Gweithrediadau

EWCH AMDANI!

Oddi ar Hedyn

Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:36, 27 Gorffennaf 2016 gan Carlmorris (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)

Mae cymuned Hedyn yn eich annog i olygu tudalennau, ac yn dweud "Ewch amdani wrth ddiweddaru/gwella erthygl(au)".

Mae wiciau fel yr un a geir yma yn datblygu'n llawer cyflymach pan fo pawb yn helpu'i gilydd i ddatrys problemau, cywiro camgymeriadau, ychwanegu ffeithiau, sicrhau bod geiriad cywir ac ati. Hoffem i bawb fynd amdani a helpu Hedyn fod yn adnodd gwell.

Sawl tro ydych chi wedi darllen rhywbeth a meddwl, "Pam nad oes neb wedi adolygu'r cynnwys yma?" Mae Hedyn yn rhoi'r gallu ichi ychwanegu, adolygu, a golygu tudalenau, a'r gorau oll - mae e eisiau ichi ei wneud! Wir, mae angen rhywfaint o foesgarwch, ond mae'n gweithio. Byddwch yn ei weld e. Wrth gwrs, bydd cyfranwyr eraill yn golygu'r hyn rydych yn ei ysgrifennu hefyd, ond peidiwch â'i gymryd yn bersonol! Maen nhw, fel y gweddill ohonom ni, jyst eisiau gwneud Hedyn yn adnodd cystal ag y gallai fod.