Gweithrediadau

Diwrnod Pethau Bychain 2011

Oddi ar Hedyn

The printable version is no longer supported and may have rendering errors. Please update your browser bookmarks and please use the default browser print function instead.

Roedd Pethau Bychain yn wych llynedd.

Mwy ar y tudalen yma yn fuan --Carlmorris 17:13, 17 Mehefin 2011 (UTC)

Pryd?

Dydd Gwener, 21ain mis Hydref, 2011

(Pawb yn iawn?) --Carlmorris 17:26, 17 Mehefin 2011 (UTC)


Tag

#pethaubychain ar Twitter
pethaubychain ar YouTube, Vimeo, Flickr, blogiau ayyb


Syniad 24 awr

Dw i newydd meddwl am syniad ar gyfer Pethau Bychain 2011.

Beth am sesiwn marathon 24 awr o greu stwff a phostio ar y we?

Rydyn ni'n gallu dechrau hanner nos a gorffen hanner nos. Dw i'n fodlon wneud e os mae pobol eraill yn fodlon - angen o leiaf dau person arall. Rydyn ni'n gallu defnyddio fy nhŷ yng Nghaerdydd fel pencadlys gyda di-wifr a byrbrydau. Efallai bydd pobol o gwmpas Cymru yn fodlon wneud yr un peth?

Efallai bydd angen taflu syniadau a threfnu rhai o bethau o flaen llaw. Er enghraifft, bydda i'n dechrau hanner nos gyda chofnod blog a sesh ar Wicipedia gyda fy grŵp, wedyn ni'n gallu gyrru rhywle pert i dynnu lluniau o'r codiad haul a chŵn/gwylanod, wedyn cwrdd a rhywun rhywle da am gyfweliad neu fideo o ryw fath, efallai sgwennu cân, canu a creu fideo (neu fersiwn o gân sy'n bodoli eisoes). Neu animeiddio. Ac yn y blaen. Dw i'n trio meddwl am bethau hwyl a phosib. Dim disgwyliadau - mae pob aelod o'r grŵp yn gallu wneud beth bynnag maen nhw eisiau gwneud.

Bydd y syniadau yn well gyda chriw o bobol. Yr unig peth yw, dw i ddim eisiau tynnu gormod o sylw (!) - wrth gwrs os mae pobol eisiau creu peth bach adref, fel llynedd, mae'n wych. Dw i'n meddwl amdano fe fel dim ond rhan hwyl o'r dydd. Aberth yw rhan bwysig o Gymreictod!!

Hollol hyblyg, fodlon mynd rhywle arall hefyd...

Unrhyw un? --Carlmorris 17:21, 17 Mehefin 2011 (UTC)

syniadau da hapus i gymryd rhan, gyda llaw mae Mudiadau Dathu'r Gymraeg am wneud rhyw ddigwyddiad yn y Senedd i gyd-fynd ar y diwrnod, a fyddai'n bosib trefnu'r peth ar ryw ddydd Mawrth neu ddydd Mercher felly? --Colinnosworthy 22:40, 19 Mehefin 2011 (UTC)