Gweithrediadau

Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hacio'r Iaith - Ionawr 2013"

Oddi ar Hedyn

B (Symudwyd y dudalen Hacio'r Iaith - Chwefror 2013 i Hacio'r Iaith - Ionawr 2013 gan Carlmorris dros y ddolen ailgyfeirio)
(Dim gwahaniaeth)

Diwygiad 15:41, 24 Hydref 2012

Er mwyn ysgrifennu ar wici Hedyn / Hacio'r Iaith rhaid i chi gofrestru yma fel aelod o'r wici. Mae hyn yn atal sbambots digywilydd rhag sarnu'r dudalen. Os ydych yn bwriadu mynychu Hacio'r Iaith 2013, cofiwch gofrestru.

Peidiwch bod ofn golygu'r dudalen, ond triwch roi eich llofnod wrth unrhyw olygiad neu ychwanegiad fel ein bod yn gwybod pwy ydych chi.

Hacio-iaith-logo.jpg

Manylion y digwyddiad

Beth?

Cyfle i bobol sy'n gwneud projectau gwe a thechnoleg yn y Gymraeg, neu am y Gymraeg, i ddod i gyflwyno eu profiadau ac i ddysgu oddi wrth ein gilydd mewn awyrgylch braf a hamddenol.

Mae'n gynhadledd agored am ei fod yn cael ei drefnu ar sail egwyddor agored. Mae hyn yn golygu bod cyfle i unrhywun ddod, am ddim, a chyflwyno am bwnc o'u dewis nhw (yn ddibynnol ar sicrhau slot amser). Mae wedi ei drefnu ar sail digwyddiadau BarCamp, sydd yn anffurfiol iawn, lle caiff trefn y dydd yn cael ei benderfynu gan y siaradwyr. Dyma esboniad da gan flogiwr o Ganada.

Bydd eisiau cyswllt di-wifr cyflym am ddim i bawb sydd yn cymryd rhan er mwyn hwyluso dogfennu a thrafod yn ystod y digwyddiad.


Pryd?

I'w gadarnhau.

Cer i Sgwrs:Hacio'r Iaith - Chwefror 2013

Ble?

I'w gadarnhau.

Cer i Sgwrs:Hacio'r Iaith - Ionawr 2013