiynau yn cael eu trefnu o flaen llaw.

Bydd gweddill y sesiynauyn cael eu trefnu yn ystod slot gyntaf y diwrnod gan roi cyfle i bawb hawlio eu lle.

Rheolau BarCamp

Er bod y digwyddiad yn anffurfiol, mae rhai rheolau sydd yn helpu i wneud pethau ddigwydd fel dylen nhw. Dyma ambell un (wedi eu addasu o fan hyn):

  • Mae croeso i unrhyw un sydd â rhywbeth i'w gyfrannu neu awydd i ddysgu i ddod i BarCamp.
  • Pan ddewch chi, byddwch yn barod i rannu gyda gwersyllwyr eraill.
  • Pan ewch chi oddi yno, byddwch yn barod i'w rannu gyda'r byd.
  • Mae'n bwysig i bawb sy'n dod i gyfrannu mewn rhyw ffordd. Un ai trwy gyflwyno, trafod, gwirfoddoli ayyb. Fydd o ddim yn gweithio os taw dim ond pobol sydd wedi dod i wrando fydd yno! Sdim rhaid rhoi darlith, jest rhannu eich brwdfrydedd dros declyn, gwefan, meddalwedd, neu bwnc.
  • Y bobol sydd yn bresennol fydd yn dewis beth maen nhw eisiau ei weld.
  • Os ydych chi eisiau cyflwyno rhywbeth rhaid i chi ei roi mewn slot ar y Grid.
  • Os nad ydych chi eisiau clywed rhywbeth - cerddwch allan! Ewch i weld beth sy'n mynd mlaen mewn sesiwn arall.
  • Byddwn yn cynnwys hynny o gyflwyniadau ag y gallwn ni o fewn yr amserlen.
  • Gall cyflwyniadau/sesiynau fynd mlaen mor hir ag sydd angen, neu nes eu bod yn cyrraedd amser y slot nesaf.

Yr un peth am y rheolau hyn ydi eu bod nhw yno i'w torri hefyd os oes angen!

Trefnu'r Dydd

Byddwn yn defnyddio system Open Grid i wneud hyn. Bydd y slotiau amser rhydd yn cael eu rhoi ar fwrdd gwyn neu ddarn mawr o bapur a byddwch yn gallu nodi teitl eich sesiwn a dewis lle gwag ar y grid.

Bydd dwy brif ystafell ar gael i ni, ond bydd atriwm yr adeilad hefyd ar gael os oes unrhywun eisiau cynnal sesiynau bach mwy anffurfiol. Mae sesiynau ochr yn digwydd mewn coridorau mewn BarCamps eraill felly cyn belled eich bod yn ei nodi ar y Grid i bawb wybod beth sy'n mynd mlaen, ewch amdani!

Y tro hwn rydyn ni eisiau trio rhoi rhai sesiynau yn y rhaglen cyn y diwrnod, neu o leiaf wybod bod nifer o sesiynau'n digwydd rhagblaen. Dwi wedi dechrau drwy roi'r Haclediad byw mewn am hanner dydd.

Dyma amserlen ddrafft. Oes unrhyw sylwadau am y slotiau? Ydi'r hyd yn iawn (or ran sesiynau, neu hyd y diwrnod)? Oes angen rhagor o doriadau? Gadwch wybod isod:

Llun o amserlen Hacio'r Iaith 2010
Amser Y Stiwdio Ystafell G38 Yr Atriwm Arall
09.00-10.00 Coffi, croesawu, dechrau trefnu sesiynau
10.00-11.00 gwag gwag gwag gwag
11.00-12.00 gwag gwag gwag gwag
12.00-13.00 Haclediad (Byw)
13.00-14.00 gwag gwag gwag gwag
14.00-15.00 gwag gwag gwag gwag
15.00-16.00 gwag gwag gwag gwag
16.00-16.30 gwag gwag gwag gwag
16.30-17.30 gwag gwag gwag gwag
17.30-18.30 gwag gwag gwag gwag
18.30-19.00 Sesiwn gloi

Sesiynau Pendant

Os ydych chi'n gwybod yn bendant am sesiwn yr hoffech chi ei gynnal yna nodwch y seiswn yma.

Mae'n ddefnyddiol gwybod am rai sesiynau o flaen llaw er mwyn cynyddu diddordeb yn y digwyddiad ac er mwyn i bobol allu paratoi. Gallwch nodi amser y slot ar y dydd.

O ran ffurf y sesiynau gallwn nhw fod yn: sgwrs anffurfiol, cyflwyniad unigol, panel, ford gron, fideo, cyflwyniad byr. Does dim pwysau i lenwi awr, mae'n ddefnyddiol i glustnodi themâu ar gyfer slots a chael trafodaeth gyffredinol heb unrhyw un penodol yn arwain.

Haclediad Byw

Haclediad Byw - bydd criw yr haclediad yn recordio rhaglen, a'i ffrydio yn fyw.

Amlblatfform

Teledu amlblatfform Cymraeg - dwi eisiau cynnal panel (3-4 o bobol) ar ddyfodol teledu Cymraeg yng nghyd-destun y rhyngrwyd. --Rhodri.apdyfrig 22:54, 6 Ionawr 2011 (UTC)

Hoffwn i ddod. Dw i wedi bod yn meddwl am amlblatfform yn diweddar. --Carlmorris 22:13, 10 Ionawr 2011 (UTC)
Blogio Dwyieithog

Mae Bryn wedi nodi draw ar Lanyrd ei fod eisiau sesiwn ar flogio dwyieithog. Dwi'n ei gopio draw ar y wiki er gwybodaeth.

"Sesiwn ar y ffordd orau o flogio'n ddwyieithog, a beth yw'r manteision ac anfanteision o geisio cadw pawb yn hapus."

Sesiynau Posib

Dyma lle gallwch chi sgwennu am bwnc yr hoffech chi, efallai, siarad amdano ar y dydd. Lle i roi syniadau tentative am sesiwn neu drafodaeth.

cyflwyniad

Blogio i pawb - Sesiwn ar blogio yn y Gymraeg ac yn Saesneg - Bryn Salisbury

rhywbeth ymarferol

Hoffwn i ddysgu rhywbeth ymarferol. Addysga fi! e.e.

  • rhywbeth am fideo gwell
  • ScraperWiki, Google Refine, Fusion, ManyEyes, OpenHeatMap, Yahoo Pipes, SPARQL, Needlebase... (Hywel- hapus i wneud!)
  • dylunio (Iestyn? Sioned?)
  • rhywbeth hwyl gyda chod (Bryn?)

--Carlmorris 16:40, 4 Ionawr 2011 (UTC)

teledu

Trafodaeth am deledu a thechnoleg. (Elin HGJ fel cadeirydd?) --Carlmorris 16:40, 4 Ionawr 2011 (UTC)

ymgyrchu/gweithredu

Trafodaeth am weithredaeth/hacktivism --Carlmorris 16:40, 4 Ionawr 2011 (UTC)

Wedi ychwanegu 'ymgyrchu' at y teitl gan taw dyna yw 'activism' yn Gymraeg. --Rhodri.apdyfrig 16:49, 15 Ionawr 2011 (UTC)
Efallai trafodaeth am weithredaeth (unrhyw beth: hawliau/gwyrdd/gwleidyddiaeth/cyfiawnder cymdeithasol/ayyb). Beth yw'r amcanion: cyllideb, aelodau, dylanwad? Pa declynnau ydyn ni wedi defnyddio? Beth ydyn ni'n meddwl am safon ymgyrchu/democratiaeth yn Gymraeg ac yng Nghymru? Unrhyw gwersi o WikiLeaks? Angen WikiLeeks yng Nghymru? (Sori.) Sgwenna sylw os ti'n hoffi'r syniad. Sa' i di trefnu unrhyw beth ond bydd sgwrs yn ddiddorol. --Carlmorris 22:28, 10 Ionawr 2011 (UTC)
Android Cymraeg

Hoffwn i ddysgu sut i gyfieithu meddalwedd Google Android - sesiwn ar feddalwedd ffon fallai? --Colinnosworthy 13:48, 6 Ionawr 2011 (UTC)

Syniad da, dylen ni trefnu rhywbeth. Efallai sesiwn bach o gwmpas bwrdd. --Carlmorris 16:25, 7 Ionawr 2011 (UTC)
Byddwn i'n awyddus i'ch helpu trefnu. Byddai rhaid imi ymchwilio mwy o'r technegau cyfieithu sy'n cael eu defnyddio gan Android yn gyntaf. O'n i'n siarad â Carl amdani yn y gorfennol. --Christopher Swift
Gwych Chris, DM fi ar twitter i drafod yn bellach --Colinnosworthy 14:18, 12 Ionawr 2011 (UTC)
Ffotograffiaeth/Celf Ddigidol

Oes rhywun eisiau trafod technoleg, neu falle gwneud gweithdy ymarferol ar ffotograffiaeth ddigidol?

Byddai'n gret falle cael sgwrs am gelf digidol hefyd. --Rhodri.apdyfrig 16:49, 15 Ionawr 2011 (UTC)

Theatr a thechnoleg

Gan ein bod yn yr adran theatr, ffilm a theledu...--Rhodri.apdyfrig 15:24, 16 Ionawr 2011 (UTC)

Cerddoriaeth a thechnoleg

Be am sgwrs am ddosbarthu ar-lein yn y Gymraeg? Byddai'n dda clywed profiadau rhyddhau albyms Mr Huw, Y Gwrachod, ac eraill sydd wedi ceisio gwerthu/rhoi cerddoriaeth am ddim ar-lein. --Rhodri.apdyfrig 15:24, 16 Ionawr 2011 (UTC)

Cofrestru

Mae'n bwysig bod pawb sy'n bwriadu dod yn cofrestru o flaen llaw drwy sgwennu eu henw isod. Fel arall, allwn ni ddim sicrhau y bydd lle i chi ar y diwrnod (a'n bwysicach fyth, rhywbeth i chi fwyta!).

Mae lle i dros 50 o bobol ond os bydd mwy yn cofrestru isod yna bydd angen i ni edrych eto ar y trefniadau ystafell. Bydd yn ddigon hawdd addasu os bydd mwy.

Gallwch chi hefyd gorestru trwy ddefnyddio'r gwasanaethau canlynol:

Pwy Sy'n Dod?

  1. Carl Morris blog Twitter (diddordebau: cod agored, WordPress, cynnwys Cymraeg)
  2. Rhodri ap Dyfrig blog Twitter (diddordebau: fideo amlblatfform, blogio, diwylliant ar-lein, y Gymraeg ar-lein yn gyffredinol!)
  3. Sioned Edwards Gwefan Twitter
  4. Maldwyn Pate Twitter
  5. Bryn Salisbury blog Twitter
  6. Iwan Davies Twitter
  7. Hywel Jones Twitter (diddordebau: crafu data, cyflwyno data (mapio/siartio ayb), data agored)
  8. Elin Wyn Twitter
  9. Colin Nosworthy Twitter (diddordebau: cyfieithu meddalwedd ffon, gwaith PR arlein)
  10. Owain Schiavone Golwg360
  11. Telsa Gwynne gwefan iawn, fe wna i gyfrif Twitter.. cyn hir.. (diddordebau: sut mae pobl yn defnyddio'r iaith ar-lein, cod agored)
  12. Gwydion Lyn Twitter
  13. Gareth Morlais BBC Cymru Twitter
  14. Christopher Swift blog bach Twitter Sa i'n gwybod os ydw i'n gallu mynd eto, os mae insiwrans car yn iawn y bydda i'n mynd. (diddorebau: côd agored, Linux, sut mae pobl yn defnyddio'r iaith ar-lein, Android)
  15. Matthew Jones Twitter (diddordebau: Defnydd o 'Social Media' yn y theatr)
  16. Menna Machreth Twitter (diddordebau: creu cynnwys, ymgyrchu)
  17. Sara Weale gwefan Twitter
  18. David John Evans Twitter
  19. Mei Gwilym
  20. Mark Jones Twitter
  21. Rhys Llwyd gwefan Twitter Facebook Tumblr
  22. Nia Brodrick Twitter
  23. Aled Wyn Twitter Facebook Tumblr (diddordebau: cynnwys Cymraeg ar-lein, y Gymraeg ar-lein yn gyffredinol)
  24. Steffan Harries Lanyrd
  25. Elis Glynne Gwefan Twitter

Methu Dod

Os nad ydych yn gallu dod, tynnwch eich enw o'r rhestr mynychwyr a rhowch eich enw yma fel ein bod yn gwybod.

Anwen Roberts S4C Facebook Twitter Twitter

Trefnwyr

Mae lot o bobol wedi tynnu at ei gilydd i gyd-drefnu'r digwyddiad, ond os oes ganddoch chi gwestiwn penodol am yr elfennau gweinyddol neu o'r wasg ag eisiau rhywun i siarad yna gallwch chi gysylltu a Rhodri ap Dyfrig, Carl Morris neu Rhys Wynne (manylion cyswllt ar gael trwy'r dolenni uchod).

Gwirfoddolwyr

Dwi wedi creu tri poster ar gyfer Haciaith 2011 Rhydd i chi eu defnyddio Poster1.jpg Poster2.jpg Poster3.jpg

Gareth, diolch am gyfrannu'r posteri, nawr mae gyda ni pedwar. Dim problem. Braf i weld creadigrwydd yn yr iaith arlein. --Carlmorris 21:56, 10 Ionawr 2011 (UTC)

  • Paratoi ystafelloedd (pryd?) --- ?
  • Cofrestru - mae angen dau berson i helpu gyda'r cofrestru - pwy sydd am wirfoddoli? --- ?
  • Rhys Llwyd yn cynnig bod yng ngofal ffrydio'r digwyddiad yn fyw ar y we os nad ydy Gwion Llwyd yn gallu dod eleni.

Mae Aneurin Brown o Goleg y Drindod Dewi Sant wedi cynnig helpu gyda'r ffilmio ar y dydd

Mae Rhys Jenkins hefyd o Goleg y Drindod Dewi Sant wedi cynnig helpu ar y dydd hefyd.

Rhestr tasgau

__


Technegol

Angenrheidiol

  • Wifi (dim problem gyda hyn - roedd y cyswllt di-wifr llynedd yn gret. --Rhodri.apdyfrig 23:33, 3 Ionawr 2011 (UTC))
  • Taflunydd (dim problem gyda hyn - gallwn fenthyg offer yr adran --Rhodri.apdyfrig 23:33, 3 Ionawr 2011 (UTC)
    • Mae technegydd yr adran wedi cynnig i ni ddefnyddio rhai o pico projectors Samsung yr adran. Handi ar gyfer sesiynau bach anffurfiol efallai?
  • Ffotograffydd
  • PA Bach gyda meics (yr adran am ddarparu hyn --Rhodri.apdyfrig 15:49, 5 Ionawr 2011 (UTC))

Dymunol

  • Fideo (dwi wedi archebu camera HD i recordio un ystafell --Rhodri.apdyfrig 15:52, 5 Ionawr 2011 (UTC))
    • Rhywun i ffilmio sesiynau cyfan? Unrhywun eisiau gwirfoddoli i reoli camera?
    • Rhywun i ffilmio eitemau byr/cyfweliadau o amgylch y digwyddiad? [Cafodd Bryn a finne hwyl go dda ar hwn llynedd - hapus i'w wneud eto - Sioned]
    • Oes angen camera fideo yn yr ail ystafell?
    • Beth am ffrydio byw?
    • Oes unrhyw wirfoddolwyr i dorri fideo o'r sesiynau ar ôl y digweyddiad?
    • Oes rhywun eisiau gwneud sting bach ar gyfer rhoi ar y fideos?
  • Sain
    • Gallwn fenthyg offer yr adran ond yn sicr byddai'n fanteisiol cael cymorth technegol i'w fonitro
  • Cyfieithu ar y pryd? - os oes rhywun yn dod sydd yn ddi-Gymraeg yna dylent nodi hyn a gallwn drio cael nawdd ar gyfer cyfieithydd

Gweddill

  • Cinio
  • Te/Coffi
  • Gosod byrddau a chadeiriau
  • Rhywbeth gyda'r hwyr?

Hyrwyddo

Tagiau

#haciaith yw tag swyddogol y digwyddiad. Defnyddwich o ym mhob cofnod blog, tweet, llun, fideo am y digwyddiad a byddwn ni'n gallu dilyn y drafodaeth.

Trafodaeth wedi ei symud i'r dudalen drafodaeth.


Pwy sy'n blogio?

Sylw yn y Wasg

Ble i aros?

Gwesty/hostel

  • Llynedd, dyma fi'n aros yn Bodalwyn. Ddim y rhataf yn Aber falle, ond G&B arbennig, brecwast hyfryd, gwraig y lle'n siarad Cymraeg a hyd yn oed top tapiau 'Oer'/'Poeth' yn y stafell molchi. --Rhyswynne 09:02, 11 Ionawr 2011 (UTC)

Cynnig llety

(oes lle yn sied eich gardd?)

Swper Nos Wener

Roedd sawl un yn aros dros nos yn Aberystwyth y llynedd felly aethon ni allan am gyri. Roedd yn ddechrau gwych i'r diwrnod canlynol. Felly pam lai gwneuyd yr un peth eto. Hacio'r Cyri.

Bydd bwrdd wedi ei archebu ym Mwyty Shilam (ger yr orsaf) am 7.30pm. Rhowch eich enw isod os ydych chi eisiau cadw lle.

  • Bryn Salisbury - Hwre! Cyri! :D
  • Rhodri ap Dyfrig - Saag Aloo a Handi Special i fi plis.
  • Iwan Davies - Cwrw dryd plis!

Teithio

Yn gyrru?

Allwch chi gynnig lifft i rywun arall o'ch ardal chi? Gadwch wybod yma.

  • Menna yn mynd o Gaernarfon i Aberystwyth Dydd Gwener, Ionawr 28ain.
  • Colin yn mynd o Gaerdydd i Aberystwyth Dydd Gwener, Ionawr 28ain.--Colinnosworthy 15:30, 12 Ionawr 2011 (UTC)

Angen lifft?

Rhowch y manylion yma (dyddiad + amser + lleoliad)...

Parcio

Gallwch chi barcio am ddim ar ddydd Sadwrn ym maes parcio Canolfan Celfyddydau Aberystwyth. Dyma fap gyda manylion y maes parcio.

I gyrraedd adeilad Parry-Williams o'r maes parcio cerddwch mewn i Ganolfan y Celfyddydau, heibio'r siop ar eich dde a pharhau trwy'r drws, ac allan i ochr draw yr adeilad.

English translation

Here's a rough machine translation of this page into English. And it is rough.