Gweithrediadau

Hacio'r Iaith 2014

Oddi ar Hedyn

The printable version is no longer supported and may have rendering errors. Please update your browser bookmarks and please use the default browser print function instead.

Mae Hacio'r Iaith wedi'i drefnu gan wirfoddolwyr ar y cyd gyda Chanolfan Bedwyr a Phroject TILT

Hacio-iaith-logo.jpg


Croeso! Dyma sut i gyfrannu at y Wici yma...

Er mwyn ysgrifennu ar wici Hedyn / Hacio'r Iaith rhaid i chi gofrestru yma fel aelod o'r wici.

Peidiwch bod ofn golygu'r dudalen, ond triwch roi eich llofnod wrth unrhyw olygiad neu ychwanegiad fel ein bod yn gwybod pwy ydych chi.

Os ydych yn bwriadu mynychu Hacio'r Iaith 2014, cofiwch gofrestru.

Beth yw Hacio'r Iaith?

Mae Hacio'r Iaith yn gynhadledd agored undydd ar y thema technoleg, y we ac iaith.

Poster?

Cyfle i bobol sy'n gwneud projectau gwe a thechnoleg i ddod i gyflwyno eu profiadau ac i ddysgu oddi wrth ein gilydd mewn awyrgylch braf, hamddenol a drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'n gynhadledd agored am ei fod yn cael ei drefnu ar sail egwyddor open source. Mae hyn yn golygu bod cyfle i unrhywun ddod, am ddim, a chyflwyno am bwnc o'u dewis nhw (yn ddibynnol ar sicrhau slot amser). Mae wedi ei drefnu ar sail digwyddiadau BarCamp, sydd yn anffurfiol iawn, lle caiff trefn y dydd yn cael ei benderfynu gan y siaradwyr.

Mae croeso i chi gyflwyno am be bynnag da chi isio, ond mae'r pwyslais ar gyfrannu nid eistedd nol a gwrando. Chydig yn bryderus? Darllenwch hwn.

Peidiwch anghofio hefyd am y blog grŵp Hacio'r Iaith fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth am y digwyddiad a lle arall i drafod wrth i'r diwrnod nesau.

Dyddiadau

Nos Wener, 14 Chwefror 2014

Dydd Sadwrn, 15 Chwefror 2014

  • Amser: 9yb i tua 7yh
  • 7yh--> y dafarn

Lleoliad

Y Ganolfan Rheolaeth Busnes, Prifysgol Bangor, Bangor.

Rhaglen y dydd

Fel y nodwyd uchod mae trefn arferol BarCamp yn golygu bod rhaglen y dydd yn cael ei benderfynu gan y cyflwynwyr, a hynny ar y diwrnod, ond bydd rhai sesiynau yn cael eu trefnu o flaen llaw.

Bydd gweddill y sesiynau yn cael eu trefnu yn ystod slot gyntaf y diwrnod gan roi cyfle i bawb hawlio eu lle.

Sesiynau 'Pendant'

Os ydych chi'n gwybod yn bendant am sesiwn yr hoffech chi ei gynnal yna nodwch y sesiwn yma.

Mae'n ddefnyddiol gwybod am rai sesiynau o flaen llaw er mwyn cynyddu diddordeb yn y digwyddiad ac er mwyn i bobol allu paratoi.

O ran ffurf y sesiynau gallwn nhw fod yn: sgwrs anffurfiol, cyflwyniad unigol, gweithdy ymarferol, demo, panel, ford gron, fideo ayyb.

  • Yr Haclediad?
  • Syniad i gael sesiwn i wella Blogiadur --Carlmorris (sgwrs) 19:14, 21 Tachwedd 2013 (UTC)
    • Beth am ehangu hyn i fod yn sesiwn am wella traffig i gynnwys Cymraeg arlein? Galla i ddangos y prosiect newydd (sy'n adeiladu ar waith Umap Cymraeg) a sôn am sut mae'n gweithio. Bydd bron yn barod i lansio erbyn hynny. --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 14:23, 10 Rhagfyr 2013 (UTC)
      • Hapus i gyfrannu at drafodaeth am y Blogiadur, fel sesiwn ar ei ben ei hun neu'n rhan o rywbeth ehangach...:-) Aranjones
        • Yn fy sylw gwreiddiol ar flog Carl, meddwl mwy am sesiwn ymarferol o wneud rhywbeth gwahanol gyda chynnwys y Blogiadur o'n i (gan ddychmygu byddai'n gymharol rhwydd gyda ategion WordPress/Yahoo pipes ayyb?), ac felly bod lle i hynny fel un sesiwn, ac yna trafodaeth (groan!) am hyrwyddo cynnwys ehangach + cyflwyniad ganddot ti Rhodri mewn sesiwn arall. Jyst syniad rili gan bod ni wastad yn brin o syniadau fel arfer am sesiynnau mwy ymarferol.--Rhyswynne (sgwrs) 16:10, 12 Rhagfyr 2013 (UTC)
  • Sesiwn ariannu prosiectau - manylion i ddilyn --Carlmorris (sgwrs) 16:14, 2 Rhagfyr 2013 (UTC)
    • Hoffwn i gyfrannu at y sesiwn drwy sôn am wefan cyllido cymunedol newydd sydd gen i ar y gweill ar gyfer y Gwanwyn o'r enw Heliwm --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 14:23, 10 Rhagfyr 2013 (UTC)
  • sesiwn Raspberry Pi

Sesiynau Posib

Dyma lle gallwch chi sgwennu am bwnc yr hoffech chi, efallai, siarad amdano ar y dydd. Lle i roi syniadau tentative am sesiwn neu drafodaeth.

  • Henffych well bobl o gwmnïau mawr a sefydliadau mawr! Croeso cynnes i Hacio'r Iaith. Plîs meddyliwch sut ydych chi'n gallu cymryd rhan. Dw i'n siŵr bod llwyth o adnoddau, cynnwys, syniadau, prosiectau agored gyda chi. Ie, CHI! Rydym ni'n hoff iawn o bethau ymarferol. Plîs meddyliwch tu hwnt i 'cyhoeddi-menter-gorfforaethol-newydd-mewn-sesiwn'. Cynnwys a chyfranogaeth yn hytrach na chyhoeddusrwydd. Diolch am ddarllen. :-) --Carlmorris (sgwrs) 19:16, 9 Ionawr 2014 (UTC)

Gweithdy Cyd-ddysgu

  • Oes diddordeb i ddysgu mwy am Git? Dwi ffansi neud sgwrs ond isho gwbod os oes na ofyn Meigwilym (sgwrs) 09:17, 10 Rhagfyr 2013 (UTC)
  • Dw i'n credu bod diddordeb ymhlith rhai o ein pobl yn sicr! --Carlmorris (sgwrs) 00:17, 11 Rhagfyr 2013 (UTC)
  • Byddai diddordeb gen i yn hwn. Neu beth am i ti ail-gydio yn y syniad hwn oedd gennyt: [1]? --Hywelm (sgwrs) 22:50, 9 Ionawr 2014 (UTC)
  • Gweithdy dechrau dy gwmni dy hun - rhannu profiadau, problemau, cyngor ymarferol i bobol sydd wedi ac ar fin dechrau cwmni --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 12:13, 8 Ionawr 2014 (UTC)
  • Sesiwn Q & A - Oes gen tio gwestiwn i holi'r dorf? - 5 munud i bob cwestiwn ac ateb. --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 12:13, 8 Ionawr 2014 (UTC)
  • Gallwn wneud cyflwyniad/cynnal gweithdy ar siartio, gan edrych ar e.e. R, Google Drive, API Google, d3.js, nvd3.js. Fyddai diddordeb?--Hywelm (sgwrs) 23:13, 9 Ionawr 2014 (UTC)

Gweithdy Cyd-greu

Dangos a Dweud

  • Gweithdy Cyfryngau Cymdeithasol - teimlo byddai'n dda cael sesiwn rhannu profiadau ymarferol ac astudiaethau achos. --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 12:13, 8 Ionawr 2014 (UTC)
  • Dangos a Deud - sesiwn awr i unrhywun ddweud wrth bawb am dy wefan/prosiect/robot/rhaglen - cyfyngiad amser o 5 munud i bob prosiect! (gyda phleidlais gudd ar y diwedd i roi gwobr fach?) --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 12:13, 8 Ionawr 2014 (UTC)
  • Fyddai'n ddiddorol cael rhywbeth am ffrinDiaith.org? Byddwn i'n hapus i'w wneud os oes diddordeb. Aranjones


  • All bobol gynnig mwy o weithdai ymarferol yma plis?
  • mwy

Rheolau BarCamp

Cer i Beth yw'r fformat BarCamp?


Trefnu'r Dydd

Byddwn yn defnyddio system Open Grid i wneud hyn. Bydd y slotiau amser rhydd yn cael eu rhoi ar fwrdd gwyn neu ddarn mawr o bapur a byddwch yn gallu nodi teitl eich sesiwn a dewis lle gwag ar y grid.

Ystafelloedd

Manylion i ddilyn

Hyd Slotiau

Manylion i ddilyn

Yr Amserlen Wag

Dyma'r amserlen wag ar gyfer y diwrnod. Paratowch gyflwyniad, panel, gweithdy neu demo a byddwn yn rhoi slot iddo ar y diwrnod. Bydd pawb yn dod at ei gilydd ar gyfer un sesiwn ar y cyd sef yr Haclediad byw.


Amser A B C Ch
09.00-9.20 Cyflwyniad agoriadol - be di be yn Hacio'r Iaith? dechrau trefnu sesiynau
09.20-10.00 Coffi, meddwl am sesiynau, dewis eich slot amser
10.00-11.00 Sesiwn 1(a) Sesiwn 1(b) Sesiwn 1(c)
11.00-12.00 Sesiwn 2(a) Sesiwn 1(b) Sesiwn 1(c)
12.00-13.00 Yr Haclediad?
13.00-14.00 Cinio
14.00-15.00 Sesiwn 3(a) Sesiwn 3(b) Sesiwn 3(c)
15.00-16.00 Sesiwn 4(a) Sesiwn 4(b) Sesiwn 4(c)
16.00-16.30 Toriad
16.30-17.30 Sesiwn 5(a) Sesiwn 5(b) Sesiwn 5(c)
17.30-18.30 Sesiwn 6(a) Sesiwn 6(b) Sesiwn 6(c)
18.30-19.00 Sesiwn gloi


Cofrestru

Mae'n bwysig bod pawb sy'n bwriadu dod yn cofrestru o flaen llaw. Fel arall, allwn ni ddim sicrhau y bydd lle i chi ar y diwrnod (a'n bwysicach fyth, rhywbeth i chi fwyta!).

Hacio'r Iaith 2014: Cofrestrwch

Mae lle i nifer cyfyngedig o bobol ond os bydd mwy yn cofrestru isod yna bydd angen i ni edrych eto ar y trefniadau ystafell. Bydd yn ddigon hawdd addasu os bydd mwy.

Swper Nos Wener

Unrhyw un yn nabod bwyty da ym Mangor? --Carlmorris (sgwrs) 16:02, 2 Rhagfyr 2013 (UTC)

Greeks Bangor Uchaf? --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 14:24, 10 Rhagfyr 2013 (UTC)

Lolfa Teras http://teras.bangor.ac.uk - Dewi

Debynnu be mae pobol yn eisio. Hefyd mae'n debyg bydd llawer o llefydd yn brysur yn y nos gyda'r fyfyriwr.--Markgajones (sgwrs) 02:06, 22 Rhagfyr 2013 (UTC)

Cinio ganol dydd

Manylion i ddilyn

Trefnwyr

Mae lot o bobol wedi tynnu at ei gilydd i gyd-drefnu'r digwyddiad, ond os oes ganddoch chi gwestiwn penodol am yr elfennau gweinyddol neu o'r wasg ag eisiau rhywun i siarad yna gallwch chi gysylltu a Carl Morris neu Rhys Wynne.

Teithio a Llety

Llety

Manylion am lety moethus am bris rhesymol i ddilyn

Teithio

Manylion cyn hir

Parcio

Manylion cyn hir


Adnoddau eraill cyfagos

  • lle ym Mangor 1
  • lle ym Mangor 2

Sut allwch chi helpu?

manylion yn fuan

Gwirfoddoli

Mae llwyddiant y digwyddiad yn lwyr ddibynnol ar y bobol sy'n dod. Yn wahanol i gynhadleddau arferol y chi sy'n ffurfio'r sesiynau ac yn llywio'r diwrnod. Mae disgwyl i bawb sy'n dod i wneud rhyw fath o gyfraniad tuag at lwyddiant y digwyddiad, nid jest ista nôl a gwrando.

Os nad ydych chi eisiau siarad neu gyflwyno, gallwch helpu drwy:

  • roi cymorth a chyngor ar yr ochr dechnegol
  • cofnodi a chyfathrebu sesiynau drwy flogio byw (gallwch ddefnyddio haciaith.com i wneud hynny)
  • helpu ar y ddesg groeso/tywys pobol
  • cymryd rhan ar-lein os nad ydych yn gallu bod yno!

Noddwyr - Diolch yn fawr!

  • Diolch i Ganolfan Bedwyr
  • Diolch i Broject TILT
  • Diolch i SbellCheck??? am noddi unwaith eto trwy roi gwaith dylunio i Hacio'r Iaith???

Tagiau

#haciaith yw tag swyddogol y digwyddiad. Defnyddiwch o ym mhob cofnod blog, tweet, llun, fideo am y digwyddiad a byddwn ni'n gallu dilyn y drafodaeth.


English translation

Here's a mega rough machine translation of this page into English.