Gweithrediadau

Hacio'r Iaith - Ionawr 2010

Oddi ar Hedyn

Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:55, 25 Tachwedd 2010 gan Carlmorris (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Hacio'r Iaith - Ionawr 2010

Nodyn:Http://farm3.static.flickr.com/2764/4248218732 36f3ddb6ca m.jpg \\ [haciaith.com]

    • //Mae Hacio'r Iaith wedi'i drefnu ar y cyd gyda SALT Cymru, Sefydliad Mercator a Phrifysgol Aberystwyth//**
    • //Noddwyr eraill: Cube Interactive, SbellCheck a Native HQ//**
Manylion y digwyddiad

Beth?

Mae Hacio'r Iaith yn gynhadledd agored undydd ar y thema **technoleg, gwe ac iaith**.

Mae'n gyfle i bobol sy'n gwneud projectau gwe a thechnoleg yn, neu am y Gymraeg, i ddod i gyflwyno eu profiadau ac i drio dysgu oddi wrth ein gilydd mewn awyrgylch braf.

Mae'n **gynhadledd agored** am ei fod yn cael ei drefnu ar sail egwyddor //open source//. Mae hyn yn golygu bod cyfle i unrhywun ddod, am ddim, a chyflwyno am bwnc o'u dewis nhw (yn ddibynnol ar amser a lle). Mae wedi ei drefnu ar sail digwyddiadau [[1]], sydd yn hollol wahanol i gynadleddau arferol. Mae'n anffurfiol iawn - dim ond y gofod sy'n cael ei drefnu o flaen llaw - ac mae trefn y dydd yn cael ei benderfynu gan y siaradwyr. Mae [That Canadian Girl] yn un da i unrhywun sydd eisiau dod a chymryd rhan.

Bydd hefyd yn cynnwys **sesiynau rhaglennu** lle byd cyfle i bobol sy'n gweithio gyda rhaglennu a chôd ddod at eu gilydd i greu rhywbeth - rhaglen, //app//, neu stwnsh fel arfer - gan ddefnyddio data sy'n bodoli eisoes. Mae'r elfen hyn o'r digwyddiad yn seiliedig ar ddigwyddiadau [Hack Day]. Bwriad hwn yw bod rhywbeth defnyddiol yn dod allan o'r digwyddiad. Dyma [Hack Day wnaeth papur y Guardian yn 2008].

Bydd **cyswllt di-wifr cyflym** ar gael am ddim i bawb sydd yn cymryd rhan er mwyn hwyluso dogfennu a thrafod yn ystod y digwyddiad.

Galli di hefyd ddarllen cofnodion ar [[2]] a [Quisling] am esboniad pellach o beth fydd nôd a phatrwm y digwyddiad a sut ddaeth y syniad i fodolaeth.

Mae yna hefyd [yn agored ar Faes-e amdano], a byddwn yn trio ychwanegu mwy o lefydd i drafod y digwyddiad yn y man. Y gobaith yw y bydd sawl person yn ystod y digwyddiad yn cofnodio cynnwys sesiynau gan eu blogio'n fyw, rhoi eu nodiadau ar y Wiki hwn, trydar gyda'r tag #haciaith, postio lluniau i Flickr, creu fideos byr i YouTube ayyb gan gofnodi'r holl ddigwyddiad.

Pryd?

Dydd Sadwrn, **30 Ionawr 2010**.

Amser Cofrestru: Rhwng 9am-10am (mae'n bwysig cyrraedd mewn pryd os ydych chi eisiau cael slot dda i'ch cyflwyniad!)

Tan: Byddwn yn debygol o orffen am 7pm (ond bosib byddwn ni'n cario mlaen i drafod yn rhywle dros fwyd a mynd mlaen i gael diod yn dre)\\ Gwela i chi yn fuan, efallai Hacio'r Iaith nesaf...

Ble?

Adeilad Parry Williams (Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu), Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth.

Dyma'r [Fap]

Adnoddau eraill cyfagos

 * Mae caffi [Celfyddydau Aberystwyth] o fewn 100 metr i'r adeilad. 
 * Mae [a chaffi TaMed Da] o fewn 100 metr i'r adeilad.

Gaf i helpu?

Dyma rai pethau allech chi wneud i helpu ni i drefnu'r digwyddiad. \\

Noddwyr

\\ Er bod hwn yn ddigwyddiad sydd yn cael ei drefnu a'i redeg yn wirfoddol, mae dal angen edrych ar ôl y bobol sy'n dod gyda bwyd/diod a help gyda dylunio ayyb. Fasen ni hefyd yn hoff iawn o wneud crys-t neis i bawb sy'n gwneud yr ymdrech i ddod a chyfrannu.

Hyd yn hyn da ni wedi cael sawl cyfraniad tuag at rai o'r costau/neu helpu gyda darparu adnoddau.

Dyma'r rhai presennol - diolch yn fawr am helpu gyda chynnal y digwyddiad! Da chi'n legends.

 * [Interactive]
 * [Cymru]
 * [Mercator ar gyfer Cyfryngau, Ieithoedd a Diwylliant] / [Aberystwyth]
 * [[3]]
 * [[4]]

Os oes ganddoch chi syniadau am noddwyr pellach yna cysylltwch â ni!

\\

Rhaglen y dydd

Fel y nodwyd uchod mae trefn arferol BarCamp yn golygu bod rhaglen y dydd yn cael ei benderfynu gan y cyflwynwyr, a hynny ar y diwrnod. Mae'n debyg y bydd hyn yn digwydd yn yr hanner awr ar ôl cofrestru a chyflwyno'r diwrnod.

Rheolau BarCamp

Er bod y digwyddiad yn anffurfiol, mae rhai rheolau sydd yn helpu i wneud pethau ddigwydd fel dylen nhw. Dyma ambell un (wedi eu addasu o [hyn]):

 * Mae croeso i unrhyw un sydd â rhywbeth i'w gyfrannu neu awydd i ddysgu i ddod i BarCamp.
 * Pan ddewch chi, byddwch yn barod i rannu gyda gwersyllwyr eraill.
 * Pan ewch chi oddi yno, byddwch yn barod i'w rannu gyda'r byd.
 * Mae'n bwysig i bawb sy'n dod i gyfrannu mewn rhyw ffordd. Un ai trwy gyflwyno, trafod, gwirfoddoli ayyb. Fydd o ddim yn gweithio os taw dim ond pobol sydd wedi dod i wrando fydd yno! Sdim rhaid rhoi darlith, jest rhannu eich brwdfrydedd dros declyn, gwefan, meddalwedd, neu bwnc. 
 * Y bobol sydd yn bresennol fydd yn dewis beth maen nhw eisiau ei weld. 
 * Os ydych chi eisiau cyflwyno rhywbeth rhaid i chi ei roi mewn slot ar y Grid.
 * Os nad ydych chi eisiau clywed rhywbeth - cerddwch allan! Ewch i weld beth sy'n mynd mlaen mewn sesiwn arall.
 * Byddwn yn cynnwys hynny o gyflwyniadau ag y gallwn ni o fewn yr amserlen. 
 * Gall cyflwyniadau/sesiynau fynd mlaen mor hir ag sydd angen, neu nes eu bod yn cyrraedd amser y slot nesaf.

Yr un peth am y rheolau hyn ydi eu bod nhw yno i'w torri hefyd os oes angen!

Trefnu'r Dydd

Byddwn yn defnyddio system //[Grid]// i wneud hyn. Bydd y slotiau amser rhydd yn cael eu rhoi ar fwrdd gwyn neu ddarn mawr o bapur a byddwch yn gallu nodi teitl eich sesiwn a dewis lle gwag ar y grid.

Bydd dwy brif ystafell ar gael i ni, ond bydd atriwm yr adeilad hefyd ar gael os oes unrhywun eisiau cynnal sesiynau bach mwy anffurfiol. Mae sesiynau ochr yn digwydd mewn coridorau mewn BarCamps eraill felly cyn belled eich bod yn ei nodi ar y Grid i bawb wybod beth sy'n mynd mlaen, ewch amdani!

Hwn oedd yr amserlen ddrafft:

^ Amser ^ Ystafell 1 ^ Ystafell 2 ^ Atriwm ^ | 0900-1000 | ||Coffi, Croesawu, Esbonio Trefn y dydd| | 1000-1030 | N/A | Sut i gysylltu a'r rhwydwaith Ddi-Wifr | Dewis slotiau siaradwyr | | 1030-1130 | Sesiwn 1 | Sesiwn 2| Sgyrsiau Anffurfiol| | 1130-1200 | Gwag | Gwag | Toriad | | 1200-1300 | Sesiwn 3 | Podlediad Byw Metastwnsh | Sgyrsiau Anffurfiol | | 1300-1400 | Gwag | Gwag | Cinio + Dangos D'un Di*| | 1400-1515 | Sesiwn Stwnsho | Sesiwn 5 | Sgyrsiau Anffurfiol | | 1515-1545 | Sesiwn Stwnsho (parh.) | Gwag | Toriad | | 1545-1700 | Sesiwn Stwnsho (parh.) | Sesiwn 6 | Sgyrsiau Anffurfiol | | 1700-1730 | Sesiwn 7 | Cyflwyno Stwnsh (ystafell gyda fideo) | Sgyrsiau anffurfiol| | 1730-1900 | Gwag | Gwag | Gemau/Diod/Tiwns gan @steffancravos |

  • dangos pa wefannau / project ti'n gweithio arno.

Ar hyn o bryd bydd dau slot 30 munud ar gael i bob sesiwn. Os oes ganddoch chi sylwadau o ran ffordd well o'i drefnu yna plis [yma]. Bosib gallwn ni ffitio 3 cyflwyniad yn Sesiynau 5 a 6 er mwyn gwasgu mwy mewn. Mae hyn yn golygu bydd lle i tua 13 o gyflwyniadau yn Stafelloedd 1 a 2.

Croeso i bobol gyflwyno yn ystod amser cinio hefyd os ma'n nhw isio!

Os mae pob slot yn llenwi'n syth, yna gallwn ni gynnal cyflwyniadau yn yr Atriwm hefyd. Wnawn ni drio cael offer taflunio yno hefyd os yn bosib.

Hwn oedd yr amserlen fel digwyddodd pethau. Byddwn yn ychwanegu dolenni + ffeiliau sain fel byddwn ni'n llwytho nhw fyny i'r we.

^ Amser ^ Ystafell 1 ^ Ystafell 2 ^ Atriwm ^ | 0900-1000 | ||Coffi, Croesawu, Esbonio Trefn y dydd| | 1000-1030 | Dim sesiwn | Dim sesiwn | Dewis slotiau siaradwyr a sgwrsio | | 1030-1130 | ["Trafodaeth am Golwg360"] gyda Owain Schiavone | ["Profiad SaySomethingInWelsh"] \\ gyda Aran Jones \\ \\ ["Cynhyrchu'r App iPhone 'Learn Welsh'"] \\ gyda Neil Taylor | Sgyrsiau Anffurfiol | | 1130-1200 | Gwag | Sesiynau 'how to' un-i-un, anffurfiol | Toriad | | 1200-1300 | ["Lansiad gwefan newydd Meddal.com"] \\ gyda Rhoslyn Prys a Gruffydd Prys \\ \\ ["Cyflwyniad o wefan Llennatur.com"] \\ gyda Duncan Brown a Twm Elias | [Byw Metastwnsh] \\ gyda Sioned Edwards, Iestyn Lloyd, \\ Rhys Llwyd a Bryn Salisbury | Sgyrsiau Anffurfiol | | 1300-1400 | Dim sesiwn | Dim sesiwn | Cinio + Dangos D'un Di*| | 1400-1515 | Sesiwn Stwnsho \\ \\ "FyWordPressCyntaf.com" gyda Carl Morris | ["SeibrCofis" gyda John Fraser Williams] \\ \\ ["Mapio Data Ysgolion Cymraeg"] \\ gyda Hywel Jones, Bwrdd Yr Iaith Gymraeg \\ ([sleidiau]) | Sgyrsiau Anffurfiol | | 1515-1545 | (parh.) | Gwag | Toriad | | 1545-1700 | Sesiwn Stwnsho \\ Sgwrs fer am gynhyrchu Fideos 'how to' Cymraeg | ["Lleoleiddio a Rhyngwladoleiddio"] \\ gyda Iwan Standley a Rhys Wynne \\ \\ ["Digido Treftadaeth a Gwe 2.0"] \\ gyda Dafydd Tudur | Sgyrsiau Anffurfiol | | 1700-1730 | Dim sesiwn | ["Lleoleiddio Civilisation IV"] \\ gyda Gruffydd Prys | Sgyrsiau anffurfiol|

Nodyn:Http://farm5.static.flickr.com/4035/4329032258 1f145c5270 m.jpg \\ [[5]]

Sesiynau arfaethedig

Pynciau yr hoffwn i gyflwyno amdanynt

Dyma lle gallwch chi sgwennu am ba bwnc rydych chi am ei gyflwyno ar y dydd. Gall fod yn gyflwyniad syml am wefan da chi wedi bod yn gweithio arni, yn sesiwn banel, yn drafodaeth agored, yn rant, neu beth bynnag hoffwch chi.

 * Dwi wrthi'n cwblhau gwaith ymchwil ar hanes cynnar iawn y Rhyngrwyd Gymraeg ar hyn o bryd (h.y. cyn canol y 1990au, cyn i'r We ddod yn boblogaidd). Ar ôl hynny fe fydda i'n symud mlaen i edrych ar ddefnydd y Gymraeg ar Twitter. Fe fyddwn i'n fodlon cyflwyno ar y naill neu'r llall (falle taw work-in-progress fydd hi o ran yr ymchwil Twitter erbyn mis Ionawr...)  --- // Rhys Jones 23/10/2009 07:55//
   * Byddai hynna'n cŵl, meddyliais byddai rhywbeth fel hyn yn addas wedi darllen cofnod am [ar Daflog]. Rhoddias gyflwyniad //State of the Blogosphere//-aidd yn [2007] ac mae [Honeycutt] a [Johnson] ill daw wedi gwneud ymchwil i'r ddefnydd o'r Gymraeg ar flogiau ac ar Twitter. --- // Rhys Wynne 27/10/2009 21:55//
 * Dwi ddim yn gweithio iddyn nhw mwyach, ond a oes gwerth gwahodd pobl [Cymru] i lawr o Fangor i wneud sesiwn? Dwi'n weddol siŵr eu bod nhw am drefnu gweithdy rywbryd beth bynnag. Rhywbeth ar y Semantic Web falle? --- // Rhys Jones 23/10/2009 07:55//
   * Pam lai, gorau po fwyaf. --- // Rhys Wynne 27/10/2009 21:55//
     * Wedi eu holi ac maen nhw efo diddordeb ac am ddod nôl ata i'n fuan.  --- // Rhodri ap Dyfrig 16/11/2009 21:32//
 * Dwi ar ganol gwneud gwaith ymchwil ar YouTube yn y Gymraeg gyda [Cunliffe]. Efallai wna i siarad am hwnna, ond dwi ddim yn siwr os byddwn ni wedi gorffen erbyn hynny. Ella galla i wneud work in progress... --- // Rhodri ap Dyfrig 16/11/2009 21:32//
 * Mae angen i rywun o griw [[6]] siarad am y blog! Os nad oes unrhywun arall eisiau gwneud yna fe wna i 20 munud arno. Byddai'n dda cael Gareth ond dio'm yn gallu dod. Ella sôniai rywfaint am flogio Cymraeg yn ehangach hefyd. Mae'n teimlo i fi fel bod adfywiad bach ar hyn o bryd.  --- // Rhodri ap Dyfrig 16/11/2009 21:32//
   * Rhodri, mae'n bosib i wneud sgwrs fel dau person, os chi eisiau... --- // Carl Morris 26/11/2009 00:52//
 * Bydd criw Metastwnsh yn gwneud podlediad byw (//live in front of a studio audience!//). I'w ddarlledu ar [[7]] gobeithio.
 * Os oes diddordeb, dwi'n hapus i wneud pwt o gyflwyniad ynglŷn a Golwg 360 ac arwain trafodaeth bellach / sesiwn syniadau - // Owain Schiavone 19/01/2010 12:12//
 * Hapus i arwain trafodaeth i weld beth yn fwy y gellid ei wneud er mwyn hybu defnydd o'r dechnoleg sydd eisoes ar gael yn Gymraeg, a hefyd am rannu cofion cyfieithu/Google Translator Toolkit a Google Translate [Jeremy Evas]
 * Rwy'n arbrofi defnyddio Google Earth i ddangos lleoliad ysgolion ar ben mapiau ystadegol thematig. Gobeithio y bydd rhai ffeiliau, efallai rhai kmz, ar wefan Bwrdd yr Iaith ymlaen llaw. Byddwn yn hapus i drafod sut y gellid datblygu'r peth ymhellach.  --- // Hywel Jones 26/01/2010 23:44//

\\ Pwy arall o'r bobol isod sydd wedi nodi eu bod yn dod all roi cyflwyniad byr ar rywbeth maen nhw efo diddordeb ynddo? Mae BarCamps fel arfer yn rhedeg ar y sail bod gan bawb sy'n dod rywbeth i'w gyfrannu, er nad oes gorfodaeth yn yr achos hwn, hoffen ni i bawb rannu rhywbeth.

A sdim rhaid iddo fod am wefannau Cymraeg. Byddai'n dda clywed rhywun yn sôn am bethau ehangach y we yn y Gymraeg hefyd. Dewch 'laen, peidiwch bod yn swil!


\\

Pynciau yr hoffwn i glywed amdanynt

Dwi wedi symud y drafodaeth oedd fan hyn ar syniadau am sesiynau posibl draw i dudalen drafodaeth y wici. Gallwch chi weld y syniadau ac ychwanegu atyn nhw ar [dudalen drafodaeth].

Os da chi wedi penderfynu a bwnc i siarad amdano yna rhowch o yn y rhestr uchod o sesiynau arfaethedig.

\\

Sesiwn Stwnsho / Hacio

Ewch i'r tudalen Sesiwn Stwnsho a Hacio \\ \\

Pobol

Mae'n bwysig bod pawb sy'n bwriadu dod yn cofrestru //o flaen llaw// drwy sgwennu eu henw isod. Fel arall, allwn ni ddim sicrhau y bydd lle i chi ar y diwrnod (a'n bwysicach fyth, rhywbeth i chi fwyta!). Ar hyn o bryd mae lle i hyd at 30 o bobol felly brysiwch i roi eich enw lawr!

//(Os mae'r rhestr yn cyrraedd 30 yna mae'n bosib y gallwn ni wasgu rhagor mewn, felly rhowch eich enw lawr beth bynnag)//

Does dim ond lle i 40 o bobol **ar y mwyaf** felly os ydyw'n llenwi byddwn yn creu rhestr aros. Os bydd pobol yn tynnu allan, byddwn yn cyfnewid eich enw a'r person yna.

 -  Carl Morris | [blog] |  [Twitter] | dw i'n licio blogs/wicis/côd agor
 -   Rhys Wynne | [blog] |  [Twitter] | blogio, ymgyrchu/hysbysebu ar-lein, lleoleiddio
 -   Rhodri ap Dyfrig | [blog] |  [Twitter] | blogio, ffyrdd newydd o ddefnyddio'r Gymraeg ar-lein, fideo ar-lein
 -   Aled Wyn  |  [| blog] |  Y we, technoleg a'r iaith Gymraeg, cymunedau "ar-lein".
 -   Maldwyn Pate | [Twitter] deunyddiau dysgu Cymraeg digidol ar gyfer teclynnau personol
 -   Bryn Salisbury | [Twitter] | [Blog] | blogio, technoleg a'r we Gymraeg
 -   Sioned Edwards | [Twitter] |  Technoleg, Teclynnau, Hwyl, Y We Gymreig a'r We Fawr
 -   Iwan Owen Davies | [Twitter] 
 -   Gruff Prys | [Twitter] | Technolegau Iaith a dyfeisiau difyr |
 -   Iestyn Lloyd | [| Twitter] | Dylunio graffeg a gwefannau
 -   Gareth Morlais | [| blog] | [| Twitter] | straeon digidol, mash-ups, syndiceiddio
 -   Rhoslyn Prys | [[8]]
 -   Alan Davies (gobeithio) | [| wetwork] {diolch Rhys - cael neges gan Hedd - hoffwn ddod}
 -   Owain Schiavone | [[9]]
 -   Sara Weale | [| Llyfrgell Genedlaethol Cymru]
 -   Aran Jones | [SaySomethinginWelsh.com] | [| Twitter ar gyfer y cwrs]
 -   Iwan Standley | [Cymru] | [[10]]
 -   Erddin Llwyd | [| Rownd a Rownd]
 -   Jeremy Evas | [| Bwrdd yr Iaith Gymraeg]
 -   Hywel Jones | [|Bwrdd yr Iaith Gymraeg] |[Twitter]
 -   Eleri James| [| Bwrdd yr Iaith Gymraeg]
 -   Kevin Egan | [| Bwrdd yr Iaith Gymraeg]
 -   Duncan Brown **+ 1** | [llennatur.com]
 -   + 1 (Duncan Brown) | [llennatur.com]
 -   John Fraser Williams | seibercofis - pontio'r bwlch digidol yn Arfon - ail-gylchu a thrwsio hen gyfarpar TG (gydag Ubuntu) seibercofis@btinternet.com
 -   Owain Hughes|  [Twitter]| Grŵp BT, safoni'r Gymraeg ar y we, y Gymraeg a TG yn gyffredinol
 -   Elin Haf Gruffydd Jones | [Mercator ar gyfer Ieithoedd, Cyfryngau a Diwylliant]|[Aberystwyth]
 -   Gwion Llwyd | [[11]] | [y Rhyfeddod]
 -   Rhys Llwyd | [[12]] | [[13]] |
 -   Rhys Williams | [Cymru] | [[14]]
 -   Pete Telfer | [Colony Y Wladfa Newydd] | [Foundry]
 - Dewi Bryn Jones | Technolegau iaith.
 - Emyr Thomas | [[15]] | Gweddatblygwr gyda diddordeb mawr mewn côd agored, yn enwedig [rheoli cynnwys] [[16]]
 - Dafydd Tudur | [|Twitter]
 - Steffan Cravos | [Amgen]
 - Kate Woodward | [y Ffram] | [Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth]
 - Delyth Prys
 - Cynog - Prifysgol Bangor
 - Sara Penrhyn Jones
 - Neil Taylor | [Gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth]

Da ni wedi cael gwybod bod lle i ychydig mwy felly rhowch eich enwau lawr cyn gynted â bo modd!

Methu Dod

 * Daniel Cunliffe | [blog] | [Morgannwg] | Dysgwr! Tro nesaf gobeithio!
 * Martin Owen | [Twitter] [| Inventorium/Defeisfa ] |  Dyfeisio pethau digidol, datblygu'r economi lleol digidol -ddrwg gennym raid i mi fynd i Barcelona|
 * Suw Charman-Anderson | [| Twitter] [| Clwb Malu Cachu ] | Bydda i'n dod, os dw i ddim yn Praha!! Dw i ddim yn gallu dod, yn anffoddus. :( 
 * Nic Dafis | [blog] | [| Twitter] | normaleiddio'r Gymraeg ar-lein, dysgwyr a'r we - sori am y byr rybudd, dim ond nawr dw i'n sylwi bod chi'n brin o le. Gobeithio y bydd rhywun arall yn gallu dod.
 *  Gary Pritchard | [| Sgorio] | [| Twitter] | [| Tumblr] - damia! Mae gemau Cwpan Cymru yn drech na fi a dwi'n gorfod methu'r gynhadledd er mwyn gweithio ar raglen Sgorio Cymru nos Sadwrn yn anffodus - ymddiheuriadau lu a gobeithio'n wir y byddai'n gallu dod i Hacio'r Iaith 2.0     
 * Telsa Gwynne | (argh, bydd rhaid ail-ddechrau'r blog..) | (a chofrestru ar Twitter..) | lleoleiddio meddalwedd côd agored - o ble daeth yr holl eira? bah! 
 *  Rhys Jones | [Twitter] | lleoleiddio meddalwedd côd agored, defnydd y Gymraeg ar-lein o safbwynt hanesyddol, y Gymraeg ar safleoedd 'mainstream' e.e. Facebook/Flickr/Twitter - yr eira a'r ia annisgwyl yn drech na fi, y car, a loriau gritio Sir Gaerfyrddin. Ymddiheuriadau - tro nesaf gobeithio.
 *  Hedd Gwynfor | [Maes-e] | [| Twitter]
 * Ifor ap Dafydd | [| Archif Llenyddiaeth Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru]
 *  Sylvia Prys Jones

\\

Trefnwyr

Mae lot o bobol wedi tynnu at ei gilydd i gyd-drefnu'r digwyddiad, ond os oes ganddoch chi gwestiwn penodol am yr eflennau gweinyddol neu o'r wasg ag eisiau rhywun i siarad yna gallwch chi gysylltu a Rhodri ap Dyfrig, Carl Morris neu Rhys Wynne (manylion cyswllt ar gael trwy'r dolenni uchod).

Gwirfoddolwyr

 * Ysgrifennu datganiadau i'r wasg --- // Rhys Jones//
 * Poster --- Iestyn Lloyd
 * Paratoi ystafelloedd (prynhawn Gwener 29 Ionawr) --- Rhys Llwyd + Rhodri ap Dyfrig
 * Cofrestru - mae angen dau berson i helpu gyda'r cofrestru - pwy sydd am wirfoddoli? --  --- // Rhys Wynne //

Rhestr tasgau

(croeswch i ffwrdd wedi iddo gael ei gwblhau)

Hyrwyddo

 * Datganiad(au) i'r wasg
   * [Datganiad]
 * Poster
 * Baneri (ar gyfer gwefanau)
 * Pawb sy'n dod i gytuno i flogio a tweetio amdano (ac unrhyw flogwyr Cymraeg sydd eisiau cefnogi)

\\

Technegol

Rhaid eu cael

 * Wifi
 * Taflunydd (x 2) - (RaD: Mae gen i un taflunydd)
 * Rhywun i dynnu lluniau (//RaD: Pawb!//)(Galla i dynnu/golygu lluniau/fideo - JFW)
 * PA Bach gyda meics - (Rad: galla i ddarparu un PA bach, ond dim meics)

Dymunol

   * Fideo
   * Sain (Dwi'n hapus i recordio rhai o'r sesiynau, mp3  -  Gareth Morlais)
   * Ffrydio (e.e. ar gyfer Skype)?
   * Cyfieithu ar y pryd - (Dw i'n fodlon gwneud y cyfieithu - 'sdim angen offer os oes llai na 2 angen y gwasanaeth  --- // Rhys Wynne//)  (Rwy'n hapus iawn i helpu gyda'r cyfieithu ar y pryd hefyd. Byddai modd i ni gael benthyg offer cyfieithu ar y pryd y Bwrdd pe bai angen - rhowch wybod os oes angen i mi ddod â'r offer gyda mi. - Eleri James)

\\

Gweddill

   * Cinio
   * Te/Coffi
   * Gosod byrddau a chadeiriau
   * Croesawu
   * Trefnu parti gyda'r hwyr

\\

=Hyrwyddo

Tagiau ar gyfer twitter, flickr, delicious, ma.gnolia, technorati ayyb.

      1. haciaith** yw tag swyddogol y digwyddiad. Defnyddwich o ym mhob cofnod blog, tweet, llun, fideo am y digwyddiad a byddwn ni'n gallu dilyn y drafodaeth.

// Trafodaeth wedi ei symud i'r dudalen drafodaeth.// \\

Pwy sy'n blogio?

  * 10.1.10 [Dan Fysiau "Digwyddiad 'Hacio'r Iaith' llai nai thair wythnos i ffwrdd"]
  * 22.1.10 [gan Metastwnsh ar Hacio'r Iaith]

\\

Sylw yn y Wasg

 * 25.1.10 Daily Post - "[internet experts to meet]"
 * 25.1.10 WalesHome - "[sharing – how killing the culture of trade secrets could benefit Wales]
 * 27.1.10 Bloc : Technoleg Creadigol Cymru - "[Iaith]"
 * 30.1.10 BBC Newyddion "Lle amlwg i'r iaith ar y we?"

\\

Ble i aros?

Gwesty/hostel

(yn ddelfrydol gyda pherchnogion sy'n siarad Cymraeg)\\

 * //awgrymwa le...//
 * //Oes 'na le lle bydd nifer yn aros nos Wener?//
 * //Neu, oes 'na le lle bydd pobl yn ymgynnull i fwyta/diota nos Wener? //

Cynnig llety

(oes lle yn sied eich gardd?)

\\ \\

Swper Nos Wener

Mae wedi dod yn amlwg bod sawl person yn aros yn Aberystwyth ar y nos Wener. Byddai'n syniad felly i bawb drio cwrdd am swper a chwpwl o beints rhagarweiniol.

Dyma rai cynigion:

 * Cyri yn Shilam
 * Nwdls a Sushi yn Wasabi
 * Tapas yn Casa Miguel
 * Bwyd Groegaidd yn yr Olive Branch
 * Bwyd Thai yn Home Cafe
 * Tapas yn Ultracomida

Rhain i gyd yn weddol safonol, digon o le (heblaw am Casa Migs) a ddim rhy ddrud.

(Sdim lle Tsieineaidd call yma ac mae'r lle Eidalaidd yn rhy fach (a rhy wael, a bod yn onest)). \\ // Syniad ardderchog - cownt mi in! Sdim ots 'da fi ble, er nad ydw i'n rhy hoff o fwyd Thai. Dewisa di gan fod ti'n gyfarwydd â nhw. (Twitter @malpate)//

Teithio

Be am drio rhannu lifftiau gymaint ag y gallwn ni?

Rhowch eich enw lawr os da chi'n gyrru a'n gallu rhoi sedd fach i rywun. Dydi Aber ddim y lle hawsaf i gyrraedd ar drafnidaeth gyhoeddus gwaetha'r modd.

Yn gyrru?

 * Bydd y ddau ohonom ni o gwmni Rondo - Gary Pritchard ac Erddin Llwyd - yn gyrru o Sir Fôn i lawr i Aber ac yn ôl os oes unrhyw un angen lifft. Dim syniad o ran amser eto, ond rhowch floedd os ydych chi angen pass.
 * Dwi'n gyrru o Gaerdydd i Aber ar bnawn Gwener ac yn ol ar nos Sadwrn -  Gareth Morlais
 * Dw i'n gyrru o Gaerdydd i Aber ar bnawn Gwener (gadael 3pm ish) ac yn dod yn ôl bore dydd Sul -  --- // Rhys Wynne//
   * Gwela i di prynhawn Gwener, diolch!  --- // Carl Morris 22/01/2010 14:41//
 * Dw i'n gyrru o ardal Caerdydd/Pontypridd ar brynhawn Gwener (3, 4 ish) a dod nôl nos Sadwrn.  Hoffwn i gynnig lifft neu dderbyn lifft. Mal Pate Twitter: @malpate


Angen lifft?

//Rhowch y manylion yma (dyddiad + amser + lleoliad)...//

Parcio

Gallwch chi barcio am ddim ar ddydd Sadwrn ym maes parcio Canolfan Celfyddydau Aberystwyth. [fap] gyda manylion y maes parcio.

I gyrraedd adeilad Parry-Williams o'r maes parcio cerddwch mewn i Ganolfan y Celfyddydau, heibio'r siop ar eich dde a pharhau trwy'r drws, ac allan i ochr draw yr adeilad.

\\

English translation

[| Google Translate has a very rough English translation] of this page. Don't rely on it though, it's merely the gist.