Gweithrediadau

Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hacio'r Iaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2013"

Oddi ar Hedyn

B
Llinell 4: Llinell 4:

:Roedd y bartneriaeth yn wych - yr un ydy ein hamcanion. Yn bersonnol, dw i'n mwynhau trafod a chloncian efo pobol tebyg i mi. O ran Wicipedia Cymraeg, dw i'n meddwl o ddifri fod pawb wedi gwirioneddol fwynahu'r Steddfod a threfniadau gwych Rhodri / Hacio'r Iaith. Be nesa? Os ydy Steddfod Dinbych yn dal i gynnig cragen y babell, fe allwn ni ei llenwi! Mae na bres i'w gael (gan WikiMedia UK) i'w hysbysebu ac i'w gwneud yn ddeniadol. Ymlaen! [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Llywelyn2000|sgwrs]]) 17:36, 18 Hydref 2012 (BST)

Yn ogystal â chael amrywiaeth o sesiynau drwy'r wythnos, credaf buasai'n dda cael rhai prif amcanion drwy'r wythnos. Fy nghynnig i yw bod ffocws ar godi ymwybyddiaeth o feddalwedd sydd ar gael yn Gymraeg a chynnig canllawiau i bobl eu lawrlwytho, gosod a defnyddio. O'm mhrofiad i, mae 'na gryn dipyn o anwybodaeth am gynifer o bethau sydd ar gael ac y gall wneud ar gyfrifiadur drwy gyfrwng y Gymraeg.
Dwi wedi ystyried creu tiwtorialau fideo yn dangos sut i osod a defnyddio gwahanol raglenni, ond wedi penderfynu byddai cofnodion testun gyda sgrinluniau yn well gan eu bod yn haws i'w diweddaru wrth i'r meddalwedd ei hun cael ei diweddaru a'i newid. Rhaid cael gwefan i roi'r fath canllawiau arno ac felly dwi'n mynd i geisio rhoi rhai ar fy mlog newydd. Efallai byddai modd crynhoi rhai i'w argraffu ar un darn o bapur fel bod modd i bobl pigo copi fyny ar y maes. Os ydym yn rhoi gwybodaeth drwy gyfweliad ar Radio Cymru dechrau'r wythnos a'n esbonio'r hyn sy'n digwydd, buasai'n bosib i ymwelwyr hefyd dod a'i chyfrifiaduron i ni fedru gosod y meddalwedd, ond dwi'n rhagweld bydd llawer ddim eisiau cario nhw na chwaith eu gadael yn y car yng nghanol cae (yn enwedig ar ôl y lladrata llynedd). W! Syniad newydd ddod ataf! Gallwn greu pecyn gydag amrywiaeth o feddalwedd Gymraeg i'w trosglwyddo ar gof USB bobl neu i roi iddyn nhw ar gryno ddisg fel bod pob dim gyda nhw - y rhaglenni a'r canllawiau.
Yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth gall yr unigolyn/ion tu gefn i meddal.com gymryd rhan ynddo. Tybed a fyddai felly yn gyfle i'r rhai sydd yn, yn ogystal â'r rhai sy'n gallu ac yn fodlon, cyfieithu gwahanol bethau i gwrdd â threfnu i gyd-weithio. Efallai gall rhai profiadol gynnig sesiwn ar gyfieithu meddalwedd i'r rhai llai profiadol. Yn ogystal â'r ambell brosiect sy'n ymddangos i fod a chriw ffyddlon yn cadw i fyny gyda'r diweddariadau (e.e. Firefox, LibreOffice, WordPress), mae 'na rhai sy'n disgyn tu ol (e.e. Thunderbird) ac eraill ddim eto'n bodoli (e.e. VLC Player).
Dwi hyd yn oed wedi meddwl am bosteri/baneri i roi. Sgrinlun o sgrin 'Croeso' Windows, er engraifft, gyda theitl syml fel "Windows: Ar gael yn Gymraeg." Un arall o Firefox, "Porwch y we yn Gymraeg". Google: "Darganfyddwch y we yn Gymraeg"
O ran y sesiynau, efallai buasai'n dda i drefnu ymlaen llaw gyda rhai o'r grwpiau fydd ar y maes iddynt fynychu sesiynau o ddiddordeb iddynt, e.e. Merched y Wawr - sut i flogio, y Coleg Cymraeg - defnyddio LibreOffice i ysgrifennu traethodau (rhifo tudalennau, troednodiadau, llyfryddiaeth a chreu tudalen cynnwys yn awtomatig). Hoffwn i yn bersonol fynychu sesiwn gan rywun yn dangos holl bosibiliadau Cysgeir a Chysill (cyfle iddyn nhw hefyd clywed sylwadau gan y defnyddwyr - e.e. pam nad yw'r gair 'blog' (a nifer eraill) yn cael eu hadnabod gan Cysill 3.0, pam nad ydyw yn rhoi to bach ar yr 'a' yn 'methu a gwneud' a pham bod i mor anodd i ddefnyddio Ctrl+C a Ctrl+V gyda'r rhaglen?!)
Hyn i gyd ar ben mwy o beth cawsom lynedd - podcastio, Wicipedio, Javascriptio, ayyb. Gwerthu i'r Steddfod y syniad mai gwaith Haciaith ar y maes, yn y bôn, yw cael mwy o bobl yn defnyddio mwy o'r Gymraeg. Ar y pwynt hynny, buasai'n arbennig o dda i drefnu rhywbeth sy'n annog pobl i newid iaith Facebook/Gmail/ayyb i'r Gymraeg hefyd, yn enwedig y rhai ifanc. Beth am gysylltu â Facebook a gweld os oes bosib iddyn nhw gadw cofnod o'r rhai sy'n newid eu hiaith i'r Gymraeg yn ystod yr wythnos fel bod modd 'tynnu enillydd allan o het' am wobr?
Sori, ond dyma'r canlyniad pan dwi'n byw ym mhen draw'r byd a neb yma i mi drafod y pethau 'ma. Mae syniadau'n aros yn fy mhen yn mynd rownd a rownd nes bod nhw'n llifo allan pan dwi'n cael cyfle fel hwn! --[[Defnyddiwr:Cymrodor|Cymrodor]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Cymrodor|sgwrs]]) 12:14, 4 Mawrth 2013 (UTC)

Diwygiad 12:14, 4 Mawrth 2013

Roedd Gŵyl Dechnoleg Gymraeg Eisteddfod Genedlaethol 2012 yn llwyddiant. Diolch i bawb am gymryd rhan ac i'r Eisteddfod am gynnig y lle i ni.

Mae pobl yn gofyn am Hacio'r Iaith Eisteddfod Genedlaethol 2013 (Dinbych) eisoes felly dw i wedi creu tudalen ar ei chyfer. Does dim cynllun cadarn ar hyn o bryd, does dim enw hyd yn oed - ond gobeithio bydd rhagor o fanylion yma yn y misoedd nesaf. Mae croeso i ti ychwanegu unrhyw syniadau yn y cyfamser. --Carlmorris (sgwrs) 23:46, 28 Awst 2012 (BST)

Roedd y bartneriaeth yn wych - yr un ydy ein hamcanion. Yn bersonnol, dw i'n mwynhau trafod a chloncian efo pobol tebyg i mi. O ran Wicipedia Cymraeg, dw i'n meddwl o ddifri fod pawb wedi gwirioneddol fwynahu'r Steddfod a threfniadau gwych Rhodri / Hacio'r Iaith. Be nesa? Os ydy Steddfod Dinbych yn dal i gynnig cragen y babell, fe allwn ni ei llenwi! Mae na bres i'w gael (gan WikiMedia UK) i'w hysbysebu ac i'w gwneud yn ddeniadol. Ymlaen! Llywelyn2000 (sgwrs) 17:36, 18 Hydref 2012 (BST)

Yn ogystal â chael amrywiaeth o sesiynau drwy'r wythnos, credaf buasai'n dda cael rhai prif amcanion drwy'r wythnos. Fy nghynnig i yw bod ffocws ar godi ymwybyddiaeth o feddalwedd sydd ar gael yn Gymraeg a chynnig canllawiau i bobl eu lawrlwytho, gosod a defnyddio. O'm mhrofiad i, mae 'na gryn dipyn o anwybodaeth am gynifer o bethau sydd ar gael ac y gall wneud ar gyfrifiadur drwy gyfrwng y Gymraeg.

Dwi wedi ystyried creu tiwtorialau fideo yn dangos sut i osod a defnyddio gwahanol raglenni, ond wedi penderfynu byddai cofnodion testun gyda sgrinluniau yn well gan eu bod yn haws i'w diweddaru wrth i'r meddalwedd ei hun cael ei diweddaru a'i newid. Rhaid cael gwefan i roi'r fath canllawiau arno ac felly dwi'n mynd i geisio rhoi rhai ar fy mlog newydd. Efallai byddai modd crynhoi rhai i'w argraffu ar un darn o bapur fel bod modd i bobl pigo copi fyny ar y maes. Os ydym yn rhoi gwybodaeth drwy gyfweliad ar Radio Cymru dechrau'r wythnos a'n esbonio'r hyn sy'n digwydd, buasai'n bosib i ymwelwyr hefyd dod a'i chyfrifiaduron i ni fedru gosod y meddalwedd, ond dwi'n rhagweld bydd llawer ddim eisiau cario nhw na chwaith eu gadael yn y car yng nghanol cae (yn enwedig ar ôl y lladrata llynedd). W! Syniad newydd ddod ataf! Gallwn greu pecyn gydag amrywiaeth o feddalwedd Gymraeg i'w trosglwyddo ar gof USB bobl neu i roi iddyn nhw ar gryno ddisg fel bod pob dim gyda nhw - y rhaglenni a'r canllawiau.

Yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth gall yr unigolyn/ion tu gefn i meddal.com gymryd rhan ynddo. Tybed a fyddai felly yn gyfle i'r rhai sydd yn, yn ogystal â'r rhai sy'n gallu ac yn fodlon, cyfieithu gwahanol bethau i gwrdd â threfnu i gyd-weithio. Efallai gall rhai profiadol gynnig sesiwn ar gyfieithu meddalwedd i'r rhai llai profiadol. Yn ogystal â'r ambell brosiect sy'n ymddangos i fod a chriw ffyddlon yn cadw i fyny gyda'r diweddariadau (e.e. Firefox, LibreOffice, WordPress), mae 'na rhai sy'n disgyn tu ol (e.e. Thunderbird) ac eraill ddim eto'n bodoli (e.e. VLC Player).

Dwi hyd yn oed wedi meddwl am bosteri/baneri i roi. Sgrinlun o sgrin 'Croeso' Windows, er engraifft, gyda theitl syml fel "Windows: Ar gael yn Gymraeg." Un arall o Firefox, "Porwch y we yn Gymraeg". Google: "Darganfyddwch y we yn Gymraeg"

O ran y sesiynau, efallai buasai'n dda i drefnu ymlaen llaw gyda rhai o'r grwpiau fydd ar y maes iddynt fynychu sesiynau o ddiddordeb iddynt, e.e. Merched y Wawr - sut i flogio, y Coleg Cymraeg - defnyddio LibreOffice i ysgrifennu traethodau (rhifo tudalennau, troednodiadau, llyfryddiaeth a chreu tudalen cynnwys yn awtomatig). Hoffwn i yn bersonol fynychu sesiwn gan rywun yn dangos holl bosibiliadau Cysgeir a Chysill (cyfle iddyn nhw hefyd clywed sylwadau gan y defnyddwyr - e.e. pam nad yw'r gair 'blog' (a nifer eraill) yn cael eu hadnabod gan Cysill 3.0, pam nad ydyw yn rhoi to bach ar yr 'a' yn 'methu a gwneud' a pham bod i mor anodd i ddefnyddio Ctrl+C a Ctrl+V gyda'r rhaglen?!)

Hyn i gyd ar ben mwy o beth cawsom lynedd - podcastio, Wicipedio, Javascriptio, ayyb. Gwerthu i'r Steddfod y syniad mai gwaith Haciaith ar y maes, yn y bôn, yw cael mwy o bobl yn defnyddio mwy o'r Gymraeg. Ar y pwynt hynny, buasai'n arbennig o dda i drefnu rhywbeth sy'n annog pobl i newid iaith Facebook/Gmail/ayyb i'r Gymraeg hefyd, yn enwedig y rhai ifanc. Beth am gysylltu â Facebook a gweld os oes bosib iddyn nhw gadw cofnod o'r rhai sy'n newid eu hiaith i'r Gymraeg yn ystod yr wythnos fel bod modd 'tynnu enillydd allan o het' am wobr?

Sori, ond dyma'r canlyniad pan dwi'n byw ym mhen draw'r byd a neb yma i mi drafod y pethau 'ma. Mae syniadau'n aros yn fy mhen yn mynd rownd a rownd nes bod nhw'n llifo allan pan dwi'n cael cyfle fel hwn! --Cymrodor (sgwrs) 12:14, 4 Mawrth 2013 (UTC)