Gweithrediadau

Diwrnod Pethau Bychain 2011

Oddi ar Hedyn

Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:13, 17 Mehefin 2011 gan Carlmorris (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)

Roedd Pethau Bychain yn wych llynedd.

Mwy ar y tudalen yma yn fuan --Carlmorris 17:13, 17 Mehefin 2011 (UTC)


Tag

#pethaubychain ar Twitter
pethaubychain ar YouTube, Vimeo, Flickr, blogiau ayyb


Syniad eithafol

Dw i newydd meddwl am syniad ar gyfer Pethau Bychain 2011.

Beth am sesiwn marathon 24 awr o greu stwff a phostio ar y we?

Rydyn ni'n gallu dechrau hanner nos a gorffen hanner nos. Dw i'n fodlon wneud e os mae pobol eraill yn fodlon - angen o leiaf dau person arall. Rydyn ni'n gallu defnyddio fy nhŷ yng Nghaerdydd fel pencadlys gyda di-wifr a byrbrydau. Efallai bydd pobol o gwmpas Cymru yn fodlon wneud yr un peth?

Efallai bydd angen taflu syniadau a threfnu rhai o bethau o flaen llaw. Er enghraifft, bydda i'n dechrau hanner nos gyda chofnod blog a sesh ar Wicipedia gyda fy grŵp, wedyn ni'n gallu gyrru rhywle pert i dynnu lluniau o'r machlud haul a chŵn, wedyn cwrdd a rhywun rhywle da am gyfweliad neu fideo o ryw fath, efallai sgwennu can doniol, perfformio a creu fideo. Ac yn y blaen.

Dylai fe bod yn hwyl. Bydd y syniadau yn well gyda chriw o bobol. Yr unig peth yw, dw i ddim eisiau tynnu gormod o sylw (!) - wrth gwrs os mae pobol eisiau creu peth bach adref, fel llynedd, mae'n wych. Dw i'n meddwl amdano fe fel rhywbeth ar wahan. Aberth yw rhan bwysig o Gymreictod!!

Unrhyw un?

--Carlmorris 17:13, 17 Mehefin 2011 (UTC)