Gweithrediadau

Gwefannau Cymraeg colledig

Oddi ar Hedyn

Rydym yn ceisio casglu rhestr o wefannau Cymraeg colledig fel archif ar gyfer ymchwil ac ysbridoliaeth. Diolch i Dafydd am y syniad.

Dw i wedi defnyddio fformat syml iawn am y tro. Rydym yn gallu ei dacluso nes ymlaen.

Blogiaf cyn hir ar haciaith.com

--Carlmorris (sgwrs) 17:05, 12 Gorffennaf 2015 (BST)

Y rhestr o wefannau Cymraeg colledig

Blogiau / gwefannau 'arferol'

Adolygiad

hen gyfeiriad: www.adolygiad.com

disgrifiad: Archif o adolygiadau byrion yn Gymraeg. Roedd y wefan yn casglu trydariadau o Twitter gyda'r tag #adolygiad bob awr.

archif: http://web.archive.org/web/20150801004706/http://adolygiad.com/

Bandit

hen gyfeiriad: www.bandit247.com

disgrifiad: Gwefan i gydfynd a'r rhaglen gerddoriaeth Bandit ar S4C. (daeth i ben yn 2011)

archif: http://web.archive.org/web/20111219001203/http://www.bandit247.com:80/

BBC Cymru

Mae nifer fawr o hen wefannau wedi diflannu ers tua Awst 2019. Mae'n bosib eu gweld drwy beiriant Wayback. Dyma restr cychwynnol - mae gan rai safleoedd is-adrannau helaeth.

  • Diweddariad 9/9/2019 - wedi cael ateb gan y BBC yn dweud fod trafferthion technegol wedi eu datrys a fod y tudalennau nôl bellach


Chwilotydd

hen gyfeiriad: www.chwilotydd.com

disgrifiad: Ymgais ar greu peiriant chwilio

archif: dim i'w weld

nodiadau: Mae'n debyg fod y wefan yma yn adeiladu ar ben gwefan Google ond yn cynnwys rhestr o wefannau Cymraeg oedd yn ymddangos o flaen canlyniadau arferol http://maes-e.com/viewtopic.php?f=23&t=24980

Clecs Cymru

hen gyfeiriad: clecs.cymru

disgrifiad: Gwefan ac ap gymdeithasol ar gyfer rhannu negeseuon byr ac ati

nodiadau: Datblygwyd y wefan yn 2015 gan Michael McCabe, datblygwr medalwedd o Tonteg yn Rhondda Cynon Taf. Roedd y wefan yn efelychiad o wefan Twitter ac roedd ap i gael i ffonau symudol hefyd (iPhone ac Android). Caewyd y wefan lawr ar 24 Mai 2018. Mae'r dyfyniad yma o'i cyfrif Facebook:

4 blynedd yn ôl dechreuon ni ar ei nod o roi cartref i'r Gymraeg ar-lein. Adnodd penodol i siaradwyr Cymraeg ryngweithio ym mhob man, heb deimlo eu bod nhw'n bobl o'r tu allan, neu eu bod yn defnyddio cynnyrch oedd ddim o'r un safon â'r holl rai eraill. Aeth llawer o amser, arian a chariad i mewn i greu beth ddaeth yn 'Clecs' ac allwn ni ddim bod yn falchach o'r hyn wnaethom ei greu.

Yn anfoddus, mae hi rŵan yn amser dweud Hwyl Fawr.

Mae dau brif reswm pam ein bod yn gorfod rhoi'r gorau iddi, fodd bynnag, maent oll yn deillio o wirionedd trist unrhyw fusnes. Arian. Yn syml, does gennym ni ddim digon o arian i barhau. Gyda'r gofynion sydd ar ddod i gydymffurfio â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn ogystal â bod angen gwneud gwaith atgyweirio strwythurol a graffigol ar y wefan, does gennym ni ddim dewis.

Pan ddechreuon ni, fe wnaethom ni sicrhau nawdd gan gwmni o Gasnewydd er mwyn gwireddu ein breuddwyd. Ers hynny, does yr un person sydd wedi bod yn rhan o'r freuddwyd, na'r cwmni wnaeth fuddsoddi ynom ni, wedi gwneud yr un geiniog o'r fenter hon, er bod degau o filoedd o arian wedi mynd i mewn iddi. Roeddem ni eisiau cadw'r cynnyrch yn un oedd heb hysbysebion a doeddem ni ddim eisiau gwerthu eich data. Tydym ni erioed wedi rhoi unrhyw beth i unrhyw drydydd barti.

Fe geision ni nawdd ychwanegol o nifer o ffynonellau gwahanol ers lansio’r wefan, a hyd yn oed yn y dyddiau cynnar gyda nifer syfrdanol o bobl yn dangos diddordeb ac yn ei defnyddio a miloedd yn cofrestru ar ei chyfer, doedd dim diddordeb gan unrhyw un. Roedd pobl enwog, Aelodau Seneddol a mudiadau yn cofrestru er mwyn defnyddio Clecs, ond doedd neb eisiau helpu. Y siom fwyaf oedd Llywodraeth Cymru gan ein bod wedi ymgeisio am grantiau ar sawl achlysur dim ond i gael gwybod nad oedd y busnes yn ddichonadwy. Ar yr un pryd, roedd cannoedd o siaradwyr Cymraeg yn cofrestru ar ei chyfer, a ni oedd y wefan iaith Gymraeg oedd yn cael ei hymweld fwyaf ar draws y byd.

Yn anffodus ers y dyddiau gogoneddus hynny, tydy pobl ddim yn defnyddio'r wefan gymaint mwyach ac mae nifer y bobl sy'n cofrestru ar ei chyfer wedi lleihau. Fe wnaeth nawdd hysbysebion ddod i ben yn fuan iawn a doedd dim modd ychwanegu nodweddion. Bellach, ynghyd â'r rhagolygon am ffioedd yn gysylltiedig â GDPR, mae hi'n amser dod â phethau i ben.

Rydym ni'n mawr obeithio daw rhywun i'n hachub o'r tywyllwch, fodd bynnag yn yr achos tebygol na fydd hynny yn digwydd, byddwn yn dod â phethau i ben ar y 24ain o Fai.

Diolch i bawb wnaeth gyfrannu tuag at Clecs. Yr holl bobl wnaeth ddod yn ffrindiau, y sgyrsiau a'r hwyl gafodd pawb a'r cariad oedd yn amlwg tuag at yr iaith Gymraeg.

Diolch ichi am y daith hon

Croesair

hen gyfeiriad: www.croesair.com

disgrifiad: Croeseiriau Cymraeg

archif: http://web.archive.org/web/20051227020226/http://www.rhys.cymru1.net/croesair1.html

Cybercafe Caerdydd

hen gyfeiriad:http://cardiffcybercafe.co.uk/welsh/index.html

disgrifiad: Gwefan y caffi gwe cynta yng Nghaerdydd (nid Cymru)

archif: http://web.archive.org/web/19980117062559/http://cardiffcybercafe.co.uk/welsh/index.html

CymChwil

hen gyfeiriad: www.cymchwil.com

disgrifiad: Ymgais arall ar greu peiriant chwilio Cymraeg

archif: http://web.archive.org/web/20070806040749/http://www.cymchwil.com/

Cymru ar y we

hen gyfeiriad: www.cymruarywe.org

disgrifiad: Porth testunol sy'n rhoi mynediad i ddeunydd o ddiddordeb Cymreig ar y We Fyd Eang. Lansiwyd yn 2002. Diflannodd yn mis Mawrth 2007

awdur: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

archif: http://web.archive.org/web/20050205132715/http://www.cymruarywe.org/

Dic Sais

hen gyfeiriad: geocities.com/gwladgarwyr

disgrifiad: gwefan ddychanol

awdur: Dic Sais

archif: https://web.archive.org/web/*/geocities.com/gwladgarwyr

Dimensiwn 4

hen gyfeiriad: www.dimensiwn4.co.uk

disgrifiad: Caffi gwe yn Nghaernarfon, y perchennog oedd Gwyneth Ellis.

archif: http://web.archive.org/web/20010402103757/http://www.dimensiwn4.co.uk/

Dyna Hwyl

hen gyfeiriad: www.dyna-hwyl.com

disgrifiad: Gwefan yn gwerthu cwrs dysgu Cymraeg ar CD-ROM

archif: http://web.archive.org/web/20021210152347/http://www.dyna-hwyl.com/f-index.html

E-bych

hen gyfeiriad: http://www.e-bych.com/

disgrifiad: Cylchgrawn ar gyfer straeon, nofelau a barddoniaeth.

archif: http://web.archive.org/web/20121122070055/http://www.e-bych.com/public/index.cfm

Gwe Preseli

hen gyfeiriad: www.preseli.com

disgrifiad: Gwasanaethau gwe, ac yn ddiweddarach - siop arlein ar gyfer nwyddau Cymraeg.

archif: http://web.archive.org/web/20020124030249/http://www.preseli.com/

Gwead

hen gyfeiriad: www.gwead.cymru.org

disgrifiad: Gwasanaeth gwe/rhyngrwyd cynnar i ysgolion Cymraeg Gwynedd, yn cynnwys tudalennau cartref i nifer o'r ysgolion

archif: http://web.archive.org/web/19970408025810/http://www.gwead.cymru.org/cartref.htm

Gwyliau Cymraeg

hen gyfeiriad: http://www.gwyliaucymraeg.co.uk

disgrifiad: Gwefan gan y Mentrau Iaith a chyrff eraill yn rhestru atyniadau a llety sy'n cefnogi'r Gymraeg

archif: http://web.archive.org/web/20081225192925/http://www.gwyliaucymraeg.co.uk/WiSSCMS-cym-171.aspx

nodiadau: Fe adawyd y parth i'w derfynu yn 2011 a fe gafodd ei ail-gofrestru gan rywun sy'n ei ddefnyddio ar gyfer pwrpas SEO, yn Saesneg!

Gwynedd.net

hen gyfeiriad: www.gwynedd.net

disgrifiad: Gwasanaeth llety gwefannau ac ebost ar gyfer busnesau lleol yng Nghwynedd. 1997-2003. Am wn i mae'r gwasanaeth ebost yn parhau.

archif: http://web.archive.org/web/20030319195721/http://www.gwynedd.net/

Hysbysebu

hen gyfeiriad: www.hysbysebu.com

disgrifiad: Ymgais ar greu rhwydwaith hysbysebu 'baner' ar wefannau Cymraeg

archif: http://web.archive.org/web/20080228000652/http://www.hysbysebu.com/

Lle ar y we

hen gyfeiriad: www.llearywe.com

disgrifiad: Wedi dechrau fel gwefan ar gyfer hysbysebu, wedyn newid i gyfeiriadur busnes/gwefannau

awdur: Owen Llywelyn?

archif: http://web.archive.org/web/20080701134209/http://www.llearywe.com/

Llygredd Moesol

hen gyfeiriad: http://www.llygredd.moesol.btinternet.co.uk

disgrifiad: Gwefan am rai o fandiau yr 80au ynghyd a ffeiliau mp3

awdur: Dewi Gwyn

archif: http://archif.rhwyd.org/llygredd-moesol/

Llywodraeth Cymru (nid go iawn)

hen gyfeiriad: http://llywodraethcymru.org/

disgrifiad: Gwefan ddychanol yn dynwared un Llywodraeth Cymru i dynnu sylw at ddiffygion polisiau'r llywodraeth ar yr iaith Gymraeg.

archif: http://web.archive.org/web/20150801182047/http://llywodraethcymru.org/

Metastwnsh

hen gyfeiriad: www.metastwnsh.com

disgrifiad: Technoleg

awdur: Grŵp

archif: mae copi o'r cofnodion gyda fi. Dylwn i adfer cofnodion, gan y rhai sy'n hapus i mi wneud hynny, ar wefan Hacio'r Iaith. --Carlmorris (sgwrs) 17:13, 12 Gorffennaf 2015 (BST)

Miri Mawr

hen gyfeiriad: www.mirimawr.com

disgrifiad: Cyfeiriadur o wefannau Cymraeg

awdur: Llion Gerallt

archif: http://web.archive.org/web/20040205053008/http://www.mirimawr.com/

Pioden

hen gyfeiriad: www.pioden.net

disgrifiad: Cwmni datblygu gwefannau ym Mangor

awdur: Huw Wyn Jones

archif: http://web.archive.org/web/20150213080904/http://www.pioden.net/

nodiadau: O'r wefan - "1996 – 2014 Ers 31/10/2014 mae cwmni Pioden wedi cau. "

Rhithfro

hen gyfeiriad: www.rhithfro.com

disgrifiad: Rhestr o flogiau Cymraeg

archif: http://web.archive.org/web/20050924094956/http://rhithfro.com/

awdur: Aled Bartholomew

nodiadau: Roedd yn darparu sgript JavaScript i'w osod ar flog er mwyn rhoi dolenni i flogiau Cymraeg arall.

Rhwydwaith Cymru / Network Wales

hen gyfeiriad: www.network.wales.org.uk

disgrifiad: Porth cynnar i Gymru gan y WDA, yn cynnwys dolenni i wefannau.

archif: http://web.archive.org/web/19971009062250/http://www.network.wales.org.uk/index.cymraeg.html

Sesh

hen gyfeiriad: www.sesh.tv

disgrifiad: Gwefan gymdeithasol ar gyfer llwytho fyny fideos Cymraeg

awdur: Cynhyrchiad Boomerang yn rhedeg ar y cyd gyda Adran Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth

archif: dim i'w weld

Sgrin

hen gyfeiriad: www.sgrin.com

disgrifiad: Gwefan i lwytho fyny fideos

awdur: Luke Williams

archif: http://web.archive.org/web/20081223052338/http://www.sgrin.com/index.php

Sgwarnog

hen gyfeiriad: www.sgwarnog.org

disgrifiad: Gwasanaeth ebost a gwebost yn Gymraeg

archif: http://web.archive.org/web/20031204060001/http://www.sgwarnog.org/ebost.html

Siaradog

hen gyfeiriad: http://www.siaradog.com/

disgrifiad: Gwefan yn gwe-ddarlledu rhaglenni sgwrsio/adloniant gyda Nei Karadog

archif: http://web.archive.org/web/20070829125701/http://www.siaradog.com/

nodiadau: Edefyn maes-e am y rhaglen

SpeechDat

hen gyfeiriad: www.speech.cymru.org

disgrifiad: Cynllun oedd yn casglu recordiadau sain o siaradwyr Cymraeg er mwyn datblygu system adnabod llais.

archif: http://web.archive.org/web/20010815112435/http://www.speech.cymru.org/croeso.html

Tecstio

hen gyfeiriad: http://www.tecstio.com/

disgrifiad: Meddalwedd ar gyfer 'tecstio darogan' yn Gymraeg

archif: http://web.archive.org/web/20130807184332/http://www.tecstio.com/

Yn Y Ffram

hen gyfeiriad: ynyffram.org

disgrifiad: Adnodd ar gyfer myfyrwyr addysg uwch sy'n dysgu am ffilm a theledu trwy gyfrwng y Gymraeg.

archif: https://wici.porth.ac.uk/index.php/Categori:Ffilm_a_Theledu_Cymru

nodiadau: Mae'r cynnwys wedi eu drosglwyddo i wici y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Gwleidyddol

Adam Price AS/MP

hen gyfeiriad: www.adamprice.org.uk/home-w.shtml

disgrifiad: gwleidydd

awdur: Adam Price ac eraill

archif: http://web.archive.org/web/20080224134059/http://www.adamprice.org.uk/home-w.shtml

Plaid Cymru

hen gyfeiriad: plaid-cymru.wales.com

disgrifiad: Gwefan gynta Plaid Cymru

archif: http://web.archive.org/web/19970303061739/http://plaid-cymru.wales.com/

Cerddoriaeth

Bandiau

Disglair

hen gyfeiriad: www.disglair.net

disgrifiad: band

archif: http://web.archive.org/web/20130419074958/http://disglair.net/homeadref.cfm

GHR2

hen gyfeiriad: www.geocities.com/ghr2_aber

archif: http://www.geocities.ws/ghr2_aber/

Gorky's Zygotic Mynci

hen gyfeiriad: http://www.mewn.co.uk/gorkys a http://www.gorkys.com

disgrifiad: band

archif: http://web.archive.org/web/20031219063955/http://www.mewn.co.uk/gorkys/ a http://web.archive.org/web/20120414221201/http://www.gorkys.com/

Llwybr Llaethog

hen gyfeiriad: http://uk.geocities.com/llwybr_llaethog

archif: http://web.archive.org/web/20021212125458/http://uk.geocities.com/llwybr_llaethog/fframnew.htm

Maharishi

hen gyfeiriad: www.maharishi-online.co.uk

disgrifiad: Band

awdur: Maharishi

archif: http://web.archive.org/web/*/http://www.maharishi-online.co.uk

Melys

hen gyfeiriad: melys.co.uk

disgrifiad: band

awdur: Melys

archif: http://web.archive.org/web/*/http://www.melys.co.uk/

Mwng

hen gyfeiriad: mwng.co.uk

disgrifiad: albwm gan Super Furry Animals

awdur: label Placid Casual

archif: ??

Pep le Pew

hen gyfeiriad: www.peplepew.com

disgrifiad: band

awdur: Pep le Pew

archif: http://web.archive.org/web/*/http://www.peplepew.com

Sherbet Antlers

hen gyfeiriad: www.sherbetantlers.com

archif: http://sherbetantlers.rhwyd.org/

Zabrinski

hen gyfeiriad: www.zabrinksi.com

archif: http://web.archive.org/web/20050204090649/http://www.zabrinski.com/

Labeli, Newyddion, Sioeau

Fitamin Un

hen gyfeiriad: www.fitamin-un.com

archif: http://web.archive.org/web/20031011193436/http://fitamin-un.com/ neu [Fitamin Un]

Disgrifiad: Label tanddaearol

Radio Acen

hen gyfeiriad: www.radioacen.fm

disgrifiad: Gorsaf radio wedi ei anelu at ddysgwyr, gan gwmni Acen. Roedd yn chwarae cerddoriaeth Gymraeg gyda'r geiriau yn ymddangos ar y sgrîn, a roedd yn wersi sain ar gael hefyd.

archif: http://web.archive.org/web/20030806070228/http://www.radioacen.fm/

Radio Amgen

hen gyfeiriad: http://www.geocities.com/radio_amgen/

disgrifiad: Cychwynnodd y wefan yn Hydref 2001 ar Geocities. Fe symudodd i www.radioamgen.com erbyn Mai 2002.

archif: http://web.archive.org/web/20050118100815/http://www.geocities.com/radio_amgen/

Radio D

hen gyfeiriad: www.radio-d.co.uk

disgrifiad: Gorsaf radio Cymraeg 'cyntaf ar y we', gan Johnny R. 1999-2000

archif: http://web.archive.org/web/20010124011600/http://www.radio-d.co.uk/

R-bennig

hen gyfeiriad: www.r-bennig.co.uk

disgrifiad: label recordiau

awdur: R-bennig

archif: http://web.archive.org/web/*/http://www.r-bennig.co.uk

Reggae Fi Wan

hen gyfeiriad: www.reggaefiwan.com

disgrifiad: trefnwyr gigs yn Ngogledd Cymru

archif: http://web.archive.org/web/20070107024817/http://www.reggaefiwan.com/

Sadwrn

hen gyfeiriad: http://www.sadwrn.com/

disgrifiad: Gwerthu cerddoriaeth Cymraeg a nwyddau cysylltiedig arall

archif: http://web.archive.org/web/20141010032743/http://www.sadwrn.com/cym/

nodiadau: Fe agorwyd yn Mai 2010. Caeodd lawr 1af o Ebrill 2015. Fe gymerodd y wefan drosodd o wefan Sebon a gaeodd lawr yn 2009.

Trawscentral

hen gyfeiriad: www.geocities.com/trawscentral

disgrifiad: gwefan Trawsfynydd Lo-Fi Liberation Front

awdur: Steffan Cravos

archif: http://www.oocities.org/trawscentral/derbynfa.html

Unarddeg

hen gyfeiriad: www.unarddeg.com

disgrifiad: Gwefan gerddoriaeth

archif: http://web.archive.org/web/20040406142240/http://www.unarddeg.com/html/index.php

Ffansins

Brechdan Tywod

disgrifiad: Gwefan i gyd-fynd a ffansîn Brechdan Tywod

archif: [Brechdan Tywod]

awdur: Steffan Cravos

Welsh Bands Weekly

hen gyfeiriad: uk.geocities.com/wbwlist

archif: http://www.oocities.org/wbwlist/

Fforymau / wicis / platfformau cymdeithasol / amlgyfranog

Cefn Gwlad

hen gyfeiriad: www.cefngwlad.org

disgrifiad: Prosiect Fforwm Gwledig Cymru oedd yr Adnodd Gwledig. Fe'i hariannwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (EPC) a chyllid Amcan 1 Ewropeaidd (EAGGF).

archif: http://web.archive.org/web/20080513085941/http://www.cefngwlad.org/

Cwtsh

hen gyfeiriad: http://www.cwtsh.com/

disgrifiad: Gwefan ddetio

archif: http://web.archive.org/web/20030805035816/http://www.cwtsh.com/

nodiadau: Syniad gan Stifyn Parri i ddechrau, yna gwerthwyd y parth i Sarah Cornelius a oedd yn rhedeg gwefan tebyg cwtch.com. Hanes diddorol ar maes-e

Dim Cwsg

hen gyfeiriad: www.dimcwsg.com

disgrifiad: Trafodaeth am fagu plant

awdur: Grŵp

archif: http://web.archive.org/web/20060720082630/www.dimcwsg.com/

Dyfodol

hen gyfeiriad: www.dyfodol.com

disgrifiad: fforwm Cymraeg wedi ei anelu at bobl dan 19

awdur: Gwion Larsen

archif: dim byd o werth

nodiadau: O'r archifau roedd i weld yn eitha byr-hoedlog, para am rai misoedd yn unig

PenTalarPedia

hen gyfeiriad: pentalarpedia.com

disgrifiad: gwybodaeth am gyfres S4C gan wylwyr

awdur: Grŵp

archif: mae archif gyda fi, gallwn i adfer y peth - ond unrhyw ddiddordeb? --Carlmorris (sgwrs) 17:37, 12 Gorffennaf 2015 (BST)

nodiadau (dewisol): roedd problem gyda MediaWiki ond mae'r enw parth/lletya dal mewn lle

Perthyn

hen gyfeiriad: www.perthyn.com

disgrifiad: Gwefan gymdeithasol

archif: http://web.archive.org/web/20071111211936/http://www.perthyn.com/

wici: https://cy.wikipedia.org/wiki/Perthyn.com

Pictiwrs

hen gyfeiriad: www.pictiwrs.com

disgrifiad: Gwefan newyddion a fforwm am sinema a teledu yn Gymraeg

awdur: Rhodri ap Dyfrig

archif: http://web.archive.org/web/20070302014021/http://www.pictiwrs.com/

Pishyn

hen gyfeiriad: http://www.pishyn.com/

disgrifiad: Gwefan ddetio/gymdeithasol

archif: ?

nodiadau: 'Mae'n ddrwg iawn gennym, ond mae ymosodiad maleisus yn erbyn gwefan Pishyn.com wedi dinistrio llawer iawn o ffeiliau'r wefan.'

Rygbi Cymru

hen gyfeiriad: www.rygbicymru.com a sgarmes.com

disgrifiad: fforwm ar gyfer trafod rygbi yn Gymraeg

archif: http://web.archive.org/web/20050611005901/http://www.rygbicymru.com/

Wiki Deddfu

hen gyfeiriad: www.wikideddfu.com

disgrifiad: Ymgais i dorfoli trafodaeth am ddeddfau newydd i Gymru

archif: http://web.archive.org/web/20080411172251/http://wikideddfu.com/index.php/Main_Page?uselang=cy

Cyfrannwch

Sut i olygu'r dudalen hon

Mae croeso i chi ddiweddaru'r dudalen hon. Ewch i Gymorth am help.

Defnyddiwch y fformat isod:

=== Enw ===

hen gyfeiriad:

disgrifiad:

awdur:

archif:

nodiadau (dewisol): pam ddiflannodd y wefan, dyddiadau, ayyb

Syniadau / i'w gwneud

Nodiadau