Gweithrediadau

Fideo: digwyddiadau byw

Oddi ar Hedyn

Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:52, 18 Mawrth 2017 gan Carlmorris (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)

Sut ydw i'n cynhyrchu fideo o safon? Dyma canllaw cyflym i ddechreuwyr sy'n canolbwyntio ar ddigwyddiadau byw.

Fel beth?

  • Eisteddfod
  • pethau yn y gymuned
  • gigs
  • barnau/ymgyrchu
  • areithiau
  • priodasau
  • cyfweliad neu sgwrs am rywbeth
  • digwyddiadau eraill

Beth ydw i ei angen?

Mae angen:

  • cyfrifiadur
  • cysylltiad i'r we
  • cyfeiriad e-bost
  • camera rhad fel Flip neu ffôn gyda chamera

Cyn gadael

  • Mae llawer o bobl yn gadael y tŷ gyda chamera bob dydd. Pam lai?
  • Paid ag anghofio dy wefrwr ac i'w defnyddio cyn i chi adael. (Neu batris os angen.)

Caniatâd

Mae'r caniatâd y bobl yn y fideo yn bwysig.

Dylech chi sôn am eich bwriad o gyhoeddi ar-lein hefyd.

Ambell waith mae'n iawn heb ofyn, e.e. os ydych chi wedi mynd i gyfarfod cyhoeddus gyda'r wasg a chyfryngau eraill.

Os fydd plant yn y fideo mae'n bwysig iawn sicrhau caniatâd o'r rhieni.

Athroniaeth

  • Mae fideo ryff yn gallu bod yn fwy atyniadol na fideo slic gan gwmni proffesiynol.
  • Mae digon o le ar y we am eich fideo hyd yn oed fideos mewn niche am bwnc arbennig. Eisiau gwneud fideo am gadw pysgod neu eich hoff cerddoriaeth Almaeneg o'r 70au? Wel pam lai?

Syniadau / fformatau

  • Saethu wyneb. Gyda llais yn y cefndir (bydd sain eich llais yn eitha cryf).
  • Cyfweliad rhwng unigolyn a chi (sefyll neu eistedd)
  • Os mae pobol yn y fideo yn eistedd mae'r canlyniad yn wahanol. (Gwell ar gyfer siarad weithiau.)

enghreifftiau ar eu ffordd

  • Mae fideos byrion yn weithio yn dda ar-lein. Os mae tri pherson yn annerch digwyddiad, gwnewch dri fideo ar wahan yn hytrach nag un hirfaeth.
  • Fel arfer dylech chi greu dau fideo ar wahan os ydych angen gwneud fideo dwyieithog.

angen mwy yma


Y delwedd

  • Tirwedd pob tro (neu bron bob tro)
  • Byddwch yn ymwybodol o'r haul. Fel arfer rydych chi eisiau haul ar wynebau yn hytrach na'r cefndir. Does dim rheolau - dim ond canllawiau. Ond os ydych chi'n cael yr haul yn y cefndir mae'n edrych fel silwét neu tystion di-enw mewn rhaglen difrifol iawn fel Crimestoppers.
  • Peidiwch â chwyddo os oes modd camu'n agosach. Bydd y llun yn well heb y defnydd o chwyddo.
  • Os ydych chi'n saethu rhywbeth cyflym mae'n neis 'golygu ar y pryd'. Recordiwch a stopiwch mewn amser. Felly fydd ddim rhaid i chi olygu pethau mas hwyrach. Cyflym!

Y sain

  • Byddwch yn ymwybodol o seiniau eraill, yn enwedig gyda chyfweliad neu sgwrs manwl.
  • Mae'n anodd trwsio pethau hwyrach! Felly byddwch yn hyderus, mewn torf ewch i'r blaen os bosib.
  • Weithiau mae rhaid i chi sefyll ar bwys y seinydd am ansawdd awdio gwell.

Sut i greu cyfrif ar YouTube

creu cyfrif ar YouTube
  1. Ewch i http://www.youtube.com/create_account?next=%2F
  2. Llenwch y ffurflen. Dylet ti meddwl am dy enw achos ti'n methu ei newid.
  3. Dilynwch y gorchmynion.

(Mae'r adran yma yn cael ei sgwennu ar hyn o bryd!)

Lanlwytho i YouTube

  • Byddwch yn gyflym. Mae'n neis cael y fideo cyn gynted a phosib. Bydd mwy o ddiddordeb syth ar ôl y digwyddiad. Yr un diwrnod os bosib.
  • Teitl, disgrifiad, tagiau. Pwysig os ydych chi eisiau gwylwyr. Un tag da yw 'cymraeg' os mae'r fideo yn Gymraeg. Syniad da.
  • Cadwch sylwadau ar agor a'r opsiwn mewnosod plis! Mae pobol eisiau rhannu eich fideo a chael sgyrsiau o gwmpas dy fideo.

(Mae'r adran yma yn cael ei sgwennu ar hyn o bryd!)

Enghreifftiau o fideos

Ewch i'r cyfrif Twitter @fideobobdyd am ysbrydoliaeth.

Dolenni perthnasol


Am y dudalen yma

Croeso i chi olygu'r tudalen yma gydag unrhyw bethau defnyddiol.