Gweithrediadau

Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hacio'r Iaith 2014"

Oddi ar Hedyn

Llinell 120: Llinell 120:
* Oes rhwyun sy'n weithgar ar OSM all gyfrannu, neu gweithdy ymchwil fyddai hwn? [[Defnyddiwr:Illtud|Illtud]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Illtud|sgwrs]]) 12:58, 16 Ionawr 2014 (UTC)
* Oes rhwyun sy'n weithgar ar OSM all gyfrannu, neu gweithdy ymchwil fyddai hwn? [[Defnyddiwr:Illtud|Illtud]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Illtud|sgwrs]]) 12:58, 16 Ionawr 2014 (UTC)
:Baswn i efo diddordeb, ond dw i ddim yn gwybod llawer am sut mae'n gweithio.  
:Baswn i efo diddordeb, ond dw i ddim yn gwybod llawer am sut mae'n gweithio.  
:*Bues i'n defnydido [http://josm.openstreetmap.de/ golygydd JOSM] i ychwanegu/cywiro enwau llefydd Cymraeg - roedd yn hwylus iawn, mwy fel WYSIWYG na'r wefan ei hun sy'n erdych yn anodd, ond tra roedd enwau lleodd yn iawn, methais newid enwau sefydlaidau,e.e. Bangor University > Prifygol Bangor.
:*Bues i'n defnydido [http://josm.openstreetmap.de/ golygydd JOSM] i ychwanegu/cywiro enwau llefydd Cymraeg - roedd yn hwylus iawn, mwy fel WYSIWYG na'r wefan ei hun sy'n erdych yn anodd, ond tra roedd enwau lleodd yn iawn, methais newid enwau sefydlaidau,e.e. Bangor University > Prifysgol Bangor.
:*Byddai rhywbeth ymarferol lle dan ni'n cyfuno erthyglau Wiciepdia Cymraeg (wedi ei geo-tagio) fel haen dros [http://sucs.org/~rollercow/cyosm/ fap OSM Cymraeg] (ydy hwn yn gweithio i chi?).
:*Byddai rhywbeth ymarferol lle dan ni'n cyfuno erthyglau Wiciepdia Cymraeg (wedi ei geo-tagio) fel haen dros [http://sucs.org/~rollercow/cyosm/ fap OSM Cymraeg] (ydy hwn yn gweithio i chi?).
:*Petai ni'n cael arbennigwr draw, gallen ni hefyd fynd o gwmpas y maes parcio yn plotio marciau drwy defnyddio GPS ein ffonau - eto rhywbeth dwi erioed wedi ei wneud. Mae rhai pobl ar Wiki OSM yn [http://wiki.openstreetmap.org/wiki/Category:Users_in_Wales nodi eu lleoliad] - falle gellir cysylltu â nhw a'u gwahodd draw i'n rhoi ni ar ben ffordd?
:*Petai ni'n cael arbennigwr draw, gallen ni hefyd fynd o gwmpas y maes parcio yn plotio marciau drwy defnyddio GPS ein ffonau - eto rhywbeth dwi erioed wedi ei wneud. Mae rhai pobl ar Wiki OSM yn [http://wiki.openstreetmap.org/wiki/Category:Users_in_Wales nodi eu lleoliad] - falle gellir cysylltu â nhw a'u gwahodd draw i'n rhoi ni ar ben ffordd?

Diwygiad 22:13, 27 Ionawr 2014

Mae Hacio'r Iaith wedi'i drefnu gan wirfoddolwyr ar y cyd gyda Chanolfan Bedwyr a Phroject TILT

Hacio-iaith-logo.jpg


Croeso! Dyma sut i gyfrannu at y Wici yma...

Er mwyn ysgrifennu ar wici Hedyn / Hacio'r Iaith rhaid i chi gofrestru yma fel aelod o'r wici.

Peidiwch bod ofn golygu'r dudalen, ond triwch roi eich llofnod wrth unrhyw olygiad neu ychwanegiad fel ein bod yn gwybod pwy ydych chi.

Os ydych yn bwriadu mynychu Hacio'r Iaith 2014, cofiwch gofrestru.

Beth yw Hacio'r Iaith?

Mae Hacio'r Iaith yn gynhadledd agored undydd ar y thema technoleg, y we ac iaith.

Poster?

Cyfle i bobol sy'n gwneud projectau gwe a thechnoleg i ddod i gyflwyno eu profiadau ac i ddysgu oddi wrth ein gilydd mewn awyrgylch braf, hamddenol a drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'n gynhadledd agored am ei fod yn cael ei drefnu ar sail egwyddor open source. Mae hyn yn golygu bod cyfle i unrhywun ddod, am ddim, a chyflwyno am bwnc o'u dewis nhw (yn ddibynnol ar sicrhau slot amser). Mae wedi ei drefnu ar sail digwyddiadau BarCamp, sydd yn anffurfiol iawn, lle caiff trefn y dydd yn cael ei benderfynu gan y siaradwyr.

Mae croeso i chi gyflwyno am be bynnag da chi isio, ond mae'r pwyslais ar gyfrannu nid eistedd nol a gwrando. Chydig yn bryderus? Darllenwch hwn.

Peidiwch anghofio hefyd am y blog grŵp Hacio'r Iaith fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth am y digwyddiad a lle arall i drafod wrth i'r diwrnod nesau.

Dyddiadau

Nos Wener, 14 Chwefror 2014

Dydd Sadwrn, 15 Chwefror 2014

  • Amser: 9yb i tua 7yh Hacio'r Iaith 2014 (prif ddigwyddiad)
  • 7yh--> y dafarn

Lleoliad

Y Ganolfan Rheolaeth Busnes, Prifysgol Bangor, Bangor.

Rhaglen y dydd

Fel y nodwyd uchod mae trefn arferol BarCamp yn golygu bod rhaglen y dydd yn cael ei benderfynu gan y cyflwynwyr, a hynny ar y diwrnod, ond bydd rhai sesiynau yn cael eu trefnu o flaen llaw.

Bydd gweddill y sesiynau yn cael eu trefnu yn ystod slot gyntaf y diwrnod gan roi cyfle i bawb hawlio eu lle.

Yn ogystal â'r wici yma, mae croeso i chi adael eich syniad fel sylw ar y cofnod blog Hacio'r Iaith 2014 neu eu trydar nhw gyda #haciaith.

Cyngor am wneud sesiwn

  • Mae pethau ymarferol yn hwyl.
  • Dewch i ofyn. Dewch i ddysgu. Does dim rhaid i chi arbenigo yn y pwnc o gwbl i drefnu sesiwn!
  • Os ydych chi am ddangos rhywbeth does dim rhaid i chi creu cyflwyniad PowerPoint/Google Drive. Fel arfer mae rhywbeth yn fyw gallu bod yn fwy diddorol na sioe sleidiau... Mae'n haws i'w baratoi hefyd!
  • Neges arbennig i bobl o gwmnïau mawr a sefydliadau mawr... Henffych well! Croeso cynnes i Hacio'r Iaith. Plîs meddyliwch sut ydych chi'n gallu cymryd rhan. Dw i'n siŵr bod llwyth o adnoddau, cynnwys, syniadau, prosiectau agored gyda chi. Ie, CHI! Plîs meddyliwch tu hwnt i 'cyhoeddi-menter-gorfforaethol-newydd-mewn-sesiwn'. Cynnwys a chyfranogaeth yn hytrach na chyhoeddusrwydd. Diolch am ddarllen. :-)

Sesiynau 'Pendant'

Os ydych chi'n gwybod yn bendant am sesiwn yr hoffech chi ei gynnal yna nodwch y sesiwn yma.

Mae'n ddefnyddiol gwybod am rai sesiynau o flaen llaw er mwyn cynyddu diddordeb yn y digwyddiad ac er mwyn i bobol allu paratoi.

O ran ffurf y sesiynau gallwn nhw fod yn: sgwrs anffurfiol, cyflwyniad unigol, gweithdy ymarferol, demo, panel, ford gron, fideo ayyb.

  • Yr Haclediad
    • Beth ydach chi'n feddwl o'r syniad hyn er mwyn gwasgu mwy o amser i sesiynau allan o'r diwrnod: cinio hanner awr am 12:00-12:30 haclediad 12:30-1:30 (gan fynd a'n bwyd mewn i'r Haclediad os di pobol isio? --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 22:09, 19 Ionawr 2014 (UTC)
  • Syniad i gael sesiwn i wella Blogiadur --Carlmorris (sgwrs) 19:14, 21 Tachwedd 2013 (UTC)
    • Beth am ehangu hyn i fod yn sesiwn am wella traffig i gynnwys Cymraeg arlein? Galla i ddangos y prosiect newydd (sy'n adeiladu ar waith Umap Cymraeg) a sôn am sut mae'n gweithio. Bydd bron yn barod i lansio erbyn hynny. --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 14:23, 10 Rhagfyr 2013 (UTC)
      • Hapus i gyfrannu at drafodaeth am y Blogiadur, fel sesiwn ar ei ben ei hun neu'n rhan o rywbeth ehangach...:-) Aranjones
        • Yn fy sylw gwreiddiol ar flog Carl, meddwl mwy am sesiwn ymarferol o wneud rhywbeth gwahanol gyda chynnwys y Blogiadur o'n i (gan ddychmygu byddai'n gymharol rhwydd gyda ategion WordPress/Yahoo pipes ayyb?), ac felly bod lle i hynny fel un sesiwn, ac yna trafodaeth (groan!) am hyrwyddo cynnwys ehangach + cyflwyniad ganddot ti Rhodri mewn sesiwn arall. Jyst syniad rili gan bod ni wastad yn brin o syniadau fel arfer am sesiynnau mwy ymarferol.--Rhyswynne (sgwrs) 16:10, 12 Rhagfyr 2013 (UTC)
  • Sesiwn ariannu prosiectau - manylion i ddilyn --Carlmorris (sgwrs) 16:14, 2 Rhagfyr 2013 (UTC)
    • Hoffwn i gyfrannu at y sesiwn drwy sôn am wefan cyllido cymunedol newydd sydd gen i ar y gweill ar gyfer y Gwanwyn o'r enw Heliwm --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 14:23, 10 Rhagfyr 2013 (UTC)
  • sesiwn Raspberry Pi

Sesiynau Posib

Dyma lle gallwch chi sgwennu am bwnc yr hoffech chi, efallai, siarad amdano ar y dydd. Lle i roi syniadau tentative am sesiwn neu drafodaeth.

Gweithdai Cyd-ddysgu
  • Oes diddordeb i ddysgu mwy am Git? Dwi ffansi neud sgwrs ond isho gwbod os oes na ofyn Meigwilym (sgwrs) 09:17, 10 Rhagfyr 2013 (UTC)
  • Dw i'n credu bod diddordeb ymhlith rhai o ein pobl yn sicr! --Carlmorris (sgwrs) 00:17, 11 Rhagfyr 2013 (UTC)
  • Byddai diddordeb gen i yn hwn. Neu beth am i ti ail-gydio yn y syniad hwn oedd gennyt: [1]? --Hywelm (sgwrs) 22:50, 9 Ionawr 2014 (UTC)
  • Beth am ymestyn hyn i drafod fwy o faes 'Version Control'? Git efallai gormod o naid o ddim byd i cael system? Sionwhughes (sgwrs) 10:57, 12 Ionawr 2014 (UTC)
  • Gweithdy dechrau dy gwmni dy hun - rhannu profiadau, problemau, cyngor ymarferol i bobol sydd wedi ac ar fin dechrau cwmni --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 12:13, 8 Ionawr 2014 (UTC)
  • Sesiwn Q & A - Oes gen tio gwestiwn i holi'r dorf? - 5 munud i bob cwestiwn ac ateb. --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 12:13, 8 Ionawr 2014 (UTC)
  • Gallwn wneud cyflwyniad/cynnal gweithdy ar siartio, gan edrych ar e.e. R, Google Drive, API Google, d3.js, nvd3.js. Fyddai diddordeb?--Hywelm (sgwrs) 23:13, 9 Ionawr 2014 (UTC)
  • Fydd sesiwn am podledu eleni? Mae podlediad newydd i ddysgwyr yn dechrau yn fuan - :Y Frân Wen - a hoffwn i cyfrannu ond 'sdim clem 'da fi ble i ddechrau! Hoffwn i wneud rhan bach ar Hacio'r Iaith! --Leiafee (sgwrs) 21:34, 16 Ionawr 2014 (UTC)
  • Byddai hwnna'n sesiwn fasa gen i ddiddordeb ynddo fo, er dwi eisiau dysgu yn hytrach nac efo gwybodaeth. Beth am symud hwn i'r categori 'Gweithdy Cyd-greu' a creu un (byr iawn) mewn awr? Ydi hynny'n bosib? Pwy sydd efo profiad? Hacledwyr? --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 22:00, 19 Ionawr 2014 (UTC)
Gweithdai Cyd-greu
  • Syniad i creu grwp i ysgrifennu'r ap yma? Cynnyrch cyffyrddadwy o Hacio'r iaith i efallai ddenu fwy o pobl i'r digwyddiad yn blynnyddoedd dilynol? Sionwhughes (sgwrs) 10:57, 12 Ionawr 2014 (UTC)
  • Yn dilyn ymlaen o awgrymiadau Hywel uchod, falle gall rhywun feddwl am ddefnydd ar gyfer cynnwys rhestr API Cymraeg dwi wedi ei ddechrau?--Rhyswynne (sgwrs) 12:11, 10 Ionawr 2014 (UTC)
  • Sesiwn arbrofol creu i-doc byr mewn awr. Penderfynu ar thema, saethu lot o fideos, llwytho, defnyddio Zeega neu wefan Weebly (neu unrhyw beth da chi'n meddwl fasa'n gweithio) i greu 'profiad' sy'n glynu'r fideos, testun a sain. Cyfle ymarferol i drin a thrafod tŵls dweud stori arlein. --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 22:00, 19 Ionawr 2014 (UTC)

OpenStreetMap a data Cymraeg

  • Edrych ar OpenStreetMap.org a safon/amlygrwydd enwau Cymraeg.
  • A oes modd codi ymwybyddiaeth a chychwyn gweithgaredd o gywiro?
  • Pa iaith sy'n dangos fel 'default'? Caernarfon - Cymraeg, Aberystwyth - Saesneg.
Canllawiau enwau lleoedd aml-ieithog yma--Rhyswynne (sgwrs) 14:57, 16 Ionawr 2014 (UTC)
  • Oes rhwyun sy'n weithgar ar OSM all gyfrannu, neu gweithdy ymchwil fyddai hwn? Illtud (sgwrs) 12:58, 16 Ionawr 2014 (UTC)
Baswn i efo diddordeb, ond dw i ddim yn gwybod llawer am sut mae'n gweithio.
  • Bues i'n defnydido golygydd JOSM i ychwanegu/cywiro enwau llefydd Cymraeg - roedd yn hwylus iawn, mwy fel WYSIWYG na'r wefan ei hun sy'n erdych yn anodd, ond tra roedd enwau lleodd yn iawn, methais newid enwau sefydlaidau,e.e. Bangor University > Prifysgol Bangor.
  • Byddai rhywbeth ymarferol lle dan ni'n cyfuno erthyglau Wiciepdia Cymraeg (wedi ei geo-tagio) fel haen dros fap OSM Cymraeg (ydy hwn yn gweithio i chi?).
  • Petai ni'n cael arbennigwr draw, gallen ni hefyd fynd o gwmpas y maes parcio yn plotio marciau drwy defnyddio GPS ein ffonau - eto rhywbeth dwi erioed wedi ei wneud. Mae rhai pobl ar Wiki OSM yn nodi eu lleoliad - falle gellir cysylltu â nhw a'u gwahodd draw i'n rhoi ni ar ben ffordd?
--Rhyswynne (sgwrs) 14:57, 16 Ionawr 2014 (UTC)
Sesiwn ar DBpedia gyda Hywel

Mae'n hwyr glas arnom ni, ond dyw hi byth yn rhy hwyr! Gweler yma. Llywelyn2000 (sgwrs) 13:41, 18 Ionawr 2014 (UTC)

Mm. Dydw i ddim yn gwybod llawer am hyn fy hun, ond, rhag ofn bod diddordeb rwyf wedi gwneud cais i 'ofod enw' [?namespace] gael ei greu i'r Gymraeg yn barod i ni. --Hywelm (sgwrs) 00:25, 19 Ionawr 2014 (UTC)
Gweithdy ymarferol ar olygu lluniau ar GIMP neu PhotoShop
  • Enw ar y sesiwn?: "GIMP MY TAID" - bwysig datblygu sgilz lluniau er mwyn creu ffatri memynnau Cymraeg --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 22:12, 19 Ionawr 2014 (UTC)
Gweithdy ymarferol ar olygu fideo

All bobol gynnig mwy o weithdai ymarferol yma plis?

  • mwy
Sesiynau Dangos a Dweud
  • Gweithdy Cyfryngau Cymdeithasol - teimlo byddai'n dda cael sesiwn rhannu profiadau ymarferol ac astudiaethau achos. --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 12:13, 8 Ionawr 2014 (UTC)
  • Dangos a Deud - sesiwn awr i unrhywun ddweud wrth bawb am dy wefan/prosiect/robot/rhaglen - cyfyngiad amser o 5 munud i bob prosiect! (gyda phleidlais gudd ar y diwedd i roi gwobr fach?) --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 12:13, 8 Ionawr 2014 (UTC)
  • Fyddai'n ddiddorol cael rhywbeth am ffrinDiaith.org? Byddwn i'n hapus i'w wneud os oes diddordeb. Aranjones

Trefnu'r Dydd

Byddwn yn defnyddio system Open Grid i wneud hyn. Bydd y slotiau amser rhydd yn cael eu rhoi ar fwrdd gwyn neu ddarn mawr o bapur a byddwch yn gallu nodi teitl eich sesiwn a dewis lle gwag ar y grid.

Rheol Dwy Droed
Byddai rhyw fath o ddelwedd Rheol Dwy Droed yn wych yma.

Mae mwy nag un peth yn digwydd ar yr un pryd ac mae sesiynau gwahanol yn apelio at bobl wahanol. Felly mae croeso i unrhyw un camu allan o unrhyw sesiwn cyn y diwedd. Dyma'r Rheol Dwy Droed.

Ystafelloedd

Manylion i ddilyn

Hyd Slotiau

Manylion i ddilyn

Yr Amserlen Wag

Dyma'r amserlen wag ar gyfer y diwrnod. Paratowch gyflwyniad, panel, gweithdy neu demo a byddwn yn rhoi slot iddo ar y diwrnod. Bydd pawb yn dod at ei gilydd ar gyfer un sesiwn ar y cyd sef yr Haclediad byw.


Amser A B C Ch
09.00-9.20 Cyflwyniad agoriadol - be di be yn Hacio'r Iaith? dechrau trefnu sesiynau
09.20-10.00 Coffi, meddwl am sesiynau, dewis eich slot amser
10.00-11.00 Sesiwn 1(a) Sesiwn 1(b) Sesiwn 1(c)
11.00-12.00 Sesiwn 2(a) Sesiwn 1(b) Sesiwn 1(c)
12.00-13.00 Yr Haclediad?
13.00-14.00 Cinio
14.00-15.00 Sesiwn 3(a) Sesiwn 3(b) Sesiwn 3(c)
15.00-16.00 Sesiwn 4(a) Sesiwn 4(b) Sesiwn 4(c)
16.00-16.30 Toriad
16.30-17.30 Sesiwn 5(a) Sesiwn 5(b) Sesiwn 5(c)
17.30-18.30 Sesiwn 6(a) Sesiwn 6(b) Sesiwn 6(c)
18.30-19.00 Sesiwn gloi

Cofrestru

Mae'n bwysig bod pawb sy'n bwriadu dod yn cofrestru o flaen llaw. Fel arall, allwn ni ddim sicrhau y bydd lle i chi ar y diwrnod (a'n bwysicach fyth, rhywbeth i chi fwyta!).

Hacio'r Iaith 2014: Cofrestrwch

Mae lle i nifer cyfyngedig o bobol ond os bydd mwy yn cofrestru isod yna bydd angen i ni edrych eto ar y trefniadau ystafell. Bydd yn ddigon hawdd addasu os bydd mwy.

Bydd angen i bawb trefnu eu llety eu hunain. Mae'r Ganolfan Rheolaeth yn cynnig prisiau arbennig i Hacio'r Iaith.

Cinio ganol dydd Sadwrn

Darperir cinio am ddim drwy haelioni Canolfan Bedwyr a'r project TILT i'r sawl fydd wedi cofrestru ar gyfer y digwyddiad.

Trefnwyr

Mae lot o bobol wedi tynnu at ei gilydd i gyd-drefnu'r digwyddiad, ond os oes ganddoch chi gwestiwn penodol am yr elfennau gweinyddol neu o'r wasg ag eisiau rhywun i siarad yna gallwch chi gysylltu a Carl Morris neu Rhys Wynne.

Gofod cydweithio ar ddydd Gwener

Mae'r prif digwyddiad Hacio'r Iaith yn digwydd ar y dydd Sadwrn. Ond os ydych chi'n cyrraedd ar y dydd Gwener mae ystafelloedd ar gael yn y Ganolfan Rheolaeth i gynnal sesiynau 'ymylol'/ychwanegol neu gyfarfodydd gyda phobl eraill.

Mae lle i greadigrwydd yma. Dyma ambell i syniad:

  • Angen siaradwyr Cymraeg am brosiect ymchwil? Bydd rhai ar gael ar y dydd Gwener.
  • Paratoi eich sesiwn ar ddydd Gwener ar gyfer Hacio'r Iaith ar y dydd Sadwrn
  • Cyfarfod pobl diddorol newydd o feysydd gwahanol (nid jyst technoleg)
  • Tyrd â dyfais a chlustffonau i chwarae gemau - pam ddim?
  • Sesiwn ymarferol, 'hacathon' bach, sesiwn diweddaru Wicipedia...
  • ...
  • ...

Pwy sydd am fod yno?

  • Rhodri ap Dyfrig
  • Rhys Wynne (cyrraedd tua 2pm)
  • Carlmorris
  • [rho dy enw yma]

Swper Nos Wener

Unrhyw un yn nabod bwyty da ym Mangor? --Carlmorris (sgwrs) 16:02, 2 Rhagfyr 2013 (UTC)

Debynnu be mae pobol yn eisio. Hefyd mae'n debyg bydd llawer o llefydd yn brysur yn y nos gyda'r fyfyriwr.--Markgajones (sgwrs) 02:06, 22Rhagfyr 2013 (UTC)
  • Greeks Bangor Uchaf? --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 14:24, 10 Rhagfyr 2013 (UTC)
  • Royal Tandoori (Indian) drws nesaf i Wetherspoons. Bwyd da, ychydig yn fach, dibynnu ar faint fysa'n mynd. Sionwhughes (sgwrs) 11:01, 12 Ionawr 2014 (UTC)
  • Lolfa Teras http://teras.bangor.ac.uk - Dewi
  • Mae rhywun wedi argymell Eastern Origin, bwyty Tseiniaidd ar y Stryd Fawr... Dw i'n credu bod modd archebu bwrdd mawr o flaen llaw. Beth ydych chi'n meddwl? --Carlmorris (sgwrs) 13:01, 15 Ionawr 2014 (UTC)
  • Bwyty da ym Mangor? Peth prin, mae gen i ofn... eniwe, pleidlais arall am yr Eastern Origin, best of a bad lot. Dwi heb drio Teras, wedi clywed petha da amdano, ond a yw braidd yn upmarket (nid mod i'n dilorni Hacwyr)? Greeks yn OK os am le yfed hwyr, ond so-so di'r bwyd di bod erioed. Illtud (sgwrs) 12:38, 16 Ionawr 2014 (UTC)
  • Ddim yn gyfarwydd â bwytai Bangor. Bues i'r Greeks dros 15 mlynedd yn ôl am fwyd, ond doedd ddim yn gofiadwy o'r ychydig dw i'n...erm...gofio. Eastern Origin yn swnio'n haws na dim byd arall, a gydag adolygiadau reit da ar TripAdvisor. Os dyw pobl ddim yn licio bwyd Tseiniaidd, bydd sglods ac ŵy ar gael siawns!--Rhyswynne (sgwrs) 15:08, 16 Ionawr 2014 (UTC)
  • Torri traddodiad drwy fynd i Fangor *a* pheidio mynd am cyri. Newid yn chênj yndi. Eastern Origin amdani i fi fyd ta --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 22:06, 19 Ionawr 2014 (UTC)

Peint(iau) i ddilyn y bwyd?

Fel hen foi sy'n licio cwrw go iawn, dwi wedi bod yn ymchwilio.

Teithio a Llety

Llety

Mae angen archebu llety ar wahan i'ch tocyn ar gyfer y digwyddiad.

Y Ganolfan Rheolaeth
Canolfan-rheolaeth-llety.jpg

Rydym ni wedi cael y prisiau isod ar gyfer llety moethus 4 seren yn y Ganolfan Rheolaeth.

Mae'n ostyngiad arbennig ar gyfer archebu fel grŵp:

  • Ystafell sengl: £62.00 Gwely a Brecwast
  • Ystafell ddwbl i un: £62.00 Gwely a Brecwast
  • Ystafell ddwbl i ddau: £72.00 Gwely a Brecwast

Mae ystafelloedd eraill heb ostyngiad hefyd:

  • Ystafell foethus/twin i un: £80.00 Gwely a Brecwast
  • Ystafell foethus/twin i ddau: £90.00 Gwely a Brecwast

Mae'r prisiau yn ddilys ar nos Wener 14eg a nos Sadwrn 15fed o fis Chwefror 2014 neu un o'r dyddiadau hyn. Ffoniwch y Ganolfan ar 01248 365912 i'w archebu. Dwedwch 'Hacio'r Iaith' dros y ffôn. Rhagor o fanylion am yr ystafelloedd ar wefan y Ganolfan Rheolaeth.

Llefydd eraill ym Mangor

Wrth gwrs mae rhagor o lefydd i aros ym Mangor a'r cylch - gan gynnwys llety rhatach.

Teithio

Manylion cyn hir

Parcio

Manylion cyn hir


Sut allwch chi helpu?

manylion yn fuan

Gwirfoddoli

Mae llwyddiant y digwyddiad yn lwyr ddibynnol ar y bobol sy'n dod. Yn wahanol i gynhadleddau arferol y chi sy'n ffurfio'r sesiynau ac yn llywio'r diwrnod. Mae disgwyl i bawb sy'n dod i wneud rhyw fath o gyfraniad tuag at lwyddiant y digwyddiad, nid jest ista nôl a gwrando.

Os nad ydych chi eisiau siarad neu gyflwyno, gallwch helpu drwy:

  • roi cymorth a chyngor ar yr ochr dechnegol
  • cofnodi a chyfathrebu sesiynau drwy flogio byw (gallwch ddefnyddio haciaith.com i wneud hynny)
  • helpu ar y ddesg groeso/tywys pobol
  • cymryd rhan ar-lein os nad ydych yn gallu bod yno!

Noddwyr - Diolch yn fawr!

  • Diolch i Ganolfan Bedwyr
  • Diolch i Broject TILT
  • Diolch i SbellCheck??? am noddi unwaith eto trwy roi gwaith dylunio i Hacio'r Iaith???

Tagiau

#haciaith yw tag swyddogol y digwyddiad. Defnyddiwch o ym mhob cofnod blog, tweet, llun, fideo am y digwyddiad a byddwn ni'n gallu dilyn y drafodaeth.


English translation

Here's a mega rough machine translation of this page into English.