Gweithrediadau

Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Fideo: digwyddiadau byw"

Oddi ar Hedyn

(Dim gwahaniaeth)

Diwygiad 12:59, 19 Ebrill 2016

Sut ydw i'n wneud fideo o bethau? Dyma canllaw cyflym.

Mae'r ffocws ar ddigwyddiadau ar hyn o bryd.


Fel beth?

  • Eisteddfod
  • pethau yn y gymuned
  • gigs
  • barnau/ymgyrchu
  • areithiau
  • priodasau
  • cyfweliad neu sgwrs am rywbeth
  • digwyddiadau eraill


Beth ydw i ei angen?

Rwyt ti angen:

  • cyfrifiadur
  • cysylltiad i'r we
  • cyfeiriad e-bost
  • camera rhad fel Flip neu ffôn gyda chamera


Cyn gadael

  • Mae lot o bobol yn mynd i bob man gyda chamera. Pam lai?
  • Paid anghofio dy wefrwr ac i'w defnyddio cyn i ti adael. (Neu batris os angen.)


Caniatâd

Mae'r caniatâd o'r bobol yn y fideo yn bwysig.

Dylet ti sôn am y bwriad o YouTube hefyd.

Ambell waith mae'n iawn heb ofyn, e.e. os ti wedi mynd i gyfarfod cyhoeddus gyda'r wasg a chyfryngau eraill.

Os fydd plant yn y fideo mae'n bwysig iawn i sicrhau caniatâd o'r rhieni.

Athroniaeth

  • Mae fideo ryff gallu bod yn well na brochure-fideo gan criw proffesiynol.
  • Mae digon o le ar y we am dy fideo hyd yn oed fideos mewn niche am bwnc arbennig. Eisiau gwneud fideo am gadw pysgod neu dy hoff cerddoriaeth Almaeneg o'r 70au? Wel pam lai?


Syniadau / fformatau

  • Saethu wyneb. Gyda dy lais yn y cefndir (bydd sain dy lais yn eitha cryf).
  • Cyfweliad rhwng unigolyn a thi (weithiau dw i'n eistedd
  • Os mae pobol yn y fideo yn eistedd mae'r canlyniad yn wahanol. (Gwell ar gyfer siarad weithiau.)

enghreifftiau ar eu ffordd

  • Mae fideos byrion yn weithio yn dda ar-lein. Os mae 3 person yn siarad mewn digwyddiad, gwnaf 3 fideo ar wahan yn hytrach nag un enfawr.
  • Fel arfer dylet ti greu dau fideo ar wahan os ti rili rili eisiau wneud fideo dwyieithog. (Neu anghofia'r dwyieithrwydd a gwnaf fideo Cymraeg yn unig. Haws! Mae'n dibynnu.)

angen mwy yma


Gwneud - y delwedd

  • Bydd yn ymwybodol o'r haul. Fel arfer rwyt ti eisiau haul ar wynebau yn hytrach na'r cefndir. Does dim rheolau - dim ond canllawiau. Ond os ti'n cael yr haul yn y cefndir mae'n edrych fel silwét neu pobol di-enw mewn rhaglen difrifol iawn fel Crimestoppers.
  • Ar gamerâu bach mae'r chwyddo yn 'dyfalu' y llun i ryw raddau. Dylet ti osoda'r chwyddo yn y canol fel arfer. Bydd yn agos i'r stori/pobol!
  • Os ti'n saethu rhywbeth gyflym mae'n neis i olygu ar y pryd. Recordia a stopia mewn amser. Felly fydd ddim rhaid i ti golygu pethau mas hwyrach. Cyflym!


Gwneud - yr awdio

  • Bydd yn ymwybodol o seiniau eraill, yn enwedig gyda chyfweliad neu sgwrs manwl
  • Mae'n anodd trwsio pethau hwyrach! Felly bydd yn hyderus, mewn torf cer i'r blaen os bosib
  • Weithiau mae rhaid i ti sefyll ar bwys y seinydd am ansawdd awdio gwell


Sut i greu cyfrif ar YouTube

creu cyfrif ar YouTube
  1. Cer i http://www.youtube.com/create_account?next=%2F
  2. Llenwa'r ffurflen. Dylet ti meddwl am dy enw achos ti'n methu ei newid.
  3. Dilyna'r gorchmynion.

(Mae'r adran yma yn cael ei sgwennu ar hyn o bryd!)


Lanlwytho i YouTube

  • Bydd yn gyflym. Mae'n neis i gael y fideo cyn gynted a phosib. Bydd mwy o ddiddordeb syth ar ôl y digwyddiad. Yr un diwrnod os bosib.
  • Teitl, disgrifiad, tagiau. Pwysig os ti eisiau gwylwyr. Un tag da yw 'cymraeg' os mae'r fideo yn Gymraeg. Syniad da.
  • Cadwa sylwadau ar agor a'r opsiwn mewnosod plis! Mae pobol eisiau rhannu dy fideo a chael sgyrsiau o gwmpas dy fideo.

(Mae'r adran yma yn cael ei sgwennu ar hyn o bryd!)


Dolenni perthnasol


Am y dudalen yma

Croeso i ti olygu'r tudalen yma gydag unrhyw bethau defnyddiol.