Gweithrediadau

EWCH AMDANI!

Oddi ar Hedyn

Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:48, 31 Ionawr 2012 gan Carlmorris (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)

Mae cymuned Hedyn yn eich annog i olygu tudalennau, ac yn dweud ewch amdani wrth ddiweddaru/gwella erthyl(au). Mae wiciau fel yr un a geir yma yn datblygu'n llawer cyflymach pan fo pawb yn helpu'i gilydd i ddatrys problemau, cywiro gramadeg, ychwanegu ffeithiau, sicrhau bod geiriad cywir ac ati. Hoffem i bawb fynd amdani a helpu i Hedyn fod yn adnodd gwell. Sawl tro ydych chi wedi darllen rhywbeth a meddwl, "Pam nad oes copiolygu gan yr erthygl yma?" Mae Hedyn yn rhoi'r gallu ichi ychwanegu, adolygu, a golygu erthyglau, a'r gorau oll - mae e eisiau ichi ei wneud! Wir, mae angen rhyw dipyn o foesgarwch, ond mae'n gweithio. Byddwch yn ei weld e. Wrth gwrs, bydd cyfranwyr eraill yn golygu'r hyn rydych yn ei ysgrifennu hefyd, ond peidiwch â'i gymryd yn bersonol! Maen nhw, fel y gweddill ohonom ni, jyst am greu Hedyn yn adnodd cystal ag y gallai fod.

Hefyd, pan welwch chi wrthdrawiad mewn tudalen sgwrs, peidiwch ag eistedd yn dawel - ewch amdani a dweud eich dweud yno hefyd.