Gweithrediadau

Hacio'r Iaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2013

Oddi ar Hedyn

Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:03, 31 Gorffennaf 2013 gan Leiafee (Sgwrs | cyfraniadau)

Map

Bydd map yma cyn hir...

Amserlen

Bydd sesiynau Hacio'r Iaith pob dydd ar y maes yn Ninbych eleni:

Hacio'r Iaith

Cyflwyniadau, trafodaethau, gweithdai, hwyl.

Lleoliad: pabell 'M@es' (ddim yn bell o'r fynedfa).

Pob dydd o 2YH ymlaen

Gwener 2il Awst 2013

ar agor neu ar gau?

Sadwrn 3ydd Awst 2013

ar agor neu ar gau?

Sul 4ydd Awst 2013

ar agor neu ar gau?

Llun 5ed Awst 2013

2YH Haclediad gyda Sioned, Bryn, Iestyn ac eraill
3:30YH gwag ar hyn o bryd

Mawrth 6ed Awst 2013

2YH Sut i gyhoeddi a chynnal gwefan lleol (Gareth Morlais - ac eraill, hei lwc)
3:30YH gwag ar hyn o bryd

Mercher 7fed Awst 2013

2YH ?
3:45YH Cipolwg tu ôl i Gwyddbwyll.com gydag Owen Llywelyn

Iau 8fed Awst 2013

2YH "50 fford i wella dy Gymraeg di ar-lein". Sess i ddysgwyr (a siadradwyr sy'n moyn helpu dysgwyr...?) --Leiafee (sgwrs) 20:03, 31 Gorffennaf 2013 (BST)
3YH [sesiwn bosib: 'Gêmau Cymraeg i Blant : cyfle i chwarae gemau Cymraeg ar apiau a drwy'r porwr a dweud beth yw eu hoff gêm + casglu syniadau plant be hoffen nhw weld' --> wedi ei arwain gan Lleucu a Pwyll ;) - angen i rieni ddod â ffônau / tabledi gyda nhw gyda gemau arnyn nhw'n barod i'w rhannu ag eraill]

Gwener 9fed Awst 2013

2YH Gweithdy Codio efo Mei. Map syml yn addas ar gyfer cyfrifiadur neu ddyfais symudol.

Sadwrn 10fed Awst 2013

2YH Wicipedia?

Sesiynau agored pob bore

Gyda llaw, rhwng 9YB a 2YH yn y babell 'M@es' bydd sesiynau agored i bawb fel syrjeris er mwyn iddyn nhw dysgu mwy am gyfryngau cymdeithasol, y we, aps, symudol ayyb. Mae'r fenter yn gyd-weithrediad rhwng Eisteddfod Genedlaethol a Chymunedau 2.0. Mae cyfleoedd i wirfoddoli fel rhywbeth ar wahan i Hacio'r Iaith. Mae Carl Morris yn gallu pasio unrhyw holiadau ymlaen atyn nhw.

Syniadau sesiynnau/gweithgareddau

Sut i gyhoeddi a chynnal gwefan lleol

Dylai'r teitl fod yn hunan-esboniadwy. Edrych ymlaen at y sesiwn gyda Gareth Morlais. Byddwn i'n awyddus i ddiweddaru/ymestyn canllawiau Hedyn am wefannau lleol os oes rhywun sydd eisiau helpu? --Carlmorris (sgwrs) 15:58, 29 Gorffennaf 2013 (BST)

Wicipedia Cymraeg

Roedd y bartneriaeth yn wych - yr un ydy ein hamcanion. Yn bersonnol, dw i'n mwynhau trafod a chloncian efo pobol tebyg i mi. O ran Wicipedia Cymraeg, dw i'n meddwl o ddifri fod pawb wedi gwirioneddol fwynahu'r Steddfod a threfniadau gwych Rhodri / Hacio'r Iaith. Be nesa? Os ydy Steddfod Dinbych yn dal i gynnig cragen y babell, fe allwn ni ei llenwi! Mae na bres i'w gael (gan WikiMedia UK) i'w hysbysebu ac i'w gwneud yn ddeniadol. Ymlaen! Llywelyn2000 (sgwrs) 17:36, 18 Hydref 2012 (BST)

Codi ymwybyddiaeth o feddalwedd sydd ar gael yn Gymraeg

Yn ogystal â chael amrywiaeth o sesiynau drwy'r wythnos, credaf buasai'n dda cael rhai prif amcanion drwy'r wythnos. Fy nghynnig i yw bod ffocws ar godi ymwybyddiaeth o feddalwedd sydd ar gael yn Gymraeg a chynnig canllawiau i bobl eu lawrlwytho, gosod a defnyddio. O'm mhrofiad i, mae 'na gryn dipyn o anwybodaeth am gynifer o bethau sydd ar gael ac y gall wneud ar gyfrifiadur drwy gyfrwng y Gymraeg.

Dwi wedi ystyried creu tiwtorialau fideo yn dangos sut i osod a defnyddio gwahanol raglenni, ond wedi penderfynu byddai cofnodion testun gyda sgrinluniau yn well gan eu bod yn haws i'w diweddaru wrth i'r meddalwedd ei hun cael ei diweddaru a'i newid. Rhaid cael gwefan i roi'r fath canllawiau arno ac felly dwi'n mynd i geisio rhoi rhai ar fy mlog newydd. Efallai byddai modd crynhoi rhai i'w argraffu ar un darn o bapur fel bod modd i bobl pigo copi fyny ar y maes. Os ydym yn rhoi gwybodaeth drwy gyfweliad ar Radio Cymru dechrau'r wythnos a'n esbonio'r hyn sy'n digwydd, buasai'n bosib i ymwelwyr hefyd dod a'i chyfrifiaduron i ni fedru gosod y meddalwedd, ond dwi'n rhagweld bydd llawer ddim eisiau cario nhw na chwaith eu gadael yn y car yng nghanol cae (yn enwedig ar ôl y lladrata llynedd). W! Syniad newydd ddod ataf! Gallwn greu pecyn gydag amrywiaeth o feddalwedd Gymraeg i'w trosglwyddo ar gof USB bobl neu i roi iddyn nhw ar gryno ddisg fel bod pob dim gyda nhw - y rhaglenni a'r canllawiau.

Yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth gall yr unigolyn/ion tu gefn i meddal.com gymryd rhan ynddo. Tybed a fyddai felly yn gyfle i'r rhai sydd yn, yn ogystal â'r rhai sy'n gallu ac yn fodlon, cyfieithu gwahanol bethau i gwrdd â threfnu i gyd-weithio. Efallai gall rhai profiadol gynnig sesiwn ar gyfieithu meddalwedd i'r rhai llai profiadol. Yn ogystal â'r ambell brosiect sy'n ymddangos i fod a chriw ffyddlon yn cadw i fyny gyda'r diweddariadau (e.e. Firefox, LibreOffice, WordPress), mae 'na rhai sy'n disgyn tu ol (e.e. Thunderbird) ac eraill ddim eto'n bodoli (e.e. VLC Player).

Dwi hyd yn oed wedi meddwl am bosteri/baneri i roi. Sgrinlun o sgrin 'Croeso' Windows, er engraifft, gyda theitl syml fel "Windows: Ar gael yn Gymraeg." Un arall o Firefox, "Porwch y we yn Gymraeg". Google: "Darganfyddwch y we yn Gymraeg" --Cymrodor (sgwrs) 12:14, 4 Mawrth 2013 (UTC)


Ennyn diddordeb grwpiau eraill

O ran y sesiynau, efallai buasai'n dda i drefnu ymlaen llaw gyda rhai o'r grwpiau fydd ar y maes iddynt fynychu sesiynau o ddiddordeb iddynt, e.e. Merched y Wawr - sut i flogio, y Coleg Cymraeg - defnyddio LibreOffice i ysgrifennu traethodau (rhifo tudalennau, troednodiadau, llyfryddiaeth a chreu tudalen cynnwys yn awtomatig). Hoffwn i yn bersonol fynychu sesiwn gan rywun yn dangos holl bosibiliadau Cysgeir a Chysill (cyfle iddyn nhw hefyd clywed sylwadau gan y defnyddwyr - e.e. pam nad yw'r gair 'blog' (a nifer eraill) yn cael eu hadnabod gan Cysill 3.0, pam nad ydyw yn rhoi to bach ar yr 'a' yn 'methu a gwneud' a pham bod i mor anodd i ddefnyddio Ctrl+C a Ctrl+V gyda'r rhaglen?!)

Hyn i gyd ar ben mwy o beth cawsom lynedd - podcastio, Wicipedio, Javascriptio, ayyb. Gwerthu i'r Steddfod y syniad mai gwaith Haciaith ar y maes, yn y bôn, yw cael mwy o bobl yn defnyddio mwy o'r Gymraeg. Ar y pwynt hynny, buasai'n arbennig o dda i drefnu rhywbeth sy'n annog pobl i newid iaith Facebook/Gmail/ayyb i'r Gymraeg hefyd, yn enwedig y rhai ifanc. Beth am gysylltu â Facebook a gweld os oes bosib iddyn nhw gadw cofnod o'r rhai sy'n newid eu hiaith i'r Gymraeg yn ystod yr wythnos fel bod modd 'tynnu enillydd allan o het' am wobr?

Sori, ond dyma'r canlyniad pan dwi'n byw ym mhen draw'r byd a neb yma i mi drafod y pethau 'ma. Mae syniadau'n aros yn fy mhen yn mynd rownd a rownd nes bod nhw'n llifo allan pan dwi'n cael cyfle fel hwn! --Cymrodor (sgwrs) 12:14, 4 Mawrth 2013 (UTC)

Dysgwyr a phobl ail iaith ar y we

Dw i'n meddwl bod Leia Fee yn gyd-lynu rhywbeth o'r fath... --Carlmorris (sgwrs) 15:48, 29 Gorffennaf 2013 (BST)

Ydw - nes i "Blogio i ddysgu" llynedd. Falle rhwybeth o'r un fath eto, neu blog bach 'dydgwyr @ y 'Steddfod neu rhybeth, Bydda i'n gael sgwrs gyda cwpl o ddysgwyr arall a wedyn penderf --Leiafee (sgwrs) 16:20, 29 Gorffennaf 2013 (BST)ynnu.

Sesiwn fawr o sesiynau byrion

Yn y gorffennol rydym ni wedi cynnal sesiwn fawr o sesiynau byrion. Er enghraifft mae pobl yn cael tua 10 munud i wneud cyflwyniad bach. Does dim angen lot o baratoad. Siaradais i am Y Rhestr o flogiau ar Hedyn, cyflwynodd pobl eraill eu blogiau Cymraeg am ffeministiaeth a choginio ac roedd sgwrs am declynnau gyfieithu...

Dw i'n gallu meddwl am lwyth o bosibiliadau o dan y fformat yma. Os oes gyda thi prosiect ar-lein neu syniad am brosiect, hyd yn oed rhywbeth bach, dylet ti wneud rhywbeth!

Dw i wedi rhoi'r eitem ar yr amserlen ond mae'r amseru yn hyblyg... Hefyd rydym ni'n gallu gwneud sesiynau byrion unrhyw bryd os oes gwagle. --Carlmorris (sgwrs) 15:48, 29 Gorffennaf 2013 (BST)

Er enghraifft dw i'n bwriadu siarad am y darllenydd blogiau CommaFeed sydd ar gael yn Gymraeg bellach. --Carlmorris (sgwrs) 11:22, 30 Gorffennaf 2013 (BST)

Offer sydd angen

  • taflunydd
  • llenni “black-out”
  • 2 gliniadur? - Aled yn cynnig un, dau neu tri - amrywiaeth o ran maint, oed a safon.
  • 2 tabled?
  • di-wifr!
  • trydan
  • socedau / 4-ffordd - Aled yn cynnig dod ac o leiaf un cord/socedau estynedig
  • byrddau
  • seddau
  • byrddau dangos ar gyfer arddangosfa fach
  • cymysgydd sain ar gael gan Aled

allai unrhyw un meddwl am unrhyw offer arall sydd angen?

Gan fy mod yn yr ardal ac yn nabod pobl, gallaf cynnig dipyn dw i'n gobeithio. Dechreuaf ymholiadau pan fyddaf adref wythnos nesaf. Aled

Arddangosfa

Rydym ni wedi meddwl am decor y lle ac awgrymodd rhywun y syniad o arddangosfa fach...

  • arddangosfa - Hanes y We Gymraeg???
  • arddangosfa - meddalwedd sydd ar gael yn Gymraeg??

Cyfarfodydd

Cyfarfod 20fed Mawrth 2013 i drafod prosiectau/digwyddiadau digidol yn yr Eisteddfod 2013