Gweithrediadau

Hacio'r Iaith - Ionawr 2013

Oddi ar Hedyn

Er mwyn ysgrifennu ar wici Hedyn / Hacio'r Iaith rhaid i chi gofrestru yma fel aelod o'r wici. Mae hyn yn atal sbambots digywilydd rhag sarnu'r dudalen. Os ydych yn bwriadu mynychu Hacio'r Iaith 2013, cofiwch gofrestru.

Peidiwch bod ofn golygu'r dudalen, ond triwch roi eich llofnod wrth unrhyw olygiad neu ychwanegiad fel ein bod yn gwybod pwy ydych chi.

Hacio-iaith-logo.jpg

Manylion y digwyddiad

Beth?

Cyfle i bobol sy'n gwneud projectau gwe a thechnoleg yn y Gymraeg, neu am y Gymraeg, i ddod i gyflwyno eu profiadau ac i ddysgu oddi wrth ein gilydd mewn awyrgylch braf a hamddenol.

Mae'n gynhadledd agored am ei fod yn cael ei drefnu ar sail egwyddor agored. Mae hyn yn golygu bod cyfle i unrhywun ddod, am ddim, a chyflwyno am bwnc o'u dewis nhw (yn ddibynnol ar sicrhau slot amser). Mae wedi ei drefnu ar sail digwyddiadau BarCamp, sydd yn anffurfiol iawn, lle caiff trefn y dydd yn cael ei benderfynu gan y siaradwyr. Dyma esboniad da gan flogiwr o Ganada.

Bydd cyswllt di-wifr cyflym am ddim i bawb sydd yn cymryd rhan er mwyn hwyluso dogfennu a thrafod yn ystod y digwyddiad.

Pryd?

Dydd Sadwrn 19fed mis Ionawr 2013

Trwy'r dydd (amserau penodol i ddilyn)


Ble?

Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Abersytwyth, Ceredigion, Cymru

Mae holl fanylion sut i gyrraedd y Llyfrgell ar gael ar y dudalen hon.

Byddwn yn cael defnydd sawl ystafell gan gynnwys...

Y Drwm

Awditoriwm 90 set gyda sgrin anferth (LLUN: gallwch chi hefyd fod fel Huw Edwards!). Byddwch yn teimlo fel eich bod chi'n gwneud TED talk. Wn i ddim os yw hynny'n beth da neu ddim...

Ystafelloedd Addysg

Mae'r brif Ystafell Addysg yn stafell olau sydd yn dal tua 30 o bobol hefyd gyda holl adnoddau taflunio ac ati fuasech chi ei angen.

Mae dwy ystafell arall sydd hefyd yn bosib eu defnyddio (dwi'n meddwl!) os oes angen trydedd sesiwn baralel.

Dyma fanylion a lluniau'r stafelloedd hyn.

Cofrestru

Pwy Sy'n Dod?

Mae mynediad am ddim ac mae croeso i bawb. Ond mae angen archebu lle i gael mynediad.

Eleni rydyn ni'n defnyddio'r system Eventbrite i reoli'r broses cofrestru.

http://haciaith.eventbrite.co.uk

Methu Dod

ymddiheuriadau yma...

Rhaglen y dydd

Rheolau BarCamp

Cer i Beth yw'r fformat BarCamp?

Trefnu'r Dydd

Byddwn yn defnyddio system Grid Agored i roi amserlen y sesiynau at ei gilydd.

I chi sydd ddim yn gyfarwydd, peidiwch pryderu, mae'n ffordd eithaf hwyl a syndod o drefnus ar gyfer rhannu amserlen.

Bydd darn o bapur mawr gyda grid o slotiau amser rhydd yn cael eu rhoi fyny yn y cyntedd a gall pawb fachu nodyn post-it, ysgrifennu teitl eu sesiwn/gweithdy neu beth bynnag, a'i osod mewn slot gwag ar y grid.

Gall pobol drafod pa sesiynau sydd yn ffitio gyda'u gilydd orau er mwyn gwneud yn siwr nad oes gormod o wrthdaro. Bydd tua awr ar ddechrau'r dydd i gael paned, trafod sesiynau a llenwi'r amselen.

Ystafelloedd
Hyd Slotiau

Bydd y rhan fwyaf o slotiau yn 20 munud o hyd, ond gallwch chi gymryd slot hirach os oes angen (e.e. ar gyfer gweithdy).

Mae cyflwyniadau yn gweithio'n well mewn ystafell fwy

Yr Amserlen Wag

Dyma'r amserlen wag ar gyfer y diwrnod. Paratowch gyflwyniad, panel, gweithdy neu demo a byddwn yn rhoi slot iddo ar y diwrnod. Bydd pawb yn dod at ei gilydd ar gyfer un sesiwn ar y cyd sef yr Haclediad byw.


Amser Y Drwm Yst. Addysg Ystafell Wlyb Arall / Cyntedd y Drwm
09.00-9.20 Cyflwyniad agoriadol - be di be yn Hacio'r Iaith? dechrau trefnu sesiynau
09.20-10.00 Coffi, meddwl am sesiynau, dewis eich slot amser
10.00-11.00 Sesiwn 1(a) Sesiwn 1(b) Sesiwn 1(c)
11.00-12.00 Sesiwn 2(a) Sesiwn 2(b) Sesiwn 2(c)
12.00-13.00 Sesiwn 3(a) Sesiwn 3(b) Sesiwn 3(c)
13.00-14.00 Cinio
14.00-15.00 Sesiwn 4(a) Sesiwn 4(b) Sesiwn 4(c)
15.00-16.00 Sesiwn 5(a) Sesiwn 5(b) Sesiwn 5(c)
16.00-16.30 Toriad
16.30-17.30 Sesiwn 6(a) Sesiwn 6(b) Sesiwn 6(c)
17.30-18.00 Sesiwn gloi


Sesiynau 'Pendant'

  • Byrbrydau Wicipedia. Cyfres o gyflwyniadau byr gan wahanol Wicipedwyr am bynciau megis: Hyrwyddo erthygl, Wicipedia yn 'y byd go iawn', Delweddau, a sesiynnau cymorth cyflym Sut mae...?--Rhyswynne (sgwrs) 00:18, 9 Tachwedd 2012 (UTC)
  • Torfoli hanes y cyfryngau digidol Cymraeg! (aka: ymchwilydd diog! aka: na, dwi wir yn meddwl bod yr ymennydd collective yn well na jest un yn yr achos yma!) - dwi'n rhoi darlith awr ginio fis Chwefror ar daith y Gymraeg yn y cyfryngau digidol. Un syniad ar hyn o bryd ydi casglu nifer o ddigwyddiadau, syniadau, cynnyrch, neu fomentau allweddol yn nhaith yr iaith ar y we. Bydda i'n rhoi syniad sydyn o fy rhai i ond yn ceisio harnesu'ch atgofion chi i gael darlun mwy cyflawn. Mwy o fanylion i ddod fel gall pobol feddwl mwy amdano o flaen llaw. --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 17:23, 20 Tachwedd 2012 (UTC)
    Addawol iawn! --Carlmorris (sgwrs) 21:39, 20 Tachwedd 2012 (UTC)
    Hwn yn ddefnyddiol gan @dafyddt http://www.rhwyd.org/hanes/ --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 10:25, 21 Tachwedd 2012 (UTC)
  • Dadansoddi IndigenousTweets.com - beth ydw i wedi ei wneud hyd yn hyn (a sut), a thrafodaeth. --Hywelm (sgwrs) 22:48, 7 Ionawr 2013 (UTC)

Sesiynau Posib

  • Cyflwyno prosiectau ar sail archif papurau newydd Llyfrgell Genedlaethol --Carlmorris (sgwrs) 21:43, 20 Tachwedd 2012 (UTC)
  • Gweithdy hacio/prosesu testun Cymraeg gyda chod: geiriaduron, treigladau, cymylau geiriau a mwy --Carlmorris (sgwrs) 21:43, 20 Tachwedd 2012 (UTC)
  • Haclediad byw - recordio sioe podlediad tech Cymraeg yn fyw o'r digwyddiad gyda chynulleidfa (gobeithio!)
  • Hei hei, byddai dychweliad y 'traddodiad' yma yn benigamp! --Carlmorris (sgwrs) 16:07, 4 Ionawr 2013 (UTC)

Sut allwch chi helpu?

Gwirfoddoli

Noddwyr - Diolch yn fawr!

Hyrwyddo

Tagiau

#haciaith yw tag swyddogol y digwyddiad. Defnyddwich o ym mhob cofnod blog, trydariad, tweet, llun, fideo am y digwyddiad er mwyn i bawb dilyn y drafodaethau.

Cyhoeddusrwydd a'r Wasg

Swper Nos Wener

Digwyddiad yn y Llyfrgell, Dydd Gwener

Manylion i ddilyn

Ble i aros?

Teithio

English translation and other languages

Here's a rough machine translation of this page into English. And it is rough.

Anyone is welcome to attend Hacio'r Iaith. The focus of our community and events is use of technology by Welsh speakers, through the Welsh language and also for Welsh learners. We may be able to provide simultaneous translation into other languages for those who request it in advance.

In Welsh, 'yr iaith' means 'the language' and 'Hacio’r Iaith' means 'hack the language'.