Gweithrediadau

Dylunio amlieithog - y da, y drwg ac yr hyll

Oddi ar Hedyn

Fersiwn a roddwyd ar gadw am 01:43, 25 Tachwedd 2014 gan Carlmorris (Sgwrs | cyfraniadau)

Defnyddiwch y tudalen yma i gofnodi enwau o gwmnïau neu sefydliadau sydd wedi camddefnyddio Google Translate, Intertran ac ati - gydag enghreifftiau os bosib. Cywilydd.

Addysg

  • Coleg Sir Benfro http://www.pembrokeshire.ac.uk - am gynnig dolen i Google Translate fel opsiwn cyfieithu yn hytrach na chynnig darpariaeth Cymraeg go iawn. Cywilydd ychwanegol am ddylunio'r wefan fel delweddau JPG sy'n anweledig i Google Translate!) Statws: yn fyw. (diolch Nic - cyfeiriad ac esboniad)
  • Cymdeithas Addysg y Gweithwyr De Cymru (WEA) http://www.swales.wea.org.uk/ yn cynnig Google Translate ar gyfer gwefan uniaith Saesneg i ddewis iaith!

Cwmniau

  • [1] Trenau Arriva Cymru - yn cyfaddef defnydd o Google Translate heb gywilydd

Arriva-polisi-saesneg-google-translate.png

  • Screwfix, Bangor - fel yr uchod. Statws: yn fyw diwedd 2010, ond arwydd dros dro?

Sefydliadau

  • library.wales.org - defnyddio Google Translate i gyfieithu'r testun a chyhoeddi'r testun. Statws: yn fyw. (Diolch Rhys.)
  • Digital Inclusion Wales (prosiect dan nawdd y Cynulliad) yn cynnig Google Translate ar gyfer gwefan uniaith Saesneg i ddewis iaith!