Gweithrediadau

Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hacio'r Iaith 2016"

Oddi ar Hedyn

Llinell 82: Llinell 82:
*'''Chwarae gyda geiriau:''' Mae cronfa dermau [http://cymraeg.gov.wales/btc/?lang=cy BydTermCymru] ar gael i'w [http://cymraeg.gov.wales/btc/cofaucyfieithu/tcarmetashare/?lang=cy ail-ddefnyddio o dan drwydded Creative Commons ac Open Data Commons]. Dwi ddim yn siwr am yr ochr dechnegol, ond falle od bod defnyddio'r gynnwys ar gyfer gemau i ieithgwn, e.e. dyfalyu'r acronym, ne falle bod mod hidlo'r cynnwys fesu maes ar gyfer creu categori o erthyglau Wicipedia, e.e. Deddfau. --[[Defnyddiwr:Rhyswynne|Rhyswynne]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Rhyswynne|sgwrs]]) 22:10, 27 Chwefror 2016 (UTC)
*'''Chwarae gyda geiriau:''' Mae cronfa dermau [http://cymraeg.gov.wales/btc/?lang=cy BydTermCymru] ar gael i'w [http://cymraeg.gov.wales/btc/cofaucyfieithu/tcarmetashare/?lang=cy ail-ddefnyddio o dan drwydded Creative Commons ac Open Data Commons]. Dwi ddim yn siwr am yr ochr dechnegol, ond falle od bod defnyddio'r gynnwys ar gyfer gemau i ieithgwn, e.e. dyfalyu'r acronym, ne falle bod mod hidlo'r cynnwys fesu maes ar gyfer creu categori o erthyglau Wicipedia, e.e. Deddfau. --[[Defnyddiwr:Rhyswynne|Rhyswynne]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Rhyswynne|sgwrs]]) 22:10, 27 Chwefror 2016 (UTC)
*'''Adnoddau/technegau dysgu/addysgu gyda TG:''' Falle gyda ffocws ar Cymraeg i Oeodlion, neu fyd addysg yn ehangach. e.e. Memrise v Dualingo (o safbywnt dysgwyr/addysgwyr).--[[Defnyddiwr:Rhyswynne|Rhyswynne]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Rhyswynne|sgwrs]]) 22:10, 27 Chwefror 2016 (UTC)
*'''Adnoddau/technegau dysgu/addysgu gyda TG:''' Falle gyda ffocws ar Cymraeg i Oeodlion, neu fyd addysg yn ehangach. e.e. Memrise v Dualingo (o safbywnt dysgwyr/addysgwyr).--[[Defnyddiwr:Rhyswynne|Rhyswynne]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Rhyswynne|sgwrs]]) 22:10, 27 Chwefror 2016 (UTC)
**Bydda i yn y cynhadledd GŴYLIAITH gan Sgiliaith ar 10 Mawrth felly gallwn i rhoi unrhyw gwybodaeth newydd o'r byd addysg-seiledig-ar-waith oes diddordeb. [[Defnyddiwr:Leiafee|Leiafee]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Leiafee|sgwrs]])
*'''Wicipedia Cymraeg - Beth ydyw, beth ddylai fod, beth all fod?:''' Yn ddelfrydol gyda teitl mwy bachog. Ar ffurf panel?  --[[Defnyddiwr:Rhyswynne|Rhyswynne]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Rhyswynne|sgwrs]]) 22:10, 27 Chwefror 2016 (UTC)  
*'''Wicipedia Cymraeg - Beth ydyw, beth ddylai fod, beth all fod?:''' Yn ddelfrydol gyda teitl mwy bachog. Ar ffurf panel?  --[[Defnyddiwr:Rhyswynne|Rhyswynne]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Rhyswynne|sgwrs]]) 22:10, 27 Chwefror 2016 (UTC)  
*'''Hackspace (Hacle?) Abertawe:'''  Beth sy wedi bod yn digwydd yn ddiweddar a beth sy ar y gweill.  Gawllwn i wneud ond oes unrhywun arall sy'n defnyddio y lle yn mynd i Hacio'r Iaith? [[Defnyddiwr:Leiafee|Leiafee]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Leiafee|sgwrs]])
*'''Gemau Cerdyn:''' Fluxx ayb - chwarae, creu fersiwn Cymraeg (mae cardiau wag ar gael)? [[Defnyddiwr:Leiafee|Leiafee]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Leiafee|sgwrs]])
*'''Teitl syniad am sesiwn:'''  
*'''Teitl syniad am sesiwn:'''  
* ''mwy''
* ''mwy''

Diwygiad 14:39, 29 Chwefror 2016

Mwy yn fuan

Hacio-iaith-logo.jpg
Mae Hacio'r Iaith 2016 wedi'i drefnu gan wirfoddolwyr ar y cyd gyda (enw)

Beth yw Hacio'r Iaith?

Mae Hacio'r Iaith yn gynhadledd agored undydd ar y thema technoleg, y we ac iaith.

Cyfle i bobol sy'n gwneud projectau gwe a thechnoleg i ddod i gyflwyno eu profiadau ac i ddysgu oddi wrth ein gilydd mewn awyrgylch braf, hamddenol a drwy gyfrwng y Gymraeg.

Os ydych yn bwriadu mynychu Hacio'r Iaith 2016, bydd modd cofrestru ddolen yn fan hyn yn fuan.

Sut i gyfrannu at y wici Hacio'r Iaith 2016

Er mwyn ysgrifennu ar dudalen wici Hacio'r Iaith 2016 rhaid i chi gofrestru yma fel aelod o wici Hedyn.net.

Peidiwch bod ofn golygu'r dudalen, ond triwch roi eich llofnod wrth unrhyw olygiad neu ychwanegiad fel ein bod yn gwybod pwy ydych chi.

Strwythyr y digwyddiad

Mae'n gynhadledd agored am ei fod yn cael ei drefnu ar sail egwyddor open source. Mae hyn yn golygu bod cyfle i unrhywun ddod, am ddim, a chyflwyno am bwnc o'u dewis nhw (yn ddibynnol ar sicrhau slot amser). Mae wedi ei drefnu ar sail digwyddiadau BarCamp, sydd yn anffurfiol iawn, lle caiff trefn y dydd yn cael ei benderfynu gan y siaradwyr.

Mae croeso i chi gyflwyno am be bynnag da chi isio, ond mae'r pwyslais ar gyfrannu nid eistedd nol a gwrando. Chydig yn bryderus? Darllenwch hwn.

Peidiwch anghofio hefyd am y blog grŵp Hacio'r Iaith fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth am y digwyddiad a lle arall i drafod wrth i'r diwrnod nesau.

Dyddiadau

Nos Wener, 15 Ebrill 2016 Pryd o gyri (amser a lleoliad i'w gadarnhau)

Dydd Sadwrn, 16 Ebrill 2016

  • Amser: 09:00- tua 18:00 Hacio'r Iaith 2016 (prif ddigwyddiad)
  • 19:00--> y dafarn

Lleoliad

Caerdydd - union leoliad i'w gyhoeddi

Rhaglen y dydd

Fel y nodwyd uchod mae trefn arferol BarCamp yn golygu bod rhaglen y dydd yn cael ei benderfynu gan y cyflwynwyr, a hynny ar y diwrnod, ond bydd rhai sesiynau yn cael eu trefnu o flaen llaw.

Bydd gweddill y sesiynau yn cael eu trefnu yn ystod slot gyntaf y diwrnod gan roi cyfle i bawb hawlio eu lle.

Yn ogystal â'r wici yma, mae croeso i chi adael eich syniad fel sylw ar y cofnod blog Hacio'r Iaith 2016 neu eu trydar nhw gyda #haciaith.

Cyngor am wneud sesiwn

  • Mae pethau ymarferol yn hwyl.
  • Dewch i ofyn. Dewch i ddysgu. Does dim rhaid i chi arbenigo yn y pwnc o gwbl i drefnu sesiwn!
  • Os ydych chi am ddangos rhywbeth does dim rhaid i chi creu cyflwyniad PowerPoint/Google Drive. Fel arfer mae rhywbeth yn fyw gallu bod yn fwy diddorol na sioe sleidiau... Mae'n haws i'w baratoi hefyd!
  • Neges arbennig i bobl o gwmnïau mawr a sefydliadau mawr... Henffych well! Croeso cynnes i Hacio'r Iaith. Plîs meddyliwch sut ydych chi'n gallu cymryd rhan. Dw i'n siŵr bod llwyth o adnoddau, cynnwys, syniadau, prosiectau agored gyda chi. Ie, CHI! Plîs meddyliwch tu hwnt i 'cyhoeddi-menter-gorfforaethol-newydd-mewn-sesiwn'. Cynnwys a chyfranogaeth yn hytrach na chyhoeddusrwydd. Diolch am ddarllen. :-)

Sesiynau 'Pendant'

Os ydych chi'n gwybod yn bendant am sesiwn yr hoffech chi ei gynnal yna nodwch y sesiwn yma.

Mae'n ddefnyddiol gwybod am rai sesiynau o flaen llaw er mwyn cynyddu diddordeb yn y digwyddiad ac er mwyn i bobol allu paratoi.

O ran ffurf y sesiynau gallwn nhw fod yn: sgwrs anffurfiol, cyflwyniad unigol, gweithdy ymarferol, demo, panel, ford gron, fideo ayyb.

  • Syniad am sesiwn pendant 1
  • Syniad am sesiwn pendant 2
  • mwy

Sesiynau Posib

Dyma lle gallwch chi sgwennu am bwnc yr hoffech chi, efallai, siarad amdano ar y dydd. Lle i roi syniadau tentative am sesiwn neu drafodaeth.

  • Chwarae gyda geiriau: Mae cronfa dermau BydTermCymru ar gael i'w ail-ddefnyddio o dan drwydded Creative Commons ac Open Data Commons. Dwi ddim yn siwr am yr ochr dechnegol, ond falle od bod defnyddio'r gynnwys ar gyfer gemau i ieithgwn, e.e. dyfalyu'r acronym, ne falle bod mod hidlo'r cynnwys fesu maes ar gyfer creu categori o erthyglau Wicipedia, e.e. Deddfau. --Rhyswynne (sgwrs) 22:10, 27 Chwefror 2016 (UTC)
  • Adnoddau/technegau dysgu/addysgu gyda TG: Falle gyda ffocws ar Cymraeg i Oeodlion, neu fyd addysg yn ehangach. e.e. Memrise v Dualingo (o safbywnt dysgwyr/addysgwyr).--Rhyswynne (sgwrs) 22:10, 27 Chwefror 2016 (UTC)
    • Bydda i yn y cynhadledd GŴYLIAITH gan Sgiliaith ar 10 Mawrth felly gallwn i rhoi unrhyw gwybodaeth newydd o'r byd addysg-seiledig-ar-waith oes diddordeb. Leiafee (sgwrs)
  • Wicipedia Cymraeg - Beth ydyw, beth ddylai fod, beth all fod?: Yn ddelfrydol gyda teitl mwy bachog. Ar ffurf panel? --Rhyswynne (sgwrs) 22:10, 27 Chwefror 2016 (UTC)
  • Hackspace (Hacle?) Abertawe: Beth sy wedi bod yn digwydd yn ddiweddar a beth sy ar y gweill. Gawllwn i wneud ond oes unrhywun arall sy'n defnyddio y lle yn mynd i Hacio'r Iaith? Leiafee (sgwrs)
  • Gemau Cerdyn: Fluxx ayb - chwarae, creu fersiwn Cymraeg (mae cardiau wag ar gael)? Leiafee (sgwrs)
  • Teitl syniad am sesiwn:
  • mwy
Gweithdai Cyd-ddysgu
  • mwy
Gweithdai Cyd-greu
  • mwy

Trefnu'r Dydd

Byddwn yn defnyddio system Open Grid i wneud hyn. Bydd y slotiau amser rhydd yn cael eu rhoi ar fwrdd gwyn neu ddarn mawr o bapur a byddwch yn gallu nodi teitl eich sesiwn a dewis lle gwag ar y grid.

Rheol Dwy Droed
Byddai rhyw fath o ddelwedd Rheol Dwy Droed yn wych yma.

Mae mwy nag un peth yn digwydd ar yr un pryd ac mae sesiynau gwahanol yn apelio at bobl wahanol. Felly mae croeso i unrhyw un camu allan o unrhyw sesiwn cyn y diwedd. Dyma'r Rheol Dwy Droed.

Ystafelloedd
  • Neuadd X (digon mawr i X o bobl) – modd cael bwffe ar yr ochr, digon o le i gofrestru, a defnyddio’r gofod mawr i gynnal un grŵp neu pawb gyda’i gilydd.
  • Ystafell gyfarfod X (lle i tua XX o bobl rownd bwrdd cynhadledd)


Hyd Slotiau

50 munud - er mwyn rhoi 10 munud rhwng pob sesiwn er mwyn ail-ymgynnull, ail-drefnu sesiynau a dewis ystafelloedd.

Yr Amserlen Wag

Dyma'r esiampl o amserlen wag ar gyfer y diwrnod, gall amserodd y slotiau a niferoedd yr ystafelloedd newid.


Amser A B C Ch
09.00-9.30 Coffi, cofrestru, dechrau trefnu sesiynau
09.30-10.20 Sesiwn 1(a) Sesiwn 1(b) Sesiwn 1(c) Sesiwn 1(ch)
10.30-11.20 Sesiwn 2(a) Dangos a Dweud (I) Sesiwn 2(b) Sesiwn 2(c) Sesiwn 2(ch)
11.30-12.15 Yr Haclediad
12.15-13.00 Cinio
13.00-13.50 Sesiwn 3(a) Sesiwn 3(b) Sesiwn (Cyd-)Ariannu Prosiectau Sesiwn 3(c) Sesiwn 3(ch)
14.00-14.50 Sesiwn 4(a) Dangos a Dweud (II) Sesiwn 4(b) Sesiwn 4(c) Sesiwn 4(ch)
15.00-15.30 Toriad
15.30-16.20 Sesiwn 5(a) Sesiwn 5(b) Sesiwn 5(c) GIMP my Taid: gweithdy addasu delweddau Sesiwn 5(ch)
16.30-17.20 Sesiwn 6(a) Sesiwn 6(b) Sesiwn 6(c) Sesiwn 6(ch)
17.30-18.30 Sesiwn gloi

Cofrestru

Mae'n bwysig bod pawb sy'n bwriadu dod yn cofrestru o flaen llaw. Fel arall, allwn ni ddim sicrhau y bydd lle i chi ar y diwrnod (a'n bwysicach fyth, rhywbeth i chi fwyta!).

manylion i ddilyn

Mae lle i nifer cyfyngedig o bobol ond os bydd mwy yn cofrestru isod yna bydd angen i ni edrych eto ar y trefniadau ystafell. Bydd yn ddigon hawdd addasu os bydd mwy.

Bydd angen i bawb trefnu eu llety eu hunain.

Cinio ganol dydd Sadwrn

manylion i ddilyn

Trefnwyr

Mae lot o bobol wedi tynnu at ei gilydd i gyd-drefnu'r digwyddiad, ond os oes ganddoch chi gwestiwn penodol am yr elfennau gweinyddol neu o'r wasg ag eisiau rhywun i siarad yna gallwch chi gysylltu a Carl Morris neu Rhys Wynne.

Swper Nos Wener

Mae'n draddodiad erbyn hyn bod mynychwyr sydd eisoes wedi cyrraedd y dref neu ddinas lle cynhelir Hacio'r Iaith yn cwrdd am gyri y nos Wener gynt. Byddwn yn cyhoeddi enw'r bwyty (efallai hoffech amgrymu un) yma, ac yn gofyn i bobl nodi eu bod am ddod fel y gallwn archebu bwrdd/byrddau digonol.

Teithio a Llety

Llety

Mae angen archebu llety ar wahan i'ch tocyn ar gyfer y digwyddiad.

= Llefydd i aros yng Nghaerdydd

Teithio

Cyn y digwyddiad
Wedi'r digwyddiad

Parcio

Sut allwch chi helpu?

manylion yn fuan

Gwirfoddoli

Mae llwyddiant y digwyddiad yn lwyr ddibynnol ar y bobol sy'n dod. Yn wahanol i gynhadleddau arferol y chi sy'n ffurfio'r sesiynau ac yn llywio'r diwrnod. Mae disgwyl i bawb sy'n dod i wneud rhyw fath o gyfraniad tuag at lwyddiant y digwyddiad, nid jest ista nôl a gwrando.

Os nad ydych chi eisiau siarad neu gyflwyno, gallwch helpu drwy:

  • roi cymorth a chyngor ar yr ochr dechnegol
  • cofnodi a chyfathrebu sesiynau drwy flogio byw (gallwch ddefnyddio haciaith.com i wneud hynny)
  • helpu ar y ddesg groeso/tywys pobol
  • cymryd rhan ar-lein os nad ydych yn gallu bod yno!

Noddwyr - Diolch yn fawr!

Tagiau

#haciaith yw tag swyddogol y digwyddiad. Defnyddiwch o ym mhob cofnod blog, tweet, llun, fideo am y digwyddiad a byddwn ni'n gallu dilyn y drafodaeth.


English translation

Here's a mega rough machine translation of this page into English.