Gweithrediadau

Gŵyl Dechnoleg Gymraeg Eisteddfod Genedlaethol 2012

Oddi ar Hedyn

Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:37, 16 Gorffennaf 2012 gan Carlmorris (Sgwrs | cyfraniadau)
Eisteddfod-logo.gif
Hacio-iaith-logo.jpg

Wyt ti'n dod i'r Eisteddfod eleni? (4-11 Awst 2012)

Dere i'r Cefnlen ar y maes am yr Ŵyl Dechnoleg Gymraeg gyda ni! Bydd sgyrsiau am Gymraeg a thechnoleg, gweithdai, di-wifr, trydan a mwy.... Croeso cynnes i bawb.

Ble mae'r maes? Hen Faes Awyr Llandŵ, Bro Morgannwg, Rhif OS: SS 957717

Croeso! Dyma sut i gyfrannu at y wici yma...

Er mwyn ysgrifennu ar wici Hedyn / Hacio'r Iaith rhaid i chi gofrestru yma fel aelod o'r wici. Mae hyn yn atal sbambots digywilydd rhag sarnu'r dudalen.

Peidiwch bod ofn golygu'r dudalen, ond triwch roi eich llofnod wrth unrhyw olygiad neu ychwanegiad fel ein bod yn gwybod pwy ydych chi.

Mae Hedyn yn defnyddio'r un system a Wicipedia Cymraeg, sef Mediawiki. Os wyt ti'n gallu wneud un ti'n gallu wneud y ddau.


Noddwyr

. . .


Manylion y digwyddiad

Beth?

Mae Hacio'r Iaith yn cymryd rhan yn yr Ŵyl Dechnoleg Gymraeg yn Eisteddfod Genedlaethol 2012.

Os wyt ti eisiau dysgu mwy am y cymuned/digwyddiad, cer i Hacio'r Iaith.


Amserlen

Sgwrs am yr amserlen

('ddim ar gael' yn golygu bod beirdd yn defnyddio'r Cefnlen) (HG = Heb Gadarnhau; WC = Wedi Cadarnhau)

Sadwrn

10.00 – 12.00 Cymorth Cyfryngau Digidol (WC)

12.00 – 15.00 ddim ar gael

15.00 – 18.00 Gweithdy Blogwyr Bro Steddfod 2012 (WC)


Sul

10.00 – 12.00 Cymorth Cyfryngau Digidol (WC)

12.00 – 15.00 Ddim ar gael

15.00 – 18.00 Cymorth Cyfryngau Digidol (WC)


Llun

10.00 – 12.00 Gweithdy Llyfrle gyda Chasgliad y Werin a Phrifysgolion Nottingham ac Abertawe (WC)

12.00 – 15.00 Ddim ar gael

15.00 – 18.00 Gweithdy cynhyrchu fideo ar gyfer y we gyda thîm Sianel 62 (WC)


Mawrth

09.00 – 12.00 Ddim ar gael

12.00 – 15.00 Ddim ar gael

15.00 – 18.00 Hacio’r Iaith – sesiwn agored amlgyfrannol ar dechnoleg, y Gymraeg a phopeth yn y canol (WC)


Mercher

10.00 – 12.00 Cymorth Cyfryngau Digidol (WC)

12.00 – 15.00 Ddim ar gael

15.00 – 18.00 Wicipediwch! – sesiwn ymarferol ar gyfrannu at y gwyddoniadur rhydd (WC)


Iau

09.00 – 12.00 Ddim ar gael

12.00 – 15.00 Ddim ar gael

15.00 – 18.00 Hacio’r Iaith – sesiwn agored amlgyfrannol ar dechnoleg, y Gymraeg a phopeth yn y canol (WC)


Gwener

10.00 – 12.00 Cymorth Cyfryngau Digidol + Gweithdy Creu App ar gyfer dechreuwyr gyda Mei Gwilym (WC)

12.00 – 15.00 Ddim ar gael

15.00 – 18.30 Gwella dy Gymraeg di drwy blogio/trydar/wneud podlediad + Gweithdy addasu lluniau (WC)


Sadwrn

10.00 – 12.00 Cymorth Cyfryngau Digidol (WC)

12.00 - 13.30 Haclediad – recordiad byw o’r podlediad sy’n trafod technoleg (WC)



Sgwrs am yr amserlen

('ddim ar gael' yn golygu bod beirdd yn defnyddio'r Cefnlen)


Pwy sydd ar gael? Pryd?

Dy enw isod plis! Rydyn ni'n chwilio am o leiaf 4 person i fod ar gael ar gyfer pob diwrnod. Mae tocynnau i wirfoddolwyr (pan maen nhw mewn stoc...)


Sadwrn

  • Carl Morris
  • Gareth Morlais - dwi’n hapus cynnig help WordPress, straeon digidol neu Flickr/delweddau

Sul

  • Carl Morris
  • Rhys Wynne
  • Sion Richards
  • Rhodri ap Dyfrig


Llun

  • Carl Morris
  • Rhodri ap Dyfrig (pnawn)
  • Greg Bevan (pnawn)
  • Daf Wyn

Mawrth

  • Rhodri ap Dyfrig
  • Sioned Mills
  • Huw Marshall
  • Daf Wyn

Mercher

  • Carl Morris
  • Rhys Wynne (gobeitho p'nawn, a falle bore - yn ddibynol ar gwaith)
  • Robin Owain
  • Gareth Morlais - dwi’n hapus cynnig help WordPress, straeon digidol neu Flickr/delweddau (N.B. dwi wedi newid hwn o ddydd Sul>Mercher)

Iau

  • Carl Morris
  • Rhodri ap Dyfrig
  • Sioned Mills

Gwener

  • Mei Gwilym
  • Sioned Mills
  • Leia Fee (i'w gadarnhau)

Sadwrn

  • Rhodri ap Dyfrig
  • Sioned Mills
  • Bryn Salisbury
  • Iestyn Lloyd


Cynigion

  • Dwi ogwmpas drwy’r wythnos, felly os oes unrhyw fylchau angen eu llenwi... (Huw Marshall)

Blogwyr Bro Steddfod 2012

Rydyn ni'n credu bod na lawer mwy o straeon diddorol i'w hadrodd o'r maes na dim ond yr hyn mae'r cyfryngau torfol yn gallu eu cynnig. Ydych chi eisiau dweud eich stori chi o'r maes?

Rydyn ni'n mynd i fod yn annog pobol i gofrestru i fod yn flogwyr bro ar gyfer Eisteddfod 2012. Drwy gofrestru cewch chi fathodyn blogwyr bro, mynediad at gyfrifiaduron, camerâu a'r we i lwytho eich deunydd a chyngor ar bob agwedd o gynhyrchu blogiau, fideo, lluniau neu recordiadau sain o'r maes. Bydd ganddon ni ddau docyn y Wasg fydd hefyd yn rhoi mynediad i'r cynhadleddau i'r wasg a drefnir gan y Steddfod. Bydd gweithdy ar gyfer y blogwyr bro ar y dydd Sadwrn cyntaf, ond byddwn ar gael i ateb cwestiynau drwy gydol yr wythnos a bydd Sion Richards sydd yn gynhyrchydd fideo ac yn gwneud gwaith ymchwil ar newyddiaduraeth hefyd gyda ni i roi cyngor.

Bydd yr holl ddeunydd yn cael ei gasglu mewn un man a byddwn yn helpu i rannu dolenni am eich cynnyrch yn eang fel y cewch chi ddarlleniad eang.

Ymunwch yn y tîm blogwyr bro! Manylion llawn am sut i gofrestru i ddod yn fuan...

Trafodwch y gweithgareddau hyn yma..

Tag / hashtag

#haciaith yw hashtag swyddogol y digwyddiad. Defnyddiwch e ym mhob trydariad.

haciaith yw tag swyddogol y digwyddiad ar gyfer platfformau eraill. Defnyddiwch e ym mhob cofnod blog, tweet, llun, fideo am y digwyddiad a byddwn ni'n gallu dilyn y drafodaeth.

Gyda llaw mae'r Eisteddfod Gen yn hyrwyddo #steddfod2012 eleni fel hashtag swyddogol yr wyl. Does dim angen defnyddio'r ddau pob tro heblaw os wyt ti'n cyfeirio at y ddau. Fel arfer mae #haciaith yn digon brysur fel y mae yn ystod digwyddiadau!

Cyfryngau / Y wasg

[Datganiad i'r wasg]


English

If you need the gist of this page in English or another language try Google Translate.